Red illustration of a moth with heart shaped wings.

Canllaw cymunedol i bresgripsiynu cymdeithasol gwyrdd

21-10-2025

Dechreuwch arni gyda...

Astudiaeth Achos

Canllaw

Dechreuwch arni gyda...

Clywch gan bobl sy'n cynnal gweithgareddau sy'n seiliedig ar fyd natur mewn mannau gwyrdd lleol i gefnogi gwell iechyd a llesiant.
Cymunedau - Bresgripsiynu cymdeithasol gwyrdd

©National Trust Images / Jungle

Harneisio pŵer iacháu byd natur

Mae Presgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd yn golygu cefnogi pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n seiliedig ar natur i wella eu hiechyd meddwl a chorfforol. Mae gweithwyr cyswllt presgripsiynu cymdeithasol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn cysylltu pobl â grwpiau cymunedol ar gyfer cefnogaeth ymarferol ac emosiynol, yn seiliedig ar sgwrs ‘beth sy’n bwysig i chi’.

Mae gweithgareddau a bresgripsiwynwyd yn rhannu’r syniad y gall amser mewn byd natur a chysylltiad ag o wneud i ni deimlo a byw’n well. Gallent gynnwys cynlluniau cerdded lleol, prosiectau garddio cymunedol, nofio mewn dŵr agored neu weithgareddau celfyddydol a diwylliannol sy’n digwydd yn yr awyr agored.

Yn seiliedig ar anghenion ac amgylchiadau unigol, gellir eu presgripsiynu gan weithwyr cyswllt (neu weithwyr proffesiynol dibynadwy) ochr yn ochr ag atgyfeiriadau ar gyfer mathau eraill o gefnogaeth fel cymorth gyda thai neu gyllid.

Mae ymchwil yn dangos y buddion iechyd a llesiant posibl o weithgareddau sy’n seiliedig ar fyd natur:

Mae gan gymunedau rôl hirdymor i’w chwarae wrth gyflawni’r buddion hyn. Mae’r rhaglen Presgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd draws-lywodraethol wedi bod yn ystyried pa newidiadau system sy’n angenrheidiol i alluogi cysylltiadau parhaol rhwng y cymunedau hyn a systemau iechyd, er mwyn dod â buddion bod ym myd natur i fwy o bobl. Mae wedi cyhoeddi pecyn cymorth o ddysg o’i safleoedd peilot ar sut i feithrin y cysylltiadau hynny.

“Teimlo'r pridd rhwng eich bysedd”

Mae Cloddwyr Dinesig Manceinion yn gwneud gerddi hardd mewn mannau dinesig, lle mae pobl yn tyfu, yn coginio ac yn bwyta bwyd blasus ac iach gyda'i gilydd.

Gyda chefnogaeth sefydliadau o’r un anian fel Sow the City a rhwydwaith Byd Natur er Iechyd Manceinion Fwyaf, maent wedi bod yn adeiladu rhaglen garddwriaeth gymdeithasol a therapiwtig dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae garddwriaeth gymdeithasol a therapiwtig yn weithgaredd presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd lle mae ymarferwyr hyfforddedig yn gweithio gyda phlanhigion a phobl i wella iechyd corfforol a seicolegol, sgiliau cyfathrebu a meddwl unigolyn. Mae’n wahanol i fathau eraill o raglenni garddio gan fod y dull wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion unigolion gan ymarferydd.

Yn y fideo hwn mae Mike Hodson, un o sylfaenwyr Cloddwyr Dinesig Manceinion, a chyfranogwyr y rhaglen yn siarad am sut y gwnaethon nhw droi eu llaw at iechyd yn y gymuned, i ddod â phŵer iacháu byd natur i’r bobl sydd ei angen fwyaf.

©National Trust Images / Jungle

Saith had ar gyfer llwyddiant

O'r cychwyn cyntaf i gynllunio hyfforddiant a sesiynau, dyma 'saith had ar gyfer llwyddiant' Cloddwyr Dinesig Manceinion ar gyfer sefydliadau lleol eraill sy'n ystyried cynnal gweithgareddau sy'n seiliedig ar fyd natur er lles.

Os ydych chi eisoes yn cynnig gweithgareddau y gellir eu haddasu i’w defnyddio gan Bresgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd, mae pecyn cymorth rhaglen draws-lywodraethol Presgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd yn cynnwys cyngor pellach ar feithrin cydberthnasau a’r mathau o sgyrsiau i’w ceisio i’ch helpu i gysylltu â systemau iechyd lleol.

Os ydych chi eisoes yn cynnig gweithgareddau sy’n seiliedig ar fyd natur yn eich rhaglenni, mae hynny’n lle gwych i ddechrau.

Peidiwch ag ofni cadw pethau’n syml, gan ddechrau gyda’r mathau o weithgareddau ym myd natur sydd fwyaf perthnasol i chi, boed yn arddio neu’n weithgareddau celfyddydol a diwylliannol sy’n digwydd yn yr awyr agored.

Gyda’n gwreiddiau mewn garddio, roedd yn gwneud synnwyr i ni ganolbwyntio ar arddwriaeth gymdeithasol a therapiwtig. Gweithgareddau fel sesiwn hau hadau sy’n annog pobl i sylwi ar deimlad pridd briwsionllyd, neu sesiwn ddyfrio hamddenol, gan gymryd amser i wrando ar sŵn diferion yn cwrdd â’r ddaear.

Gallwch hefyd edrych ar gyrsiau am ddim i’ch helpu i ehangu’r hyn rydych chi’n ei gynnig. Er enghraifft, aethom ar gwrs a gynhaliwyd gan Thrive, elusen garddio er lles iechyd, am ddylunio sesiynau iechyd a lles a gweithio gyda phartneriaid. Mae’r dull hwn wedi ein helpu i dyfu’n organig, gan aros yn agos at ein pwrpas craidd a’n meysydd arbenigedd.

Fel unrhyw rôl iechyd a llesiant, gall fod yn heriol yn emosiynol weithiau i’n timau rhaglen garddwriaeth gymdeithasol a therapiwtig. Maent i gyd yn bobl dda, ofalgar ac mae’n naturiol teimlo eich bod wedi cael eich effeithio gan rai o’r problemau a’r profiadau y mae cyfranogwyr yn eu dwyn.

Er mwyn sicrhau y gallwn gefnogi ein gilydd yn llawn, rydym yn:

  • Cadw tîm y rhaglen yn fach, gyda dau ohonom yn cymryd ein tro i arwain y sesiynau
  • Mynd ar gyrsiau cymorth cyntaf iechyd meddwl, wedi’u cynllunio i gefnogi pobl nad ydynt wedi’u hyfforddi’n ffurfiol
  • Rhoi blaenoriaeth i lesiant ein gilydd gyda chyfarfodydd rheolaidd

Mae yna hefyd dîm o ‘gyfeillion gardd’ gwirfoddol sy’n helpu cyfranogwyr i gael mynediad i’r ardd. Mae rhai ohonynt wedi bod drwy’r rhaglen eu hunain.

Gallai gweithio fel rhan o rwydwaith roi hawl ehangach i chi i bethau fel cyfleoedd ariannu a chefnogaeth i geisiadau.

Mae rhwydweithio wedi bod o fudd i’n rhaglen garddwriaeth gymdeithasol a therapiwtig ar bob cam:

  • Dechreuasom arni gyda chyllid o Gronfa Llesiant Manceinion yn ôl yn 2019. Llwyddon ni i hyfforddi gwirfoddolwr mewn garddio therapiwtig a chyflwyno rhaglen garddwriaeth gymdeithasol a therapiwtig newydd i bobl ifanc.
  • Yna helpodd Sow the City, menter gymdeithasol arall ym Manceinion, ni i ddatblygu ein harfer Garddwriaeth Gymdeithasol a Therapiwtig drwy rwydwaith Byd Natur er Iechyd Manceinion Fwyaf. Roedden ni’n un o saith prosiect a oedd yn profi sut i ymgorffori Presgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd mewn cymunedau fel rhan o beilot cenedlaethol.
  • Ers hynny, rydym wedi gwneud cais am gyllid pellach ar gyfer ein rhaglen Garddwriaeth Gymdeithasol a Therapiwtig, a enillon ni ac rydym bellach hanner ffordd drwy’r broses o’i chyflwyno.

Ystyriwch gymryd atgyfeiriadau o ychydig o lwybrau gwahanol fel y gall eich rhaglen gyrraedd ystod ehangach o bobl.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dod atom drwy’r ffurflen hunangyfeirio ar ein gwefan. Maent yn dod o hyd i ni ar lafar gwlad, y cyfryngau cymdeithasol a’n marchnata ein hunain (e.e. cylchlythyrau).

Rydym hefyd yn cymryd atgyfeiriadau gan wasanaethau iechyd lleol fel Llwybrau Adferiad y GIG a’r meddygon teulu lleol. Cyn gwneud atgyfeiriadau, mae Presgripsiynwyr Cymdeithasol yn hoffi gweld gweithgareddau a systemau ar waith i gefnogi unigolion. Byddant yn awyddus i wybod pa fathau o anghenion iechyd y gall eich rhaglenni eu cefnogi, ac yn teimlo’n hyderus bod y bobl sy’n cyflwyno’r rhaglen yn deall hynny hefyd.

Beth bynnag fo’u llwybr atgyfeirio, rydym yn blaenoriaethu cyfranogwyr posibl yn seiliedig ar faint yr ydym yn credu y gall ein rhaglenni eu cefnogi, nid ar sail y cyntaf i’r felin, ac mae gennym restr aros i reoli’r llif.

Rydym wedi adeiladu ein rhaglen Garddwriaeth Gymdeithasol a Therapiwtig dros bum mlynedd ac rydym yn dal i ddysgu. Dechreuwch drwy wneud y pethau bach gan wybod bod amser i dyfu ac addasu. Gorau po fwyaf y byddwch chi’n ei wneud.

Dyma rai awgrymiadau i roi mantais i chi:

  1. Cynnig cronfa dda o weithgareddau y gallwch chi eu cylchdroi neu ddefnyddio os bydd cynlluniau’n newid (fe welwch chi lawer o awgrymiadau ar-lein y gallwch chi eu haddasu ar gyfer gwahanol leoliadau).
  2. Cael gweithgareddau sy’n addas ar gyfer cyfranogwyr ag amrywiaeth o anghenion hygyrchedd. Er enghraifft, rydym yn canfod bod gan lawer o’n cyfranogwyr broblemau iechyd corfforol, y gellir eu cysylltu â’u hiechyd meddwl gwael.
  3. Profi gwahanol fformatau i weld beth sy’n gweithio i chi (e.e. dysgon ni nad oedd blociau chwe wythnos yn gweithio i ni gan fod pobl yn tybio bod yn rhaid iddynt fynychu bob wythnos ac na allent ymrwymo).
  4. Adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio (e.e. rydym bellach yn cynnal rhaglen dreigl lle mae pobl yn cael eu hannog yn dawel fach i symud ymlaen i sesiwn weithgaredd wahanol bob cwpl o fisoedd).

Mae cynllunio bob amser yn dda. Ond ein dysgu mwyaf hyd yn hyn yw pwysigrwydd gallu adnabod beth sydd ei angen ar bobl ac addasu ein sesiynau i’w siwtio nhw.

Dyma enghraifft dda:

Roedden ni’n arfer cymryd yn ganiataol bod amser mewn mannau gwyrdd yn brofiad cadarnhaol i bawb. Yn ymarferol, gwelsom fod angen ein help ar rai pobl i oresgyn pryderon ynghylch treulio amser yn yr awyr agored. Gan wybod hyn, rydym weithiau’n awgrymu aros yn yr ardd gan ei bod wedi’i hamgáu a gallwch fynd i mewn heb orfod cerdded drwy’r parc cyfagos. Yna, wrth i bobl ddod yn fwy hyderus, efallai y bydden ni’n mentro allan i’r parc lleol i wneud ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ac ymdrochi yn y goedwig.

Rhywbeth mawr arall a ddysgwyd yw bod te, coffi a byrbrydau yn iaith gyffredinol sy’n helpu pobl i ymlacio, cysylltu a rhannu’r hyn sydd ei angen arnynt.

Mae’n bwysig bod yn gwbl agored ynglŷn â pha gefnogaeth a gweithgareddau y mae eich rhaglen Garddwriaeth Gymdeithasol a Therapiwtig yn eu cynnig. Mae hyn yn sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan yn gwybod beth i’w ddisgwyl ac yn cael profiad cadarnhaol.

Rydym bob amser yn dechrau gyda chyflwyniad i’r ardd a’r staff, gan egluro eu bod yno i helpu drwy weithgareddau sy’n seiliedig ar fyd natur yn hytrach na bod yn ymarferwyr neu therapyddion iechyd meddwl hyfforddedig.

Rydym yn gweld ei bod hefyd yn ysgogol i bobl wybod y gallwn barhau i’w cefnogi drwy ein rhaglenni eraill pan fyddant yn barod.

Rydym hefyd yn cadw ffiniau clir wrth i’r rhaglen fynd rhagddi, gan wrando bob amser os yw pobl eisiau mynegi eu hunain, a bob amser yn barod i gyfeirio pobl at sefydliad dibynadwy os yw’r cymorth sydd ei angen arnynt yn fwy arbenigol.

Byddwch yn rhan o rywbeth yn fwy

Mae’r rhaglen draws-lywodraethol Presgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys yr Academi Genedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol i ymgorffori presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd ymhellach mewn cymunedau ledled y DU.

Cymerwch olwg ar ei chanolfan adnoddau am ddim gyda thystiolaeth, pecynnau cymorth a chanllawiau. Gallwch hefyd ymuno â Chymuned Arloesi Presgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd am gyfleoedd rhwydweithio a mynediad at fannau cydweithredol i ddatblygu a rhannu eich gwaith.

P’un a ydych chi newydd ddechrau neu’n edrych i ehangu, mae llawer o gefnogaeth ar gael.