Cwestiynau cyffredin am achrediad
Dechrau arni
Os ydych chi’n ystyried gwneud cais, rydym yn argymell eich bod yn treulio ychydig o amser yn darllen yr hyn sydd ynghlwm â’r ddwy lefel, sef lefel un: Sylfaenol a lefel dau: Uwch. Bydd angen i chi gyflawni lefel Sylfaenol cyn y gallwch wneud cais am lefel Uwch.
Mae’r adnodd hwn yn cynnig persbectif manwl ar gryfderau eich lle a’r meysydd i’w gwella. Mae’n ddefnyddiol i arwain sgyrsiau rhwng adrannau a chyda partneriaid ar draws ambell i bwnc:
- Metrigau: mae’r rhain yn eich cyflwyno chi i ychydig o ffynonellau data agored er mwyn dechrau deall eich llinell sylfaen bresennol yn well a meddwl am gyfiawnder amgylcheddol yn eich lle. Canllaw yw’r rhestr o fetrigau a dylid ei hategu â gwybodaeth leol ac ymgysylltiad cyhoeddus/cymunedol. Gall y data hwn roi cipolwg ar y sefyllfa bresennol yn eich ardal drefol.
- Galluogwyr: mae’r rhain yn eich helpu chi i asesu capasiti eich tref neu’ch dinas, a’i pharodrwydd i gynllunio a chyflawni newid trawsnewidiol, uchelgeisiol.
- Myfyrdodau: mae’r rhain yn rhoi ysgogiadau i chi archwilio blaenoriaethau eich tref neu ddinas, gan fyfyrio ar ganlyniadau adran un a dau.
Efallai y byddwch yn ystyried ail-wneud y gwerthusiad yn y dyfodol er mwyn mesur eich cynnydd.
Gwnewch gais am lefel Sylfaenol drwy ddefnyddio’r ffurflen yma. Bydd angen i chi gofrestru ar ein gwefan i gael mynediad at yr adnodd hunanwerthuso a’r ffurflen gais. Sicrhewch eich bod wedi cael sgwrs â’ch partneriaid, gan y bydd angen iddyn nhw gael eu rhestru ar eich cais. Penderfynwch pwy fydd yn gyfrifol am gyflwyno’r cais ac uwchlwytho’r dystiolaeth, a sicrhewch fod yr awdurdod lleol perthnasol wedi ei gynnwys fel partner. Gallwch weld y ffurflen gais yn llawn er mwyn eich helpu i baratoi eich atebion.
Meddyliwch am bwy all gyfrannau at y trawsnewidiad yn eich lle. Meddyliwch yn eang am bartneriaid o wahanol sectorau, themâu a mathau o sefydliadau e.e. iechyd, trafnidiaeth, adfywio economaidd, prifysgolion, cyflogadwyedd a sgiliau ieuenctid, hinsawdd, ecoleg, ymddiriedolaethau bywyd gwyllt, grwpiau cymunedol, busnesau etc. Gallai’r pecyn cymorth partneriaethau fod o gymorth i arwain eich ffordd o feddwl.
Rydym yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi ennyn rhywfaint o ddiddordeb a chefnogaeth uwch noddwyr ar gyfer y weledigaeth rydych wedi ei sefydlu ar gyfer eich lle. Bydd hyn yn debygol o ymwneud â chael eu cymorth o’r cychwyn cyntaf, cyn eich bod yn ymlaen i gyd-ddylunio’r weledigaeth, parhau i’w diweddaru drwy gydol ei datblygiad, ceisio eu mewnbwn, a chael eu cymorth ffurfiol pan mae wedi’i chwblhau. Gall tystiolaeth fod ar ffurf datganiad ysgrifenedig o fewn y weledigaeth ei hun, darn i gamera, postiad blog etc.
Bydd ceisiadau cryf yn dangos bod gennych gefnogaeth gan uwch noddwyr oddi mewn ac oddi allan i’r awdurdod lleol perthnasol e.e. Arweinydd y cyngor, y maer os yn berthnasol, Prif Weithredwyr ymddiriedolaethau lleol a sefydliadau sector gwirfoddol eraill, penaethiaid cyrff sector cyhoeddus eraill e.e. iechyd, trafnidiaeth, heddlu, prifysgolion.
Cymorth
Mae digon o gymorth i’w gael i’r rhai sy’n gweithio drwy achrediad.
Offer ac adnoddau achredu: adnodd hunanwerthuso, llyfr gwaith, canllawiau i gynllunio ar y cyd, gweithio mewn partneriaeth
Cronfa adnoddau am ddim: ysbrydoliaeth, astudiaethau achos, templedi a phecynnau cymorth, recordiadau cynadleddau a gweminarau
Sesiynau cymorth achredu unwaith y mis, lle gallwch ddod â’ch cwestiynau a thrafod eich cais gydag aelod o’r tîm.
Dyfarnwyd y grantiau adeiladu capasiti ym mis Gorffennaf 2025. Mae achrediad yn agored i bawb, nid yn unig i’r rhai sy’n derbyn grant.
Dylai achrediad gynnig fframwaith defnyddiol i adolygu polisïau, strategaethau, cynlluniau gwaith, cynlluniau prosiect a chyflawniad presennol. Er enghraifft, os oes gennych strategaethau seilwaith gwyrdd eisoes ar waith, gallai hyn eich ysgogi i adolygu, diweddaru ac ychwanegu deunydd ychwanegol cyn ei gyflwyno am achrediad. Bydd y gweithgareddau allweddol a awgrymir yn helpu’r rhai sy’n newydd i’r gwaith hwn a chynnig awgrymiadau defnyddiol i’r rhai sydd eisoes ar waith.
Nid oes angen i chi roi’r gorau i ddarparu’r gweithgaredd cynlluniedig. Mae achrediad yn ymwneud â chyfuno gwaith presennol yn un darlun cydlynol mwy, defnyddio’r fframwaith i feddwl yn fwy strategol am weledigaeth eich lle yn y dyfodol ac adeiladu ar bartneriaethau a chyflawniad presennol.
Mae’r Fframwaith Seilwaith Gwyrdd yn cael ei gynnwys fel y safonau ar gyfer arfer gorau. Gall y fframwaith, y safonau a’r egwyddorion fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth ddatblygu eich strategaeth seilwaith gwyrdd, ac ar gyfer dangos sut mae hyn wedi’i ddatblygu mewn ffordd sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?
Mae ceisiadau nawr ar agor i leoedd yn Lloegr ar gyfer achrediad lefel un: Sylfaenol. Gallwch wneud cais yma. Achrediad lefel dau: Uwch ar gael yn fuan.
Bydd hyn yn amrywio. Bydd gan rai lleoedd y pethau iawn ar waith i ennill achrediad lefel Sylfaenol yn gyflym a symud ymlaen i lefel Uwch. Efallai y bydd eraill angen mwy o amser a chymorth i gyrraedd cerrig milltir y lefel Sylfaenol. Gall yr adnodd hunanwerthuso eich helpu i ddeall eich sefyllfa bresennol, a rhoi syniad o ba mor agos ydych chi at lefel Sylfaenol fel man cychwyn.
Nid oes ffi i wneud cais, dim ond amser pobl sydd ei angen arno.
Dyfarnir achrediad i le am dair blynedd. Bydd pob lle achrededig yn derbyn negeseuon atgoffa i gyflwyno tystiolaeth o gynnydd fel rhan o adolygiadau blynyddol ysgafn. Ar ôl tair blynedd, bydd proses fwy ffurfiol o ail-achredu a all gynnwys adolygiad gan gymheiriaid.
Na, nid oes terfyn amser. Rydym ar agor nawr i geisiadau o leoedd yn Lloegr a byddwn yn cynnal paneli gwneud penderfyniadau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn fel y gallwn ddod yn ôl atoch yn brydlon gyda’r penderfyniad a’r adborth.
Pwy all wneud cais?
Gall partneriaethau sy’n cynnwys sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd mewn tref neu ddinas: yr awdurdod lleol, sefydliadau VCSE, sector preifat, a rhanddeiliaid sector cyhoeddus eraill gyflwyno ceisiadau. Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod lleol arwain y cais, ond mae angen iddo fod yn rhan o’r broses er mwyn sicrhau bod modd ymgorffori cynlluniau ar raddfa dref, dinas neu fwrdeistref, gyda chefnogaeth gan uwch arweinwyr.
Bydd un partner yn gweithredu fel y prif ymgeisydd, fydd yn gyfrifol am gydlynu’r cais a chael ei gymeradwyo gan bartneriaid. Bydd cytundebau trwyddedu yn cael eu gwneud yn unigol rhwng Trefi a Dinasoedd Natur a sefydliadau sy’n dymuno arddangos y marc achredu.
Lloegr yn unig sy’n cynnig achrediad ar hyn o bryd. Rydym mewn trafodaethau ag asiantaethau llywodraeth yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn gobeithio sefydlu’r cynllun ledled y DU. Mae gweddill y rhaglen Trefi a Dinasoedd Natur ar agor i bawb.
Nid oes maint poblogaeth na daearyddol diffiniedig, cyn belled â bod y lle mewn ardal drefol. Gall lleoedd weithio fel ardaloedd trefol unigol, gyda threfi, dinasoedd neu fwrdeistrefi cymdogol neu ledled awdurdodau cyfunol.
Cânt, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar wneud cais os yw awdurdod lleol dan fesurau arbennig.
Bydd y dystiolaeth y gofynnir i chi ei chyflwyno’n gweithio ar wahanol raddfeydd, o drefi bychain hyd at awdurdodau cyfunol. Rydym yn derbyn ceisiadau gan awdurdodau cyfunol, ond rydym yn argymell dechrau’n fach a gweithio i fyny. Efallai bydd trefi neu ddinasoedd unigol mewn gwell sefyllfa i wneud cais yn gyntaf gan y gall fod yn haws gwneud y gwaith angenrheidiol ar raddfa lai, ac yna ehangu i’r lefel ranbarthol, gan gyfuno sawl tref a dinas dan fodelau gweithredu a gweledigaethau cyffredin. Fodd bynnag, os ydych wedi arfer gweithredu ar raddfa ranbarthol ac mewn sefyllfa dda i wneud cais fel awdurdod cyfunol, byddem yn annog hynny yn ogystal.
Yn debyg i’r uchod, byddem yn awgrymu dechrau’n fach a gweithio i fyny, gan ei bod hi’n haws cael consensws ar raddfa lai, fodd bynnag, os ydych yn dymuno ffurfio partneriaeth â thref, dinas neu fwrdeistref gyfagos ac ysgrifennu gweledigaethau a strategaethau ar y cyd a chreu partneriaeth fawr, yna byddai hynny’n cael ei annog. Wedi’r cyfan, rydym yn ymdrechu am drawsnewid eang ac uchelgeisiol ar draws tirweddau cyfan.
Oes, gellir cymhwyso’r dystiolaeth achredu i fwrdeistrefi Llundain. Yn yr achos hwn, byddai bwrdeistref yn cael achrediad gyda’r geiriau “X, Bwrdeistref Natur”. Rydym hefyd yn annog bwrdeistrefi Llundain i wneud cais ar y cyd os yn bosibl.