An adult and two young people using spades to move soil from bags in a garden.
Orange illustration of a blue tit.

Cyfres cymorth achredu – pumed sesiwn

13-08-2025 10:00 AM - 13-08-2025 11:00 AM

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Annapurna Mellor

Disgrifiad o'r digwyddiad

A oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn Dref neu Ddinas Fyd Natur?

 

Ymunwch â ni yn y sesiwn gymorth hon lle byddwn yn trafod y cynllun Achredu Trefi a Dinasoedd Byd Natur. Mae’r sesiynau misol hyn yn rhoi cyfle i ofyn cwestiynau i dîm y rhaglen, a chwrdd ag eraill sy’n ganol y broses achredu, gan rannu dysg ac adnoddau. Mae croeso i bawb, ni waeth pa gam o’r daith achredu rydych wedi ei gyrraedd; yn meddwl dechrau, neu yng nghanol y daith.

 

Cynhelir y weminar ar Teams. Ar ôl ichi archebu eich lle, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda dolen i ymuno.

 

Os oes gennych gwestiwn penodol ynghylch achrediad, ewch i gael golwg ar y cwestiynau cyffredin. Neu os hoffech gael eich atgoffa am y cynllun achredu, beth mae’n ei olygu ac ar gyfer pwy y mae ef, gallwch ddarllen rhagor amdano yma neu wylio’r weminar ragarweiniol o’r archif.