
Gwneuthurwyr natur: The Parks Foundation
13-03-2025
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / James Dobson
13-03-2025
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / James Dobson
Yn cyflwyno’r tîm y tu ôl i bartneriaeth Cyngor Bournemouth, Christchurch a Poole a The Parks Foundation.
Arweinydd Strategol ar gyfer Mannau Gwyrdd a Chadwraeth yng Nghyngor Bournemouth, Christchurch a Poole
Rheolwr Prosiect ar gyfer Parciau yng Nghyngor Bournemouth, Christchurch a Poole
Prif Swyddog Gweithredol yn The Parks Foundation
Mae Cyngor Bournemouth, Christchurch a Poole a The Parks Foundation yn cydweithio i reoli, ariannu a gwella eu mannau gwyrdd.
Fel un o’r sefydliadau cyntaf o’i fath yn y DU, mae’r sefydliad wedi mynd o nerth i nerth dros y degawd diwethaf. Mae’n gosod cymunedau’n ganolog mewn parciau dinesig lleol i wella iechyd a llesiant, cynyddu bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, a chysylltu pobl gyda’i gilydd a natur.
Ar achlysur eu degfed pen-blwydd, mae Martin, Janna a John o’r bartneriaeth Cyngor a Sefydliad yn myfyrio ar yr hyn mae’r bartneriaeth wedi’i gyflawni er mwyn pobl a pharciau yn Bounemouth, Christchurch a Poole, gydag awgrymiadau ardderchog i’ch helpu chi i ddechrau sefydliad parciau yn eich tref neu ddinas.
Mae sefydliadau parciau yn sefydliadau nid er elw sy’n gwella parciau, gydag adnoddau, gwybodaeth a galluoedd codi arian pwrpasol.
Dysgwch fwy am sut y gallant helpu i oresgyn toriadau cyllid a gwella mynediad i fannau gwyrdd o ansawdd yng nghanol cymunedau dinesig.
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / James Dobson
Mae John yn rhannu pum carreg filltir sylweddol a gyflawnwyd gan y Sefydliad dros y 10 mlynedd diwethaf, o greu hyrwyddwyr natur i feithrin cymunedau mwy gwyllt a dathlu cytundebau cyllid newydd.
Ddegawd ar ôl sefydlu The Parks Foundation, mae’r tîm yn rhannu deg cyngor i’ch helpu i ddechrau ar eich taith partneriaeth werdd eich hun.
Diffinio beth sydd yng nghwmpas pob parti yn glir, i sicrhau bod eich amcanion yn cyd-fynd ac osgoi dyblygu. Cydweithio i fapio’r hyn mae pobl a natur ei angen gan barciau lleol. Yna ystyriwch sut y gall gwaith y sefydliad gyfannu beth sydd eisoes yn cael ei ddarparu drwy wasanaethau’r cyngor er mwy bodloni’r angen hwn.
Mae llywodraethu cryf yn gynhwysyn allweddol ar gyfer partneriaeth lwyddiannus ac mae’n gosod y sylfaen i weithio’n annibynnol o’r cyngor. Bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU), cytundebau prosiect a chyfeiriadau e-bost penodol i’r sefydliad yn helpu i gynnal eich bwriadau, rhesymoli penderfyniadau i randdeiliaid uwch a rhoi credadwyaeth i’ch gweithredoedd bob cam o’r ffordd.
Mae creu a meithrin blynyddoedd cyntaf partneriaeth sefydliad yn gofyn am rywun a all weld y darlun mawr, yn ogystal â chanolbwyntio ar y manylion ar yr un pryd. Bydd yn gyfrifol am gydymffurfiaeth reoleiddiol, rheoli pethau fel y cyfansoddiad, Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu, polisïau ac yswiriannau. Bydd hefyd yn gweithio gyda’r ymddiriedolwyr i greu’r weledigaeth, y strategaeth, y cynlluniau a’r anghenion staffio.
Hyd nes eich bod yn weithredol gyda chyllid gweithio digonol yn ei le, canolbwyntiwch ar gynhyrchu incwm tymor byr a fydd yn creu’r canlyniad mwyaf. Gall grantiau gan ymddiriedolaethau a sefydliadau fod yn llai dibynnol ar adnoddau na chynhyrchu’r un incwm drwy roddwyr unigol. Wrth i amser fynd heibio gallwch ddechrau profi gwahanol lifoedd cyllid.
Gyda chyllidebau gweithio wedi’u sefydlu, ystyriwch sut i amrywiaethu incwm y sefydliad. Fel cangen fenter o’r cyngor, mae sefydliad parciau yn ffordd wych o ddenu haelioni ac incwm a enillwyd, yn ogystal â chyllid grant i reolaeth mannau gwyrdd. Yn gyffredinol, dylech anelu am raniad cyfartal rhwng y tri llif refeniw, o etifeddiaethau i brydlesau caffi a grantiau gan gyrff anllywodraethol.
Ni allwn bwysleisio pwysigrwydd annog pobl leol i gymryd rhan o’r dechrau ddigon. Gall ymchwil cymunedol a chyd-ddylunio feithrin perthnasau a helpu i gael eu syniadau. Denwch gymunedau o’r dechrau i adnabod darpar leoliadau parc a helpu i greu’r dyluniadau. Dangoswch y rôl allweddol y gallant ei chwarae gyda digwyddiadau gwirfoddoli fel plannu bylbiau neu greu pyllau. Yn ogystal â meithrin ymddiriedolaeth, mae’n rhoi canllawiau clir ichi i ddatblygu cyllid a chefnogaeth hirdymor.
Mae llais, brandio a delwedd gwahanol i rai eich cyngor yn gosod y sylfaen ar gyfer cael sgyrsiau gwahanol gyda chyllidwyr a phartneriaid. Bydd pwynt gwerthu unigryw yn ei wneud yn haws i ddod â phobl ar y daith gyda chi, gan gynnwys y llwybr i gael mynediad at gyllid elusennol na all y cyngor ei gyrraedd.
Adnabod y mathau o fannau gwyrdd sy’n addas i’r bartneriaeth hon ganolbwyntio arnynt. Er enghraifft, gallai fod yn barc yn yr ardal, safleoedd cyrchfan neu warchodfeydd natur. Gall hefyd helpu i flaenoriaethu’r math o fannau gwyrdd a phrosiectau a fydd yn cyflwyno’r newidiadau mwyaf dylanwadol i bobl a natur. Mae plannu coed, systemau draenio dinesig cynaliadwy neu bethau fel tyrau gwenoliaid y bondo mewn mannau gwyrdd sy’n eiddo i’r cyngor yn ennill calonnau a meddyliau’r gymuned gan atgyfnerthu cefnogaeth ar gyfer cynlluniau lleol a’r sefydliad ar yr un pryd.
Gall eich cyrhaeddiad fod yn amlochrog – gan helpu iechyd a llesiant pobl, lleihau ynysiad cymdeithasol, annog twf cymuned a chefnogi grwpiau cymunedol lleol. Ystyriwch sut y byddai sefydliad yn cyfathrebu gyda gwahanol gynulleidfaoedd er mwyn cyflawni hyn. Gall mentrau wyneb yn wyneb fod yn fwy dylanwadol ar gyfer grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Bydd diweddariadau rheolaidd drwy eich sianeli cyfathrebu – digidol a phrint- yn allweddol i feithrin perthnasau gyda defnyddwyr parc a thrigolion, cynghorwyr, cyllidwyr a phartneriaid ehangach.
Gallwch feddwl hyd ar raddfa hyd yn oed yn fwy drwy ddatblygu partneriaethau ar draws y cyngor a thimau iechyd. Mae The Parks Foundation yn agor ei ddrysau i elusennau lleol a chenedlaethol, ysgolion a grwpiau ieuenctid, a chymdeithasau trigolion. Neu maent yn meithrin perthnasau gyda chyllidwyr fel Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, cyrff anllywodraethol eraill, cronfeydd cymunedol a darparwyr a busnesau lleol. Trwy gydweithio gallech wella eich cyrhaeddiad, gan weithio ar draws nifer o safleoedd, denu mwy o randdeiliaid, gwneud y mwyaf o’r hyn y byddwch yn ei ddarparu a gwella buddion iechyd a llesiant.
Dysgwch fwy am sut i ddechrau sefydliad parciau gan raglen ‘Rethinking Parks’ Nesta.
Casglwch yr holl gynhwysion ar gyfer partneriaeth lwyddiannus yn y canllaw hwn ar ddechrau arni. Dysgwch sut i bwyso a mesur y manteision a’r anfanteision, mynd i’r afael â heriau a gwneud penderfyniadau dylunio allweddol. Mae astudiaethau achos gan bum prif Sefydliad Parciau y DU hefyd, gan gynnwys yn BCP.