Mae Trefi a Dinasoedd Byd Natur yn bartneriaeth rhwng sefydliadau o’r un anian sydd â’r weledigaeth o drefi a dinasoedd DU hapusach a llewyrchus.
Sefydlwyd y rhaglen gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Natural England. Rydym yn gweithio’n agos â’r cyhoedd, y sectorau cymunedol a gwirfoddol a’n partneriaid ar draws y DU, gan wneud defnydd o arbenigedd NatureScot, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth Amgylcheddol Gogledd Iwerddon.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Ers 1994, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu mwy na £9.2 biliwn i dros 52,000 o brosiectau treftadol ledled y DU.
Gweledigaeth y Gronfa Dreftadaeth yw treftadaeth sy’n cael ei gwerthfawrogi, ei chynnal a’i gofalu amdani, i bawb, nawr ac yn y dyfodol. Yn y 10 mlynedd nesaf, mae â’r bwriad o fuddsoddi £3.6 biliwn a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i achosion da i sicrhau buddion i bobl, lleoedd a’r amgylchedd naturiol.
Mae’n frwd dros dreftadaeth ac wedi ei hymroddi i arwain arloesedd a chydweithrediad i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl heddiw, a hynny wrth adael gwaddol parhaol i genedlaethau’r dyfodol.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1895, er mwyn gwarchod byd natur, harddwch a hanes y genhedlaeth at fwynhad pawb.
Yn ogystal â gofalu am a bod yn berchen ar lawer iawn o dir a safleoedd hanesyddol ledled Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithio mewn partneriaeth glos â sefydliadau eraill i ddod â byd natur i bobl sy’n byw mewn trefi a dinasoedd – yn arbennig y rheiny nad oes ganddynt fannau gwyrdd i’w mwynhau yn agos at eu cartref.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i bawb – sefydlwyd er budd y genedl gyfan, ac mae ei 5.38 miliwn o aelodau, cyllidwyr a rhoddwyr, a degau ar filoedd o wirfoddolwyr yn cefnogi ei gwaith i ofalu am fyd natur, harddwch, hanes i bawb, am byth.

Natural England
Natural England sy’n cynghori’r llywodraeth ar yr amgylchedd naturiol yn Lloegr.
Ei genhadaeth yw meithrin partneriaethau i adfer natur. Mae hyn yn adlewyrchu’r angen i weithio gydag amrywiaeth eang o bobl, yn ogystal â thrwy gyfrwng yr amrywiaeth hyn, ynghyd â’r angen am weithred gyflym i ail-adeiladu ecosystemau cynaliadwy ac felly gwarchod ac adfer cynefinoedd, rhywogaethau a thirweddau.
Gweledigaeth Natural England yw byd natur llewyrchus i bobl a’r blaned. Nid gwella natur yn unig yw ei uchelgais, ond ei weld yn ffynnu ym mhob man. Mae hyn oherwydd bod Natural England yn cydnabod bod amgylchedd naturiol iach yn allweddol i hapusrwydd, iechyd a chyfoeth bawb.
