Adnoddau er mwyn helpu i ddod â byd natur i bob cymdogaeth
Edrychwch ar bigion y llyfrgell o dystiolaeth, astudiaethau achos, arweiniad ac arbenigedd diweddaraf i gynorthwyo awdurdodau lleol, sefydliadau cymunedol a’u partneriaid i arwain newid.
Gweld y llyfrgell adnoddau
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / James Dobson
Dechreuwch arni yn eich tref neu ddinas
Mae llawer o fuddion ynghlwm â dod â rhagor o fyd natur i ardaloedd trefol. Ond, yn ôl y dywediad, nid yw bod yn wyrdd yn hawdd.
Mae Trefi a Dinasoedd Byd Natur yn datblygu llyfrgell adnoddau i helpu awdurdodau lleol, partneriaid a sefydliadau cymunedol i gymryd camau i wella mannau gwyrdd.
Ewch draw i’n Llyfrgell Adnoddau i ddarganfod arweiniad, adnoddau ac arferion gorau gan bartneriaid arbenigol sydd tu ôl i’r rhaglen, ynghyd ag arbenigwyr y diwydiant ac arloeswyr y sector ledled y DU. Cofiwch ddychwelyd yn rheolaidd, gan y bydd y llyfrgell yn datblygu i gynnwys llawer mwy o straeon llwyddiant o leoedd fel eich un chi.
Neu sgroliwch i lawr i weld pigion yr adnoddau.
Dulliau i adfer byd natur sydd wedi ennill eu plwyf
Mae ein pecynnau ‘Sut i ddechrau ar...’ yn cynnig datrysiadau sydd wedi ennill eu plwyf i’r heriau sy’n wynebu ein sector.
Datglowch gyllid ac arian newydd i’ch mannau gwyrdd a glas
Mae adfer byd natur yn fusnes costus. Dysgwch sut mae Plymouth yn ailddosbarthu arian cyhoeddus er budd cyhoeddus, fel y cyngor DU cyntaf i sefydlu banc cynefin. Defnyddiwch yr adnoddau a’r canllawiau i ddeall pa ddatrysiadau ariannol a allai fod yn gywir ichi a dechreuwch ar eich taith gyllid bersonol.
Cwrdd â thîm Plymouth
Gwnewch ddefnydd o rym pobl ar draws eich tref neu ddinas
Yn dwyn ysbrydoliaeth gan eu treftadaeth fel y Ddinas Rebel, mae Cyngor Dinas Nottingham wedi creu llu gwirfoddoli dinas gyfan i greu lle gwyrddach, iachach a hapusach i fyw ynddo. Mae’r tîm yn gwireddu'r rhaglen, a gall ein canllaw eich helpu i’w rhoi ar waith yn eich ardal leol.
Nottingham Green Guardians
Rhowch iechyd wrth wraidd eich man gwyrdd
Mae amser ym myd natur yn gwneud ein bywydau yn hapusach ac iachach, ond eto nid oes gan filiynau o drigolion trefol fynediad at fan gwyrdd. Dysgwch sut i ddatblygu partneriaethau traws-sector a all ddarparu buddion cyfartal i fyd natur, iechyd a llesiant.
Dechrau arni
Cwrdd â’r rheiny sy’n creu byd natur
Dysgwch yn uniongyrchol gan bobl sy’n darparu buddion i bobl a byd natur ledled y DU.
Dewch o hyd i awgrymiadau ardderchog a chipolygon gan bobl sy’n gweithio ledled y wlad mewn awdurdodau lleol a’u timau partner i wella mannau gwyrdd a glas. Enillwch wybodaeth am sut oresgynnon nhw heriau, o ddatblygu strategaethau lefel uchel i gyflawni newid ar y tir.

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / James Dobson
Adnoddau i ennill achrediad
Mae ein cynllun achredu yn cydnabod trefi a dinasoedd yn Lloegr sy’n rhoi buddion cyfartal i bobl a byd natur wrth wraidd eu cynlluniau.
Gweledigaeth ar y cyd i bobl a byd natur
Y cam cyntaf, Lefel un: Sylfaen, yn gofyn ichi ddod â phartneriaid a rhanddeiliaid ynghyd i greu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer dyfodol lle. Mae gan ein canllaw ‘Cynllunio ar y Cyd’ syniadau a chyngor ar sut i ddechrau arni.
Darllen y canllaw