Achrediad

Mae lleoedd ar hyd a lled y DU yn dod yn Drefi Natur neu Ddinasoedd Natur drwy ein cynllun achredu, gan ddangos ymrwymiad i drawsnewid tirweddau trefol i bobl a natur.

An adult and young child volunteer in a community garden talking to each other surrounded by Nature Towns and Cities urban nature icons.

©National Trust Images / James Dobson

Achrediad

Mae cyflawni cydnabyddiaeth fel “Tref Natur” neu “Dinas Natur” yn dangos ymrwymiad lle i ddyfodol ffyniannus, iachach, gwyrddach i bawb.

Bydd gan bobl fynediad gwell at dreftadaeth naturiol a mannau gwyrdd o ansawdd. Bydd cymunedau hefyd yn cydweithio i lywio cymdogaethau gwyrddach sy’n wydn o ran hinsawdd.

Mae’r cynllun wedi’i lunio i helpu lleoedd i ddenu cyllid, drwy ddangos bod ganddynt y sylfeini priodol ar waith i greu newid hirdymor ar raddfa fawr.

Cafodd y cynllun ei lunio ar y cyd â grŵp o awdurdodau lleol, gyda mewnbwn gan y sector gwirfoddol, arbenigwyr annibynnol ac asiantaethau llywodraeth. Asesir ceisiadau gan banel annibynnol.

Gwneud Cais am achrediad a chamau nesaf

Mae llawer o adnoddau a chefnogaeth i’ch helpu ar eich taith i ddod yn Dref neu’n Ddinas Natur, a manylir arnynt yn y camau isod.

Dod yn Dref neu’n Ddinas Natur

Bydd gweithio drwy achrediad yn helpu i gyflawni twf cynhwysol ar gyfer eich tref neu ddinas, darparu'r hyn mae trigolion a chymunedau yn dymuno ei gael, a sicrhau buddsoddiad mewn dyfodol ffyniannus, gwyrddach.

Dysgu sut i wneud cais
Dysgu sut i wneud cais

Canfod ein Trefi a'n Dinasoedd Natur

Archwiliwch ein Trefi a'n Dinasoedd Natur a dysgwch sut mae'r lleoedd hyn yn trawsnewid i bobl a natur.

Dysgu am eu gwaith
Dysgu am eu gwaith

Cwrdd â'r panelwyr

Mae ein panelwyr allanol yn dod ag ystod o arbenigedd, gwybodaeth a phrofiad, gan asesu pob cais.

Cwrdd â'r panelwyr
Cwrdd â'r panelwyr

Dyluniwyd gyda buddsoddiad mewn golwg

Rydym yn gweithio ledled y DU i gyflawni newid uchelgeisiol, gan integreiddio natur i fywyd pob dydd er mwyn creu trefi a dinasoedd gwyrddach, iachach a mwy gwydn. Rydym yn chwilio am fuddsoddwyr, rhoddwyr a chyllidwyr i wireddu ein cenhadaeth.

  • Mae’r dynodiad Tref neu Ddinas Natur wedi’i lunio i roi sicrwydd bod lle yn bodloni safonau cadarn, gan sicrhau y bydd buddsoddiad yn dod â buddion i bobl, natur a lleoedd fel ei gilydd
  • Mae’n sicrhau bod prosiectau’n dilyn safonau annibynnol i gyflawni canlyniadau mesuradwy
  • Mae trefi a dinasoedd achrededig yn cynrychioli partneriaid dibynadwy ar gyfer buddsoddiad cynaliadwy, hirdymor.

Cysylltwch â ni os ydych awydd buddsoddi mewn tref neu ddinas benodol, neu mewn prosiectau a ddyluniwyd i gyflawni canlyniadau penodol.