Cefndir Trefi a Dinasoedd Byd Natur
Mae Trefi a Dinasoedd Byd Natur yn goalisiwn o sefydliadau wedi ymroddi i gynnig buddion mannau gwyrdd a byd natur i bawb yn y DU.

Sut fyddwn yn cyflawni newid gyda’n gilydd
Trwy weithio gyda’ch gilydd, dysgu oddi wrth eich gilydd, mabwysiadau datrysiadau effeithiol a meithrin partneriaethau newydd, gallwch gyflawni newid cadarnhaol a pharhaol yn eich tref neu ddinas. Dyma rai ffyrdd i ddechrau arni:
Ysbrydoliaeth ac arweiniad ymarferol
Mae ein llyfrgell adnoddau yn rhannu datrysiadau llwyddiannus ac arferion gorau o ledled y DU. Mae gweithwyr proffesiynol o sectorau gwahanol yn rhannu eu profiadau, ynghyd â chanllawiau cam wrth gam, templedi, ac adnoddau i’ch helpu i greu mannau mwy gwyrdd, iachach, mwy cadarn a llewyrchus.
Cymerwch gipolwg ar ein hadnoddau am ddim
Digwyddiadau, hyfforddiant a chydweithrediad
Ymunwch ag amserlen reolaidd o sgyrsiau, gweithdai, hyfforddiant a chynadleddau, yn ogystal â chyfleoedd eraill i rwydweithio a chydweithredu. Nid oes cost i gymryd rhan o gwbl, a bydd y digwyddiadau hyn yn eich helpu i feithrin y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i arwain newid yn eich tref neu ddinas.
Edrych ar ddigwyddiadau i ddod
Dod yn Dref neu Ddinas Fyd Natur
Mae achrediad yn cydnabod trefi a dinasoedd sy’n rhoi seilwaith gwyrdd a byd natur wrth galon eu lleoedd a’u cymunedau. Dysgwch sut i gael eich achredu a chymerwch olwg ar yr adnoddau a’r cymorth sydd ar gael.
Dysgu am achrediad
Cyflwyno’r achos dros fuddsoddiad
Er mwyn helpu lleoedd fel eich un chi i ddatgloi cyllid newydd ac ychwanegol, byddwn yn eich helpu i ddatblygu cronfa eich prosiect a chyflwyno’r achos dros fuddsoddiad. Rydym yn gwahodd cyllidwyr a buddsoddwyr i ymuno â ni i gynorthwyo â thrawsnewid trefi a dinasoedd ledled y DU.
Cyfleoedd i fuddsoddwyr
Meithrin capasiti mewn trefi a dinasoedd
Mae grantiau i ddarparu capasiti mawr ei angen, ymhlith llywodraethau lleol a’u partneriaid, ar gael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae ceisiadau bellach ar gau erbyn hyn a bydd y prosiectau/grantïon llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2025.
Cefndir Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Partneriaid
Sefydlwyd gan sefydliadau cenedlaethol blaenllaw
Sefydlwyd y rhaglen gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Natural England.
Mae’n ychwanegu at waddol Cyflymydd Parciau’r Dyfodol, partneriaeth flaenorol rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae hefyd yn cyd-fynd â safonau a Fframwaith Seilwaith Gwyrdd Natural England.
