Gwneuthurwyr natur: Emily Cutts
26-03-2026
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Megan Taylor
26-03-2026
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Megan Taylor
Sgwrs gydag Emily Cutts
Cyfarwyddwr Prosiect Ieuenctid G20
Mae’r Prosiect Ieuenctid G20 (G20) yn Glasgow yn agor ei ddrysau er mwyn i bobl ifanc gael mynd allan i’r awyr agored. Mae’r tîm yn creu gofodau naturiol, diogel ar gyfer profiadau cadarnhaol er mwyn helpu pobl ifanc i dyfu, iacháu a ffynnu yn wyneb heriau anodd yn eu bywydau a’r gymuned ehangach.
Yn ôl yn 2012, sylweddolodd Emily nad oedd unman yn ei chymdogaeth – ardal G20 Glasgow – i blant chwarae’n ddiogel y tu allan, er gwaethaf polisïau’r llywodraeth yn hyrwyddo treulio amser ym myd natur.
Felly, a hithau’n angerddol dros gael pobl ifanc allan i’r awyr agored, fe dorchodd ei llewys a gwneud rhywbeth yn ei gylch.
Roedd gwreiddiau G20 wedi datblygu o’i Phrosiect Coedwig y Plant, ddaeth ag ysgolion a grwpiau chwarae allan i’r awyr agored ar gyfer amrywiaeth o brofiadau i gefnogi eu dysgu. Datblygodd y prosiect drwy ymgyrch i drawsnewid hen gae pêl-droed yn ofod gwyrdd diogel er mwyn i bobl leol ei ddefnyddio a threulio mwy o amser ym myd natur.
Dechreuodd Emily gyflwyno man gwyrdd diogel, hygyrch i bobl na fyddai ganddynt efallai fynediad at hynny eisoes yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Roedd hyn yn cynnwys cysylltu gyda 22 o ysgolion lleol a meithrinfeydd a allai ddefnyddio’r gofod ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, gyda nodweddion naturiol megis tŷ pen coeden a chegin fwd yn rhoi cyfle i rai trigolion ifanc gael profiad ymarferol o fyd natur am y tro cyntaf. Mae’r ymgysylltiad hwn yn parhau i gael ei gynnal yn wythnosol yng Nghoedwig y Plant.
Mae’n siarad gyda ni ynghylch sut y bu i G20 adeiladu ar y cysylltiad hwn gyda byd natur ac mae’n parhau i weithio er mwyn trawsnewid bywydau plant hŷn ac oedolion ifanc sydd wedi profi trawma sylweddol. Mae hyn wedi cyflwyno cyfleoedd iddynt o fewn y ddinas a thu hwnt, iddynt gael eu clywed, eu cynnwys, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi drwy fyd natur.
Eglura Emily bwysigrwydd cyfarfod pobl ifanc o ran lle maen nhw yn eu bywydau, canfod beth sydd ar goll a rhoi amser a lle i fyd natur eu haddysgu a’u hiacháu.
Cliciwch ar bob adran i weld sut mae G20 wedi troi heriau yn gyfleoedd.
Pan ddechreuodd pobl ifanc gamddefnyddio tir Coedwig y Plant, yn naturiol roedd yna anniddigrwydd yn y gymuned ehangach. Ond roedd Emily yn gwybod y byddai yna resymau eu bod yn ymddwyn yn y ffordd yma.
Meddai Emily, “Roedd yr ymddygiad yn cynnwys pethau fel dechrau tannau gyda choed Nadolig a neidio drostynt, a achosodd gryn bryder yn y gymuned.”
“Mae’n hawdd iawn barnu pobl ifanc a gwneud sylwadau cyffredinol bras, felly rydym wastad yn gwrando yn gyntaf a cheisio deall pam mae’r ymddygiad yma’n digwydd.”
Mae byw mewn ardal drefol ddifreintiedig yn aml yn golygu nad yw caledi ac anfantais yn bell i ffwrdd. Mae G20 wastad yna ac yn barod i wrando, waeth faint o drawma sydd wedi’i achosi i’r person gan eu profiadau.
“Roeddem angen canfod beth oedd y problemau,” parhaodd. “Felly daethom i’w hadnabod, ac yn sydyn iawn fe sylweddolom nad oedd yna unrhyw le diogel, bod llawer o drawma a chael eu heithrio o nifer o lefydd, gan gynnwys ysgolion.”
Mae gwrando’n uniongyrchol ar yr hyn sy’n digwydd ym mywyd person ifanc yn rhoi dealltwriaeth go iawn o’r hyn sy’n bwysig iddynt mewn gwirionedd. Mae’n ymwneud â deall o ble maen nhw’n dod, gwerthfawrogi’r rhwystrau maent yn eu hwynebu a rhoi’r gofod iddynt gael eu gwynt atynt a dechrau bod yn nhw eu hunain.
Mae dull sy’n ystyriol o drawma Emily yn eu croesawu i gymuned sy’n helpu’i gilydd, gan estyn allan atynt drwy brofiadau sy’n seiliedig ar fyd natur.
“Rhywbeth sy’n greiddiol ynghylch ein prosiect yn G20 yw ein bod yn dechrau yn yr union fan y mae’r person ifanc ynddo.”
Mae Emily yn amlygu eto pa mor bwysig yw cadw pethau’n real, “Efallai nad dyma’r lle mae pobl am iddynt fod, ond dyna lle maen nhw, ac o’r fan honno rydyn ni’n dechrau.”
Mae yna lond gwlad o weithgareddau sy’n seiliedig ar fyd natur na chafodd nifer o bobl ifanc yng nghymdogaeth G20 erioed y cyfle i roi cynnig arnynt.
“Dechreuom weithio gyda’r bobl ifanc er mwyn gweld a oedd ganddynt ddiddordeb mewn pethau fel Ysgol Goedwig,” meddai, “ac mae’n ymddangos eu bod nhw’n hoff iawn o bethau fel cael tân, symud pridd o gwmpas, gorwedd mewn hamog a pharatoi’r tegell gwersylla.”
Roedd y profiad o wneud rhywbeth newydd yn yr awyr iach wedi cael effaith go iawn, “Roedden nhw’n cael boddhad mawr o wneud pethau nad oedden nhw erioed wedi’i wneud o’r blaen.”
Mae cysylltu â diddordebau creiddiol pobl ifanc drwy weithgareddau’n seiliedig ar fyd natur yn ffordd effeithiol o ymgysylltu â hwy ar eu telerau eu hunain, ac ar yr un pryd, sicrhau mai eu llesiant yw’r prif ffocws.
Meddai Emily, “Daethom o hyd i ffordd o’u cael i gymryd risg heb gael i berygl difrifol.”
“Unwaith eto, rydym wrthi’n eu haddysgu ynghylch sut rydych chi’n defnyddio’r offer, sut i gael tân yn ddiogel a sut i ddiffodd tân yn ddiogel a gadael heb fod unrhyw olion ohono.”
O ganfod teimlad newydd o lonyddwch i'r cyffro naturiol o ddarganfod sgiliau allan yn y gwyllt, mae Emily yn tynnu sylw at rai o’r ffyrdd gwahanol mae pobl ifanc yn elwa o dreulio amser ym myd natur.
Mae effaith leddfol byd natur yn helpu i fynd i’r afael â straen bob dydd ar bobl ifanc. “Mae creu amgylchedd mor dawel a chefnogol â phosib yn cael y gorau o bobl ac yn gwneud i bobl deimlo’n dda. Mae llonyddwch meddwl yn ei gwneud hi’n haws i ddysgu, cysylltu gydag eraill a meithrin perthnasoedd.”
Gall profiadau wthio ffiniau yn ogystal â bod yn bethau diogel. “Mae’r awyr agored yn ddelfrydol oherwydd rydych yn gallu cymryd risgiau go iawn a chael cyffro go iawn heb droi at gyffuriau neu drais.”
Mae archwilio'r tu hwnt i’w cymuned leol yn cyflwyno pobl ifanc i fydoedd cwbl newydd. “Doedd rhai plant erioed wedi gweld ceffyl o’r blaen, erioed wedi bod yn gwersylla na bod yn y dŵr - profiadau rydych yn dueddol o’u cymryd yn ganiataol.”
Mae byd natur yn llawn o adnoddau cadarnhaol y gallant eu defnyddio yn eu bywydau. “Rydym wedi bod yn nofio mewn dŵr oer, ymdrochi mewn coedwig, a hyd yn oed wedi mynd i fyny Ben Nevis. Dyna’r math o bethau fydd yn eu helpu gyda gwydnwch a rheoli troeon bywyd wrth symud ymlaen.”
Mae profi byd natur oddi allan i’r ddinas hefyd wedi bod yn fuddiol i bobl ifanc sy’n byw mewn llefydd trefol. “Yma yn G20, rydym yn mynd â phobl ifanc i fyny i fryniau Campsie. Dydy o ddim mor bell â hynny o Glasgow a dweud y gwir, ond mae’n teimlo'n filiwn o filltiroedd i ffwrdd. Gall y bobl ifanc ymlacio, cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, a dysgu sgiliau ceidwad. Mae’r straen yn llifo oddi ar gyrff pobl; maen nhw’n gallu dianc i ffwrdd o bopeth.”
Mae’r buddion yn parhau pan rydych yn dod ag atgofion o fyd natur i mewn i fannau dan do. “Yn ein caffi rydym wedi gorchuddio’r wal gyfan gyda llun o goetir ac rydym yn dod ag elfennau eraill sydd wedi’u hysbrydoli gan fyd natur i mewn i'r adeilad er mwyn creu amgylchedd heddychlon, fel y gall pobl gofio’r cysylltiadau hynny a byd natur pan maent yn ôl yma ynghanol straen bywyd bob dydd. Ac mae gennym y cysylltiad bob dydd hwnnw â'r byd naturiol o hyd gyda’r afon a’r gamlas yn union y drws nesaf atom.”
Fel nifer o sefydliadau cymunedol bach, mae cynaliadwyedd hirdymor wastad yn flaenoriaeth i G20. Mae Emily yn myfyrio ar eu taith ariannu, o roddion untro i gymorth ariannol tymor hwy i’w helpu i dyfu a thyfu.
Gydag chyllid yn dod i mewn, mae G20 yn gallu ymestyn ei gyrhaeddiad, gan helpu mwy a mwy o bobl ifanc i gael gwell dyfodol gyda chymorth arweiniol byd natur.
Mae Emily yn rhannu rhai o’i brosiectau, ei gynlluniau a’r llwybrau sy’n arwain y ffordd.
Mae Emily yn dweud wrthym sut mae’r ardd gymunedol a’u caffi cymunedol yn chwarae rôl bwysig o ran dod â phobl ifanc a phobl fregus at ei gilydd.
“Mae’r ymdeimlad yna o gymuned a helpu eraill yn rhan fawr o’n prosiectau hefyd, felly mae’r bobl ifanc yn hoffi coginio bwyd a dosbarthu ‘prydau gobaith’ i’r gymuned, gan gynnwys nifer o bobl fregus. Rydym yn rhedeg Café Hope sy’n darparu bwyd fforddiadwy i’r gymuned, yn darparu swyddi i bobl leol ac mae wedi helpu i newid canfyddiadau pobl am bobl ifanc.”
Mae G20 yn defnyddio byd natur i feithrin cysylltiadau rhwng pobl ifanc a phobl yn y gymuned sy’n deall o le maen nhw’n dod. Maent hefyd yn deall pwysigrwydd cael gweithwyr ieuenctid sydd wedi profi’r un problemau.
“Rydym yn dod â phobl i mewn sy’n angerddol dros fyd natur, ac sydd efallai wedi troedio’r un llwybrau â’r bobl ifanc ac wedi profi rhai o’r pethau y gallent fod wedi’u profi.”
Sylwodd Emily bod cael y math yma o gysylltiad yn annog y bobl sy’n defnyddio eu gwasanaeth i ymgysylltu gyda’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas, “Mae’n gwneud iddynt deimlo’n gymhellol ac yn rhoi mwy o lais iddynt.”
Mae G20 hefyd yn annog pobl ifanc i roi’n ôl i’r mannau diogel sydd wedi’u helpu nhw drwy addysgu sgiliau hanfodol iddynt ddod yn arweinwyr a chedwiaid yr ysgol goedwig.
“Bydd y bobl ifanc yn derbyn hyfforddiant ac yn dysgu sut i reoli a bod yn rhan o’r tir, a hyfforddi eraill i arwain grwpiau mewn lleoliadau awyr agored naturiol. Byddant yn ennill cymhwyster am wneud hyn.”
Meddai Emily, “Mae gennym hefyd ddatblygiad Gardd Gymunedol G20 ar y gweill ym Maryhill sydd wedi’i ysbrydoli gan Goedwig y Plant, ac sydd hi tua chwarter y maint. Rydym yn gweithio tuag at gael cegin fwd, tŷ pen coeden, plannu perllan a chael lle i chwarae. Rydym wedi hyfforddi athrawon yn yr ardal leol i arwain sesiynau Coedwig Ysgol ar gyfer eu disgyblion.”
Mae’r tîm wedi sicrhau caniatâd cynllunio er mwyn creu storfa ar gyfer adnoddau a chyfarpar hanfodol a gofod dysgu ym byd natur”.
“Bydd yn caniatáu i ni i gyd gael lle i storio cyfarpar hyfforddi Ysgol Goedwig, gwneud llwybrau, rheoli tir cyffredinol a chodi ysbwriel, fel y gallwn storio popeth mewn un lle ac annog grwpiau eraill i ddefnyddio’r tir a benthyg y cyfarpar.”
Drwy hyfforddi pobl ifanc dros 16 oed mewn gwahanol fathau o waith, mae G20 yn helpu i greu rolau model cadarnhaol ar gyfer y rhai iau. “Yn y pen draw, rydym yn gobeithio y byddant yn dysgu’r rhai iau os ydynt wedi eu hyfforddi yn yr Ysgol Goedwig neu Nofio yn y Goedwig.”
 Emily yn ei blaen, “Rydym hefyd yn rhedeg Café Hope, man golchi car G20 a lle ar gyfer cyrsiau harddwch, a’n nod yn yr hirdymor yw mynd allan i gefn gwlad a gweithio yn y fan honno.”
Lle bynnag mae person ifanc ar ei daith bywyd, gall gwefan a chyfryngau cymdeithasol G20 helpu i’w arwain tuag at y gwasanaeth neu’r gweithgarwch sy’n addas iddo. Mae galw mewn i siarad yn uniongyrchol â rhywun yn G20 yn parhau i fod y ffordd fwyaf cyffredin i bobl ifanc ymgysylltu gyda’r sefydliad.
Gallant ddod o hyd i wybodaeth am bethau fel y caffi cymunedol, y clwb ieuenctid, yr ysgol goedwig a’r academi gelf. Mae hyn yn agor y drysau i weithgareddau sy’n cynnwys graffiti a chelf stryd, gwneud ffilmiau a ffotograffiaeth, garddio, cerdded mynyddoedd, bocsio, pantri bwyd stryd a dysgu yn yr awyr agored.
Mae G20 hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer swyddi, hyfforddiant, datblygiad personol a chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc dros 16. Er bod ganddynt raglenni cefnogi mewnol, mae G20 hefyd yn gallu cyfeirio at wasanaethau cymorth allanol eraill.
Darganfyddwch raglenni, prosiectau a gweithgareddau eraill sy’n cefnogi pobl ifanc drwy fyd natur.
Mae Zebra yn cynnal clwb ieuenctid wythnosol ac yn trefnu teithiau a gweithgareddau, gan gynnwys partneriaethau sy’n helpu pobl ifanc i gysylltu gyda byd natur. Mae ei waith gyda phlant ac ieuenctid yn seiliedig ar gryfderau, gan ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc, megis eu dyfeisgarwch, eu diddordebau a’u dyheadau. Mae hefyd yn seiliedig ar drawma, gan gydnabod ac ymateb i’r ffaith bod eu profiadau o adfyd yn debygol o fod yn bresennol yn eu hymddygiad.
Mwy am Zebra Collective
Mae Keeping it Wild yn dod â’r awyr agored yn fyw i bobl ifanc sy’n llai tebygol o fod yn ymwneud â byd natur. Wedi’i rhedeg gan Ymddiriedolaeth Natur Llundain, mae’r rhaglen yn cynnwys prosiectau gweithredol mewn cymunedau lleol a swyddi dan hyfforddiant gyda thâl. Mae wedi ysbrydoli dros 1,000 o bobl ifanc i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o warchod a hyrwyddo treftadaeth naturiol y brifddinas.
Mwy am Keeping it Wild
Roedd Nature Neighbourhoods yn rhaglen bartneriaeth genedlaethol rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB a WWF, a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r Co-op.
Prif syniad y rhaglen oedd gweithio ochr yn ochr â 18 o sefydliadau cymunedol dros 2 flynedd, gan eu helpu i gyd-greu cynlluniau sy’n cael eu pweru gan bobl ar gyfer byd natur yn eu cymdogaethau eu hunain.
Roedd pob cynllun cydweithredol wedi’i wreiddio’n gadarn ym mha bynnag gamau gweithredu dros fyd natur a hinsawdd a oedd bwysicaf i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yno. A chawsant eu gwireddu gan gyllid, cefnogaeth a hyfforddiant Nature Neighbourhood.