Achrediad lefel dau: Uwch
Lefel dau: Mae achrediad uwch yn eich helpu i ddatblygu achos cryf dros fuddsoddi yn eich gweledigaeth a'ch cynlluniau ar y cyd, ac i sicrhau cefnogaeth uwch gan wahanol sectorau a sefydliadau yn lleol. Mae tair adran; mae pob un yn nodi camau awgrymedig i'w cymryd, canlyniadau disgwyliedig a sut i ddangos tystiolaeth o'ch gwaith.
Gwneud cais am achrediad lefel dau: Uwch
Datblygu eich achos dros newid
Datblygwch biblinell o brosiectau y gellir buddsoddi ynddynt er mwyn gwneud eich tref neu ddinas yn rhwydwaith gwyrdd a glas sy’n cyflawni ar gyfer pobl, lleoedd a natur. Yn hytrach nag addasu eich cynlluniau i gyllid sydd ar gael, dangoswch i fuddsoddwyr sut y bydd yr ystod eang o ganlyniadau yn eich gweledigaeth a’ch strategaeth Seilwaith Gwyrdd yn cael eu cyflawni drwy brosiectau, ymyriadau a datblygiadau cysylltiedig.
Darganfyddwch pa dystiolaeth sydd angen i chi ei chyflwyno ar gyfer pob adran drwy ehangu’r saethau.
Mae angen i hyn gynnwys:
- eich datganiad gweledigaeth fel y nodwyd ar lefel Sylfaen
- datganiad i esbonio’r effaith ar raddfa tref neu ddinas. Meddyliwch am hwn fel eich ‘cyflwyniad byr’
- crynodeb o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n ysgogi’r angen am eich newid arfaethedig, o adfer natur, mynediad ac iechyd i wydnwch hinsawdd, twf a chynhwysiant
- crynodeb o sut mae eich cynlluniau’n cyd-fynd â strategaethau lleol a blaenoriaethau cenedlaethol (e.e.sero net, Enillion Net Bioamrywiaeth, 30erbyn30, Strategaeth Adfer Natur Leol) neu unrhyw bolisïau a fframweithiau eraill
- eich amcanion strategol lefel uchel (sicrhewch eu bod yn strategol ac nid yn benodol i brosiect)
- eich egwyddorion dylunio y mae angen iddynt gynnwys:
- eich dull o ymgysylltu â chymuned a rhanddeiliaid. Sut y byddwch yn dod â hyn i mewn yn gynnar?
- gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth megis defnyddio safonau a data cydnabyddedig (e.e. Egwyddorion a Safonau Seilwaith Gwyrdd Natural England)
- sut y byddwch yn cyflawni buddion lluosog trwy natur a seilwaith gwyrdd a glas
- crynodeb o’r buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yr ydych yn gobeithio eu cyflawni, gan feintoli canlyniadau ac allbynnau lle bo modd.
Sylwch, disgwylir y gallai rhywfaint o gynnwys orgyffwrdd neu adeiladu ar yr hyn a ddatblygwyd ac a ddarparwyd gennych ar gyfer eich cais lefel un: Sylfaen.
Ewch ati i greu theori newid (ToC) wedi’i strwythuro’n dda sy’n dangos sut y gall gweithgareddau arwain at ganlyniadau ac effeithiau dymunol, gan ddilyn y fframwaith isod. Gellir gwneud hyn ar lefel rhaglen lle mae prosiectau cysylltiedig lluosog yn cydweithio i gyflawni eich canlyniadau byrdymor a hirdymor dymunol. Dylech hefyd amlinellu sut y byddwch yn mesur cynnydd tuag at y canlyniadau hyn.
Mae angen i hyn gynnwys:
- mewnbynnau/adnoddau: cyllid, partneriaethau, data, asedau cymunedol, ac ati.
- gweithgareddau/ymyriadau: wedi’u grwpio yn ôl math (e.e. ôl-osod o lwyd i wyrdd, gwella mannau gwyrdd presennol, adfer afonydd, prosiectau ysgogi)
- allbynnau: canlyniadau gweladwy (e.e. hectarau o fannau gwyrdd sydd wedi eu creu/gwella, nifer y coed a blannwyd)
- canlyniadau tymor byr (2 flynedd): newidiadau uniongyrchol (e.e. mwy o fynediad at natur, ymgysylltiad cymunedol)
- canlyniadau tymor canolig (5 mlynedd): effeithiau ehangach (e.e. gwell iechyd, cynnydd mewn bioamrywiaeth, llai o risg llifogydd)
- canlyniadau tymor hir (10 mlynedd): trawsnewid strategol (e.e. gwydnwch hinsawdd, systemau trefol sy’n gadarnhaol i natur, buddsoddiad yn y dyfodol, mwy o ecwiti amgylcheddol)
- tybiaethau a risgiau: tybiaethau allweddol sy’n sail i’ch ToC a risgiau posibl a allai effeithio ar gyflawni’r canlyniadau arfaethedig.
Ewch ati i greu rhestr hir prosiect unigol (gellir gwneud hyn ar lefel rhaglen hefyd os yw’n berthnasol).
Mae angen i hyn gynnwys:
- teitl y prosiect
- crynodeb o’r prosiect
- canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd disgwyliedig pob prosiect
- lleoliad y prosiect: ble y bydd hyn yn digwydd e.e. ward neu gymdogaeth
- amserlenni: pryd ydych chi’n disgwyl iddo ddechrau a gorffen
- costau: faint fydd yn ei gostio i gyflawni’r newid/prosiect hwn
- sut y daeth y prosiect i fodoli (e.e. ymgynghori â’r gymuned, ymgysylltu â rhanddeiliaid, mapio cyfiawnder amgylcheddol ac ati) a phartneriaid a oedd yn rhan ohono.
Dyma dempled Excel awgrymedig i’w ddefnyddio ar gyfer rhestr hir y prosiect.
Creu eich prosbectws
Dewiswch dri i 10 prosiect neu raglen flaenoriaethol yr ydych yn gobeithio eu cyflawni dros y tair i bum mlynedd nesaf. Ar gyfer bob un, nodwch y cyllid sydd ei angen a chreu cynlluniau prosiect sy’n dangos eich dull cyffredinol o gyflawni, rheoli risg a gwerthuso. Dangoswch hefyd sut mae’r manteision y bydd eich cynlluniau’n eu darparu yn cyd-fynd â diddordebau cyllidwyr a buddsoddwyr drwy asesiad economaidd.
Paratowch asesiad economaidd o’r buddion a’r costau ar gyfer pob prosiect neu raglen.
Dewiswch ddull sy’n briodol ar gyfer eich prosiect neu raglen ac sy’n berthnasol i gyllidwyr/buddsoddwyr (e.e. dulliau gwerth am arian, fel dadansoddiad cost-budd, dadansoddiad cost-effeithiolrwydd cymdeithasol; neu offer cyflenwol, fel enillion ar fuddsoddiad, dadansoddiad aml-faen prawf). Bydd canlyniadau’r asesiad yn dangos i gyllidwyr neu fuddsoddwyr sut mae eich prosiectau’n cyd-fynd â’u gwaith a gallai helpu i oresgyn unrhyw heriau y maent yn eu hwynebu.
Pethau y mae angen eu cynnwys yn eich asesiad economaidd:
Wrth ystyried y buddion (e.e. amgylcheddol, diwylliannol, iechyd, cymdeithasol, tegwch), cofiwch:
- sicrhau bod pob budd arwyddocaol 1) yn cael ei ddisgrifio’n ansoddol, 2) yn cael ei feintoli a 3) yn cael ei roi fel gwerth ariannol (lle bo modd)
- cynnwys cyfeiriad clir at y dull prisio ar gyfer buddion sy’n cael eu meintoli a’u rhoi fel gwerth ariannol
- nodi dosbarthiad y buddion (e.e. i bwy y maent yn cronni). Gall hyn fod yn asesiad lefel uchel, yn lleol neu’n rhanbarthol, neu’n berthnasol i grŵp penodol.
Wrth ystyried y costau, sicrhewch eich bod wedi:
- rhoi gwerth ariannol i bob cost materol, neu wedi esbonio pam na fyddai hynny’n briodol
- nodi’ ffynhonnell y gost yn glir
- sicrhau bod costau’n gymesur â gweithgareddau’r prosiect, yr amseriad, y raddfa ofodol a’r amcanion
- nodi dosbarthiad y costau.
Wrth gwblhau’r dadansoddiad, sicrhewch eich bod yn:
- disgrifio’r newid o’i gymharu â’r llinell sylfaen (busnes fel arfer)
- diffinio cwmpas ymyriadau, amseriad gweithgareddau, ac amseriad effeithiau
- nodi’r paramedrau allweddol, megis cyfradd ddisgownt, pris, blwyddyn a chwyddiant.
Wrth wirio synnwyr, sicrhewch eich bod wedi:
- nodi risgiau, tybiaethau, a chyfyngiadau data y prosiect
- darparu dadansoddiad sensitifrwydd lle ceir ansicrwydd
- ystyried a yw’r canlyniadau’n ymddangos yn rhesymol o ystyried cyd-destun y prosiect.
Wrth gwblhau’r adroddiad byr i grynhoi’r asesiad, sicrhewch:
- fod y prosiectau arfaethedig yn cyd-fynd â pholisi cyhoeddus ehangach ac anghenion lleol
- eich bod wedi dangos cysylltiad clir rhwng blaenoriaethau rhanddeiliaid a gwireddu costau/buddion fesul cam dros amser
- eich bod wedi disgrifio dibyniaethau, risgiau ac ansicrwydd a pha mor bell y gellir eu lliniaru
- eich bod yn cynnwys cynlluniau ar gyfer monitro a gwerthuso parhaus, a sut y bydd hyn yn llywio pwyntiau penderfynu allweddol os oes angen.
Rhowch fanylion y cyllid sydd ei angen a’i ddadansoddi ar gyfer pob prosiect neu raglen.
- Ar gyfer pob prosiect, amlinellwch gyfanswm y cyllid sydd ei angen ac esboniwch at beth y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio
- Esboniwch ffynonellau a mathau o gyllid, p’un a yw cyllid wedi’i sicrhau ai peidio, ac unrhyw drefniadau cyd-gyllido.
Dull cyflawni cyffredinol i gynnwys:
- amserlenni realistig ar gyfer pob rhaglen neu brosiect
- dadansoddiad o waith yn ôl tasgau a chamau allweddol
- allbynnau allweddol
- nodi dibyniaethau a chyfyngiadau
- dyraniad adnoddau
- sut mae cynlluniau wedi’u dylunio yn unol ag Egwyddorion a Safonau Seilwaith Gwyrdd Natural England.
Llywodraethu a chyflawni i gynnwys:
- pwy yw’r partneriaid cyflawni, a’u rolau a chyfrifoldebau
- manylion partneriaethau, cyfranogiad cymunedol a pherchnogaeth
- proses gwneud penderfyniadau neu siart llif sy’n dangos sut mae’r holl randdeiliaid yn cydweithio.
Rheoli risg i gynnwys:
- cofrestr risg wedi’i graddio’n goch/oren/gwyrdd (RAG), sy’n asesu effaith a thebygolrwydd, er enghraifft oedi wrth gyllido, materion llywodraethu a bylchau adnoddau
- strategaeth liniaru ar gyfer y risgiau hyn
- sut mae risgiau’n cael eu monitro’n barhaus.
Amserlen gwireddu buddion i gynnwys:
- pryd y caiff buddion eu cyflawni
- sut y byddant yn cyd-fynd â cherrig milltir
Fframwaith monitro a gwerthuso i gynnwys:
- amcanion ar gyfer y fframwaith
- llinellau sylfaen lle bo’n briodol
- dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs), dangosfyrddau a mecanweithiau adrodd
- pa ddata fydd yn cael ei gasglu, a sut a phryd
- cwestiynau gwerthuso allweddol a methodolegau ar gyfer gwerthusiadau
- sut y caiff seilwaith/prosiect gwyrdd a glas ei gynnal a’i reoli yn y tymor hir.
Sicrhau cefnogaeth eang ar lefel strategol
Darparwch dystiolaeth o arweinyddiaeth a chydweithrediad, cysondeb strategol a llywodraethu ar draws sectorau ar gyfer trawsnewid hirdymor. Meddyliwch am rolau a chyfrifoldebau eich noddwyr a’ch hyrwyddwyr, a sut y gallwch ddangos eu cefnogaeth i’ch cynlluniau.
Mae angen i hyn gynnwys:
- noddwyr a hyrwyddwyr uwch penodol (ar draws iechyd, tai, trafnidiaeth, addysg, amgylchedd, er enghraifft), gyda rolau a chyfrifoldebau clir
- ardystiadau (fideo neu ysgrifenedig), sy’n dangos sut mae eich cynlluniau’n cyd-fynd â dyletswyddau statudol a blaenoriaethau strategol
- tystiolaeth o weithio mewn partneriaeth ac arwain ar y cyd ar lefel strategol.
Cychwyn arni
Lawrlwythwch ein templed Excel awgrymedig i’w ddefnyddio ar gyfer rhestr hir y prosiect a defnyddiwch ddrafft o’r ffurflen gais fel lle i wneud nodiadau wrth i chi gasglu popeth rydych chi’n bwriadu ei gyflwyno.