Tudalen Gartref

Dod â natur gartref

Mae miliynau o bobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol yn methu â chael mynediad at natur a mannau gwyrdd. Bydd Trefi a Dinasoedd Natur yn mynd i’r afael â hyn trwy helpu awdurdodau lleol i weithio gyda chymunedau a phartneriaid i gyflwyno natur i bob cymdogaeth, fel y gall pawb ei mwynhau.

Mae pob un ohonom yn elwa pan fo natur yn rhan o’n bywydau beunyddiol. Dengys tystiolaeth fod natur yn ein gwneud yn iachach, yn hapusach ac yn wytnach, a’i bod yn gwella ein cysylltiadau. Ond mae blynyddoedd o adnoddau prin a chystadleuaeth am fannau trefol yn golygu bod natur, mannau gwyrdd a pharciau wedi cael eu hesgeuluso neu eu bod wedi diflannu o sawl lle.

Mae cymunedau trefol yn dioddef yr effeithiau – ychydig iawn o fannau gwyrdd y gellir chwarae, ymlacio neu gymdeithasu ynddynt, ynghyd â chymdogaethau rhy boeth gydag aer llygredig, sy’n fwy tebygol o ddioddef llifogydd. Mae data diweddar yn dangos bod y ddarpariaeth o lecynnau gwyrdd mewn cymdogaethau wedi gostwng gan draean mewn datblygiadau yn yr 21ain ganrif ledled Cymru a Lloegr.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd modd i 100 o drefi a dinasoedd ddatblygu’n lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt, trwy roi natur a mannau gwyrdd wrth galon a chraidd eu blaenoriaethau a’u buddsoddiadau. Trwy gefnogi eu cynnydd, rydym eisiau sicrhau y bydd y bobl hynny sydd ar eu colled ar hyn o bryd yn elwa, fel y gellir sicrhau, erbyn 2035:

  • bod 5 miliwn yn ychwaneg o bobl yn gallu elwa ar fynediad rhwydd at natur a mannau gwyrdd yn eu cymdogaethau

  • bod 1 miliwn yn ychwaneg o blant yn gallu tyfu a chwarae mewn lleoedd a strydoedd gwyrddach yn agos iawn at eu cartrefi.

Rydym yn cynnwys mannau gwyrdd a glas o bob math sy’n hygyrch i bobl a lle mae natur yn byw – o goed sy’n tyfu ar ymylon strydoedd i erddi cymunedol, o goedwigoedd trefol i barciau cyhoeddus hanesyddol, o lannau afonydd a chamlesi i diroedd hamdden.

Rydym yn cynnig gwahanol fathau o gymorth i leoedd, yn cynnwys arian ar gyfer meithrin gallu a phartneriaethau, rhwydweithiau cymheiriaid ar gyfer rhannu gwybodaeth ac atebion ymarferol, a chynlluniau i ddenu buddsoddiad newydd.

Mae maint a brys yr her hon yn golygu bod angen cynghrair cryf o bartneriaid a chyllidwyr ledled cymdeithas, busnesau a llywodraeth y DU. Byddwn yn adeiladu hyn oll ar sail nodau cyffredin uchelgeisiol, gan barchu gwahanol gryfderau a chan roi blaenoriaeth i anghenion lleol.

Families helping to plant raised beds at Broadheath Triangle community gardens in South Manchester.  © National Trust Images/Annapurna Mellor

Sut y bydd yn gweithio

Nid gwaith hawdd yw gwireddu’r newidiadau uchelgeisiol y dymunwn i gymunedau’r DU elwa arnynt – ond mae modd cyflawni’r newidiadau hyn os gweithiwn gyda’n gilydd. Rydym yn ceisio hwyluso pawb i gymryd rhan, gan gynorthwyo sefydliadau o bob sector i arwain ar gyfer newid. Rydym eisiau adeiladu Trefi a Dinasoedd Natur gyda’n gilydd, gan ddysgu a datblygu wrth inni fynd yn ein blaen a chan ymateb i’r help y mae lleoedd ei angen.

Beth am weld yr hyn y bydd Trefi a Dinasoedd Natur yn ei gynnig:

  • Mae’r rhwydwaith ar agor i bawb a gellir ymaelodi ag ef yn rhad ac am ddim. Bydd yn gwasanaethu llywodraeth leol, mudiadau cymunedol, elusennau a gweithwyr proffesiynol ledled y DU. Cewch fynediad at raglen o ddigwyddiadau a hyfforddiant, ynghyd â llyfrgell adnoddau a chymorth wedi’i deilwra. Cewch eich ysbrydoli a’ch helpu gan eich cymheiriaid, gan rannu’r pethau sy’n gweithio a chan elwa ar gyd-ddoethineb er mwyn datrys problemau.

    Ymunwch â ni ar-lein ar gyfer digwyddiadau blasu’r rhwydwaith yr hydref hwn a darllenwch yn eich blaen i gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith.

  • Bydd cynllun achredu newydd yn cael ei dreialu yn Lloegr yn gynnar yn 2025, er mwyn cydnabod trefi a dinasoedd sy’n sicrhau bod natur a seilwaith gwyrdd wrth galon a chraidd eu polisïau.

    Ein nod yw rhoi sicrwydd i gyllidwyr a buddsoddwyr bod eich tref neu eich dinas yn barod am fuddsoddiad, ac y bydd modd iddi roi newidiadau ar waith. Dylai hyn helpu i ryddhau adnoddau ariannol angenrheidiol ar gyfer gweithredu cynlluniau.

    Er mwyn cael achrediad, bydd angen ichi ddangos eich bod wedi gosod y sylfaen ar gyfer newid, yn cynnwys grymuso a chynnwys y gymuned, arweinyddiaeth effeithiol, partneriaethau cyflawni traws-sector, a chynlluniau gwella a buddsoddi cydlynol.

    Os oes gennych ddiddordeb mewn ein helpu i brofi a gwella’r cynllun achredu peilot, cofiwch gysylltu.

  • Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi cyllid o £15m, a bydd grantiau rhwng £250,000 a £1m ar gael ledled y DU. Bwriad yr arian hwn yw eich galluogi i ystyried a chynllunio eich rhwydwaith o fannau gwyrdd trefol yn yr hirdymor. Ymgeisiwch am grant i’ch helpu i ddatblygu partneriaethau, arweinyddiaeth a gallu, ynghyd â sylfeini ar gyfer newid. Bydd y cynlluniau a ddatblygwch gyda’ch partneriaid a’ch cymunedau yn helpu i ddenu incwm a buddsoddiad newydd gogyfer cyflawni a chynaliadwyedd.

    Cewch ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am grant ar wefan y Gronfa Dreftadaeth. Y dyddiad cau ar gyfer Datgan Diddordeb yw 12 Tachwedd 2024.

Gwneud cais am grant

Rhwng nawr a 12 Tachwedd, gallwch gyflwyno ffurflen Datgan Diddordeb. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Cyflwyno eich Ffurflen Datgan Diddordeb

Ein nodau cyffredin er mwyn sicrhau dyfodol gwyrddach i bawb

Byddwn yn cynorthwyo awdurdodau lleol, mudiadau cymunedol a’u partneriaid i wella ac ehangu rhwydweithiau mannau gwyrdd trwy eu trefi a’u dinasoedd. O strydoedd wedi’u leinio â choed a lawntiau cymunedol i barciau treftadaeth a llwybrau camlesi.

Ein nod yw cefnogi’r canlynol fan leiaf:

  • gwella 1,000 o fannau gwyrdd neu las sy’n bodoli eisoes er budd pobl, natur a threftadaeth

  • datblygu 1,000 o barciau stryd neu barciau bach mewn cymdogaethau sydd heb fannau gwyrdd

  • creu 100 o fannau gwyrdd newydd mawr, a fydd yn ymestyn o ganol trefi at eu cyrion

Beth am gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y dymunwn ei gyflawni:

  • Mae mwynhau treulio amser mewn mannau gwyrdd a chysylltu â natur yn gwneud ein bywydau’n hapusach ac yn iachach. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol ac aelodau ieuengaf y gymdeithas. Byddwn yn cynorthwyo awdurdodau lleol, partneriaid a mudiadau cymunedol i gyflwyno natur ar garreg y drws, yn enwedig mewn cymdogaethau sydd ar eu colled yn hyn o beth, gan alluogi 5 miliwn yn rhagor o bobl i gael mynediad at natur o fewn pellter cerdded byr o’u cartrefi.

  • Mae pob cymuned yn gymysgedd unigryw o bobl a lleoedd, gyda gwahanol anghenion, egni a chyfleoedd. Mae cymunedau’n hanfodol o ran ysgogi a chynnal newid cadarnhaol. Byddwn yn annog y syniad y dylai blaenoriaethau’r cymunedau hyn fod wrth galon a chraidd y penderfyniadau a wneir ynghylch mannau gwyrdd hen a newydd a’r modd y dylid stiwardio’r mannau hynny.

  • Mae effeithiau newid hinsawdd yn fwyfwy amlwg yn ein trefi a’n dinasoedd. Yn aml, y cymunedau hynny sy’n dioddef anghydraddoldebau ehangach yw’r rhai sy’n teimlo’r effeithiau hyn fwyaf, er mai nhw sydd wedi cyfrannu leiaf atynt. Byddwn yn cynorthwyo lleoedd i addasu i hinsawdd newidiol trwy nodi ble a sut y gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf, er enghraifft trwy gael rhagor o goed ac arwynebau gwyrdd a meddal.

  • Gall ein trefi a’n dinasoedd gyfrannu at adferiad natur – yn ddi-os, mae hyn yn rhywbeth a ddylai ddigwydd. Nid oes yn rhaid dewis rhwng gwella seilwaith ar y naill law a blaenoriaethu natur ar y llaw arall. Byddwn yn cynorthwyo lleoedd i adeiladu rhwydweithiau gwyrdd trwy’r dirwedd drefol, gan alluogi pobl a natur i symud a chysylltu.

  • Mae parciau a mannau gwyrdd yn ychwanegu at gymeriad, diwylliant a threftadaeth ein trefi a’n dinasoedd, gan beri i gymunedau ymfalchïo yn eu bro. Ar y cyd â seilwaith naturiol newydd, mae hyn yn creu tirweddau trefol llewyrchus a chysylltiedig – lleoedd gwych i fyw, gweithio neu fuddsoddi ynddynt, yn ogystal â lleoedd gwych i deithio’n llesol o’u hamgylch. Ein nod yw sicrhau y bydd 10 miliwn o bobl yn elwa bob diwrnod ar y ffaith y bydd eu rhwydwaith gwyrdd yn cael ei reoli’n well er budd pobl, natur a threftadaeth.

Ymuno â’r Rhwydwaith

Dyma wahoddiad agored i ymuno â’r Rhwydwaith Trefi a Dinasoedd Natur.

Gwyddom fod Trefi a Dinasoedd Natur yn cyd-fynd ag uchelgeisiau ledled y sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a’r sector preifat. O awdurdodau i fusnesau, o fudiadau cymunedol i adrannau’r llywodraeth, o elusennau i ddyngarwyr. Mae pob un ohonom eisiau gweld cymunedau gwyrddach, iachach a llewyrchus yn ein trefi a’n dinasoedd. Mae hyn yn gwneud synnwyr.

Beth am weld sut y gall y Rhwydwaith eich helpu chi:

  • Image: ©National Trust Images/Paul Harris

    Ar gyfer awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus:

    “Mae ailystyried ein parciau a’n mannau gwyrdd a’r ffordd y maent yn cysylltu â’i gilydd ledled y ddinas wedi trawsnewid Caeredin dros y 5 mlynedd diwethaf. Roeddem yn rhan o raglen o’r enw Cyflymu Parciau’r Dyfodol, sef rhagflaenydd Trefi a Dinasoedd Natur, ac fe wnaeth y rhaglen honno ein helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i’r afael ag atebion seiliedig ar natur ar gyfer ein cymunedau, gan ein helpu hefyd i gynyddu effaith natur ar ein cymunedau. Erbyn hyn, rydym yn un o arloeswyr Rhwydwaith Natur cyntaf yr Alban. Gyda mwy na 200 o gamau wedi’u pennu ar gyfer rheoli, adfer a chyfoethogi tirwedd drefol Caeredin, rydym wedi gweld newidiadau gwirioneddol ar lawr gwlad ac mae’r newidiadau hynny’n gwneud gwahaniaeth i bobl ac i natur.” (Linda Anglin, Cyngor Dinas Caeredin)

    Fel rhan o Trefi a Dinasoedd Natur, byddwch yn cysylltu â rhwydwaith o gymheiriaid sy’n mynd ati i weithio ar heriau tebyg a rhannu atebion. Cewch afael ar y dystiolaeth, y canllawiau a’r arbenigedd diweddaraf ar gyfer ysgogi newid ac ymdrin â’r heriau taer sy’n wynebu eich ardal. O briffyrdd i iechyd a gofal cymdeithasol, o swyddi i sgiliau, dyma ffordd o elwa ar arferion gorau a datgloi manteision natur er budd eich cymunedau a’ch lle.

    Byddwn yn eich cynorthwyo i wneud y canlynol:

    - Grymuso cymunedau

    - Meithrin partneriaethau

    - Llunio cynlluniau seilwaith gwyrdd a chynlluniau gwella cynhwysfawr

    - Datblygu modelau gweithredol ac ariannol newydd

    - Creu cyfres o brosiectau uchelgeisiol wedi’u costio

    - Arddangos eich achos am fuddsoddiad

    Cofrestrwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith ar ôl iddo lansio

    Ac ymunwch â ni ar-lein yn ein rhaglen ragarweiniol o ddigwyddiadau yr hydref hwn

  • Image: ©National Trust Images/Paul Harris

    Ar gyfer mudiadau gwirfoddol a chymunedol:

    "Fel elusen fechan, rydym ni’n adnabod ein cymunedau yn llwyr ac yn clywed ganddynt am yr hyn y maen nhw ei angen a'i eisiau. Mae gennym gymaint o syniadau i wella ein parciau a'n cymdogaethau cyfagos, ond yn aml nid oes gennym yr adnoddau i wneud iddynt ddigwydd. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor BCP i wella ein parciau; mae'r effaith rydym wedi gallu ei chael trwy weithio gyda'n gilydd wedi bod yn enfawr, ac rydym wedi gallu sicrhau bod llais ein cymuned wedi cael ei glywed fel rhan o hynny. Rydym yn gyffrous am y cyfleoedd sydd gennym i adeiladu ar y gwaith hwn, gan ddod â gwir ymdeimlad o gymuned i'n parciau. Drwy ein caffis cymunedol, mannau tyfu a chyfleoedd gwirfoddoli, gallwn ddod â phobl a natur at ei gilydd." (John Hanson, The Parks Foundation, Bournemouth, Christchurch a Poole)

    Wrth ddod â natur i ganol ein cymunedau, ein trefi a’n dinasoedd, gall pawb rannu’r manteision. Mae pob coeden, planhigyn, gardd gymunedol a man agored yn arwain at iechyd a llesiant gwell, ysbryd cymunedol cryfach a gwell gwytnwch ar gyfer y dyfodol. Mae mudiadau cymunedol a mudiadau gwirfoddol yn bartneriaid hanfodol, gan gynnig gwybodaeth leol a grym ewyllys amhrisiadwy.

    Mae Trefi a Dinasoedd Natur yma i’ch cysylltu â rhwydwaith cenedlaethol o bobl â meddylfryd tebyg, sy’n mynd ar drywydd eu cyfleoedd eu hunain. Byddwn yn eich galluogi i gael gafael ar dystiolaeth, arbenigedd ac arferion gorau. Hefyd, byddwn yn helpu cymunedau i ddatgloi manteision natur ym mhob agwedd ar fywyd dinesig.

    Byddwn yn eich cynorthwyo i wneud y canlynol:

    Denu buddsoddiad i’ch cymunedau

    Meithrin partneriaethau cynhyrchiol

    Dylanwadu ar bolisïau a dulliau cyflawni yn eich ardal

    Meithrin gwytnwch sefydliadol

    Cofrestrwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith ar ôl iddo lansio

    Ac ymunwch â ni ar-lein yn ein rhaglen ragarweiniol o ddigwyddiadau yr hydref hwn

Cofrestrwch yma i gael rhagor o wybodaeth

Cofrestrwch i gael diweddariadau e-bost am Trefi a Dinasoedd Natur. Byddwn yn rhannu newyddion a digwyddiadau, a chi fydd y cyntaf i gael gwybodaeth am lansio’r rhaglen lawn yn 2025.

Darllenwch ein polisi preifatrwydd

Darllenwch ein polisi preifatrwydd

Images: ©National Trust Images/Arnhel de Serra/Rob Stothard/Annapurna Mellor/Paul Harris/Annapurna Mellor