
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Annapurna Mellor
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Annapurna Mellor
A oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn Dref neu Ddinas Fyd Natur?
Ymunwch â ni yn y sesiwn gymorth hon lle byddwn yn trafod y cynllun Achredu Trefi a Dinasoedd Byd Natur. Mae’r sesiynau misol hyn yn rhoi cyfle i ofyn cwestiynau i dîm y rhaglen, a chwrdd ag eraill sydd yng nghanol y broses achredu, gan rannu dysg ac adnoddau. Mae croeso i bawb, waeth pa gam o’r daith achredu rydych wedi ei chyrraedd; yn meddwl dechrau, neu yng nghanol y daith.
Cynhelir y weminar ar Teams. Ar ôl ichi archebu eich lle, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda dolen i ymuno.
Os oes gennych gwestiwn penodol ynghylch achrediad, ewch i gael golwg ar y cwestiynau cyffredin. Neu os hoffech gael eich atgoffa am y cynllun achredu, beth mae’n ei olygu ac ar gyfer pwy y mae ef, gallwch ddarllen rhagor amdano yma neu wylio’r gweminar ragarweiniol o’r archif.