Volunteers moving soil into a wheelbarrow.
White illustration of a ladybird. The body resembles a car.

Gwneuthurwyr natur: The Parks Foundation

13-03-2025

Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur

Astudiaeth Achos

Canllaw

Dewch i gwrdd â’r tîm sy’n gweithio ar draws Bournemouth, Christchurch a Poole i ddarganfod sut mae partneriaeth gyda sefydliad parciau yn creu buddion i bobl a natur.
Adfer natur - Partneriaethau

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / James Dobson

Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur

Yn cyflwyno’r tîm y tu ôl i bartneriaeth Cyngor Bournemouth, Christchurch a Poole a The Parks Foundation

Martin Whitchurch

Arweinydd Strategol dros Fannau Gwyrdd a Chadwraeth yng Nghyngor Bournemouth, Christchurch a Poole

Janna Bloice

Rheolwr Prosiect dros Barciau yng Nghyngor Bournemouth, Christchurch a Poole

John Hanson

Prif Swyddog Gweithredol The Parks Foundation

John Hanson, Chief Executive Officer at The Parks Foundation, smiles into the camera. The collar of his dark green fleece is just visible.

Gwasanaeth parciau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol

Mae Cyngor Bournemouth, Christchurch a Poole a The Parks Foundation yn cydweithio i reoli, ariannu a gwella eu mannau gwyrdd.

Fel un o’r sefydliadau cyntaf o’i fath yn y DU, mae’r sefydliad wedi mynd o nerth i nerth dros y degawd diwethaf. Mae’n gosod cymunedau wrth galon parciau trefol lleol i wella iechyd a llesiant, cynyddu bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, a chysylltu pobl â’i gilydd ac â natur.

Wrth iddynt ddathlu deng mlynedd, mae Martin, Janna a John o bartneriaeth y Cyngor a’r Sefydliad yn myfyrio ar yr hyn y mae wedi’i gyflawni i bobl a pharciau yn Bournemouth, Christchurch a Poole, gydag awgrymiadau gorau i’ch helpu i sefydlu sefydliad parciau yn eich tref neu ddinas.

Beth yw sefydliad parciau?

Mae sefydliadau parciau yn sefydliadau nid er elw sy’n gwella parciau, gydag adnoddau, gwybodaeth a galluoedd codi arian pwrpasol.

Dysgwch fwy am sut y gallant helpu i oresgyn toriadau cyllideb a gwella mynediad at fannau gwyrdd o ansawdd yng nghalon cymunedau trefol.

Blue gates on a pathway at the entrance of a park.

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / James Dobson

The Parks Foundation mewn niferoedd

Mae pobl yn rhan annatod o The Parks Foundation, o nodi mannau ar gyfer gwelliannau parciau ac ymweld â’r caffis, i dyfu bwyd a rhoi eu hamser a’u gwasanaethau. Dyma gipolwg ar eu heffaith.

850

o weithgareddau allgymorth seiliedig ar natur sydd ar gael i bob oedran.

Maent yn digwydd mewn parciau sy’n eiddo i’r cyngor drwy gydol y flwyddyn.

5

o gaffis cymunedol menter gymdeithasol bywiog a chroesawgar wedi'u hagor gan y Sefydliad.

Maent yn cael eu rhedeg gan reolwr cyflogedig a gwirfoddolwyr.

750

metr o wrychoedd wedi’u plannu ar hyd ‘Lôn Las Littledown’.

Mae’n helpu i dyfu rhwydwaith adfer natur BCP.

£3m

wedi’i godi gan y Sefydliad ar gyfer gwelliannau parciau.

Mae’r arian a godwyd wedi helpu i ehangu eu cyrhaeddiad i 24 parc ar draws Bournemouth, Christchurch, a Poole.

Deg gwers dros ddeg mlynedd: yr hyn rydym wedi’i ddysgu

Deng mlynedd ers sefydlu The Parks Foundation, mae’r tîm yn rhannu deg awgrym i’ch helpu i ddechrau ar eich taith partneriaeth werdd eich hun.

Diffiniwch yn glir beth sydd o fewn cwmpas pob parti, i sicrhau bod eich amcanion yn cyd-fynd ac i osgoi dyblygu. Gweithiwch gyda’ch gilydd i fapio beth sydd ei angen ar bobl a natur o barciau lleol. Yna ystyriwch sut y gall gwaith y sefydliad ategu’r hyn sydd eisoes yn cael ei gyflawni drwy wasanaethau’r cyngor i ddiwallu’r angen hwn.

Mae llywodraethu cryf yn elfen hanfodol ar gyfer partneriaeth lwyddiannus ac yn gosod y seiliau i’r sefydliad weithio’n annibynnol o’r cyngor. Bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU), cytundebau prosiect a chyfeiriadau e-bost penodol i’r sefydliad yn helpu i ategu eich bwriadau, rhesymoli penderfyniadau i randdeiliaid uwch a rhoi hygrededd i’ch gweithredoedd bob cam o’r ffordd.

Mae creu a meithrin blynyddoedd cyntaf partneriaeth sefydliad yn galw am rywun sy’n gallu gweld y darlun mawr a chanolbwyntio ar y manylion ar yr un pryd. Byddant yn gyfrifol am gydymffurfiaeth reoleiddiol, rheoli pethau fel y cyfansoddiad, Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu, polisïau ac yswiriant. Byddant hefyd yn gweithio gyda’r ymddiriedolwyr i greu’r weledigaeth, y strategaeth, y cynlluniau a’r anghenion staffio.

Nes eich bod yn weithredol ac â digon o gyllid, canolbwyntiwch ar gynhyrchu incwm tymor byr sy’n cael y canlyniad mwyaf. Gall grantiau gan ymddiriedolaethau a sefydliadau fod yn llai dwys o ran adnoddau na chynhyrchu’r un incwm drwy roddwyr unigol. Wrth i amser fynd heibio gallwch ddechrau profi ffrydiau cyllid gwahanol.

Gyda chyllid wedi’i sicrhau, meddyliwch sut i arallgyfeirio incwm y sefydliad. Fel cangen fenter o’r cyngor, mae sefydliad parciau yn ffordd wych o ddod ag incwm dyngarwch ac incwm wedi’i ennill, yn ogystal â chyllid grant, i reoli mannau gwyrdd. Yn fras, dylech anelu at raniad cyfartal rhwng y tair ffrwd refeniw, o gymynroddion i brydlesi caffis a grantiau gan sefydliadau anllywodraethol.

Ni allwn bwysleisio digon pa mor bwysig yw hi i gael pobl leol i gymryd rhan o’r dechrau. Gall ymchwil cymunedol a chyd-ddylunio adeiladu perthnasoedd a helpu i’w hannog i rannu eu syniadau. Ymgysylltwch â chymunedau ar y dechrau i nodi lleoliadau parciau posibl a helpu i greu’r dyluniadau. Dangoswch y rôl hanfodol y gallant ei chwarae gyda digwyddiadau gwirfoddoli fel plannu bylbiau neu greu pyllau. Yn ogystal â meithrin ymddiriedaeth, mae’n rhoi mandad clir i chi dyfu cyllid a chefnogaeth hirdymor cynaliadwy.

Mae llais, brand a delwedd wahanol i’ch cyngor yn paratoi’r sefydliad i gael sgyrsiau gwahanol gyda chyllidwyr a phartneriaid. Bydd pwynt gwerthu unigryw syml yn ei gwneud hi’n haws i ddod â phobl ar y daith gyda chi, gan gynnwys y llwybr i gael cyllid elusennol na all y cyngor ei gael.

Nodwch y math o fannau gwyrdd sy’n addas i’r bartneriaeth hon ganolbwyntio arnynt. Er enghraifft, gallai fod yn barc cymdogaeth, safleoedd cyrchfan neu warchodfeydd natur. Gall hefyd helpu i flaenoriaethu’r math o fannau gwyrdd a phrosiectau a fydd yn dod â’r newidiadau mwyaf effeithiol i bobl a natur. Mae plannu coed, systemau draenio trefol cynaliadwy neu bethau fel tyrau gwenoliaid y bondo ar fannau gwyrdd sy’n eiddo i’r cyngor yn plesio’r gymuned ac yn atgyfnerthu cefnogaeth i gynlluniau lleol a’r sefydliad.

Gall eich cyrhaeddiad fod yn amlweddog – gan helpu iechyd a llesiant pobl, lleihau unigedd cymdeithasol, annog tyfu cymunedol a chefnogi grwpiau cymunedol lleol. Meddyliwch sut y byddai sefydliad yn cyfathrebu â chynulleidfaoedd gwahanol i gyflawni hyn. Gall mentrau wyneb yn wyneb fod yn fwy effeithiol i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd diweddariadau rheolaidd drwy eich sianeli cyfathrebu – digidol ac wedi’u hargraffu – yn allweddol i feithrin perthnasoedd â defnyddwyr parciau ehangach a thrigolion, cynghorwyr, cyllidwyr a phartneriaid.

Gallwch fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol drwy ddatblygu partneriaethau ar draws y cyngor a thimau iechyd. Mae The Parks Foundation yn agor ei ddrysau i elusennau lleol a chenedlaethol, ysgolion a grwpiau ieuenctid, a chymdeithasau preswylwyr. Neu adeiladu perthnasoedd â chyllidwyr fel Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sefydliadau anllywodraethol eraill, cronfeydd cymunedol a darparwyr a busnesau lleol. Gyda’ch gilydd gallech gynyddu eich cyrhaeddiad, gan weithio ar draws nifer o safleoedd, ymgysylltu â mwy o randdeiliaid, gwneud y mwyaf o’ch graddfa cyflawni a chynyddu buddion iechyd a llesiant.

Sut i sefydlu sefydliad parciau

Dysgwch fwy am sut i sefydlu sefydliad parciau o raglen 'Ailfeddwl Parciau’ Nesta.

Sicrhewch fod gennych yr holl gynhwysion ar gyfer partneriaeth lwyddiannus yn y canllaw hwn i ddechrau arni. Dysgwch sut i bwyso a mesur y manteision a’r anfanteision, mynd i’r afael â heriau a gwneud penderfyniadau dylunio allweddol. Mae yna hefyd astudiaethau achos o bum Sefydliad Parciau arloesol y DU gan gynnwys yn BCP.

Volunteer knelt down gardening in a park.

Ysbrydolwyd yr erthygl yr ydych newydd ei darllen gan Gyflymydd Parciau’r Dyfodol

Roedd Cyflymydd Parciau’r Dyfodol (FPA) yn gydweithrediad rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Adran Ffyniant, Tai a Chymunedau (DLUHC).

Dewiswyd naw ardal ar draws y DU i fod yn rhan o’r rhaglen arloesol hon i ddatblygu dyfodol cynaliadwy i barciau trefol a mannau gwyrdd.

Profodd FPA fod gan natur rôl hanfodol i’w chwarae mewn trefi a dinasoedd, gan helpu i wella iechyd a llesiant, lliniaru effaith newid hinsawdd, gwella bioamrywiaeth a thyfu’r economi werdd.

Gosododd y lleoedd arloesol hyn y sylfeini i filiynau mwy o bobl fwynhau amser ym myd natur yn agos i’w cartrefi trwy brosiectau yn y dyfodol fel Trefi a Dinasoedd Natur.