Ymunwch
Gallwn eich helpu i greu trefi a dinasoedd gwyrddach, iachach, a mwy cadarn, ni waeth lle yw eich man cychwyn. O astudiaethau achos a chanllawiau sut, i weithdai a gweminarau, gallwn eich helpu i ddechrau arni neu i gymryd eich camau nesaf tuag at ddod yn Dref neu Ddinas Fyd Natur achrededig.

©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rob Stothard
Cymerwch ran
Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gyflawni newid parhaol ac uchelgeisiol yn ein trefi a dinasoedd.
Mae Trefi a Dinasoedd Byd Natur yn gyfle i ymuno â rhwydwaith o unigolion, timau ac unigolion o’r un anian ac sy’n cyflawni newid. Boed naill ai’n gysylltu â chyfoedion ledled y DU neu’n datblygu partneriaethau newydd yn lleol, dyma rai ffyrdd i gymryd rhan:
Mae ein digwyddiadau’n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau ac yn cynnwys lleoedd sy’n arwain newid, pobl sy’n datblygu dulliau newydd a datrysiadau sydd wedi ennill eu plwyf y gallwch chi eu haddasu i’ch tref neu ddinas.
Yn amrywio o weithdai bychain i gynadleddau mawr ar-lein, bydd y digwyddiadau bob amser yn gyfle i ddod ynghyd ag eraill sy’n gweithio tuag at nodau tebyg.
Ewch i feithrin gwybodaeth a sbarduno syniadau newydd gyda’n llyfrgell adnoddau, sy’n arddangos arferion gorau a datrysiadau sydd wedi ennill eu plwyf o ledled y DU, gan gynnwys astudiaethau achos, canllawiau cam wrth gam, templedi ac offer.
Byddwn yn eich cefnogi i ddod yn Fwrdeistref, Dinas, neu Dref Fyd Natur achrededig. Mae ein cynllun achredu yn cydnabod a gwobrwyo awdurdodau lleol sy’n gweithio gyda chymunedau a phartneriaid eraill i gynllunio a chyflawni newid trefol ar raddfa dirwedd. Ymunwch â chymorthfeydd, gweithdai, hyfforddiant a digwyddiadau i roi help llaw ichi ar hyd y ffordd.
Uchafbwyntiau
Ein gwerthoedd ar y cyd
Bydd grym Trefi a Dinasoedd Byd Natur yn deillio o sut rydym yn ei adeiladu gyda’n gilydd, ar draws eich lleoedd trefol, ar draws sectorau ac ar draws y DU - yn sefydlu cysylltiadau ac yn chwalu seilos. Rydym yn canolbwyntio ar y bobl a’r lleoedd sy’n cymryd rhan i’n helpu i lywio dyfodol y gwaith hwn. I gynorthwyo hyn, rydym wedi cyd-greu set o werthoedd ar y cyd i arwain y ffordd y byddwn oll yn gweithio gyda’n gilydd.
Darllen ein gwerthoedd ar y cyd