Amdanom ni

Mae Dinasoedd a Threfi Natur yn fenter newydd sy'n dod â sefydliadau mawr y DU ynghyd.

Sefydlwyd y rhaglen gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Natural England.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid eraill ledled y DU, gan ddefnyddio arbenigedd NatureScot, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon.

  • The National Lottery Heritage Fund logo

    Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

    Ers 1994, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu dros £9.2 biliwn i fwy na 52,000 o brosiectau treftadaeth ar draws y DU.

    Gweledigaeth y Gronfa Treftadaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. Dros y 10 mlynedd nesaf, ein nod yw buddsoddi £3.6bn a godir ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol er mwyn sicrhau buddion i bobl, lleoedd a'r amgylchedd naturiol.

     Mae'n angerddol dros dreftadaeth ac wedi ymrwymo i ysgogi arloesedd a chydweithio er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl heddiw, tra’n gadael etifeddiaeth barhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

  • The National Trust logo

    Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

    Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1895 i warchod natur, harddwch a hanes y genedl i bawb eu mwynhau. Yn ogystal â bod yn berchen ar, a gofalu am lawer iawn o dir a safleoedd hanesyddol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio mewn partneriaeth agos â sefydliadau eraill i ddod â natur i bobl sy'n byw mewn trefi a dinasoedd - yn enwedig y rhai heb fannau gwyrdd i fwynhau'n agos at eu cartrefi.

    Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer pawb - fe'n sefydlwyd er budd y genedl gyfan, ac mae ein 5.38 miliwn o aelodau, cyllidwyr a rhoddwyr, a degau o filoedd o wirfoddolwyr yn cefnogi ein gwaith i ofalu am natur, harddwch, hanes i bawb, am byth.

  • Natural England logo

    Natural England

    Natural England (NE) yw cynghorwr y llywodraeth dros yr amgylchedd naturiol yn Lloegr.

    Ei genhadaeth yw adeiladu partneriaethau ar gyfer adferiad natur. Mae hyn yn adlewyrchu'r angen i NE weithio gydag a thrwy ystod eang o bobl a'r angen am weithredu'n gyflym i ail-adeiladu ecosystemau cynaliadwy a thrwy hynny ddiogelu ac adfer cynefinoedd, rhywogaethau a thirweddau.

    Gweledigaeth NE yw natur ffyniannus i bobl a'r blaned. Ei uchelgais yw nid yn unig gwella natur, ond ei gweld yn ffynnu ym mhobman. Mae hyn oherwydd bod NE yn cydnabod bod amgylchedd naturiol iach yn hanfodol i gyfoeth, iechyd a hapusrwydd pawb.

Darllenwch ein polisi preifatrwydd

Images: ©National Trust Images/Trevor Ray Hart