Lansio’r meini prawf achredu
Lansiodd y weminar hon feini prawf achredu Trefi a Dinasoedd Byd Natur. Mae Achrediad Trefi a Dinasoedd Byd Natur yn cydnabod a gwobrwyo trefi a dinasoedd sy’n rhoi byd natur wrth wraidd cynlluniau i sicrhau bod gan bawb fynediad at seilwaith gwyrdd ansawdd uchel a chyfoethog o ran natur. Yn ystod y digwyddiad, fe rannon ni ragor o wybodaeth ynghylch y meini prawf llawn a’r dystiolaeth angenrheidiol i ennill achrediad, yr adnodd hunanwerthuso a rhannu gwybodaeth ynghylch pa fath o gymorth a allwch chi ei ddisgwyl gan y rhaglen.