Gwneuthurwyr natur: Simon Needle
10-03-2025
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Astudiaeth Achos
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Trevor Ray Hart
10-03-2025
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Astudiaeth Achos
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Trevor Ray Hart
Dyma’r dyn sy’n arwain y cynllun i greu ‘Birmingham mwy mentrus a mwy gwyrdd’ erbyn 2047.
Rheolwr Gwasanaethau Parciau yng Nghyngor Dinas Birmingham
Yn ôl Simon Needle ei hun, mae wedi “bod o amgylch mannau gwyrdd ers amser hir”. Mewn swydd flaenorol yn yr adran gynllunio, fe welodd yr heriau amgylcheddol ac iechyd ynghlwm â thwf ym mhoblogaeth Birmingham, newid yn yr hinsawdd, a cholled bioamrywiaeth.
Yn benderfynol o drosi’r heriau hyn yn gyfleoedd, mae Simon wedi treulio’r ychydig flynyddoedd diwethaf yn hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio. Mae’r agwedd hon yn helpu i adfer natur, a hynny wrth ddarparu mynediad mwy cyfartal i fannau gwyrdd a pharciau o ansawdd i drigolion.
Mae hyn oll wedi dod ynghyd yn y ‘Cynllun Dinas Natur’, lle mae Simon a’r tîm yn nodi’r rhan y gall natur ei chwarae mewn parciau, mannau gwyrdd a choed trwy lens gwytnwch yr hinsawdd ac iechyd cyhoeddus. Y gobaith yw y bydd y cynllun yn helpu i greu ‘Birmingham mwy mentrus a mwy gwyrdd’ erbyn 2047.
Dyma stori Simon am sut ddefnyddiodd Birmingham y data i gyflwyno achos dros newid. A sut mae partneriaethau cryf a chymorth cymunedol yn helpu i gyflawni’r newid hwnnw lle mae pobl a natur ei angen fwyaf.
Gan feddwl yn ôl, mae Simon yn nodi sawl ysgogwr newid yn null y cyngor i seilwaith gwyrdd a mannau gwyrdd ym Mirmingham.
Dywedodd “Fe alwodd pwysau cyllidebol ar ffordd newydd o feddwl am adnoddau tir”, gan gynnwys sut yr oedd yn cael ei ryddhau am ddatblygiad. Roedd arwyddion cynnar am effaith newid yn yr hinsawdd a cholled bioamrywiaeth ar y ddinas, hefyd.
Dangosodd adroddiadau tameidiog ar fuddion iechyd, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol – neu wasanaethau ecosystemau – seilwaith gwyrdd anghydraddoldeb amlwg o ran mynediad at natur, a’i effaith bosibl ar iechyd a llesiant.
“Ond roedd arnom angen rhywbeth mwy na dim ond rhifau” dywed Simon.
Ffurfiwyd tîm aml-swyddogaethol, gan gynnwys gwasanaethau parciau, cynllunio a datblygu, iechyd cyhoeddus a hwyluswyr allanol. Aethant ymlaen i ddatblygu a mabwysiadu cyfres drawiadol o offer a systemau mapio, er mwyn cynnwys cynghorwyr prysur yn y wardiau mwyaf difreintiedig fel hyrwyddwyr dros fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd.
Er eu bod wedi’u bwriadu er daioni, mae gan yr offer hyn y potensial i godi sensitifrwydd wrth iddynt dynnu sylw at leoedd sy’n cael eu heffeithio gan anghyfiawnder amgylcheddol ac anghydraddoldeb natur. Sut y gwnaeth Simon wrthweithio hyn?
Gan gydnabod bod “risg bob amser”, defnyddiodd y canlyniadau moel yn hytrach i addysgu cymunedau am fuddion mannau gwyrdd – gan eu grymuso i “hyrwyddo newid”.
‘Mae’n ymwneud â bod yn onest ac yn rhagweithiol gyda phobl’ meddai, “gan ddweud wrthynt eu bod mewn perygl o bethau penodol oherwydd eu hamgylchedd” ac yna, yn bwysicach fyth, esbonio beth y gallant ei wneud i newid hynny.’
Nawr, mae Simon yn gweld gwahaniaeth yn y ffordd y mae cymunedau’n ymateb i ymgynghoriadau ynghylch adfywio. “Cyn hynny, roeddent yn gofyn am fwy o wasanaethau fel meddygon neu archfarchnadoedd. Nawr maent yn gofyn am fwy o fannau gwyrdd o ansawdd”.
Birmingham yw’r awdurdod lleol cyntaf yn y DU i ddatblygu teclyn mesur ar gyfer anghyfiawnder amgylcheddol. Rhoddwyd sgôr gymharol i bob ward yn seiliedig ar y mynegeion amddifadedd lluosog, mynediad at fannau gwyrdd ac effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd. Mapiodd y canlyniadau o’r lleiaf ‘cyfiawn’ (coch) i’r mwyaf (gwyrdd). Y flaenoriaeth yw troi ardaloedd coch ac yna oren yn wyrdd.
Mae’r map Asesu Risg a Bregusrwydd Hinsawdd (CRVA) yn adeiladu ar lwyddiant y map Anghyfiawnder Amgylcheddol. Mae’n helpu’r cyngor i ddatblygu dinas fwy cyfiawn a gwydn, gan sgorio ardaloedd o Birmingham ar ffactorau a allai ddylanwadu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd. Gellir gweld y map CRVA yma, wedi’i hidlo yn ôl ward neu Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA).
Mae Safon Parciau’r Dyfodol yn gosod meincnod o ansawdd ar gyfer parciau Cyngor Dinas Birmingham. Dros gyfnod o 25 mlynedd y Cynllun Dinas Natur, bydd pob parc yn cael ei asesu yn erbyn pum thema’r cynllun, gyda chynlluniau gweithredu blaenoriaeth ar gyfer y rhai sy’n disgyn yn is na ‘Gweddol’. Parciau mewn wardiau sydd â’r sgôr uchaf am anghyfiawnder amgylcheddol sydd gyntaf ar y rhestr.
Mae Birmingham TreePeople yn plannu, gwarchod a hyrwyddo coed a’r goedwig drefol. Cliciwch i weld eu map TreePlotter, sy’n galluogi pobl i ddarganfod mwy am eu coed lleol a phrosiectau coedwigaeth cyfagos. Mae’n ffordd hanfodol i’r cyngor a’i bartneriaid hwyluso sgyrsiau cymunedol, gan gynnwys trigolion yn llawer cynharach yn y broses blannu.
Ymhell cyn y Cynllun Dinas Natur, roedd Simon yn hyrwyddo buddion gweithio mewn partneriaeth ar draws yr amgylchedd, cynllunio ac iechyd.
Fe wnaeth yr ymgyrch dros argyfwng hinsawdd Birmingham yn 2019 ei gyflwyno i “nifer o chwaraewyr” a aeth ymlaen i ddarparu ymgynghoriad amhrisiadwy ar gyfer y cynllun.
O elusennau cenedlaethol i Grwpiau Cyfeillion lleol ac unigolion, gwelodd Simon “agenda gyffredin dros newid” gyda’r potensial i ysgogi newid yn y ddinas.
“Fe wnaethom edrych ar sut y gallem gydweithio orau i sicrhau adnoddau a chyflawni’r Cynllun Dinas Natur” meddai Simon. Yr ateb oedd Cynghrair Dinas Natur arloesol, gan “dynnu ar ein sgiliau cyfunol a’u defnyddio”.
Yn hollbwysig, mae’r Gynghrair y gellir dod o hyd iddi yma, yn agor cyfleoedd ariannu mwy, hirdymor a allai fel arall fod y tu hwnt i gyrraedd mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol (VCSEs) llai.
Wrth fyfyrio ar yr hyn y gall y cyngor ei gyflawni trwy’r Gynghrair, dywedodd Simon yn ffraeth “dyma’r math o bethau roeddem yn arfer eu gwneud pan oedd gennym lawer o arian a chapasiti”.
Mae uchelgais y Cynllun Dinas Natur i gyrraedd 1,000 o fannau gwyrdd wedi’i ysbrydoli gan dreftadaeth Birmingham fel dinas o 1,000 o grefftau. Ac mae Simon, hefyd, yn edrych i’r gorffennol i lywio dyfodol gwyrddu trefol yn y ddinas.
“Nid gwella ansawdd y mannau gwyrdd yn unig yw’r nod. Mae hefyd yn ymwneud â llesiant pobl a chysylltedd â natur” esboniodd.
Dyma bedair ffordd y mae dulliau profedig o ymgysylltu â’r gymuned a phartneriaethau wedi cael eu hail-lunio i adeiladu dinas werdd a glas sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
“O ddydd i ddydd, mae’n debyg nad yw pobl yn edrych ar y pethau gwyrdd” meddai Simon. Mae gweithio gyda phartneriaid yn y gymuned yn helpu i newid hynny. Er enghraifft, fe wnaeth cystadleuaeth posteri ysgol Birmingham TreePeople ailgynnau’r wreichionen rhwng pobl a natur. Roedd yn “galluogi pobl i weld yr arian a fuddsoddwyd”, gan annog stiwardiaeth hirdymor o ‘eu’ coeden.
Mae partneriaid yn llofnodi Memorandwm Cydymdeimlad (MoU) wrth ymuno â Chynghrair y Ddinas Natur. Mae’n “nodi sut yr ydym yn cydweithio, gan ganolbwyntio ar wardiau blaenoriaeth, er mwyn cyflawni y Cynllun Dinas Natur” esboniodd Simon. Yn ymarferol, mae’n fwy na gweledigaeth gyffredin. Ar ôl rhoi pob dot ar yr i a phob trawst ar y t, mae’r MoU yn agor drysau i well gyllid. “Rydym yn fwy ystwyth, er enghraifft yn y ffordd y gwnaethom ddosbarthu cronfeydd Etifeddiaeth Gemau’r Gymanwlad ar draws y Gynghrair” meddai Simon.
O acronymau newydd i ffyrdd o weithio, dywed Simon mai’r peth pwysig yw deall “iaith” adrannau eraill a dod o hyd i’r nod cyffredin. “Nid yw’n hawdd i ddechrau” ychwanegodd, ond mae cefnogaeth draws-adrannol i seilwaith gwyrdd “yn dechrau dod yn norm”. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio gyda chydweithwyr yn y Priffyrdd i o sicrhau’r y buddion mwyaf oo lwybr beicio newydd gyda pharciau dros dro.
Gwrandawodd Cyngor Dinas Birmingham ar straeon pum cant o bobl am natur yn ystod yr ymgynghoriad ar gyfer y cynllun Dinas Natur. Cliciwch i ddarllen am Earth Stories Birmingham, a archwiliodd gysylltiadau pobl â natur yn ystod eu plentyndod, a gofyn beth yr hoffent ei gael i’w plant. Ceisiodd y tîm leisiau ymylol trwy allgymorth cymunedol. Dim ond un enghraifft yw hon o agwedd esblygol y cyngor at ‘sgyrsiau’ hen ffasiwn gyda chymunedau am werth mannau gwyrdd.
Felly beth mae hyn yn ei olygu i bobl a natur ym Mirmingham?
I ddechrau, mae cydweithwyr yn “fwy cefnogol wrth edrych ar seilwaith gwyrdd aml-swyddogaethol”. Yn wahanol iawn i brofiadau cynnar Simon ym maes cynllunio, mae llawer o adrannau eraill yn “meddwl am sut maent yn chwarae eu rhan”.
Mae’r gwaith arloesol yn cael effaith y tu hwnt i ffiniau’r ddinas hefyd. Mae Awdurdod Cyfun Gorllewin Canolbarth Lloegr wedi cymhwyso’r broses CRVA mewn gwaith addasu i’r hinsawdd ar draws ardal yr awdurdod cyfun.
Ac yn ehangach fyth, gwelodd cynllun peilot dinesig gyda Natural England ddysgeidiaeth yn cael ei hintegreiddio i ddatblygiad Fframwaith Seilwaith Gwyrdd cyntaf y wlad yma.
Edrychwch ar Sgôr Tegwch Coed y DU, hefyd. Cafodd ei gyd-ddatblygu gan y Woodland Trust, gan ddefnyddio llinell sylfaen anghyfiawnder amgylcheddol Birmingham i wneud cydberthynas â thegwch coed sy’n golygu “y gallwn nawr gymharu tegwch yn ein dinas â lleoedd eraill” meddai Simon.
Ond efallai yn fwyaf teimladwy, mae Simon yn myfyrio ar “broffwydoliaeth hunangyflawnol” yn y newidiadau cadarnhaol y mae’n dechrau eu gweld. Mae’n “bopeth y dylem fod wedi’i wneud yn gynt”.
“Mae gwerth miliynau o bunnoedd bellach yn cael ei fuddsoddi ym Mirmingham er budd pobl a natur. Mae’n dangos, efallai, fod gennym gyrhaeddiad mwy nag y gwnaethom ei feddwl i ddechrau.”
Mae’r ffordd y mae Birmingham yn trin ei hamgylchedd naturiol ac yn meddwl am ei pharciau a’i mannau gwyrdd yn newid.
Mae’r Cynllun Dinas Natur yn nodi sut y bydd y cyngor cyfan, ei bartneriaid a thrigolion Birmingham yn darparu mynediad mwy cyfartal at natur, yn gwella iechyd cyhoeddus ac yn cryfhau gwytnwch yr hinsawdd.
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Cliciwch ar y dolenni isod i ymchwilio’n ddyfnach i’r gwaith o ddarparu Birmingham mwy gwyrdd, mwy diogel, mwy cysylltiedig a mwy cynhwysol.
Mae Ein Dinas yn y Dyfodol: Fframwaith Canol Birmingham 2045 yn weledigaeth feiddgar a chyffrous i Birmingham – dinas fodern sy’n parhau i esblygu i ddiwallu anghenion poblogaeth ifanc sy’n tyfu.
Darllenwch y fframwaithMae Prif Gynllun y Goedwig Drefol yn nodi sut y bydd y ddinas yn datblygu ac yn rheoli ei choed a’i choetiroedd yn y blynyddoedd i ddod. Mae’n dod â dyheadau’r cyngor, rheolwyr coedwigoedd trefol, partneriaid allweddol a rhanddeiliaid ynghyd.
Darganfyddwch Birmingham TreePeopleFforwm yw Naturally Birmingham ar gyfer yr holl bobl a’r camau gweithredu sy’n helpu i gyflawni’r Cynllun Dinas Natur. Mae’n rhannu gwybodaeth ac yn darparu mannau ar gyfer cyfathrebu o amgylch mannau gwyrdd y ddinas.
Ewch i’r fforwmMae llawer o ganllawiau a chymorth gan y llywodraeth ar gyfer swyddogion amgylchedd, mannau gwyrdd a chynllunio awdurdodau lleol. Edrychwch ar yr hyn sydd ar gael yn eich gwlad chi.
Mae’r Fframwaith Seilwaith Gwyrdd wedi’i gynllunio i helpu i greu trefi a dinasoedd sy’n llawn natur, gan helpu miliynau i wireddu buddion cael mynediad at natur. Mae’n cefnogi cynllunwyr a datblygwyr i ddarparu seilwaith gwyrdd o ansawdd, gan gynnwys fel rhan o dargedau uchelgeisiol y llywodraeth ar gyfer cartrefi newydd dros y 5 mlynedd nesaf. Mae canllaw manwl ar gael i awdurdodau lleol sydd am ddatblygu strategaeth a pholisïau seilwaith gwyrdd.
Darllenwch y fframwaithCanllawiau, offer, taflenni ffeithiau a mwy i helpu i ddarparu swyddogaethau a buddion lluosog seilwaith gwyrdd yn yr Alban.
Ewch i NatureScot
Arweiniad i setiau data allweddol Cyfoeth Naturiol Cymru a sut i’w defnyddio fel rhan o Asesiad Seilwaith Gwyrdd.
Ewch i’r wefan
Roedd Future Parks Accelerator (FPA) yn gydweithrediad rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Adran dros Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau (DLUHC).
Dewiswyd naw ardal ar draws y DU i fod yn rhan o’r rhaglen arloesol hon i adeiladu dyfodol cynaliadwy i barciau trefol a mannau gwyrdd.
Profodd FPA fod gan natur rôl hanfodol i’w chwarae mewn trefi a dinasoedd, gan helpu i wella iechyd a llesiant, lliniaru effaith newid hinsawdd, gwella bioamrywiaeth a thyfu’r economi werdd.
Gosododd y lleoedd arloesol hyn y sylfeini i filiynau mwy o bobl fwynhau amser ym myd natur yn agos i’w cartrefi trwy brosiectau yn y dyfodol fel Trefi a Dinasoedd Natur.