People stood on a path looking at a garden area outside of a flat building.
Orange illustration of a flower. The petals resemble houses.

Cynllunio ar y cyd: dull partneriaeth

12-02-2025

Canllaw

Astudiaeth Achos

Sut i weithio â phartneriaid i ddatblygu gweledigaeth strategol ar gyfer byd natur, mannau gwyrdd a chymunedau.
Achrediad - Weledigaethu

©National Trust Images/Paul Harris

Pan mae byd natur yn agosach, mae pawb ar eu hennill. A gall pawb chwarae eu rhan.

Mae’r canllaw hwn ar gyfer timau sy’n awyddus i ddatblygu eu dull presennol o reoli cymuned, gan nodi fframwaith tair rhan i greu gweledigaeth gyffredin.

Darllenwch ymlaen ar gyfer dulliau cynllunio sy’n dod â thimau a chymunedau ynghyd mewn ffordd fwy cydweithredol a chynhwysol i lywio dyfodol gwell ar gyfer eu parciau a mannau gwyrdd lleol.

O dan bob cam mae technegau cyfranogol, astudiaethau achos ac awgrymiadau sy’n helpu i roi amrywiaeth a chydraddoldeb wrth wraidd eich cynlluniau.

Os yw’n well gennych, gallwch lawrlwytho’r canllaw hwn gan ddefnyddio’r botwm isod.

Awgrymiadau da cyn dechrau arni

Mae gweledigaeth strategol wych yn deillio o ddatganiad problem sydd wedi’i ddiffinio’n dda. Dechreuwch drwy nodi’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer eich mannau gwyrdd a gosod y trywydd i’w goresgyn.

Ewch i BetterUp am ragor o gymorth gydag ysgrifennu eich datganiad problem.

O awyr iach i adar yn canu, coetiroedd i goed – mewn ffyrdd di-rif, mae byd natur yn ein trefi a’n dinasoedd yn sail i fywydau hapusach ac iachach.

Er mwyn helpu i wireddu’r manteision hyn, gofynnwch i’ch hun ym mhob cam o’r fframwaith hwn:

  • Gyda phwy yr hoffech chi siarad?
  • Beth hoffech chi ei drafod gyda nhw?
  • Beth yw’r ffordd orau o gyflwyno’r neges iddyn nhw?

Cam 1: dechrau sgwrs

Dylai dull partneriaeth alluogi cymaint o bobl â phosibl i gyfrannu at y weledigaeth strategol.

Dyma rai dulliau profedig o gynllunio ar y cyd ar raddfa dinas neu dref. Maent yn tynnu sylw at y ffyrdd mawr a bach y mae byd natur yn cefnogi bywydau iachach a hapusach yn eich cymuned.

Defnyddiwch y mewnwelediad hwn i wneud y weledigaeth ar gyfer mannau gwyrdd a pharciau yn wirioneddol ystyrlon i’ch ardal leol.

Gall y cam hwn gymryd hyd at chwe mis, a gorffen gyda datganiad gweledigaeth gorffenedig.

Awgrymiadau da ar gyfer cam 1

Enillwch ddealltwriaeth o emosiynau pobl drwy ofyn sut y gallent ‘deimlo’n fwy diogel’ yn yr awyr agored neu ‘dreulio mwy o amser ym myd natur’.

Ym mhob pwynt cyswllt â’ch cynulleidfa, dangoswch eich bod yn gwrando. A allwch chi ddangos sut y bydd eich gweledigaeth yn adeiladu ar ymgynghoriadau blaenorol?

Defnyddiwch ddata lleol i roi ffocws i’ch dulliau cynllunio. Cliciwch yma i gymryd golwg ar declyn demograffig yr ONS, mae’n le gwych i ddechrau.

Cyflwynwch syniadau cynllunio yn raddol i’ch cyfathrebiadau rheolaidd, megis cylchlythyrau, cyfryngau cymdeithasol a’r wefan.

Ffyrdd o gynllunio ar y cyd

Cliciwch ar ‘Dysgu rhagor’ ar bob un o’r teitlau isod i ganfod rhai dulliau cynllunio awgrymedig i gefnogi cam 1.

1

Cardiau Post o’r Dyfodol

2

Teithiau cerdded a sgyrsiau

3

Rhaglennu blynyddol

4

Mynd y tu hwnt i ymgynghori

Cynllunio cyfranogol ar waith

Cymerwch olwg ar yr astudiaethau achos isod i weld sut mae lleoedd wedi rhoi eu dulliau cynllunio cyfranogol yng ngham 1 ar waith.

Ymgynghoriad Maptionnaire yng Nghaeredin

Fe gasglodd Cyngor Dinas Caeredin syniadau ac adborth i lywio dyfodol eu parciau a’u mannau gwyrdd. Fe ddefnyddion nhw arolygon wedi’u seilio ar fapiau ar blatfform ymgysylltu â dinasyddion Maptionnaire.

Darllen yr astudiaeth achos
Darllen yr astudiaeth achos
A sign providing information about a wildlife pond.

Straeon Daear Birmingham

Fe wrandawodd Cyngor Dinas Birmingham ar straeon pum cant o bobl am fyd natur, er mwyn llywio eu Cynllun Dinas Natur 25 mlynedd. Fe wnaethon nhw archwilio cysylltiadau pobl â byd natur yn eu plentyndod, a gofyn beth fydden nhw ei eisiau i’w plant. Fe wnaethon nhw geisio lleisiau ymylol drwy allgymorth cymunedol.

Darganfod stori Birmingham
Darganfod stori Birmingham

Cam 2: cau’r bwlch

Estynwch allan at rwydweithiau newydd yn eich ardal fel rhan o’r broses.

Defnyddiwch ddata i edrych ar ddemograffeg eich lle a mapio’r holl randdeiliaid o amgylch mannau gwyrdd presennol. Gallai hyn gynnwys adeiladwyr cymunedol, a rhwydweithiau sy’n canolbwyntio ar chwaraeon ac iechyd.

Y diben yw eich helpu i weld bylchau o ran pwy sy’n cymryd rhan a chysoni gwahanol amcanion strategol.

Dylai mannau gwyrdd a pharciau lleol gael eu trysori gan bawb sy’n eu defnyddio. Dyma rai ffyrdd o gynllunio ar y cyd â phartneriaid a rhwydweithiau cymunedol i wireddu hyn.

Awgrymiadau da ar gyfer cam 2

Defnyddiwch ddata i ddangos y buddion cyffredin i’ch rhanddeiliaid o gael mynediad at fannau gwyrdd o ansawdd.

Gall y mapiau cyfrifiad ONS yma helpu i ddangos ble mae’r angen mwyaf.

Mae’r arolwg Pobl a Natur yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth am agweddau pobl tuag at yr amgylchedd naturiol a’i effaith ar lesiant. Dysgwch ragor am yr arolwg Pobl a Natur yn y ddolen hon.

Ffyrdd o gynllunio ar y cyd

Cliciwch ar ‘Dysgu rhagor’ ar bob un o’r teitlau isod i ganfod rhai dulliau cynllunio awgrymedig i gefnogi cam 2.

1

Grwpiau ffocws

2

Cyfweld â sefydliadau VCSE targed

3

Mapio mewnwelediad rhanddeiliaid

4

Ei weld o ddifrif

Cynllunio cyfranogol ar waith

Cymerwch olwg ar yr astudiaethau achos isod i weld sut mae lleoedd wedi rhoi eu dulliau cynllunio cyfranogol yng ngham 2 ar waith.

Pecyn Cymorth Young Placechangers Caeredin

Gweithiodd Cyngor Caeredin gyda Greenspace Scotland i ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau yn eu cymuned leol.

Darllen yr astudiaeth achos
Darllen yr astudiaeth achos
A child wearing a raincoat shovels a pile of soil.

Panel Hinsawdd Dinasyddion Islington

Gweithiodd Cyngor Bwrdeistref Islington gyda phanel o 35 o drigolion i ddychmygu sut y gallai Islington sy’n gallu gwrthsefyll y hinsawdd edrych a sut i gyrraedd yno. Roedd tîm o arbenigwyr wrth law drwy gydol y broses chwe mis, ond y gymuned oedd yn arwain y cynigion a’r egwyddorion.

Mwy am y panel hinsawdd
Mwy am y panel hinsawdd

Cynghrair Dinas Natur Birmingham

Lansiodd Cyngor Dinas Birmingham y Gynghrair Dinas Natur i greu gweledigaeth gyffredin ar gyfer seilwaith gwyrdd ar draws y ddinas. Roedd yr holl aelodau eisoes yn gweithio yn y sector, ond fe greodd y gynghrair weledigaeth gyffredin, a ffyrdd o weithio. Mae’r Gynghrair bellach yn helpu i gyflawni nodau’r Cynllun Dinas Natur 25 mlynedd.

Darganfod y Gynghrair
Darganfod y Gynghrair

Lleisiau Ifanc dros Natur

Daeth yr RSPB, WWF a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol â 300 o bobl rhwng 13 a 25 oed ynghyd, i adrodd eu straeon am gefnogi byd natur. Cynhaliwyd gweithdai sgiliau ar adrodd straeon, gwneud ffilmiau ac eiriolaeth. Cafodd y ffilm a gynhyrchwyd am eu gweledigaeth ei sgrinio mewn sinemâu.

Dysgu am Leisiau Ifanc
Dysgu am Leisiau Ifanc

Cam 3: y lansiad mawr

Gall lansiad neu ddigwyddiad cyhoeddus gynyddu ymwybyddiaeth ac annog mwy o bobl i helpu i wireddu eich gweledigaeth.

Er mwyn iddo daro deuddeg ag ystod eang o bobl, dylai’r weledigaeth fod yn hawdd ymgysylltu â hi. Rhowch gynnig ar arolygon barn ar-lein a datblygu mandad cyhoeddus drwy grwpiau sefydledig ac aelodau etholedig.

Byddwch yn glir iawn ynghylch diben cyfraniadau pobl er mwyn helpu i reoli disgwyliadau. Os ydych chi’n gofyn am eu barn, rydych chi’n ‘casglu gwybodaeth’. Os ydych chi’n caniatáu i bobl gyflwyno eu syniadau ar blatfform cyfartal, yna rydych chi’n ‘penderfynu gyda’n gilydd’.

Awgrymiadau da ar gyfer cam 3

Rhowch eich gweledigaeth ar-lein i gynyddu gwelededd.

Adlewyrchwch nifer o leisiau yn y naratif.

Ystyriwch leoliadau anhraddodiadol ar gyfer digwyddiadau wyneb yn wyneb e.e. lleoliadau hamdden fel llawr sglefrio neu hyd yn oed iwrit!

Ffyrdd o gynllunio ar y cyd

Cliciwch ar ‘Dysgu rhagor’ ar bob un o’r teitlau isod i ganfod rhai dulliau cynllunio awgrymedig i gefnogi cam 3.

1

Fideos lansio

2

Gofodau gwaith cydweithredol

3

Cyllidebu cyfranogol

4

Ailddychmygu cyhoeddus

Cynllunio cyfranogol ar waith

Cymerwch olwg ar yr astudiaethau achos isod i weld sut mae lleoedd wedi rhoi eu dulliau cynllunio cyfranogol yng ngham 3 ar waith.

Cynllun y Bobl ar gyfer Natur

Fe wnaeth WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gasglu barn 30,000 o bobl ar y ffyrdd gorau o wneud newid.

Darllen yr astudiaeth achos
Darllen yr astudiaeth achos
Two people talking in a garden next to a shrub.

Rhaglen Groundwork Northern Network

Mae Groundwork yn cefnogi grwpiau cymunedol i gyd-greu Hybiau Cymunedol Gwyrdd, gan ddatblygu arweinyddiaeth gymunedol ar lefel cymdogaeth a chreu rhwydwaith o gefnogaeth gan gymheiriaid.

Mwy am y rhaglen
Mwy am y rhaglen

Pecyn Cymorth Safonau Gofod Agored

Fe nododd Prosiect Parciau’r Dyfodol Swydd Gaergrawnt a Peterborough, mewn partneriaeth â Chyngor Dosbarth Fenland, gamau argymelledig i awdurdodau lleol ddatblygu safonau gofod agored. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys dysgu am ymgysylltu â’r cyhoedd.

Darllen y pecyn cymorth
Darllen y pecyn cymorth