Three people carrying blossom trees to be planted.
White illustration of a tree resembling a cog.

Canllaw stiwardiaeth goed gymunedol

21-10-2025

Dechreuwch arni gyda...

Astudiaeth Achos

Canllaw

Dysgwch sut i gael rhagor o breswylwyr i ymwneud â phlannu a gofalu am goed ar strydoedd dinesig. Canllaw i ddechrau cynllun stiwardiaeth goed wirfoddol yn eich cymdogaeth.
Cymunedau - Coedwigaeth a choed

Dod â phobl a choed ynghyd

Syniad stiwardiaeth goed gymunedol yw dod â phreswylwyr lleol ynghyd i gynllunio, plannu a gofalu am goed mewn cymdogaethau dinesig.

Mae ymchwil o adroddiad gan Goed Cadw yn dangos bod y mwyafrif o bobl sy’n byw mewn trefi a dinasoedd yn credu bod coed yn gwneud eu strydoedd yn lle gwell i fyw. Maent yn dod â sawl budd yn cynnwys:

  • Cyswllt â byd natur ar stepen drws dinasoedd
  • Ansawdd aer gwell a llai o lifogydd
  • Mwy o gartrefi dinesig ar gyfer bywyd gwyllt

Mae’r un adroddiad yn dangos bod cyfran sylweddol o bobl yn awyddus i helpu gofalu am y coed hefyd. Mae cynlluniau stiwardiaeth gwirfoddol yn ffordd syml o fanteisio ar y brwdfrydedd hwn, gan roi ymdeimlad o berchnogaeth i breswylwyr dros eu darn nhw o fforest ddinesig a mwy o gyfle i gymdogion fwynhau’r buddion mae’r gwyrddni hyn yn eu cynnig.

Darllenwch ymlaen i glywed sut mae elusen fach yn Lewisham yn adeiladu cymuned o hyrwyddwyr fforestydd dinesig, gan wneud y fwrdeistref yn fwy gwyrdd ac yn brafiach i fyw ynddi gydag un goeden ar y tro.

Cymunedau gwyrddach, un goeden ar y tro

Mae Street Trees for Living yn elusen sydd wedi’i lleoli yn Lewisham i ddod â phobl yn nes at fyd natur a choed yn agosach at bobl.

Maent yn gweithio gyda phreswylwyr, ysgolion a grwpiau cymunedol i blannu coed ar strydoedd yn eu cymdogaeth leol. O gynllunio i blannu a gofal hirdymor, gwyliwch y fideo i glywed sut mae pobl a byd natur yn elwa o’u dull o stiwardiaeth goed wirfoddol ar garreg eu drws.

©National Trust Images / Jungle

10 cam i hyrwyddo coed cymunedol

Mae Street Trees for Living yn dod â phobl leol sy’n rhannu’r un brwdfrydedd dros dyfu cymdogaethau gwyrddach ynghyd.

Dechreuwyd gydag un stryd ac maent wedi tyfu eu dealltwriaeth a’u cyrhaeddiad o’r fan honno. Ac fe allwch chithau hefyd. Dyma eu canllaw i ddod â stiwardiaeth goed dan arweiniad y gymuned i’ch ardal leol chi.

Deall dymuniadau a dyheadau eich cymuned drwy gael sgyrsiau gyda phobl yn eich cymdogaeth:

  • Cwrdd â phobl yn lle maen nhw (e.e. y tu allan i giât yr ysgol, yn eich caffi lleol neu ganolfan gymunedol)
  • Ehangu eich cyrhaeddiad drwy sgyrsiau ar stepen y drws, rhannu taflenni a defnyddio grwpiau stryd WhatsApp
  • Gwnewch yn siŵr bod yr ymgynghoriadau’n fyr, yn defnyddio iaith bob dydd ac yn rhoi mwynhad (mae diodydd poeth a byrbrydau’n cael eu gwerthfawrogi!)
  • Gwrando ar ddyheadau a phryderon pobl
  • Holwch am eu hatgofion a phrofiadau o sut mae’n teimlo i fyw yn y gymdogaeth
  • Byddwch yn agored i glywed a derbyn gwahanol agweddau tuag at goed a phlannu coed. Efallai y bydd pryder ynghylch gwreiddiau anwastad neu ddail llithrig ar bafin, neu gystadleuaeth i barcio
  • Gwnewch yn siŵr bod pob grŵp o bobl yn yr ardal yn cael eu cynrychioli, i roi cyfle i bawb gael dweud eu dweud
  • Sicrhewch fod pawb yn teimlo bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi

Gwelwyd bod dechrau cydberthnasau a rhwydweithiau newydd yn eich helpu i ddarganfod pwy arall sy’n weithredol yn eich cymuned, a lle mae egni a momentwm:

  • Dewch o hyd i’r trefnwyr cymunedol sy’n rhannu eich dyheadau
  • Ymchwiliwch i grwpiau cymunedol eraill sy’n hyrwyddo gwyrddo (e.e. grwpiau Friends of Parks a grwpiau gweithredu ar yr hinsawdd)
  • Gwnewch gysylltiadau â grwpiau lleol nad ydynt o reidrwydd yn canolbwyntio ar goed, ond sy’n deall y problemau
  • Wrth fynd ymlaen gallwch feithrin cydberthnasau ystyrlon hirdymor drwy ganolbwyntio ar ddiddordebau cyffredin a chreu partneriaethau tactegol sy’n cefnogi eich gilydd.

Dechreuwch drwy ddeall lle mae eich gweledigaeth bersonol yn gorgyffwrdd â gweledigaeth y gymuned ar gyfer eich cymdogaeth i ddod o hyd i dir cyffredin. Gall fod yn fwy o gysgod, canopi gwyrddach neu gartrefi i fywyd gwyllt.

Nawr gallwch bennu nodau ac amcanion clir. Dechreuwch ar lefel leol iawn gydag un gymdogaeth neu brosiect cydweithredol bach (e.e. plannu llond llaw o goed).

Dylai eich amcanion ganolbwyntio ar gyflwyno’r hyn mae pobl ei eisiau gan goed a dylai pawb gael budd ohono. P’un a yw hynny’n gwella ansawdd yr aer, creu cysgod ac oeri neu harddu ardal, gall stiwardiaeth goed helpu i feithrin cysylltiadau cymdeithasol, cynyddu llesiant meddyliol a chorfforol pobl, ac annog rhannu sgiliau.

Mae’n bwysig cael perthynas waith dda gyda’ch awdurdod lleol. Yn ein profiad ni mae’n helpu i ddechrau drwy ddod i adnabod pwy ydynt, sut maen nhw’n gweithio a beth allwch chi ei gynnig iddynt:

  • Mynychwch gyfarfodydd lleol gan ddod i adnabod eich cynghorwyr lleol
  • Ymgyfarwyddwch gydag adrannau, nodau a blaenoriaethau eich awdurdod lleol a sut maen nhw’n gweithio ar hyn o bryd
  • Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyrau a dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod am gyfleoedd
  • Dysgwch sut mae coed yn cael eu plannu yn eich ardal leol (e.e. beth yw’r broses, pwy sy’n ymwneud ymwneud â hyn, sawl coeden sy’n cael ei phlannu bob blwyddyn, cyfradd goroesi coed dros y blynyddoedd diwethaf, a beth sydd y tu ôl i hyn, ac a yw pobl leol yn rhan o’r broses?)
  • Byddwch yn glir ac uniongyrchol ynghylch yr hyn rydych chi’n gofyn amdano
  • Nodwch sut y gallwch ychwanegu gwerth a budd i bobl leol – gan ddefnyddio map Sgôr Tegwch Coed Ymddiriedolaeth Woodland a data awdurdod lleol sydd ar gael
  • Dangoswch sut y gallwch gefnogi neu gyfannu’r gwaith lleol maent eisoes yn ei gyflawni, yn arbennig ar adegau pan mae cyllidebau, adnoddau a chapasiti yn gyfyngedig
  • Gofynnwch i sefydliad lleol gyda chyswllt sefydledig am gyflwyniad os oes angen
  • Cadwch y drafodaeth yn agored ac yn onest fel bod pawb sy’n cymryd rhan yn gwybod beth i’w ddisgwyl

Gall y gydberthynas rhyngoch chi â’ch awdurdod lleol fod o fudd i bawb sydd ynghlwm. Mae ein cydberthynas â Chyngor Lewisham yn unigryw ac mae’n gydberthynas gadarn sydd wedi’i meithrin dros sawl blwyddyn, gan ddatblygu ymddiriedaeth a dylanwad ar y ddwy ochr.

Dyma rai enghreifftiau o fywyd go iawn:

Sut ydym ni’n elwa
Mae ein hawdurdod lleol yn gofalu am gaffael a rheolaeth, yn cynnwys archebu’r coed, cynnal y cytundebau gyda chyflenwyr a chontractwyr, rheoli iechyd a diogelwch a rheoli risg, cadw’r coed ar eu safle cyn y plannu a dyrannu rhan o’u cyllideb goed flynyddol i’r fenter hon. Gallant hefyd ystyried y gwaith yng nghyd-destun cynllun hirdymor ar gyfer y stryd a’r ardal, megis datblygiad adeiladau newydd, gwaith cyfleustodau a newid i fesurau traffig.

Sut mae ein hawdurdodau lleol yn elwa
Yn gyfnewid, rydym yn arbed arian i’n hawdurdod lleol drwy ddarparu gwasanaethau y byddai rhaid iddynt eu rhoi i gontractwyr allanol fel arall. Mae ein gwirfoddolwyr yn ymwneud â’r holl broses, o ymgysylltu ac ymgynghori (yn cynnwys sganio safleoedd cyn plannu i helpu i benderfynu ar leoliadau addas) i fentrau gwyddoniaeth dinasyddion (lle mae pobl leol yn archwilio coed bob blwyddyn ac yn cofnodi gwybodaeth werthfawr) i gynnal a chadw rheolaidd (yn cynnwys dyfrio wythnosol, tocio ffurfiannol a gwiriadau iechyd coed). Yn ogystal ag arbed arian i’r cyngor, mae’r lefel yma o sylw i fanylion yn sicrhau bod dros 95% o’r coed rydym yn eu plannu yn goroesi.

Rydym yn codi arian i’r cyngor hefyd, gan ddod â miliynau o bunnoedd tuag at blannu coed ar dir awdurdod lleol a sicrhau eu bod yn goroesi.

Rydym hefyd yn darparu adnoddau drwy weithredu fel ‘coediwr cymunedol’; rôl sy’n cysylltu’r cyhoedd â’r cyngor ac yn helpu llif cyfathrebu rhwng y ddau. Rydym yn sefydliad sy’n ymwneud â’r cyhoedd gydag enw da sy’n falch o ymateb yn gyflym i breswylwyr a datblygu’r rhaglenni plannu yn seiliedig ar adborth preswylwyr, sy’n helpu i ddiogelu’r teimlad da rhwng y cyhoedd a’u hawdurdod lleol.

Rydym yn cynnig bob math o rolau gwirfoddoli y gellir eu teilwra i bobl sydd â gwahanol sgiliau, diddordebau ac amser sbâr. O rolau ad hoc fel dyfrio yn ystod yr haf i rolau parhaus fel Cynrychiolwyr Ardal sy’n gweithio gyda phreswylwyr a grwpiau lleol i drefnu plannu newydd.

Yn gyntaf, meddyliwch am beth i’w ddweud i ddenu gwirfoddolwyr:

  • Anogwch bobl i ymwneud â natur ar stepen eu drws:
  • Ysbrydolwch a grymuswch nhw i wella eu hardal leol
  • Cyflëwch y sgiliau, y profiad a’r amser sydd ei angen yn glir
  • Eglurwch y gwahanol rolau sydd ar gael a pha effaith maent yn ei gael
  • Rhowch y dewis i ddechrau drwy wneud y pethau bach cyn gwneud ymrwymiad hirdymor
  • Amlygwch y datblygiad proffesiynol a’r buddion i adeiladu tîm

Nesaf, meddyliwch ble i’w ddweud:

  • Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli drwy eich rhwydweithiau
  • Rhannwch fanylion ynghylch beth sydd arnoch ei angen a phan ar grwpiau WhatsApp lleol
  • Defnyddiwch eich cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau, taflenni a gwefan eich hun
  • Mynychwch ddigwyddiadau cymunedol wyneb yn wyneb
  • Rhestrwch ddigwyddiadau ar Eventbrite a rolau ar y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol
  • Ewch at breswylwyr lleol, trefnwyr cymunedol ac elusennau lleol sy’n rhannu eich gweledigaeth i weld a wnânt rannu eich neges ar eu sianeli

Mae ein gwirfoddolwyr yn hapusach ac yn aros gyda ni’n hirach pan rydym yn blaenoriaethu eu llesiant a’u datblygiad. Mae nifer o’n gwirfoddolwyr Tree Care a Chynrychiolwyr Ardal wedi bod yn rhoi o’u hamser yn rheolaidd ers blynyddoedd bellach, ac maent yn hanfodol i’n llwyddiant.

Meddyliwch am roi yn ôl – cynigiwch hyfforddiant a chyfleoedd addysgu, rhwydweithio, cymwysterau, bwyd a diod, treuliau, datblygu sgiliau a digwyddiadau cymdeithasol.

Meddyliwch am ddangos gwerth – dyluniwch siart weledol i ddangos sut mae rôl pawb yn ffitio gyda’i gilydd a sut mae eu cyfraniad yn cael effaith gadarnhaol ar eich nodau.

Meddyliwch am gefnogaeth reolaidd – cofiwch gyfarfod wyneb yn wyneb i wneud yn siŵr bod pawb yn hapus gyda sut mae’r rôl yn mynd, beth yw’r disgwyliadau a’r lefel o ymrwymiad.

Meddyliwch am fod yn hyblyg – gadewch i bobl ddatblygu’r rôl yn eu ffordd eu hunain a chael ymdeimlad o rymusedd a hunanreolaeth.

Meddyliwch am rannu gwybodaeth – rydym yn cynnig dysgu cymheiriaid i gymheiriaid a hyfforddiant arbenigol gan ein hymgynghorydd gofal coed i rannu gwybodaeth a sgiliau.

Meddyliwch am fuddsoddiad personol – uwchsgiliwch a hyfforddwch bobl leol i sicrhau bod eich sesiynau gwirfoddoli mor hygyrch a chynhwysol â phosibl.

P’un a ydych yn siarad gyda gwirfoddolwyr, preswylwyr, grwpiau cymunedol neu eich awdurdod lleol, gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn cyfathrebu mewn ffordd sy’n eglur a chynhwysol fel bod pawb sy’n ymwneud yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen.

Mae cyfathrebu da yn ymwneud â gofalu ac ymgysylltu, gwrando a gweithredu ar ymholiadau’n brydlon a bod yn hael gyda’r cyfarpar a’r gefnogaeth rydych chi’n ei rhannu â phobl hefyd.

Dyma rai o’r gwahanol ffyrdd y gallwn gyfathrebu:

  • Gwasanaeth e-bost awtomatig sydd wedi’i gysylltu â rhagolygon y tywydd i annog dyfrio coed fel bo’r angen
  • Cylchlythyr misol gydag adran gynghori ‘Tree Care Corner’ reolaidd i wirfoddolwyr a cheisiadau dyfrio
  • Grwpiau WhatsApp yn cysylltu preswylwyr i grwpiau gwirfoddoli lleol a chontractwyr plannu i swyddfa goed y cyngor
  • Marciau gweledol ar goed sy’n cael eu dyfrio i osgoi dyblu e.e. rhuban neu neges ysgrifenedig ar byst coed
  • Sgyrsiau a gweminarau am ddim (e.e. Grŵp Gweithredu Coed a Dylunio, Y Cyngor Coed) a rhannu’r wybodaeth hon ar draws eich rhwydweithiau drwy gymorth cymheiriaid i gymheiriaid
  • Teithiau cerdded lleol i siarad am yr hyn sydd yno, beth sydd ar goll a’r hyn yr hoffech ei weld
  • Taflenni adborth lle gall pobl wneud sylwadau neu fynegi pryderon (mae ein hatebion cyflym yn helpu i feithrin ymddiriedaeth)
  • Cyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb rheolaidd i rannu newyddion a chydlynu gweithredoedd
  • Pecynnau gwybodaeth gwirfoddolwyr newydd (yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer cynnal ymgynghoriadau lefel stryd, cyngor ar gyllido torfol, ffeithlun y mae modd ei rannu, adnoddau ysgrifenedig a thaflenni hyfforddiant).

Gorau po fwyaf mae eich ceisiadau cyllido wedi’u teilwra. Chwiliwch am grantiau a fydd yn ariannu stiwardiaeth gymunedol a dywedwch stori gryno am fuddion penodol y gallwch eu cynnig.

Pethau eraill i’w hystyried:

  • Gyda phwy allech chi bartneru ar gyfer ceisiadau cyllido?
    – Gallech bartneru gyda’r cyngor lleol a nhw fel prif ymgeiswyr
    – Neu gallech bartneru gyda’r cyngor lleol a chi fel prif ymgeiswyr (os yw’n grant sydd ar agor i elusennau a sefydliadau cymunedol yn unig)
    – Neu fe allwch hefyd bartneru gydag elusennau neu sefydliadau cymunedol eraill i wneud ceisiadau cyllido

 

  • A ydych wedi ystyried eich holl gostau, yn cynnwys rheoli’r prosiect i gydlynu stiwardiaid lleol a chanolbwyntio ar ymgysylltu cymunedol a datblygiad? Dros y blynyddoedd, rydym wedi datblygu model gwirfoddoli ar gyfer dyfrio a chynnal ein coedwedd leol sy’n arbed yr arian cynnal a chadw a fyddai fel arall yn mynd i gontractwyr allanol. Gall yr arian hwn nawr ariannu cydlynwyr gwirfoddol i ymgysylltu a grymuso cannoedd mwy o ‘warcheidwaid’ a phobl leol i ofalu am goed eu cymdogaeth – gan luosogi’r buddion cymdeithasol a ddaw gyda phlannu coed.

Unwaith mae eich prosiect ar waith, parhewch i siarad â phobl leol ynghylch eu syniadau a’u pryderon. Mae hyn yn caniatáu i chi ddatblygu a mireinio eich gweithgareddau wrth fynd. Ac i sicrhau eich bod yn tyfu i’r cyfeiriad rydych chi i gyd eisiau mynd, gallwch barhau i fonitro ac asesu gan ddefnyddio offer gwerthuso creadigol megis sgyrsiau wyneb yn wyneb a chyfweliadau, grwpiau trafod, astudiaethau achos a thystiolaethau yn ogystal â thynnu lluniau, fideos ac arolygon.

Cofiwch rannu eich canlyniadau i ddangos sut rydych chi’n gwneud gwahaniaeth, rhannwch eich neges yn eang a byddwch yn agored ynghylch eich llwyddiannau a’ch heriau.

Pecyn cymorth ar gyfer sefydliadau cymunedol

Mae gweithredu dan arweiniad y gymuned yn hollbwysig ar gyfer coedwig drefol fioamrywiol sy’n ffynnu. O ddyfrio coed strydoedd i blannu yn y gymdogaeth, dyma ddetholiad o adnoddau i helpu pobl gymryd rhan mewn mentrau coed trefol lleol neu ddechrau prosiect newydd.

Adnoddau i dyfu coedwig drefol gyda'n gilydd

Cewch fwy o straeon ysbrydoledig, adnoddau ymarferol a thempledi gweithgareddau gan Brifysgol Caerwysg a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae yna wahanol syniadau ar gyfer gwahanol fodelau o goedwigaeth gymunedol, egwyddorion arfer dda a chynlluniau sesiynau ymarferol. Mae yna adroddiad sy’n cynnig argymhellion ar sut all mentrau ar lawr gwlad weithio gyda sefydliadau mwy i greu coedwig drefol fioamrywiol sy’n ffynnu gyda’i gilydd. Fe’i cyhoeddwyd fel rhan o RENEW, sef prosiect wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).

Archwilio'r adnoddau
Archwilio'r adnoddau
Volunteers planting trees with shovels.

Canllaw Coed Cymunedol

Mae’r canllaw hwn ar gyfer grwpiau cymunedol sydd eisiau gwella’r hawl i fuddion coed yn eu hardal. Mae ganddo weithredoedd allweddol i gynllunio menter plannu coed cymunedol, ffyrdd i ymgysylltu gyda phobl a chyngor ymarferol ar gyfer plannu a gofal tymor hir. Mae'r canllaw hwn wedi'i drwyddedu dan CC BY 4.0.

Darllenwch y canllaw pedwar cam
Darllenwch y canllaw pedwar cam
Two people planting a blossom tree on an area of grass next to a street.

Sut i Blannu Coed Mwy

Mae mwy a mwy o grwpiau cymunedol yn dod yn rhan o blannu coed mwy mewn llefydd agored cyhoeddus. Mae’r canllaw hwn gan y Grŵp Gweithredu Coed a Dylunio’n amlinellu’r broses blannu gyda dull syml cam wrth gam. Mae'r canllaw hwn wedi'i drwyddedu dan CC BY 4.0.

Cymerwch olwg ar y canllaw
Cymerwch olwg ar y canllaw
The bottom half of two people's legs and a spade on a viaduct.

Cyfrifwr Plannu Coed

Mae’r Cyfrifwr Plannu Coed yn adnodd syml er mwyn trosi nodau gorchudd canopi coed yn rhifau plannu ar lefel leol er mwyn helpu i wella tegwch coed. Cafodd ei ddatblygu ar gyfer Coed Cadw gan Treeconomics.

Defnyddiwch yr adnodd
Defnyddiwch yr adnodd
Five young trees with tree guards in a community garden.

Mwy o enghreifftiau rhagorol o fforestydd dinesig

O goedwigoedd cymunedol i berllannau dinesig a gwarchodwyr coed hynafol, mae sawl ffordd i gymryd rhan weithredol yn eich fforest ddinesig.

Dyma rai o’r sefydliadau plannu a gofalu am goed, a drefnwyd gan wlad a rhanbarth. Efallai y bydd cyfleoedd i gefnogi eich grŵp lleol, neu gysylltu i rannu syniadau a’r hyn a ddysgwyd.

  • The Orchard Project – elusen genedlaethol sy’n ymroi i greu, cynnal a dathlu perllannau cymunedol.
  • The Tree Council – rhwydwaith o hyrwyddwyr coed gwirfoddol y DU gyfan.
  • Trees for Cities – elusen sy’n gweithio ar raddfa genedlaethol i wella bywydau drwy blannu coed mewn dinasoedd.
  • Ancient Tree Forum – sefydliad gyda grwpiau lleol sy’n canolbwyntio ar gadwraeth coed hynafol a choed hŷn.
  • Coedwigoedd Cymunedol Lloegr – cefnogi rhwydwaith o 15 coedwig gymunedol unigryw yn Lloegr.
  • Fforest GIG – cefnogi safleoedd gofal iechyd i drawsnewid eu mannau gwyrdd ar gyfer iechyd, llesiant a bioamrywiaeth.
  • Ancient Tree Inventory – prosiect gwyddoniaeth ddinesig gan Goed Cadw, yn galw ar y cyhoedd i helpu i fapio’r coed hynaf a phwysicaf yn y DU.

  • Gardd Goedwig Moulsecoombe – elusen fach ar gyrion Brighton sy’n cysylltu pobl â garddio, bwyd, a byd natur mewn amrywiol ffyrdd.
  • Gardd Goedwig Valentines Park – man paramaethu sy’n ffynnu wedi’i greu a than ofal gwirfoddolwyr o Transition Town Ilford.
  • Gardd Heddwch Forest Farm – gardd a pherllan yn Hainault, Llundain sy’n cysylltu pobl â byd natur a’u cymuned drwy raglenni iechyd meddwl a’r amgylchedd.
  • Plot 163a a b – rhandiroedd Forest Garden yn Hertford sydd newydd eu sefydlu, yn cynnig gweithdai ar gais.
  • Gardd Goedwig Rhydychen – gardd goedwig sydd wedi cyrraedd ei llawn dwf, hŷn na 5 oed, gyda choed ffrwythau a chnau, cyrens, gwrychoedd a chors.
  • Plymouth Tree People – yn hyrwyddo buddion coed mewn strydoedd, parciau, ysgolion a mannau cyhoeddus, helpu pobl i blannu mwy o goed i greu dinas wyrddach, iachach a harddach.
  • More Trees Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf – yn plannu a thyfu coed gyda tharddiad lleol ar draws Caerfaddon ac ardal gogledd-ddwyrain Gwald yr Haf.
  • Forest Rising – cynllun ar gyfer pobl ifanc yng nghanol Community Forest Plymouth a De Dyfnaint, gyda gweithdai a digwyddiadau yn ymwneud â fforio, plannu coed, casglu hadau, ôl-ofal coed a mwy.
  • Tree Musketeers – gwirfoddolwyr yn tyfu, plannu a gofalu am goed yn Hackney, Llundain.

  • Gardd Goedwig Bulwell – tyfu bwyd, ardaloedd bywyd gwyllt, perllan gymunedol a chegin awyr agored ar dir nad yw’n cael ei ddefnyddio ym maestrefi gogleddol Nottingham
  • Gardd Goedwig Bordesley Green – coedwig fwyd gymunedol yn Birmingham sy’n gweithio i hyrwyddo cynhyrchu bwyd dinesig adfywiol a chydweithio cymunedol.
  • Perllan Gymunedol Highbury – perllan gymunedol yn ne Birmingham gyda choed ffrwythau, ffrwythau meddal a pherlysiau lluosflwydd gyda sesiynau llesiant a byd natur i deuluoedd ac oedolion.
  • Birmingham Tree People – plannu a thyfu coed newydd yn y ddinas, gan eirioli dros yr holl goed ar draws Birmingham a gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau ar gyfer ecwiti coed gwell.
  • Fruit & Nut Village – elusen wedi’i lleoli yn Birmingham, sy’n tyfu perllannau a mannau bwyd lluosflwydd, ac yn gweithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu ystod o dirweddau bwytadwy.

  • The Northern Forest – gofalu am goetiroedd o Lerpwl i Hull, gydag uchelgais i dyfu o leiaf 50 miliwn o goed newydd a chyflwyno buddion economaidd, iechyd, byd natur a hinsawdd i ardaloedd sydd eu hangen fwyaf
  • St Nicks – plannu coed a gwrychoedd, gwella coetiroedd a phrosiectau creu dolydd coed fel rhan o Goridorau Gwyrdd Efrog.
  • Wardeiniaid York Tree – grŵp gwirfoddol gweithredol sy’n gofalu am goed yn y gymuned leol.
  • Ymddiriedolaeth Coedwig Gymunedol – cefnogi gwaith sefydliadau sy’n gwella’r amgylchedd a thirweddau yn y gogledd-orllewin a thu hwnt.
  • Fforest Ddinesig – mudiad cymunedol wedi’i leoli yn Ne Manceinion sy’n creu pocedi o goetiroedd dinesig ar gyfer bywyd gwyllt.
  • City of Trees – Elusen Community Forest ym Manceinion Fwyaf, sy’n plannu coed i fod o fudd i bobol, byd natur a’r blaned.
  • Gardd Goedwig Seacroft – man gwyrdd cymunedol yn Leeds, a grëwyd gyda phwyslais ar dyfu ffrwythau a llysiau.
  • Coedwig Merswy – Coedwig Gymunedol Sir Gaer a Glannau Merswy, yn tyfu ac yn gofalu am goed a choedwigoedd o amgylch dinasoedd, trefi a phentrefi.
  • Coedwig White Rose – gweithio gyda pherchnogion tir, ffermwyr a chymunedau i blannu coed ar draws Gogledd a Gorllewin Swydd Efrog.
  • Forus Trees – cydweithrediad rhwng gweithwyr a sefydliad nad yw er elw sy’n lliniaru effeithiau newid hinsawdd ac adfer bioamrywiaeth yn nyffryn Calder a thu hwnt.
  • Partneriaeth Plannu Coed Baildon – plannu coed ar draws Tref Baildon yng Ngorllewin Swydd Efrog, wedi’i gefnogi gan Gyngor tref Baildon a Choedwig Bradford.
  • Cymdeithas Goetir Gymunedol Swydd Efrog – hwyluso perchnogaeth gymunedol a mynediad i goetir, a rheoli cynaladwyedd rheoli coetir i wella bioamrywiaeth.
  • Gardd Goedwig Gymunedol Bedford Fields – gardd agored yn Leeds, sy’n canolbwyntio ar arddio coedwig yn lle cynhyrchu bwyd.
  • Gardd Goedwig Gymunedol Cleavley – hwb cymunedol lleol yn Salford sy’n cynnig rhaglenni iechyd a llesiant wedi’u cyflwyno gan fenter gymdeithasol Incredible Education.
  • Gardd Goedwig Prestwich Clough – coetir dwy acer i’r gogledd o Fanceinion, wedi’i reoli gan grŵp cymunedol Incredible Edible Prestwich a’r Fro.
  • Gardd Goedwig Fartown – grŵp o bobl leol sy’n plannu coed a ffrwythau i bawb eu mwynhau.
  • Gardd Dyfu Adfywiol Hendon – sawl plot o randiroedd yn Sunderland dan ofal Permaculture Ethics & Principles ac wedi’i reoli er llesiant cymunedau lleol a bywyd gwyllt.
  • East Marsh United – grŵp cymunedol sy’n cynyddu coed a gwyrddni yn East Marsh, Grimsby.

  • Cyfoeth Naturiol Cymru – maent yn cynnig help a chefnogaeth i greu coetiroedd ledled Cymru
  • Coed Caerdydd – rhaglen 10 mlynedd i gynyddu’r nifer o goed yng Nghaerdydd, gan gefnogi strategaeth newid hinsawdd Un Blaned y ddinas.
  • Orchard Cardiff – grŵp cymunedol nid er elw sy’n helpu pobl i gynaeafu, rhannu a mwynhau ffrwythau a dyfir y lleol.
  • Fforwm Coed Abertawe – gwirfoddolwyr a sefydliadau sy’n awyddus i ymgysylltu â phenderfyniadau rheoli coed yn y ddinas i ddiogelu, cynnal a gwella ei gorchudd canopi coed.

  • Future Woodlands yr Alban – yn rhedeg Rhaglen Fforestydd Dinesig, gyda chyllid ar gyfer prosiectau plannu a gwyrddu sy’n helpu i roi coed lle mae eu hangen fwyaf ledled yr Alban.
  • Map Stori Tyfu Bwyd – gwybodaeth am gyfleoedd i ymwneud â thyfu bwyd a pherllannau cymunedol o amgylch Perth a Kinross, yn ogystal â chyngor i’r rhai sydd â diddordeb mewn dechrau prosiect bwyd newydd.
  • Trees for Streets Glasgow – Mae Cyngor Tref Glasgow wedi partneru â Trees for Streets i’w gwneud hi’n haws i breswylwyr ariannu plannu coed ar strydoedd ledled y ddinas.
  • Glasgow Tree Plan – Porth Cynllun Coed ar-lein sy’n gwahodd preswylwyr y ddinas i awgrymu lleoliadau ar gyfer plannu coetiroedd a blodau gwyllt.
  • Tree Time – menter a sefydlwyd gan yr Ymddiriedolaeth Caeredin a Lothians Greenspace i blannu coed newydd mewn strydoedd, parciau a mannau gwyrdd, ac i helpu i ofalu a chynnal coed presennol.
  • Perllan Donkeyfield – perllan gymunedol yn Portobello, wedi’i phlannu a’i chadw gan bobl leol, i ddarparu bwyd wedi’i dyfu’n lleol mewn ffordd sy’n rhoi mwynhad, sy’n gymdeithasol ac yn ystyriol o’r amgylchedd.
  • Perllan Gymunedol Inch Park – prosiect uchelgeisiol dan arweiniad y gymuned, sy’n cynnwys perllan lewyrchus a blannwyd yn 2024 i ailgysylltu pobl â byd natur, cryfhau cysylltiadau cymunedol a chreu lle y gall cenedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

  • Miliwn o Goed – mae Cyngor Dinas Belfast yn gweithio gyda phartneriaid y ddinas a chymunedau lleol i blannu miliwn o goed brodorol ledled Belfast erbyn 2035.
  • Partneriaeth Belfast Hills – mae’n rhedeg Prosiect Woodland, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Woodland, i weithio i ailsefydlu ardaloedd coetir yn yr Hills a thu hwnt, rheoli coetir a fflora presennol a gwella coridorau coetiroedd.
  • Rhwydwaith Adfer y Tiroedd Comin – prosiectau tyfu cyfunol yn ardal Cyngor Dinas Belfast sy’n gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a gwella cyfathrebu rhwng tyfwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau.

Helpu chi i helpu byd natur lle rydych chi’n byw

Ysbrydoliaeth, syniadau a chyngor am ddim ar gyfer trefnu prosiect cymunedol neu ddechrau eich grŵp eich hun.

Mae gan Hwb Cymunedol Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ganllawiau syml, hawdd eu deall sy’n dweud wrthych chi sut i ddod o hyd i gyllid a rhedeg grŵp, yn ogystal â phopeth rydych chi angen ei wybod ynghylch yswiriant, banciau, iechyd a diogelwch a mwy. Roedd y grŵp yn bosibl diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

A person standing amongst plants in a community garden