23 Hyd 2025: Cynhadledd Creu Cymdogaethau, Trefi a Dinasoedd Byd Natur
Diolch i bawb a ymunodd â ni ar 23 Hydref. Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau’r diwrnod. Dilynwch y ddolen isod i weld sesiynau wedi'u recordio, gwylio ein fideo o uchafbwyntiau, a darllen ein hadnoddau cymunedol diweddaraf.
Cynhadledd Hydref 2025Pan mae byd natur yn tyfu’n gryfach, mae cymunedau hefyd
Mae sefydliadau cymunedol lleol yn gweithredu dros bobl, natur a’r hinsawdd mewn cymdogaethau trefol ledled y DU, gan greu newid sy’n meithrin mannau gwyrdd, yn gwella iechyd a llesiant ac yn cefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn angen.
Mae’r gynhadledd undydd, rad ac am ddim hon wedi’i llunio’n benodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a menter gymdeithasol.
Mae’n gyfle i ddod ynghyd i ddathlu gwyrddu a arweinir gan y gymuned, cysylltu â sefydliadau o’r un anian a chydweithio ar lywio cymorth ar gyfer y sector yn y dyfodol.
Pigion yr agenda
Nerth pobl
Cau'r bwlch rhwng y sectorau cymunedol ac amgylcheddol
Gwrandewch ar Tayshan Hayden-Smith, ymgyrchydd a sylfaenydd Grow to Know yn rhannu dealltwriaethau o'r hyn a ddysgodd am wneud gwahaniaeth gyda chymunedau a'r hyn mae'n ei ystyried sydd angen newid. Yna, bydd Bei Gao (Mafwa Theatre) a Debbie Freeman (Zebra Collective) yn ymuno â Tayshan ar banel 'mewn sgwrs', i ystyried gwahanol safbwyntiau ar sut maent yn cau'r bwlch rhwng y sector cymunedol a'r sector amgylcheddol.
Sesiynau 'Sut i'
Dewis gweithdy
Bydd pum gwahanol sesiwn 'sut i', yn llawn datrysiadau sydd wedi ennill eu plwyf ar gyfer mynd i'r afael â heriau cyffredin yn y sector cymunedol. Dewiswch o blith y canlynol: dechrau arni gyda thyfu cymunedol, plannu mwy o goed stryd, dechrau presgripsiynu cymdeithasol, ailystyried ymgysylltiad ieuenctid neu gael y gorau o weithio ag awdurdodau lleol. Bydd pob gweithdy'n cynnwys adnoddau ac arweiniad ymarferol i roi'r newidiadau hyn ar waith yn eich lle.
Cydweithio a chyd-gynllunio
Cyd-greu'r cam nesaf
Sut fyddai gwell cymorth i'r sector cymunedol yn edrych? Dyma gyfle i rannu eich barn am yr hyn sydd ei angen i alluogi mwy o wyrddu dan arweiniad y gymuned. Cynhelir y sesiwn casglu safbwyntiau, strwythuredig hon mewn grwpiau llai a fydd yn annog rhoi ystyriaeth i'r heriau, yn ogystal â'r llwybrau i fynd benben â'r rhain. Bydd hyn yn un cyfle ymhlith nifer i gysylltu a rhwydweithio ag arweinwyr cymunedol eraill.
Siaradwyr a safbwyntiau difyr
Lleisiau blaenllaw
Clywch gan David Luckin (Co-op) yn rhannu ei ddealltwriaethau am ymrwymiad y Co-op i gymunedau. Gwrandewch ar Rachel Rowney (Local Trust) yn cyflwyno safbwynt NGO sy'n canolbwyntio ar gymuned, ac ar Victoria Bradford-Keegan (Trefi a Dinasoedd Byd Natur), a fydd yn rhannu rhagor o wybodaeth am y rhaglen Trefi a Dinasoedd Byd Natur a gyflwynir ar draws y DU.
Ein siaradwyr
Pwy fydd yn eich annerch
Gyda thros 15 o siaradwyr a hwyluswyr wedi’u cadarnhau, gallwch ddisgwyl clywed sawl gwahanol safbwynt ar y diwrnod, yn cynnwys:
- Emily Cutts, Cyfarwyddwr, G20 Youth Project
- Tom Kirby, Rheolwr Datblygu, Granton Community Gardeners
- Charlotte O’Connor, Cyfarwyddwr Gweithredol, Street Trees for Living
- Marie-Claire Denyer, Ymgynghorydd Partneriaethau a Datblygu, Street Trees for Living
- Rachel Rowney, Prif Weithredwr, Local Trust
- Dr Saira Ali FLI, Arweinydd Tîm ar gyfer Dylunio Tirwedd a Chadwraeth, Cyngor Dinas Bradford Cymerwch olwg ar y siaradwyr eraill sydd wedi’u gwadd ar gyfer y diwrnod, isod.