Trawsnewid trefi a dinasoedd ar gyfer pobl a natur
Archwiliwch sut rydym yn cefnogi lleoedd ledled y Deyrnas Unedig, gan eu cydnabod fel Trefi Byd Natur swyddogol a Dinasoedd Byd Natur trwy ein cynllun achredu, a gyda grantiau meithrin gallu a ddyfarnwyd ym mis Gorffennaf 2025.
Mae achrediad Trefi a Dinasoedd Byd Natur yn cydnabod trefi a dinasoedd sy’n rhoi natur a seilwaith gwyrdd wrth galon eu cynlluniau, ac yn nodi eu hymrwymiad i drawsnewid eu tref neu ddinas er budd pobl, lle a natur.
Mae Birmingham wedi dod yn Ddinas Byd Natur swyddogol gyntaf y Deyrnas Unedig yn llwyddiannus, gyda Bournemouth, Christchurch a Poole gyda’i gilydd yn dod yn Drefi Byd Natur cyntaf. Mae’r dynodiad yn cydnabod ymrwymiad yr awdurdodau lleol gyda’u partneriaid yn y lleoedd hynny i drawsnewid bywyd i gymunedau trefol drwy ddarparu natur a mannau gwyrdd mwy a gwell.
Gwneir ceisiadau trwy’r wefan a’u cymeradwyo gan banel allanol. Dysgwch fwy am achredu.
Cadeirydd y panel: John Mothersole. Mae John wedi dal uwch swyddi llywodraeth leol yn ninasoedd y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Llundain, yn fwyaf diweddar fel Prif Weithredwr Cyngor Dinas Sheffield. Ef yw Cadeirydd presennol Pwyllgor Cronfa Gymunedol Lloegr.
Er mwyn helpu meithrin gallu y mae mawr ei angen mewn trefi a dinasoedd, mae grantiau (sydd ar gael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol) bellach wedi’u dyfarnu. Bydd y buddsoddiad hwn o £15.5m yn cefnogi lleoedd ledled y Deyrnas Unedig i wella a chreu mannau gwyrdd, strydoedd a chymdogaethau hygyrch.
Bydd 40 o drefi a dinasoedd (mewn 19 o bartneriaethau trefol) yn derbyn grantiau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, o Portsmouth i Bradford yn Lloegr, i Fife yn yr Alban, Torfaen yng Nghymru, a Belfast yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r lleoedd hyn wedi’u dewis yn dilyn proses ymgeisio ac asesu drylwyr a ddechreuodd yn hydref 2024, gyda gwaith bellach yn gallu mynd rhagddo i gyflawni’r cynlluniau hynny ar gyfer pobl a natur.