Helpwch i greu dyfodol gwyrddach a thecach i bawb

Rydym yn gweithio â phartneriaid ledled y DU i gyflawni newid uchelgeisiol, gan integreiddio byd natur i fywyd pob dydd i greu trefi a dinasoedd gwyrddach, iachach a mwy cadarn. Rydym yn chwilio am fuddsoddwyr, rhoddwyr a chyllidwyr i wireddu ein cenhadaeth.

Cysylltu â ni
Two people holding a thumbs up in a garden surrounded by Nature Towns and Cities urban nature icons.

©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rob Stothard

Buddsoddwch mewn tref, dinas neu brosiect

Yn y blynyddoedd nesaf, rydym yn bwriadu gweithio ag o leiaf 100 o drefi a dinasoedd yn y DU. Cyn bo hir, bydd llawer o'r lleoedd hynny'n gweithio tuag at gyflawni statws Tref Natur neu Ddinas Natur drwy ein cynllun achredu. Mae hyn wedi ei ddylunio i roi sicrwydd bod gan le y sylfeini a'r cynlluniau hirdymor i gyflawni newid effeithiol a pharhaol i'w trefi a dinasoedd, gan olygu y bydd buddsoddiad yn dod â buddion i bobl, natur a lleoedd.

Cysylltwch â ni os hoffech fuddsoddi mewn tref neu ddinas benodol, neu mewn prosiectau a ddyluniwyd i gyflawni canlyniadau penodol sy’n unol â’ch diddordebau personol. Byddem wrth ein bodd yn eich rhoi mewn cyswllt.

Cysylltwch â ni i sgwrsio am fuddsoddi

Llenwch y ffurflen i gysylltu a rhowch wybod i ni a oes gennych chi ddiddordeb mewn ffurfio partneriaeth â ni fel buddsoddwr, neu ariannu prosiect neu le penodol.

Cysylltu â ni
Blwch gwirio