23 Hyd 2025: Cynhadledd Creu Cymdogaethau, Trefi a Dinasoedd Byd Natur

Ymunwch yn y gynhadledd hon i archwilio'r rôl hanfodol sydd gan fyd natur i'w chwarae o ran datblygu cymunedau trefol hapusach, iachach a mwy cysylltiedig.

Archebu eich lle

1

Rhaglen wedi'i theilwra ar eich cyfer chi

Wedi'i llunio'n benodol ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a menter gymdeithasol.

2

Dathlu cymunedau

Arddangos sefydliadau cymunedol sy'n annog newid ar gyfer pobl, natur a'r hinsawdd.

3

Trafodaethau cyfredol

Rhoi astudiaethau achos a'r hyn a ddysgwyd gan brosiectau a arweinir gan y gymuned ar draws y DU dan sylw.

6

Meithrin sgiliau

Gweithdai 'Sut i' yn cynnig adnoddau ac arweiniad i gefnogi newid cadarnhaol mewn cymunedau lleol.

7

Dyluniad cydweithredol

Gofod pwrpasol i drafod a chyd-greu sut mae cymorth gwell i'r sector cymunedol yn edrych.

Cysylltu â Threfi a Dinasoedd Byd Natur

Dysgwch ragor am sut i fod yn rhan o'r rhaglen newydd hon a gyflwynir ar draws y DU.

Rhwydweithio

Cyfleoedd drwy gydol y diwrnod i gysylltu a rhannu syniadau ag unigolion o'r un anian.

Siaradwyr ysbrydoledig

Dealltwriaeth gan arweinwyr sy'n rhannu eu safbwyntiau ar weithio i greu newid cadarnhaol ar gyfer pobl, natur a'r hinsawdd.

Pan mae byd natur yn tyfu’n gryfach, mae cymunedau hefyd

Mae sefydliadau cymunedol lleol yn gweithredu dros bobl, natur a’r hinsawdd mewn cymdogaethau trefol ledled y DU, gan greu newid sy’n meithrin mannau gwyrdd, yn gwella iechyd a llesiant ac yn cefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn angen.

Mae’r gynhadledd undydd, rad ac am ddim hon wedi’i llunio’n benodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a menter gymdeithasol.

Mae’n gyfle i ddod ynghyd i ddathlu gwyrddu a arweinir gan y gymuned, cysylltu â sefydliadau o’r un anian a chydweithio ar lywio cymorth ar gyfer y sector yn y dyfodol.

Pigion yr agenda

Nerth pobl

Cau'r bwlch rhwng y sectorau cymunedol ac amgylcheddol

Gwrandewch ar Tayshan Hayden-Smith, ymgyrchydd a sylfaenydd Grow to Know yn rhannu dealltwriaethau o'r hyn a ddysgodd am wneud gwahaniaeth gyda chymunedau a'r hyn mae'n ei ystyried sydd angen newid. Yna, bydd Bei Gao (Mafwa Theatre) a Debbie Freeman (Zebra Collective) yn ymuno â Tayshan ar banel 'mewn sgwrs', i ystyried gwahanol safbwyntiau ar sut maent yn cau'r bwlch rhwng y sector cymunedol a'r sector amgylcheddol.

A luscious garden with lots of foliage and flowers, with a person leaning through the plants, gardening

Sesiynau 'Sut i'

Dewis gweithdy

Bydd pum gwahanol sesiwn 'sut i', yn llawn datrysiadau sydd wedi ennill eu plwyf ar gyfer mynd i'r afael â heriau cyffredin yn y sector cymunedol. Dewiswch o blith y canlynol: dechrau arni gyda thyfu cymunedol, plannu mwy o goed stryd, dechrau presgripsiynu cymdeithasol, ailystyried ymgysylltiad ieuenctid neu gael y gorau o weithio ag awdurdodau lleol. Bydd pob gweithdy'n cynnwys adnoddau ac arweiniad ymarferol i roi'r newidiadau hyn ar waith yn eich lle.

Cydweithio a chyd-gynllunio

Cyd-greu'r cam nesaf

Sut fyddai gwell cymorth i'r sector cymunedol yn edrych? Dyma gyfle i rannu eich barn am yr hyn sydd ei angen i alluogi mwy o wyrddu dan arweiniad y gymuned. Cynhelir y sesiwn casglu safbwyntiau, strwythuredig hon mewn grwpiau llai a fydd yn annog rhoi ystyriaeth i'r heriau, yn ogystal â'r llwybrau i fynd benben â'r rhain. Bydd hyn yn un cyfle ymhlith nifer i gysylltu a rhwydweithio ag arweinwyr cymunedol eraill.

Siaradwyr a safbwyntiau difyr

Lleisiau blaenllaw

Clywch gan David Luckin (Co-op) yn rhannu ei ddealltwriaethau am ymrwymiad y Co-op i gymunedau. Gwrandewch ar Rachel Rowney (Local Trust) yn cyflwyno safbwynt NGO sy'n canolbwyntio ar gymuned, ac ar Victoria Bradford-Keegan (Trefi a Dinasoedd Byd Natur), a fydd yn rhannu rhagor o wybodaeth am y rhaglen Trefi a Dinasoedd Byd Natur a gyflwynir ar draws y DU.

Ein siaradwyr

Pwy fydd yn eich annerch

Gyda thros 15 o siaradwyr a hwyluswyr wedi’u cadarnhau, gallwch ddisgwyl clywed sawl gwahanol safbwynt ar y diwrnod, yn cynnwys:

  • Emily Cutts, Cyfarwyddwr, G20 Youth Project
  • Tom Kirby, Rheolwr Datblygu, Granton Community Gardeners
  • Charlotte O’Connor, Cyfarwyddwr Gweithredol, Street Trees for Living
  • Marie-Claire Denyer, Ymgynghorydd Partneriaethau a Datblygu, Street Trees for Living
  • Rachel Rowney, Prif Weithredwr, Local Trust
  • Dr Saira Ali FLI, Arweinydd Tîm ar gyfer Dylunio Tirwedd a Chadwraeth, Cyngor Dinas Bradford Cymerwch olwg ar y siaradwyr eraill sydd wedi’u gwadd ar gyfer y diwrnod, isod.
Head shot of Rachel Rowney, Chief Executive of Local Trust
Head shot of Tom Kirby, one of the founders of Granton Community Gardeners
Head shot of Bei Gao, Project Manager, Mafwa Theatre
Head shot of Charlotte O'Connor, Executive Director at Street Trees for Living
Head of ounder of Grow to Know
Lucy Stowell-Smith leads the Urban Nature team at Groundwork Greater Manchester
Head shot of Debbie Freeman, Community Projects Lead and a Director of Zebra Collective
Head shot of Claire Sivier, Co-Director at Tialt
Head shot of Emily Cutts, Director at G20 Youth Project
Head shot of Marie-Claire Denyer, Partnerships & Development Consultant and
Head shot of Rory Crawford, Nature Neighbourhoods Manager
Head shot of Hannah Arnett, Senior Researcher, Tialt
Head shot of Rory Crawford, Nature Neighbourhoods Manager
Head shot of Rory Crawford, Nature Neighbourhoods Manager
Head shot of Emily Cooke,
Head shot of

Peidiwch â cholli eich cyfle i fod yn rhan ohono

Archebwch docyn am ddim a chadwch eich dyddiadur yn rhydd ar gyfer 23 Hydref

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.