5 Mehefin 2025: Cynhadledd creu Trefi a Dinasoedd Byd Natur

Cynhadledd ar-lein am ddim i arweinwyr llywodraethau lleol, y sector cyhoeddus a’r gymuned sy’n gweithio gyda’i gilydd i greu trefi a dinasoedd DU gwyrddach, llewyrchus a mwy ffyniannus.

Archebu eich lle

1

Lleisiau blaenllaw

Siaradwyr ysbrydoledig yn mynd at wraidd yr angen am fyd natur mewn mannau trefol

2

Trafodaethau cyfredol

Cipolwg manwl ar rôl hanfodol pobl a phartneriaid mewn gwneud penderfyniadau’n lleol

3

Fformatau hyblyg

Cewch ddewis o arddangosiadau rhwng cyfoedion, dysgu ymarferol, gweithdai a rhagor

6

Adnoddau newydd

Tystiolaeth, arweiniad ac arbenigedd i gefnogi eich gwaith

7

Meithrin sgiliau

Syniadau ac awgrymiadau ymarferol am sut i wneud newid cadarnhaol yn eich tref neu ddinas

Rhwydweithio

Ewch o fwrdd i fwrdd, ymunwch â sgwrs neu’n syml, gwyliwch wrth ichi fynd o amgylch yr ystafell mewn amser byw

Astudiaethau achos

Y gwaith gorau a diweddaraf i ddod â byd natur i bob cymdogaeth

Platfform trochol

Teimlad wyneb-yn-wyneb cynhadledd yn y fan a’r lle, sliperi’n ddewisol

Agenda ar gyfer newid

Mae newid trefol ar raddfa tirwedd er budd pobl a natur yn gofyn am gydweithrediad ac arweinyddiaeth uchelgeisiol.

Mae’r gynhadledd undydd ar-lein hon wedi ei bwriadu i gefnogi arweinwyr ar bob lefel, o lywodraeth leol, y sector cyhoeddus, a sefydliadau cymunedol i gyflawni hynny’n union. Bydd y diwrnod hefyd yn gyfle i ddysgu rhagor am Drefi a Dinasoedd Byd Natur.

Sgroliwch i lawr i weld pigion yr agenda a’r rhestr siaradwyr. Neu cliciwch ar y botwm isod i weld manylion llawn y diwrnod.

Pigion yr agenda

Prif siaradwyr

Lleisiau blaenllaw

Mae’r gynhadledd yn dechrau gyda chyfres o leisiau traws-sector, gan fynd at wraidd yr angen am fyd natur mewn mannau trefol. Byddwch yn clywed gan Y Farwnes Hayman (Gweinidog dros Fynediad at Natur) ynghylch gwyrddio trefol mewn polisïau llywodraeth, y Cynghorydd Sam Lux am fynediad gwell at natur yn Nottingham a James Scott (Trefol a Dinesig) ynghylch pwysigrwydd rhwydweithiau mewn gwneud newid cadarnhaol.

Orange illustration of a blue tit.

Panel

Man gwyrdd trefol yn bwysig

Pan mae byd natur yn cynefino’n lleol, mae ein bywydau ni oll yn well. Bydd ein panel siaradwyr sy’n cynnwys David Luckin (Co-op), Lisa Dodd Mayne (Sport England) a Paul Lawrence (Cyngor Dinas Caeredin) yn dadansoddi’r datganiad hwn yn ôl safbwynt amrywiaeth o sectorau a sefydliadau. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau hefyd.

Yellow illustration of a hedgehog. The body resembles a cog.

Trafodaeth

Nerth pobl

Trafodaeth grŵp am rym gweithio ar y cyd, gyda chamau ymarferol i fanteisio i’r eithaf ar gynhwysiant, partneriaethau a chydweithrediad yn eich tref neu ddinas. Yn cynnwys Kersten England CBE (Dinas Diwylliant Bradford), Tayshan Hayden-Smith (actifydd amgylcheddol) and Chantell Lindsay (cadwraethwr a chyflwynydd).

Green illustration of a snail which resembles a garden hose.

Rhwydweithio

Cysylltu a myfyrio

Ewch o gwmpas yr ystafell rithiol a chewch y cyfle i gwrdd a sgwrsio gydag eraill sy’n bresennol yn y gynhadledd. Ymunwch â bwrdd, sgwrsiwch â siaradwyr a thîm rhaglen Trefi a Dinasoedd Byd Natur, neu cymerwch eiliad i’ch hunan a chymryd seibiant.

Blue illustration of a flower. The petals resemble houses.

Fformatau hyblyg

Sesiynau rhyngweithiol

Cewch gyfres o fformatau sesiynau i ddewis ohonynt er mwyn bodloni eich dull dysgu.

Arddangos prosiect

Rhannu arfer orau

Dewch o hyd i ddatrysiadau sydd wedi ennill eu plwyf a allai helpu i drawsnewid eich tref neu ddinas. Bydd cynrychiolwyr o chwe phrosiect ledled y DU gan gynnwys Eastside Greenway, strategaeth mannau Gwyrdd a Glas Belfast ac Enfield yn datgelu sut maent wedi cyflawni newid i gefnogi natur a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Byddant yn rhannu beth maent wedi ei ddysgu ac yn myfyrio ar y buddion i bobl, lle a chymuned.

Red illustration of a ladybird. The body resembles a car.

Trafodaeth gyfredol

Sylw i bobl a phartneriaid

Mae sesiynau rhyngweithiol yn rhoi’r sylw i bobl a phartneriaethau mewn gwneud penderfyniadau. Byddwn yn edrych ar y camau i ennyn diddordeb, ysbrydoli a chefnogi cymunedau, a beth sy’n bosibl o ran gwneud penderfyniadau ar y cyd. Gydag enghreifftiau o Natur Drws Nesaf, Sow the City ac Awdurdod Cyfunol Manceinion Fwyaf, yn ogystal ag eraill, dewch o hyd i fodelau cyflawni newydd a sut allant gael eu defnyddio yn lleol i chi.

Magenta illustration of a moth with heart shaped wings.

Meithrin sgiliau

Dysgu ymarferol

Gweithdai sgiliau creadigol i’ch darparu ag awgrymiadau a syniadau ymarferol i wneud newid cadarnhaol yn eich tref neu ddinas. Caiff y rhain eu cynnal gan hwylusydd arbenigol. Dewch yn ôl yn fuan i gael cadarnhad o’r themâu.

Blue illustration of a sparrowhawk.

Ein siaradwyr

Pwy fydd yn eich annerch

Gyda dros 20 o siaradwyr wedi’u cadarnhau, gallwch ddisgwyl clywed llawer o safbwyntiau gwahanol ar y diwrnod, gan gynnwys:

  • Kersten England CBE o Ddinas Diwylliant Bradford
  • Tayshan Hayden-Smith o Grow to Know
  • Paul Lawrence o Gyngor Dinas Caeredin
  • Dave Luckin o Co-op

Cymerwch olwg ar y rhestr siaradwyr isod, gyda rhagor i’w cadarnhau.

Platfform trochol

Dewch yn gyfarwydd â Digilounge

Teimlad wyneb-yn-wyneb cynhadledd yn y fan a’r lle, sliperi’n ddewisol

Rydym yn defnyddio Digilounge i gynnal y gynhadledd. Ar brydiau, byddwch yn teimlo fel eich bod mewn ystafell ag eraill, a throeon eraill yn bresennol mewn sesiwn lawn lle byddwch yn gwrando ar un neu ragor o siaradwyr. Cymerwch gip ar yr arddangosiad technoleg ymlaen llaw. Gallwch hefyd fewngofnodi yn gynnar i greu proffil fel bod eraill yn gallu gweld eich enw ac o ble rydych yn ymuno.

Archebu eich lle

Mae dros 1000 o fynychwyr eisoes wedi cofrestru. Peidiwch â cholli eich cyfle i gymryd rhan.

Archebwch docyn am ddim a chadwch 5 Mehefin yn rhydd yn eich dyddiadur.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.