Cwestiynau cyffredin am achrediad

Dechrau arni

Os ydych yn ystyried gwneud cais, rydym yn awgrymu eich bod yn treulio ychydig o amser yn darllen beth sydd angen ei wneud yn Lefel un: Sylfaenol a Lefel dau: Uwch. Bydd angen i chi gyflawni Lefel Sylfaenol cyn y gallwch wneud cais am Lefel Uwch.

Mae’r adnodd hwn yn cynnig golwg manwl ar gryfderau a meysydd i’w gwella yn eich lle. Mae’n ddefnyddiol ar gyfer arwain sgyrsiau rhwng adrannau a gyda phartneriaid ar draws nifer o bynciau:

  1. Metrigau: yma, cyflwynir ychydig o ffynonellau data agored er mwyn dechrau dod i ddeall eich llinell sylfaen gyfredol yn well a meddwl am gyfiawnder amgylcheddol yn eich lle. Canllaw yw’r rhestr o fetrigau a dylid ei hategu â gwybodaeth leol ac ymgysylltiad cymunedol/cyhoeddus. Gall y data hwn ddarparu cipolwg ar y darlun yn eich ardal drefol ar hyn o bryd.
  2. Galluogwyr: mae’r rhain yn eich helpu i asesu gallu a pharodrwydd eich tref neu ddinas i gynllunio a chyflawni newid uchelgeisiol, trawsnewidiol.
  3. Myfyrdodau: mae’r rhain yn rhoi awgrymiadau i chi ystyried blaenoriaethau eich tref neu ddinas, gan fyfyrio ar ganlyniadau adrannau un a dau.

Gallech ystyried ail-wneud y gwerthusiad yn y dyfodol i fesur y cynnydd rydych wedi’i wneud.

Gwnewch gais am lefel Sylfaenol gan ddefnyddio’r ffurflen yma. Bydd angen i chi gofrestru ar ein gwefan i gael mynediad at yr adnodd hunan-werthuso a’r ffurflen gais. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael sgwrs gyda’ch partneriaid, gan y bydd angen eu rhestru ar eich cais. Penderfynwch pwy fydd yn cymryd yr awenau ar gyfer cyflwyno’r cais ac uwchlwytho’r dystiolaeth, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys yr awdurdod lleol perthnasol fel partner. Gallwch weld y ffurflen gais yn ei chyfanrwydd i’ch helpu i baratoi eich atebion.

I wneud cais am lefel Uwch, mae angen i leoedd gael achrediad lefel Sylfaenol yn gyntaf. Ar ôl i chi gael achrediad Sylfaenol, byddwn yn agor yr opsiwn i chi wneud cais am achrediad Uwch – bydd hyn ar gael trwy ddangosfwrdd yr unigolyn a anfonodd y cais Sylfaenol. Byddwn mewn cysylltiad i gadarnhau pan fyddwn wedi agor yr opsiwn.

Meddyliwch pwy all gyfrannu at y trawsnewidiad yn eich lle. Meddyliwch yn eang am bartneriaid o wahanol sectorau, themâu a mathau o sefydliadau e.e. iechyd, trafnidiaeth, adfywio economaidd, prifysgolion, sgiliau ieuenctid a chyflogadwyedd, hinsawdd, ecoleg, ymddiriedolaethau natur, grwpiau cymunedol, busnesau ac ati.

Gall y pecyn cymorth partneriaethau hwn helpu i arwain eich syniadau.

Rydym yn chwilio am dystiolaeth fod gennych rywfaint o gefnogaeth ac ymrwymiad noddwyr uwch ar gyfer y weledigaeth rydych wedi’i gosod ar gyfer eich lle. Mae hyn yn debygol o olygu cael eu cefnogaeth ar y dechrau un, cyn i chi fynd allan i gyd-ddylunio’r weledigaeth, eu diweddaru drwy gydol ei datblygiad, ceisio eu mewnbwn, a chael cefnogaeth ffurfiol ganddynt pan fydd yn cael ei chwblhau. Gall tystiolaeth fod ar ffurf datganiad ysgrifenedig o fewn y weledigaeth ei hun, darn i’r camera, post blog ac ati.

Bydd ceisiadau cryf yn dangos bod gennych gefnogaeth gan noddwyr uwch o fewn a thu hwnt i’r awdurdod lleol perthnasol e.e. Arweinydd y cyngor, y maer os yw’n berthnasol, Prif Weithredwyr ymddiriedolaethau lleol a sefydliadau eraill yn y sector gwirfoddol, penaethiaid cyrff sector cyhoeddus eraill e.e. iechyd, trafnidiaeth, heddlu, prifysgolion.

Cymorth

Mae digonedd o gymorth ar gael i’r rhai sy’n gweithio trwy achrediad.

  • Offer ac adnoddau achredu: adnodd hunan-werthuso, llyfr gwaith, canllawiau gweledigaeth ar y cyd, gweithio mewn partneriaeth
  • Llyfrgell adnoddau am ddim: ysbrydoliaeth, astudiaethau achos, templedi a phecynnau cymorth, recordiadau cynadleddau a gweminarau
  • Sesiynau cymorth achredu unwaith y mis, lle gallwch ofyn cwestiynau a thrafod eich cais gydag aelod o’r tîm.

Dyfarnwyd y grantiau adeiladu capasiti ym mis Gorffennaf 2025. Mae achrediad ar agor i bawb, nid derbynwyr grantiau yn unig.

Dylai achrediad ddarparu fframwaith defnyddiol ar gyfer adolygu polisïau, strategaethau, cynlluniau gwaith, cynlluniau prosiect a darpariaethau presennol. Er enghraifft, os oes gennych strategaethau seilwaith gwyrdd eisoes, gallai hyn eich annog i adolygu, diweddaru ac ychwanegu deunydd atodol cyn cyflwyno ar gyfer achrediad. Bydd y gweithgareddau allweddol a awgrymir yn helpu’r rhai sy’n newydd i’r gwaith hwn ac yn darparu awgrymiadau defnyddiol i’r rhai sydd eisoes ar waith.

Nid oes angen i chi roi’r gorau i gynnal gweithgareddau a gynlluniwyd. Yr hyn sydd angen ei wneud i gael achrediad yw dod â’r gwaith presennol at ei gilydd mewn un darlun mawr, cydlynol, gan ddefnyddio’r fframwaith i feddwl yn fwy strategol am weledigaeth dyfodol eich lle ac adeiladu ar bartneriaethau a darpariaethau presennol.

Mae’r Fframwaith Seilwaith Gwyrdd yn darparu’r safonau arfer gorau. Gall y fframwaith, y safonau a’r egwyddorion fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth ddatblygu eich strategaeth seilwaith gwyrdd, ac i ddangos sut y datblygwyd hon mewn ffordd sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mae ceisiadau nawr ar agor i leoedd yn Lloegr ar gyfer achrediad Lefel un: Sylfaenol. Gallwch wneud cais yma.

Gall lleoedd sydd wedi’u hachredu ar Lefel Sylfaenol wneud cais am Lefel Uwch. Bydd yr opsiwn i wneud hynny ar ddangosfwrdd y prif ymgeisydd ar y wefan.

Bydd hyn yn amrywio. Bydd rhai lleoedd â’r pethau cywir ar waith i gael achrediad lefel Sylfaenol yn gyflym a symud ymlaen i lefel Uwch. Efallai y bydd angen mwy o amser a chefnogaeth ar eraill i gyrraedd cerrig milltir lefel Sylfaenol. Gall yr adnodd hunan-werthuso eich helpu i ddeall eich sefyllfa bresennol, a chael syniad o ba mor agos ydych chi at lefel Sylfaenol fel man cychwyn.

Nid oes angen talu ffi i wneud cais, dim ond amser pobl sydd ei angen.

Dyfernir achrediad i le am dair blynedd. Bydd pob lle achrededig yn cael neges atgoffa i gyflwyno tystiolaeth o gynnydd fel rhan o adolygiadau blynyddol ysgafn. Ar ôl tair blynedd, bydd proses ail-achredu fwy ffurfiol a allai gynnwys adolygiad cymheiriaid.

Nac oes, nid oes terfyn amser. Mae’n bosib cyflwyno ceisiadau nawr gan leoedd yn Lloegr, a byddwn yn cynnal paneli gwneud penderfyniadau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn fel y gallwn ddychwelyd atoch yn brydlon gyda’r penderfyniad a’r adborth.

Pwy all wneud cais?

Caiff partneriaethau sy’n cynnwys sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd mewn tref neu ddinas: yr awdurdod lleol, sefydliadau VCSE, sector preifat, a rhanddeiliaid sector cyhoeddus eraill gyflwyno ceisiadau. Nid oes rhaid i’r awdurdod lleol arwain y cais, ond mae angen iddynt fod yn rhan o’r broses, i sicrhau bod modd ymgorffori cynlluniau ar raddfa tref, dinas neu fwrdeistref, gyda chefnogaeth gan uwch arweinwyr.

Bydd un partner yn gweithredu fel y prif ymgeisydd, yn gyfrifol am gydlynu’r cais a chael cymeradwyaeth gan bartneriaid. Bydd cytundebau trwyddedu yn cael eu gwneud yn unigol rhwng Trefi a Dinasoedd Natur, a sefydliadau sy’n dymuno arddangos y marc achredu.

Mae achrediad ar gael yn Lloegr yn unig ar hyn o bryd. Rydym mewn trafodaethau ag asiantaethau llywodraeth yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn gobeithio sefydlu’r cynllun ledled y DU. Mae gweddill rhaglen Trefi a Dinasoedd Natur ar agor i bawb.

Er mwyn gwneud cais am Lefel Uwch, mae angen i leoedd gael achrediad Lefel Sylfaenol yn gyntaf. Ar ôl i chi gael achrediad Sylfaenol, byddwn yn agor yr opsiwn i chi wneud cais am achrediad Uwch – bydd hyn ar gael trwy ddangosfwrdd yr unigolyn a anfonodd y cais Sylfaenol.

Nid oes daearyddiaeth na maint poblogaeth wedi’i ddiffinio, cyn belled â bod y lle yn ardal drefol. Gall lleoedd weithio fel ardaloedd trefol unigol; gyda threfi, dinasoedd neu fwrdeistrefi cyfagos; neu ar draws awdurdodau cyfunol.

Gallant, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar wneud cais os yw awdurdod lleol dan fesurau arbennig.

Bydd y dystiolaeth y bydd angen i chi ei darparu yn gweithio ar wahanol raddfeydd, o drefi bach i awdurdodau cyfunol. Rydym yn derbyn ceisiadau gan awdurdodau cyfunol, ond byddem yn awgrymu dechrau’n fach ac adeiladu i fyny. Efallai y bydd trefi neu ddinasoedd unigol mewn gwell sefyllfa i wneud cais yn gyntaf gan y gallai fod yn haws gwneud y gwaith sydd ei angen ar raddfa lai, ac yna ehangu i’r lefel ranbarthol, gan uno trefi a dinasoedd lluosog dan weledigaethau a modelau gweithredu cyffredin. Fodd bynnag, os ydych wedi arfer gweithredu ar y raddfa ranbarthol ac mewn sefyllfa dda i wneud cais fel awdurdod cyfunol, byddem yn annog hynny hefyd.

Yn debyg i’r uchod, byddem yn awgrymu dechrau’n fach ac adeiladu i fyny, gan ei bod yn haws cael consensws ar y raddfa lai. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno partneru â thref, dinas neu fwrdeistref gyfagos a llunio gweledigaethau a strategaethau ar y cyd, a chreu partneriaeth fawr, yna byddai hynny’n cael ei annog. Wedi’r cyfan, rydym yn gweithio tuag at drawsnewidiad eang, uchelgeisiol ar draws tirweddau cyfan.