A block of toilets in a public park. They are brown-cladded with green doors. The park has an autumnal feel with fallen leaves.
White illustration of a robin resembling a tennis ball.

Gwneuthurwyr natur: Marco Galli

20-11-2025

Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur

Astudiaeth Achos

Pan mae natur yn galw, mae tîm Thriving Green Space Caeredin yn ateb. Dewch i gwrdd â’r gŵr sy’n gwneud parciau a mannau gwyrdd Caeredin yn fwy croesawgar a hygyrch, un tŷ bach ar y tro.
Hygyrchedd - Gweithio ar draws adrannau

Marco Galli

Swyddog Datblygu Mannau Gwyrdd yng Nghyngor Dinas Caeredin.

A headshot of Marco,

Tai bach cyfleus ar y naw

Mae prosiect i fewnosod tai bach glanach, mwy diogel a mwy hygyrch mewn parciau a mannau naturiol yng Nghaeredin yn helpu i oresgyn rhwystrau rhag preswylwyr yn treulio mwy o amser yn yr awyr agored.

Mae’r tai bach cyfleus ar y naw hyn yn un o’r amrywiol ffyrdd mae cyngor y ddinas yn agor mwy o ddrysau at fuddion iechyd a llesiant mewn cymunedau ar draws y ddinas. Mae’n rhan allweddol o’u prosiect Thriving Green Spaces sy’n siapio gweledigaeth newydd ar gyfer amgylchedd naturiol Caeredin dros y 30 mlynedd nesaf.

Mae Marco Galli, sef rheolwr prosiect y tai bach cyhoeddus, yn dweud y cyfan ynghylch sut weithiodd gyda chydweithwyr yn y cyngor i ddad-flocio’r ffordd ar gyfer toiledau newydd mewn pedair ardal werdd yng nghanol y ddinas, a sut mae’r cyfleusterau cyhoeddus modern hyn yn cefnogi uchelgeisiau ehangach y cyngor er pobl a byd natur.