Orange illustration of a carrot.

Canllaw tyfu bwyd cymunedol

13-10-2025

Dechreuwch arni gyda...

Astudiaeth Achos

Dechreuwch arni gyda...

Gair gan y rhai sy’n gwybod sut i dyfu ynghylch beth sy’n creu bwyd da a’r teimlad da o fod ynghyd. Canllaw i dyfu bwyd cymunedol, gan ddechrau heb ddim.
Cymunedau - Community growing

Pobl a byd natur yn tyfu gyda’i gilydd

Tyfu bwyd cymunedol yw’r syniad bod pobl leol yn gallu dod ynghyd i dyfu cynnyrch bwyd blasus mewn mannau yn y gymdogaeth.

Mae bwyd yn iaith fyd-eang, sy’n gallu pontio rhaniadau diwylliannol a chymdeithasol a dod â ni’n ôl at fyd natur a’r awyr agored. Canfu adroddiad diweddar hwn (Mai 2025) gan y prosiect Coronation Gardens for Food and Nature, a ariannir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, fod gan hau a thyfu fel cymuned fuddion yn cynnwys:

  • Hybu economïau lleol a darparu cyfleoedd i gael yr hawl i fannau naturiol
  • Gwella iechyd corfforol pobl wrth iddynt dreulio amser yng nghanol byd natur
  • Gall wneud gwahaniaeth mawr i iechyd meddwl a llesiant wrth i bobo gydweithio i dyfu bwyd yn eu hardal leol

 

Gall unrhyw un, unrhyw le ddechrau menter dyfu bwyd cymunedol. Gyda 85% o boblogaeth y DU yn byw mewn ardaloedd dinesig, mae pocedi o blotiau a gerddi a rennir yn ffordd syml i ddod â lliw, cysylltiad a byd natur i fannau llwyd, di-gariad ar stepen drws pobl.

Darllenwch ymlaen i glywed sut mae pobl sy’n deall wedi plannu hadau tyfu bwyd cymunedol ble maent yn byw, a’r effaith gadarnhaol mae wedi’i gael ar y rhai o’u cwmpas.

Garddwyr Cymunedol Granton mewn niferoedd

Pan mae’n dod i rannu bwyd da a theimlad da yn y gymuned, mae’r niferoedd o Granton yn siarad cyfrolau.

57

Nifer cyfartalog o bobl sy’n ymuno ar bnawniau Mercher

Mae pobl leol yn ymweld â’r ardd gymunedol ar ddydd Mercher i helpu gyda thasgau garddio tymhorol ac i dyfu bwyd. Mae pawb sy’n helpu’n cael cyfran o’r hyn sy’n cael ei gynaeafu ac mae yna ginio poeth cymunedol am ddim hefyd.

65

Prydau bwyd cymunedau yn yr ardd bob blwyddyn

Yn ogystal â chinio wythnosol, mar Granton yn cynnig prydau cymunedol poeth am ddim bob ychydig o wythnosau, wedi’i weini gan SCRAN VAN, gwasanaeth cegin ac arlwyo symudol.

80+

Planhigion bwyd a dyfir yn yr ardd

Ciwcymbr, cwinoa, moron, nionod, courgettes a mwy…os allwch chi ei fwyta, mwy na thebyg byddwch yn dod o hyd iddo’n tyfu yma.

15

Cefnogi mannau tyfu bwyd cymunedol lleol

Mae ein gwreiddiau yn mynd ymhellach na’r ardd gymunedol ar draws y stad i blotia a pherllannau ar gorneli strydoedd, mewn gerddi ffrynt neu ar ochr y ffyrdd.

10 cynhwysyn ar gyfer tyfu bwyd cymunedol llwyddiannus

Gallwch rannu man gwyrdd ar stad, eisiau trawsnewid cornel a esgeuluswyd neu gael dim tir o gwbl.

Efallai bod gennych chi sefydliad y tu ôl i chi, cefnogaeth grŵp lleol neu’n dechrau ar eich pen eich hun. Y newyddion da yw ei bod hi bob amser yn bosibl tyfu rhywbeth, waeth beth fo’ch sefyllfa. O ganol Granton, mae Tom yn rhannu ei 10 cynhwysyn ar gyfer llwyddo.

Pan ddewch o hyd i ddarn o dir rydych chi’n meddwl y gallwch chi dyfu bwyd arno, mae’n bwysig chwilio am ragor o wybodaeth i weld a yw’n iawn i chi:

  • Pwy sydd bia’r tir (e.e. awdurdod lleol neu berchennog tir preifat)?
  • A ydych angen caniatâd (mae gan wahanol berchnogion ymagwedd wahanol – os allwch chi gael caniatâd hirdymor, gall pobl deimlo bod mwy o reswm i fuddsoddi eu hamser a’u hymdrechion ac fe all fod yn haws cael arian)?

Meddwl am fwyd:garddio guerilla‘ yw un ffordd o ddangos bod eich syniad yn gweithio, gwella ardal, gwneud i bobol wenu, meithrin ewyllys da ac ennyn cefnogaeth.

  • Canfyddwch sut mae’r tir yn cael ei ddefnyddio a’i gynnal ar hyn o bryd (e.e. a yw cŵn yn ei ddefnyddio neu blant yn chwarae arno?) a siaradwch ag unrhyw ddefnyddwyr

Meddwl am fwyd: os oes siawns i dîm torri gwair ddod yno, diogelwch yr hyn a blannwyd drwy gael gwared ar y gwair o’r ardal rydych chi’n ei defnyddio.

  • Pwy fydd yn cael ei effeithio os byddwch yn newid defnydd y tir (e.e. os gall rhywun ei weld o’u ffenestr neu’n cerdded heibio bob dydd, yna ystyriwch eu cynnwys nhw neu gael eu cefnogaeth)?
  • Sut mae’r pridd (mae’n bosibl tyfu yn unrhyw le gyda phlanwyr uwch ac uwchbridd, ond mae’n rhatach manteisio ar bridd da sydd yno’n barod.)?
  • Ymchwiliwch i hanes y tir am arwydd cychwynnol o lefel y risg o halogiad pridd (e.e. mae wedi bod yn fan gwyrdd erioed = risg isel posibl, mae adeiladau wedi bod ar y safle = peth risg, mae yna ddiwydiant gerllaw = gall fod risg uchel.)

Meddwl am fwyd: gall awdurdodau lleol eich helpu gyda phrofi/cyngor ar bridd.

Mae dŵr, tegellau a thoiledau’n hanfodol. Os oes gennych chi gyflenwad dŵr, gallwch ddyfrio’r planhigion rydych chi’n eu tyfu. Os oes gennych chi degell i wneud diodydd poeth, bydd gwirfoddolwyr yn hapusach. Os oes gennych chi doiled gerllaw, gall gwirfoddolwyr dreulio mwy o amser yn yr ardd gymunedol.

Efallai bod ffyrdd i ddyfeisio’r rhain i gyd, yn enwedig yn y tymor byr ac os yw gwirfoddolwyr yn lleol. Ond ar gyfer yr hirdymor a phan mae gwirfoddolwyr yn dod o bell, mae’r cyfleusterau sylfaenol hyn yn hanfodol i lwyddiant tyfu bwyd yn gymunedol.

Dechreuwch drwy dyfu rhywbeth, yn rhywle. Mae gwneud y newid o dyfu dim byd i dyfu rhywbeth yn allweddol i ddechrau momentwm. Os ydych yn ansicr a fydd rhywbeth yn gweithio, ceisiwch blannu ychydig bach ohono cyn ymrwymo i fuddsoddi mwy o amser ac arian.

Byddwch yn agored i eraill ymuno â chi bob amser. Peidiwch â phoeni os bydd rhai yn amheus ar y dechrau, cadwch wahoddiad agored a gwnewch iddi deimlo fel petai’n ardd i bawb.

  • Os ydych chi ar eich pen eich hun, dechreuwch rywbeth y gallwch ymdopi ag o. Gallwch gynyddu eich uchelgeisiau wrth i fwy o bob ymuno.
  • Os bydd eraill gyda syniadau gwahanol yn ymuno neu eisiau bod yn geffylau blaen, byddwch yn amyneddgar, gwrandewch, a dewch o hyd i ffyrdd i gynnig pethau gwahanol sy’n chwarae ar gryfderau gwahanol bobl.
  • Gwnewch hi mor hawdd â phosibl i bobl ymuno drwy gynnal digwyddiadau a dyddiau agored.
  • Gwnewch hi’n haws i bobl newydd ymuno drwy gynnig tasgau bach lefel sylfaenol.

Os ydych chi’n cyd-dynnu’n dda fel grŵp ac yn mwynhau’r hyd rydych chi’n ei wneud, bydd pobl yn fwy tebygol o fod eisiau ymuno. A phan mae gennych nod cyffredin, mae’r teimlad da hwnnw’n cynyddu ac yn ffynnu dros amser – gan eich helpu chi i ddatrys gwahaniaethau a gwrthdaro a chyflawni cynaladwyedd a llwyddiant hirdymor.

Gall y weithred o drawsnewid lle drwy greu gardd ddenu mwy o sylw lleol na chyhoeddiad llafar neu gyhoeddusrwydd ysgrifenedig. Yn enwedig pan mae’n rhywle na fyddai pobl yn ei ddisgwyl.

Adeiladwch ar y cysylltiadau cyhoeddus cadarnhaol hyn drwy roi ffordd hawdd i’ch cynulleidfa newydd gysylltu â chi a chymryd rhan.

Bydd bod yn bresennol yn y safle tyfu’r un amser bob wythnos yn sicrhau bod pobl yn gwybod ble i ddod o hyd i chi.

Mae cael caniau dyfrio llawn neu dryweli wrth law yn rhoi ffordd gyflym a syml i bobl ymuno â’r mudiad.

Cofiwch fod tyfu bwyd bob amser yn gamp, hyd yn oed i dyfwyr medrus sydd â’r seilwaith delfrydol. Felly mwynhewch bob llwyddiant a’u dathlu gyda’ch gilydd.

  • Pan fyddwch chi’n tyfu bwyd yn llwyddiannus, rhannwch ef gyda’ch gilydd a dathlwch y ffaith eich bod chi’n gynhyrchwyr yn ogystal â defnyddwyr.
  • Pan fyddwch chi’n cynhyrchu cnwd da, cynhaliwch brydau bwyd cymunedol a digwyddiadau cynaeafu a gwahoddwch y gymuned ehangach.

Dyma’r ffordd symlaf o ddogfennu eich cynnydd ac mae’n ffordd bwerus o gyfleu’r hyn rydych chi’n ei wneud.

Meddwl am fwyd: gallai postio eich lluniau ar gyfryngau cymdeithasol eich helpu i gyrraedd cynulleidfa hyd yn oed yn ehangach a mwy amrywiol.

Gall lluniau hefyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer olrhain sut mae eich gardd yn newid drwy’r tymhorau a’ch helpu i sylwi beth sy’n gweithio a beth sydd ddim ar gyfer plannu yn y dyfodol.

Gwnewch benderfyniad gwybodus ynghylch a yw ffurfioli eich grŵp tyfu bwyd cymunedol yn iawn i chi drwy ystyried y manteision a’r anfanteision:

Grwpiau anffurfiol

  • Y manteision: maent yn ymrwymiad isel a gweinyddiaeth isel a gallant fod yn ffordd wych o roi cynnig ar bethau.
  • Yr anfanteision: nid ydynt yn gymwys i gael cyllid ac ni allant ymrwymo i drefniadau ffurfiol fel prydlesi.

Sefydliadau wedi’u ffurfioli

  • Y manteision: gallant gymryd prydlesi ar gyfer tir, sicrhau cyllid, a chyflogi staff.
  • Yr anfanteision: maent angen gwaith gweinyddol, cyfrifon, yswiriant, polisïau a llywodraethu gofalus.

Meddwl am fwyd: os penderfynwch ffurfioli, gwnewch yn siŵr bod pawb yn deall bod hyn yn ymwneud ag elwa o gyfleoedd a chapasiti cynyddol ac nid colli perchnogaeth.

Mae’r mudiad cyffrous, amrywiol a chreadigol hwn yn cyrraedd ledled y DU a thu hwnt. Mae llawer iawn i’w ennill drwy ddysgu gan eraill a’u rhannu ag eraill. Mae yna hefyd gyfoeth o brofiad a chyngor i dynnu arno, gan gynnwys sefydliadau cymorth fel Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol.

Mwy o enghreifftiau da o dyfu bwyd cymunedol

Nid oes un ffordd sy’n addas i bawb wrth dyfu bwyd blasus gyda’n gilydd. Dyma rai sefydliadau eraill sy’n rhoi gwreiddiau yn eu cymunedau ledled y DU.

Incredible Edible

Mae gan Incredible Edible weledigaeth i greu cymunedau caredig, hyderus a chysylltiedig drwy bŵer bwyd. Wedi’i sefydlu mewn tref farchnad yn y gogledd dros ddegawd yn ôl, mae Incredible Edible nawr yn ffederasiwn o dros 200 o Incredible Edible lleol. Gallwch ddod o hyd i’ch grŵp lleol drwy eu gwefan a chael yr hawl i adnoddau i’ch cefnogi wrth ddechrau a rhedeg eich grŵp Incredible Edible eich hun.

Ymwelwch ag Incredible Edible
Ymwelwch ag Incredible Edible

Zebra Collective

Mae Zebra Collective yn Plymouth yn gweithio tuag at gymdeithas deg a chynaliadwy drwy newid diwylliant, datblygu cymunedol, arfer fyfyriol a hyfforddiant. Mae Clwb Tyfu, Coginio, Rhannu Zebra yn hau llysiau i drawsnewid eu garddio ganol cymdogaeth ar gyfer byd natur. Mae ar agor i bawb, gydag uchelgais i groesawu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y gymuned megis ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn enwedig.

Mwy am Zebra Collective
Mwy am Zebra Collective

Theatr Mafwa

Mae Theatr Mafwa yn rhedeg grŵp garddio sy’n dod â ffoaduriaid, ceiswyr lloches a chymunedau sefydledig ynghyd yng nghanol Lincoln Green, Leeds. Unwaith yn gae chwarae segur, mae Gardd Gymunedol Roxby bellach yn fan gwyrdd agored sy’n ffynnu i bawb, lle mae’r grŵp ‘Garddwyr Lincoln’ yn mynd i’r afael â thasgau garddio tymhorol a cyn tyfu blodau a llysiau bo wythnos. Mae’r ardd yn darparu sefydlogrwydd, heddwch a chyswllt diwylliannol, yn enwedig i’r rhai hynny sy’n bell o adref.

Cwrdd â Garddwyr Lincoln
Cwrdd â Garddwyr Lincoln

Tyfu Dinesig Octopus

Mae rhaglen dyfu ddinesig Rhwydwaith Cymunedol Octopus yn helpu i drawsnewid mannau nad ydynt yn cael digon o ddefnydd yn erddi cymunedol bywiog, gan gysylltu preswylwyr drwy weithdai tymhorol a mentrau ecolegol. Wedi’i wreiddio yn amrywiaeth cyfoethog cymunedau Islington, mae’r rhaglen yn dathlu gwahanol ddiwylliannau a safbwyntiau. Mae yna ganolbwyntio cryf ar ail-bwrpasu tir tai cymdeithasol ar gyfer tyfu bwyd a bioamrywiaeth, gyda “byd natur ar stepen ein drws, nid cyrchfan.” Wrth galon hyn mae’r Feithrinfa Blanhigion Gymunedol, sy’n meithrin rhwydwaith o dyfwyr o’r gymdogaeth sydd wedi’u hysbrydoli gan eu cymunedau.

Dysgwch am Octopus
Dysgwch am Octopus

Earth in Common

Dechreuodd Earth in Common fel mudiad cymunedol i adfer tir comin da a esgeuluswyd o fewn rhan leol. Mae bellach yn ‘grofft ddinesig’, gyda digon o le i dyfu bwyd sy’n cyflenwi caffi prysur ar y safle, bwyd rheolaidd a marchnadoedd ffermwyr a chyfleoedd dysgu. Mae ysbryd teuluol Earth in Common wedi’i wreiddio yn nhreftadaeth crofft yr Ucheldir, gan ddod â chymuned Leith ynghyd er lles.

Mwy am Earth in Common
Mwy am Earth in Common

Hannah Fields

Rhoddodd Hannah Fields gymuned Littleover, Derby ar waith i helpu trawsnewid safle gwyrdd dwy acer oedd wedi gordyfu ac wedi’i adael am dros ddau ddegawd. Mae nawr yn darparu dewis eang o ffrwythau a llysiau tymhorol i’r gymuned, Ysgol Goedwig a gweithgareddau i blant, sesiynau gwirfoddoli mewn gardd a chaffi ar y safle. Wrth galon y cyfan mae cred ym muddion cyswllt cymdeithasol, byd natur, llesiant cyfannol a chymunedol.

Darganfyddwch Hannah Fields
Darganfyddwch Hannah Fields

Fferm Gymunedol Horton

Mae Fferm Gymunedol Horton yng nghanol dinas Bradford yn ganolfan ar gyfer tyfu bwyd a gwytnwch cymdeithasol. Ar safle o randiroedd a gafodd eu gadael ochr yn ochr â phreswylwyr yn tendio i’w rhandiroedd eu hunain, mae gan y fferm ardd therapi, ardal chwarae i blant, ardaloedd bywyd gwyllt, perllan, toiled compost, a chabannau ar gyfer storio. Mae’r mannau tyfu cymunedol yn dod â phobl sy’n ceisio noddfa ynghyd, y rhai ag anableddau dysgu, teuluoedd ifanc, pobl feichiog a phobl sy’n dymuno gwella eu hiechyd meddwl a chorfforol.

Fferm Gymunedol Horton
Fferm Gymunedol Horton

Helpu chi i helpu byd natur lle rydych chi’n byw

Ysbrydoliaeth, syniadau a chyngor am ddim ar gyfer trefnu prosiect cymunedol neu ddechrau eich grŵp eich hun.

Mae gan Hwb Cymunedol Ymddiriedolaethau Natur ganllawiau syml, hawdd eu deall sy’n dweud wrthych chi sut i ddod o hyd i gyllid a rhedeg grŵp, yn ogystal â phopeth rydych chi angen ei wybod ynghylch yswiriant, banciau, iechyd a diogelwch a mwy. Roedd y grŵp yn bosibl diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Yn y cyfamser, mae’r ‘Grow Wild Guide’ a grëwyd gan Erddi Botaneg Brenhinol, Kew, yn llawn o gyngor ymarferol ac awgrymiadau ar sut i ddechrau a rhedeg eich prosiect tyfu cymunedol eich hun.

A person in a utility vest watering plants within a community garden.

©National Trust Images / Rebecca Hughes