
Cynllunio ar y cyd: dull partneriaeth
12-02-2025
Canllaw
Astudiaeth Achos
Canllaw
©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
12-02-2025
Canllaw
Astudiaeth Achos
Canllaw
©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Mae’r canllaw hwn ar gyfer timau sy’n awyddus i ddatblygu eu dull presennol o reoli cymuned, gan nodi fframwaith tair rhan i greu gweledigaeth gyffredin.
Darllenwch ymlaen ar gyfer dulliau cynllunio sy’n dod â thimau a chymunedau ynghyd mewn ffordd fwy cydweithredol a chynhwysol i lywio dyfodol gwell ar gyfer eu parciau a mannau gwyrdd lleol.
Dan bob cam mae technegau cyfranogol, astudiaethau achos ac awgrymiadau sy’n helpu i roi amrywiaeth a chydraddoldeb wrth wraidd eich cynlluniau.
Os oes well gennych, gallwch lawrlwytho’r canllaw hwn gan ddefnyddio’r botwm isod.
Mae gweledigaeth strategol wych yn deillio o ddatganiad problem a ddiffiniwyd yn dda. Dechreuwch drwy nodi’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer eich mannau gwyrdd a gosod y trywydd i’w goresgyn.
Ewch i BetterUp am ragor o gymorth i ysgrifennu eich datganiad problem.
O aer glân i gân yr adar, coetiroedd i goed – mewn ffyrdd dirifedi, mae byd natur yn ein trefi a’n dinasoedd yn sail i fywydau hapusach ac iachach.
Er mwyn helpu i wireddu’r buddion hyn, gofynnwch i’ch hun ym mhob cam o’r fframwaith hwn:
Dylai dull partneriaeth alluogi cymaint o bobl â phosibl i gyfrannu at y weledigaeth strategol.
Dyma ddulliau sydd eisoes wedi ennill eu plwyf i gynllunio ar y cyd ar raddfa dinas neu dref. Maent yn tynnu ar y ffyrdd bach a mawr mae byd natur yn cefnogi bywydau iachach a hapusach yn eich cymuned.
Defnyddiwch y ddealltwriaeth hon i wneud y weledigaeth ar gyfer parciau a mannau gwyrdd yn wirioneddol ystyrlon i’ch ardal leol.
Gall y cam hwn gymryd hyd at chwe mis, a gorffen gyda datganiad gweledigaeth cyflawn.
Uniaethwch â theimladau pobl drwy ofyn sut allent ‘deimlo’n fwy diogel’ yn yr awyr agored neu ‘dreulio rhagor o amser ym myd natur’.
Pob tro rydych yn cysylltu â’ch cynulleidfa, dangoswch eich bod yn gwrando. A allwch chi ddangos sut bydd eich gweledigaeth yn ychwanegu at ymgynghoriadau blaenorol?
Defnyddiwch ddata lleol i ganolbwyntio eich dulliau cynllunio. Cliciwch yma i gymryd golwg ar yr adnodd demograffig ONS, mae’n fan cychwyn gwych.
Cyflwynwch syniadau cynllunio yn raddol i’ch dulliau cyfathrebu rheolaidd, megis cylchlythyrau, cyfryngau cymdeithasol a gwefan.
Cliciwch ar ‘Dysgu rhagor’ ar bob un o’r teitlau isod i ganfod peth o ddulliau cynllunio awgrymedig i gefnogi cam 1.
Cymerwch olwg ar yr astudiaethau achos isod i weld sut mae lleoedd wedi rhoi eu dulliau cynllunio cyfranogol yng ngham 1 ar waith.
Casglodd Gyngor Dinas Caeredin syniadau ac adborth i lunio dyfodol eu parciau a mannau gwyrdd. Defnyddion nhw arolygon yn seiliedig ar fapiau ar blatfform ymgysylltu dinasyddion Maptionnaire.
Darllen yr astudiaeth achosFe wrandodd Cyngor Dinas Birmingham ar straeon pum cant o bobl ynghylch byd natur, fel sail i’w Cynllun Dinas Fyd Natur 25 mlynedd. Aethant ati i archwilio cysylltiadau plentyndod pobl â natur, a gofyn beth fyddent yn ei ddymuno ar gyfer eu plant. Chwilion nhw am leisiau ymylol drwy allgymorth cymunedol.
Dysgu am stori BirminghamCysylltwch â rhwydweithiau newydd yn eich ardal fel rhan o’ broses.
Defnyddiwch ddata i edrych ar ddemograffig eich lle a mapiwch yr holl rhanddeiliaid o amgylch man gwyrdd sy’n bodoli. Gallai hyn gynnwys adeiladwyr cymunedol, a rhwydweithiau sy’n canolbwyntio ar iechyd a chwaraeon.
Y bwriad yw eich helpu i ganfod bylchau o ran pwy sy’n cymryd rhan ac alinio nodau strategol gwahanol.
Dylai mannau gwyrdd a pharciau lleol gael eu gwerthfawrogi gan bawb sy’n eu defnyddio. Dyma rai ffyrdd i gynllunio ar y cyd â rhwydweithiau cymunedol a phartneriaid i wireddu hyn.
Defnyddiwch ddata i ddangos y buddion cyffredin o gael mynediad at fannau gwyrdd o ansawdd i’ch rhanddeiliaid.
Gall y mapiau cyfrifiad ONS yma helpu i ddangos lle mae’r angen mwyaf.
Mae’r arolwg Pobl a Byd Natur yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol ynghylch agweddau pobl tuag at yr amgylchedd naturiol a’u heffaith ar lesiant. Dysgwch ragor am yr arolwg Pobl a Byd Natur drwy ddilyn y ddolen hon.
Cliciwch ar ‘Dysgu rhagor’ ar bob un o’r teitlau isod i ganfod dulliau cynllunio awgrymedig i gefnogi cam 2.
Cymerwch olwg ar yr astudiaethau achos isod i weld sut mae lleoedd wedi rhoi eu dulliau cynllunio cyfranogol yng ngham 2 ar waith.
Gweithiodd Cyngor Dinas Caeredin gyda Greenspace Scotland i ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau yn eu cymuned leol.
Darllen yr astudiaeth achosGweithiodd Gyngor Bwrdeistref Islington gyda phanel o 35 o drigolion i ddychmygu sut allai Islington sy’n gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd edrych, a sut mae modd cyflawni hynny. Roedd tîm o arbenigwyr wrth law drwy gydol y broses chwe mis, ond roedd y cynlluniau a’r egwyddorion dan arweiniad y gymuned.
Rhagor am y panel hinsawddLansiodd Cyngor Dinas Birmingham Gynghrair Dinas Natur i greu gweledigaeth gyffredin ar gyfer seilwaith gwyrdd ar draws y ddinas. Roedd yr holl aelodau eisoes yn gweithio yn y sector, ond fe luniodd y gynghrair weledigaeth gyffredin, a ffyrdd o weithio. Mae’r Gynghrair bellach yn helpu i gyflawni nodau’r Cynllun Dinas Natur 25 mlynedd.
Dysgu am y GynghrairDaeth yr RSPB, WWF a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol â 300 o bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed ynghyd i adrodd eu straeon am gefnogi natur. Roedd yna weithdai sgiliau ar adrodd straeon, creu ffilmiau ac eiriolaeth. Cafodd y ffilm a gynhyrchwyd am eu gweledigaeth ei sgrinio mewn sinemâu.
Dysgu am Leisiau IfancGall digwyddiad neu lansiad cyhoeddus godi ymwybyddiaeth ac annog rhagor o bobl i helpu i wireddu eich gweledigaeth.
Dylai ymgysylltu â’r weledigaeth fod yn hawdd er mwyn sicrhau ei bod yn berthnasol i amrywiaeth eang o bobl. Rhowch gynnig ar bleidleisiau ar-lein a mandad cyhoeddus drwy grwpiau sefydledig ac aelodau etholedig.
Byddwch yn hollol glir ynghylch diben cyfraniadau pobl er mwyn helpu i reoli disgwyliadau. Os ydych yn gofyn eu barn, rydych yn ‘casglu gwybodaeth’. Os ydych yn gadael i bobl gyflwyno eu syniadau ar blatfform cyfartal, yna rydych yn ‘penderfynu gyda’ch gilydd’.
Rhowch eich gweledigaeth ar-lein i’w gwneud yn fwy amlwg.
Rhowch farn sawl llais yn y naratif.
Ystyriwch leoliadau nad ydynt yn draddodiadol ar gyfer digwyddiadau wyneb yn wyneb e.e. lleoliadau difyr fel llawr sglefrio, neu yurt hyd yn oed!
Cliciwch ar ‘Dysgu rhagor’ ar bob un o’r teitlau isod i ganfod dulliau cynllunio awgrymedig i gefnogi cam 3.
Cymerwch olwg ar yr astudiaethau achos isod i weld sut mae lleoedd wedi rhoi eu dulliau cynllunio cyfranogol yng ngham 3 ar waith.
Casglodd y WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol farn dorfol gan 30,000 o bobl am y ffyrdd gorau o greu newid.
Darllen yr astudiaeth achosMae Groundwork yn cefnogi grwpiau cymunedol i gyd-greu Hybiau Cymunedol Gwyrdd, meithrin arweinyddiaeth gymunedol ar lefel gymdogaeth a chreu rhwydwaith o gymorth rhwng cyfoedion.
Dysgu rhagor am y rhaglenNododd Prosiect Parciau’r Dyfodol Swydd Gaergrawnt a Peterborough, mewn partneriaeth â Chyngor Dosbarth Fenland, gamau argymelledig i awdurdodau lleol ddatblygu safonau mannau agored. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys yr hyn a ddysgwyd ynghylch ymgysylltiad cyhoeddus.
Darllen y pecyn cymorth