Achrediad lefel un: Sylfaenol
Mae’r achrediad Sylfaenol yn canolbwyntio ar sefydlu eich gweledigaeth, meithrin partneriaethau cryf ac ysgrifennu eich strategaeth a chynllun gwelliant seilwaith gwyrdd.
Meini prawf achredu
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / James Dobson
Achrediad lefel un: Sylfaenol
Dyma’r tri cham i achrediad lefel un: Achrediad sylfaenol. Yma byddwch yn canfod camau awgrymedig i’w cymryd, cyflawniadau disgwyliedig a’r meini prawf asesu ym mhob adran.
Erbyn diwedd lefel un, byddwch â’r sylfeini cywir yn eu lle: partneriaethau cadarn sy’n gweithio tuag at strategaeth a gweledigaeth gyffredin a chynllun gwella i gyflawni eich uchelgeisiau hirdymor.
Bydd ennill achrediad sylfaenol yn helpu i feithrin cadernid a chapasiti cyffredinol eich lle er mwyn cyflawni ei uchelgeisiau.
Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho’r meini prawf achredu a’r llyfr gwaith er mwyn rhoi arweiniad i’ch cais.
Cam un - gosod eich gweledigaeth
Nod
Dod â phartneriaid a rhanddeiliaid ynghyd i greu gweledigaeth uchelgeisiol gydlynus ac eglur ar gyfer dyfodol y lle. Dyma gyfle i adfyfyrio ar weledigaethau presennol a all fod ym meddiant sefydliadau ar wahân a chyfle i ddod ynghyd i ystyried yr heriau a’r cyfleoedd mawr i’r dref neu ddinas ymdrin â nhw yn y tymor canolig i hir.
Tystiolaeth awgrymedig
Rydym yn chwilio am dystiolaeth o weledigaeth neu uchelgais eich lle. Gallai hyn fod yn ddatganiad, fideos neu animeiddiadau sy’n dod â’ch gweledigaeth yn fyw, darnau ysgrifenedig, lluniau neu fideos o weithdai cyd-ddylunio, canlyniadau ymgynghoriadau ac ymgysylltiad cyhoeddus, tystiolaeth o nawdd uwch o fewn sefydliadau allweddol neu o randdeiliaid allweddol (postiadau blog, ymrwymiad ysgrifenedig, ffilmiau neu fideos).
Caiff ceisiadau eu hasesu ar sail p’un ai yw’r lle wedi:
- Ysgrifennu gweledigaeth glir ac uchelgeisiol ar gyfer trawsnewidiad yn y dref neu ddinas.
- Meddwl yn gyfannol am y newid y gallai eu gweledigaeth ei chyflawni, ystyried yr heriau mawr sydd angen i’r lle fynd i’r afael â nhw, y cyfleoedd i drawsnewid, a’r rhesymeg drostynt.
- Adnabod a sicrhau cymorth noddwyr allweddol o fewn eu sefydliad a chyrff allweddol eraill a fydd yn arwain a hyrwyddo’r newid e.e. arweinwyr, meiri, cyfarwyddwyr.
- Cyd-ddatblygu’r weledigaeth gyda’r grwpiau a’r bobl berthnasol o’r gymuned, busnesau a sefydliadau.
- Cynnwys y gymuned ehangach i ddeall eu blaenoriaethau a’u diddordebau, bod yn gynhwysol a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
- Gofyn i blant a phobl ifanc beth hoffent ei weld ar gyfer dyfodol y seilwaith gwyrdd.
- Rhannu’r weledigaeth a sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol hirdymor.
- Creu cynllun i adolygu a gwerthuso’r weledigaeth.
Camau awgrymedig i’w cymryd wrth osod eich gweledigaeth
Cam dau - adeiladu partneriaethau cryf
Nod
Adeiladu ar bartneriaethau presennol a chreu partneriaethau newydd gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid y gallwch wireddu’r weledigaeth trwyddynt. Mae gweithio mewn partneriaethau yn allweddol i gyflawni newid hirdymor. Mae’n gyfle i gyd-greu a chyfundrefnu ffyrdd o weithio a datblygu strwythurau partneriaeth. Adfyfyrio ar sut mae partneriaethau sy’n bodoli yn cyd-fynd â’r darlun mwy, dod ag eraill yn rhan o bethau a ffurfioli’r ymdeimlad o weithio ar y cyd i gyflawni gweledigaeth gyffredin.
Tystiolaeth awgrymedig
Rydym yn chwilio am dystiolaeth o weithio mewn partneriaeth traws-sector cryf. Gallai hyn fod yn femorandwm dealltwriaeth, cytundebau partneriaeth, cylch gorchwyl, fframweithiau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, gwneud penderfyniadau neu fodelau stiwardiaeth.
Caiff ceisiadau eu hasesu ar sail p’un ai yw’r lle wedi:
- Ystyried y raddfa y byddent yn gweithio arni, yn rhanbarthol a lleol.
- Adnabod partneriaid sy’n bodoli a phartneriaid posib i gyd-ddatblygu a gwireddu’r weledigaeth.
- Cyd-ddylunio fframwaith er mwyn gweithio mewn partneriaeth, o ystyried y gallu, y capasiti a’r arweinyddiaeth sydd eu hangen ledled y lle.
- Cyd-ddylunio fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn partneriaeth.
- Ystyried sut mae rhanddeiliaid allweddol ar sail lle yn elwa ar natur.
- Adnabod sut mae partneriaid yn buddsoddi’n uniongyrchol ac yn gallu parhau i fuddsoddi ym myd natur eu hunain.
- Ystyried ffurfioli’r partneriaethau mwy a mwy strategol gyda chytundebau, gan ddiffinio rolau a chyfrifoldebau e.e. memorandwm o ddealltwriaeth, cytundeb mabwysiadu partneriaeth, cylch gorchwyl.
- Ystyried eu dull o weithio gyda chymunedau, gan gynnwys modelau cyd-stiwardiaeth.
- Arddangos cynllun ar gyfer adolygiad parhaus o’r bartneriaeth wrth iddi esblygu.
Camau awgrymedig i’w cymryd wrth adeiladu partneriaethau cryf
Cam tri - ysgrifennu cynllun gwella a strategaeth seilwaith gwyrdd
Nod
Creu cynllun seilwaith gwyrdd (GI) strategol sy’n gwella seilwaith gwyrdd a glas yn yr ardal ar sail y weledigaeth gyffredin. Dyma’r cyfle i feddwl am sut fydd y lle yn gwneud amrywiaeth eang o bethau, fel gwella ansawdd bywyd i gymunedau trefol, creu trefi a dinasoedd sy’n gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd, cefnogi adferiad byd natur, cyflwyno targedau sero net, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a gostyngiad amgylcheddol a sicrhau y gall pawb wneud defnydd o fannau gwyrdd a glas ansawdd uchel yn eu hardal leol. Efallai y byddwch yn dewis datblygu cynllun gweithredu/gwella a strategaeth safon uchel sy’n cynnwys rhagor o fanylion am gyflawni’r nodau strategol.
Tystiolaeth awgrymedig
Rydym yn chwilio am dystiolaeth o’ch strategaeth seilwaith gwyrdd. Gallwch rannu eich strategaeth seilwaith gwyrdd a chynnwys unrhyw weithredoedd neu welliannau sydd wedi’u cynllunio. Gallech hefyd gysylltu ag unrhyw bolisïau neu strategaethau lleol perthnasol.
Caiff ceisiadau eu hasesu ar sail p’un ai yw’r lle wedi
- Defnyddio Fframwaith Seilwaith Gwyrdd Natural England i arwain y gwaith o ddatblygu cynllun gwelliant a strategaeth seilwaith gwyrdd. E.e. wedi dadansoddi data, gosod nodau a thargedau ac ystyried datblygu canllawiau dylunio lleol.
- Adolygu polisïau a strategaethau perthnasol sy’n bodoli i lunio’r strategaeth GI cyffredinol a’r cynllun gwella hwn.
- Ystyried heriau a chyfleoedd unigryw’r lle a sut fydd y strategaeth seilwaith gwrydd yn ymateb i’r rhain.
- Ysgrifennu cynllun gweithredu i roi’r strategaeth seilwaith gwyrdd ar waith.
- Ymgymryd â dull partneriaeth a chyd-ddylunio’r cynllun gwelliant a strategaeth seilwaith gwyrdd, gan feddwl am bartneriaid cyflawni a strategol posibl yn ogystal ag ymgysylltiad cyhoeddus ehangach.
- Ystyried elfennau eraill a all arwain y gwaith e.e. ariannu, llywodraethu a datblygu gweithlu.
- Creu cynllun i fonitro a gwerthuso’r strategaeth seilwaith gwyrdd.
Camau awgrymedig i’w cymryd wrth ysgrifennu strategaeth seilwaith gwyrdd a chynllun gwelliant