
Gwneuthurwyr natur: Simon Needle
10-03-2025
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Astudiaeth Achos
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Trevor Ray Hart
10-03-2025
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Astudiaeth Achos
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Trevor Ray Hart
Dyma’r dyn sy’n arwain y cynllun i greu ‘Birmingham mwy mentrus a mwy gwyrdd’ erbyn 2047.
Rheolwr Gwasanaethau Parciau yng Nghyngor Dinas Birmingham
Yn ôl Simon Needle ei hun, mae wedi “bod o amgylch mannau gwyrdd ers amser hir”. Mewn swydd flaenorol yn yr adran gynllunio, fe welodd yr heriau amgylcheddol ac iechyd ynghlwm â cholled bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd, a thwf ym mhoblogaeth Birmingham.
Yn benderfynol o drosi’r heriau hyn yn gyfleoedd, mae Simon wedi treulio’r ychydig flynyddoedd diwethaf yn hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio. Mae’r agwedd hon yn helpu i adfer natur, a hynny wrth ddarparu mynediad mwy cyfartal i fannau gwyrdd a pharciau o ansawdd i drigolion.
Mae hyn oll wedi dod ynghyd yn y ‘Cynllun Dinas Natur’, lle mae Simon a’r tîm yn nodi’r rhan y gall natur ei chwarae mewn parciau, mannau gwyrdd a choed trwy lens gwytnwch yr hinsawdd ac iechyd cyhoeddus. Y gobaith yw y bydd y cynllun yn helpu i greu ‘Birmingham mwy mentrus a mwy gwyrdd’ erbyn 2047.
Dyma stori Simon am sut ddefnyddiodd Birmingham y data i gyflwyno achos dros newid. A sut mae partneriaethau cryf a chymorth cymunedol yn helpu i gyflawni’r newid hwnnw lle mae pobl a natur ei angen fwyaf.
Gan feddwl yn ôl, mae Simon yn nodi sawl ysgogwr newid yn null y cyngor i seilwaith gwyrdd a mannau gwyrdd ym Mirmingham.
Dywedodd “Fe alwodd pwysau cyllidebol ar ffordd newydd o feddwl am adnoddau tir”, gan gynnwys sut yr oedd yn cael ei ryddhau am ddatblygiad. Roedd arwyddion cynnar am effaith newid yn yr hinsawdd a cholled bioamrywiaeth ar y ddinas, hefyd.
Dangosodd adroddiadau tameidiog ar fuddion iechyd, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol – neu wasanaethau ecosystemau – seilwaith gwyrdd anghydraddoldeb amlwg o ran mynediad at natur, a’i effaith bosibl ar iechyd a llesiant.
“Nid oedd rhifau yn unig yn ddigon” dywed Simon.
Ffurfiwyd tîm amlswyddogaethol, gan gynnwys hwyluswyr parciau a gwasanaethau, cynllunio a datblygu, iechyd cyhoeddus a hwyluswyr allanol. Aethant ymlaen i ddatblygu a mabwysiadu cyfres wych o adnoddau a systemau mapio, i ymgysylltu â chynghorwyr prysur yn y wardiau mwyaf difreintiedig fel hyrwyddwyr dros fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd.
Er â’r bwriad cywir, mae gan yr adnoddau hyn y potensial o ennyn sensitifrwydd gan eu bod yn enwi’r lleoedd a effeithir gan anghyfiawnder amgylcheddol ac anghydraddoldeb natur. Sut wrthsafodd Simon hyn?
Gan gydnabod ei fod “bob amser yn risg”, yn hytrach fe ddefnyddiodd y canlyniadau anodd i addysgu cymunedau am fuddion mannau gwyrdd – eu grymuso i “hyrwyddo newid”.
‘Mae’n dweud bod rhaid bod yn onest ac yn rhagweithiol gyda phobl, “dweud wrthyn nhw eu bod dan risg o bethau penodol oherwydd eu hamgylchedd” ac yna, ac yn bwysicach, esbonio beth allent ei wneud i newid hynny.’
Bellach, mae Simon yn gweld gwahaniaeth o ran sut mae cymunedau’n ymateb i ymgynghoriadau ynghylch adfywio. “Ynghynt, roeddent yn gofyn am ragor o wasanaethau fel meddygon neu archfarchnadoedd. Nawr maent yn gofyn am ragor o fannau gwyrdd o ansawdd.”
Birmingham yw’r awdurdod lleol cyntaf yn y DU i ddatblygu adnodd mesur ar gyfer cyfiawnder amgylcheddol. Cafodd bob ward sgôr perthynol ar sail y mynegai amddifadedd lluosog, mynediad at fan gwyrdd ac effeithiau posibl newid hinsawdd. Mapiwyd y canlyniad o leiaf (coch) i fwyaf (gwyrdd) `cyfiawn’. Y flaenoriaeth yw trosi’r ardaloedd coch ac ambr yn wyrdd.
Mae’r Map Asesu Breguswydd a Risg yr Hinsawdd (CRVA) yn ychwanegu at lwyddiant y map Cyfiawnder Amgylcheddol. Mae’n helpu’r cyngor i ddatblygu dinas fwy cadarn a theg, gan sgorio ardaloedd Birmingham ar ffactorau a all ddylanwadu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd. Gellir gweld y map CRVA yma, gan hidlo ward neu Ardal Gynnyrch Ehangach Is (LSOA).
Mae Safon Parciau’r Dyfodol yn gosod meincnod safon ar gyfer parciau Cyngor Dinas Birmingham. Yn ystod y Cynllun Dinas Natur 25 mlynedd, bydd yr holl barciau yn cael eu hasesu yn erbyn pum thema’r cynllun, gyda chynlluniau gweithredu blaenoriaeth i’r rhai sy’n brin o ‘Teg.’ Ar frig y rhestr y mae parciau mewn wardiau gyda’r sgoriau anghyfiawnder amgylcheddol uchaf.
Mae TreePeople Birmingham yn plannu, gwarchod a hyrwyddo coed a’r goedwig drefol. Cliciwch i weld eu map TreePlotter, sy’n galluogi pobl i ddysgu rhagor am eu coed lleol a phrosiectau coedwigol cyfagos. Mae’n ffordd allweddol i’r cyngor a’i bartneriaid hwyluso sgyrsiau cymunedol, a chael cefnogaeth trigolion yn gynnar iawn yn y broses blannu.
Ymhell cyn y Cynllun Dinas Fyd Natur, fe eiriolodd Simon dros y buddion o weithio mewn partneriaeth ar draws yr amgylchedd, cynllunio ac iechyd.
Cyflwynodd yr ymgyrch ar gyfer argyfwng hinsawdd Birmingham yn 2019 ef i “nifer o chwaraewyr” a aeth yn eu blaen i ddarparu ymgynghoriad amhrisiadwy i’r cynllun.
O elusennau cenedlaethol i Grwpiau Cyfeillion lleol ac unigolion, sylwodd Simon ar “agenda cyffredin ar gyfer newid” gyda’r potensial i lywio newid yn y ddinas.
Meddai Simon “Edrychon ni ar sut allem ni weithio orau gyda’n gilydd i sicrhau adnoddau a chyflwyno’r Cynllun Dinas Natur”. Yr ateb oedd Cynghrair Dinas Natur arloesol, “tynnu ar a defnyddio ein sgiliau ar y cyd.”
Yn hollbwysig, mae’r Gynghrair a ellir ei darganfod yma, yn agor cyfleodd ariannu mwy a hirdymor ac na fyddai fel arall o fewn cyrraedd i fentrau Cymdeithasol Cymunedol Gwirfoddol (VCSEs).
Gan fyfyrio ar beth all y cyngor ei gyflawni drwy’r Gynghrair, dywed Simon “mae’r math o beth yr oedden ni’n arfer ei wneud pan oedd gennym ddigonedd o arian a chapasiti.”
Mae uchelgais y Cynllun Dinas Natur i gyflawni 1,000 o fannau gwyrdd yn dwyn ysbrydoliaeth gan dreftadaeth Birmingham fel dinas gyda 1,000 o grefftau. Ac mae Simon, hefyd, yn troi at y gorffennol i gyfrannu at ddyfodol gwyrddio trefol yn y ddinas.
“Nid gwella ansawdd mannau gwyrdd yw ei unig ddiben”. Esboniodd “Mae hefyd ynghylch llesiant pobl a chysylltioldeb natur”.
Dyma bedair ffordd y mae dulliau sydd wedi ennill eu plwyf i bartneriaethau ac ymgysylltiad cymunedol wedi eu hail-lunio i feithrin dinas werdd a glas sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Dywed Simon “O ddydd i ddydd, mae’n debygol nad yw pobl yn edrych ar y pethau gwyrdd”. Mae gweithio â phartneriaid yn y gymuned yn helpu i newid hynny. Er enghraifft, ail-sbardunodd gystadleuaeth posteri ysgol TreePeople Birmingham y cysylltiad rhwng pobl a natur. Fe “alluogodd pobl i weld yr arian a fuddsoddwyd”, gan annog stiwardiaeth tymor hwy o’u coeden ‘nhw’.
Mae partneriaid yn cofrestru ar gyfer Memorandwm o ddealltwriaeth (MoU) wrth ymuno â’r Gynghrair Dinas Natur. Esbonia Simon “mae’n nodi sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd, gan ganolbwyntio ar wardiau blaenoriaeth i gyflawni’r cynllun Dinas Fyd Natur ” . Mewn gwirionedd, mae’n fwy na gweledigaeth gyffredin. Wedi rhoi sylw craff i fanylion, mae’r MoU yn agor cyfleoedd am gyllid gwell. Dywed Simon “Rydynni’n fwy hyblyg, er enghraifft sut wasgaron ni gyllid Cronfa Waddol Gemau’rGymanwlad ar draws y Gynghrair”.
O acronymau newydd i ffyrdd newydd o weithio, dywed Simon ei fod ynghylch deall “iaith” adrannau eraill a chanfod y nod cyffredin. Mae’n ychwanegu “Nid yw’n hawdd ar y dechrau”, ond mae cefnogaeth draws-adran i seilwaith gwyrdd yn “dechrau dod yn drefn gyffredin”. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio â chydweithwyr yn Priffyrdd i sicrhau buddion mwyaf posibl yllwybr beicio newydd gyda pharciau dros dro.
Fe wrandodd Gyngor Dinas Birmingham ar straeon pum chant o bobl am natur yn ystod ymgynghoriad y Cynllun Dinas Natur. Cliciwch i ddarllen am Straeon Daear Birmingham, a aeth ati i archwilio cysylltiadau plentyndod pobl â natur, a gofyn beth fyddent yn ei ddymuno ar gyfer eu plant. Chwilion nhw am leisiau ymylol drwy allgymorth cymunedol. Dyma un enghraifft o agwedd ddatblygol y cyngor at ‘sgyrsiau’ hen ffasiwn gyda chymunedau am werth mannau gwyrdd.
Felly, beth mae hyn yn ei olygu i bobl a natur ym Mirmingham?
I ddechrau, mae cydweithwyr yn “fwy cefnogol wrth edrych ar seilwaith gwyrdd aml-swyddogaethol”. Yn bell o brofiadau cynnar Simon mewn cynllunio, mae nifer o adrannau eraill yn “meddwl am sut maen nhw’n chwarae eu rhan.”
Mae’r gwaith arloesol yn cael effaith tu hwnt i ffiniau’r ddinas. Mae Awdurdod Cyfunol y Gorllewin Canolbarth wedi cymhwyso’r broses CRVA mewn gwaith addasu hinsawdd ar draws ardal yr awdurdod cyfunol.
Ac yn ehangach eto, gwelodd peilot dinas gyda Natural England yr hyn a ddysgwyd yn cael ei integreiddio i ddatblygu Fframwaith Seilwaith Gwyrdd cyntaf y wlad yma.
Cymerwch olwg ar Sgôr Cydraddoldeb Coed y DU, hefyd. Cafodd ei gyd-ddatblygu gan Coed Cadw, gan ddefnyddio sylfaen cyfiawnder amgylcheddol Birmingham i wneud cydberthyniadau ag ystyr cydraddoldeb coed “gallwn nawr gymharu cydraddoldeb yn ein dinas â lleoedd eraill” mynega Simon.
Ond efallai’n fwy teimladwy, mae Simon yn myfyrio ar ‘broffwydoliaeth hunangyflawnol’ yn y newidiadau cadarnhaol y mae’n dechrau eu gweld. Mae’n “bopeth y dylem wedi ei wneud yn gynt”.
“Mae bellach gwerth cyfwerth â miliynau o bunnoedd yn cael ei fuddsoddi ym Mirmingham er budd pobl a natur. Mae’n dangos, efallai, ein bod â chyrhaeddiad ehangach na feddyliwn ar y dechrau.”
Mae’r ffordd y mae Birmingham yn trin ei amgylchedd naturiol ac yn meddwl am ei barciau a mannau gwyrdd yn newid.
Mae’r Ddinas Natur yn nodi sut mae’r cyngor cyfan, ei bartneriaid a thrigolion Birmingham yn cyflawni mynediad tecach at natur, gwella iechyd cyhoeddus a chryfhau gwytnwch yr hinsawdd.
©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Cliciwch ar y dolenni isod i gael cipolwg manylach ar y gwaith i gyflawni Birmingham gwyrddach, mwy diogel, mwy cysylltiedig a mwy cynhwysol.
Dinas ein Dyfodol: Mae Fframwaith Birmingham Canolog 2045 yn weledigaeth fentrus a chyffrous i Firmingham - dinas fodern sy’n parhau i ddatblygu er mwyn bodloni anghenion poblogaeth ifanc a chynyddol.
Darllen y fframwaithMae Prif Gynllun y Goedwig Drefol yn egluro sut fydd y ddinas yn datblygu a rheoli ei choed a’i choetiroedd yn y blynyddoedd i ddod. Mae’n dod ynghyd ag uchelgeisiau'r cyngor, rheolwyr coetiroedd trefol, rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol.
Dysgu am TreePeople BirminghamMae Naturally Birmingham yn fforwm i’r holl bobl a’r gweithredoedd sy’n helpu i gyflawni Cynllun y Ddinas Natur. Mae’n rhannu gwybodaeth ac yn darparu mannau i gyfathrebu ynghylch mannau gwyrdd y ddinas.
Mynd i’r fforwmMae llawer o arweiniad llywodraeth a chefnogaeth i swyddogion cynllunio, swyddogion mannau gwyrdd, a swyddogion amgylcheddol awdurdodau lleol. Cymerwch gipolwg ar beth sydd ar gael yn eich gwlad chi.
Mae’r Fframwaith Seilwaith Gwyrdd wedi’i ddylunio er mwyn helpu i greu trefi a dinasoedd cyfoethog o ran natur, gan helpu miliynau i wireddu’r buddion o fynediad at natur. Mae’n cefnogi cynllunwyr a datblygwyr i gyflawni seilwaith gwyrdd o ansawdd, fel rhan o dargedau uchelgeisiol y llywodraeth am dai newydd dros y 5 mlynedd nesaf. Mae canllaw sut manwl ar gyfer awdurdodau lleol sydd awydd datblygu polisïau a strategaeth seilwaith gwyrdd.
Darllen y fframwaithArweiniad, adnoddau, taflenni ffeithiau a rhagor i helpu â chyflawni buddion a swyddogaethau lluosog seilwaith gwyrdd yn yr Alban.
Mynd i NatureScotCanllaw i setiau data allweddol Cyfoeth Naturiol Cymru a sut i’w defnyddio fel rhan o Asesiad Seilwaith Gwyrdd.
Mynd i’r safle