People stood on a path looking at a garden area outside of a flat building.
Orange illustration of a flower. The petals resemble houses.

Cynllunio ar y cyd: dull partneriaeth

Astudiaeth Achos Canllaw - 12-02-2025

Sut i weithio â phartneriaid i ddatblygu gweledigaeth strategol i fyd natur, mannau gwyrdd a chymunedau.

Cymunedau - Ymgysylltiad cymunedol

©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris

Pan mae byd natur yn agosach, mae pawb ar eu hennill. A gall pawb chwarae eu rhan.

Mae’r canllaw hwn ar gyfer timau sy’n awyddus i ddatblygu eu dull presennol o reoli cymuned, gan nodi fframwaith tair rhan i greu gweledigaeth gyffredin.

Darllenwch ymlaen ar gyfer dulliau cynllunio sy’n dod â thimau a chymunedau ynghyd mewn ffordd fwy cydweithredol a chynhwysol i lywio dyfodol gwell ar gyfer eu parciau a mannau gwyrdd lleol.
Dan bob cam mae technegau cyfranogol, astudiaethau achos ac awgrymiadau sy’n helpu i roi amrywiaeth a chydraddoldeb wrth wraidd eich cynlluniau.

Os oes well gennych, gallwch lawrlwytho’r canllaw hwn gan ddefnyddio’r botwm isod.

Awgrymiadau ardderchog cyn dechrau arni

Mae gweledigaeth strategol wych yn deillio o ddatganiad problem a ddiffiniwyd yn dda. Dechreuwch drwy nodi’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer eich mannau gwyrdd a gosod y trywydd i’w goresgyn.

Ewch i BetterUp am ragor o gymorth i ysgrifennu eich datganiad problem.

O aer glân i gân yr adar, coetiroedd i goed – mewn ffyrdd dirifedi, mae byd natur yn ein trefi a’n dinasoedd yn sail i fywydau hapusach ac iachach.

Er mwyn helpu i wireddu’r buddion hyn, gofynnwch i’ch hun ym mhob cam o’r fframwaith hwn:

  • Gyda phwy yr hoffech chi siarad?
  • Beth hoffech chi ei drafod gyda nhw?
  • Beth yw’r ffordd orau o gyflwyno’r neges iddyn nhw?

Cam 1: dechrau sgwrs

Dylai dull partneriaeth alluogi cymaint o bobl â phosibl i gyfrannu at y weledigaeth strategol.

Dyma ddulliau sydd eisoes wedi ennill eu plwyf i gynllunio ar y cyd ar raddfa dinas neu dref. Maent yn tynnu ar y ffyrdd bach a mawr mae byd natur yn cefnogi bywydau iachach a hapusach yn eich cymuned.

Defnyddiwch y ddealltwriaeth hon i wneud y weledigaeth ar gyfer parciau a mannau gwyrdd yn wirioneddol ystyrlon i’ch ardal leol.

Gall y cam hwn gymryd hyd at chwe mis, a gorffen gyda datganiad gweledigaeth cyflawn.

Awgrymiadau ardderchog i gam 1

Uniaethwch â theimladau pobl drwy ofyn sut allent ‘deimlo’n fwy diogel’ yn yr awyr agored neu ‘dreulio rhagor o amser ym myd natur’.

Pob tro rydych yn cysylltu â’ch cynulleidfa, dangoswch eich bod yn gwrando. A allwch chi ddangos sut bydd eich gweledigaeth yn ychwanegu at ymgynghoriadau blaenorol?

Defnyddiwch ddata lleol i ganolbwyntio eich dulliau cynllunio. Cliciwch yma i gymryd golwg ar yr adnodd demograffig ONS, mae’n fan cychwyn gwych.

Cyflwynwch syniadau cynllunio yn raddol i’ch dulliau cyfathrebu rheolaidd, megis cylchlythyrau, cyfryngau cymdeithasol a gwefan.

Ffyrdd o gynllunio ar y cyd

Cliciwch ar ‘Dysgu rhagor’ ar bob un o’r teitlau isod i ganfod peth o ddulliau cynllunio awgrymedig i gefnogi cam 1.

1

Cardiau post gan y dyfodol

2

Cerdded a sgwrsio

3

Rhaglennu blynyddol

4

Ymgynghoriaeth Go beyond

Cynllunio cyfranogol ar waith

Cymerwch olwg ar yr astudiaethau achos isod i weld sut mae lleoedd wedi rhoi eu dulliau cynllunio cyfranogol yng ngham 1 ar waith.

Ymgynghoriad Maptionnaire yng Nghaeredin

Casglodd Gyngor Dinas Caeredin syniadau ac adborth i lunio dyfodol eu parciau a mannau gwyrdd. Defnyddion nhw arolygon yn seiliedig ar fapiau ar blatfform ymgysylltu dinasyddion Maptionnaire.

Darllen yr astudiaeth achos
Darllen yr astudiaeth achos
A sign providing information about a wildlife pond.

Straeon Daear Birmingham

Fe wrandodd Cyngor Dinas Birmingham ar straeon pum cant o bobl ynghylch byd natur, fel sail i’w Cynllun Dinas Fyd Natur 25 mlynedd. Aethant ati i archwilio cysylltiadau plentyndod pobl â natur, a gofyn beth fyddent yn ei ddymuno ar gyfer eu plant. Chwilion nhw am leisiau ymylol drwy allgymorth cymunedol.

Dysgu am stori Birmingham
Dysgu am stori Birmingham

Cam 2: llenwi’r bwlch

Cysylltwch â rhwydweithiau newydd yn eich ardal fel rhan o’ broses.

Defnyddiwch ddata i edrych ar ddemograffig eich lle a mapiwch yr holl rhanddeiliaid o amgylch man gwyrdd sy’n bodoli. Gallai hyn gynnwys adeiladwyr cymunedol, a rhwydweithiau sy’n canolbwyntio ar iechyd a chwaraeon.

Y bwriad yw eich helpu i ganfod bylchau o ran pwy sy’n cymryd rhan ac alinio nodau strategol gwahanol.

Dylai mannau gwyrdd a pharciau lleol gael eu gwerthfawrogi gan bawb sy’n eu defnyddio. Dyma rai ffyrdd i gynllunio ar y cyd â rhwydweithiau cymunedol a phartneriaid i wireddu hyn.

Awgrymiadau ardderchog i gam 2

Defnyddiwch ddata i ddangos y buddion cyffredin o gael mynediad at fannau gwyrdd o ansawdd i’ch rhanddeiliaid.

Gall y mapiau cyfrifiad ONS yma helpu i ddangos lle mae’r angen mwyaf.

Mae’r arolwg Pobl a Byd Natur yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol ynghylch agweddau pobl tuag at yr amgylchedd naturiol a’u heffaith ar lesiant. Dysgwch ragor am yr arolwg Pobl a Byd Natur drwy ddilyn y ddolen hon.

Ffyrdd o gynllunio ar y cyd

Cliciwch ar ‘Dysgu rhagor’ ar bob un o’r teitlau isod i ganfod dulliau cynllunio awgrymedig i gefnogi cam 2.

1

Grwpiau ffocws

2

Cyfweld Mentrau Cymdeithasol Cymunedol Gwirfoddol targed

3

Mapio cipolygon rhanddeiliaid

4

Ei weld ar waith

Cynllunio cyfranogol ar waith

Cymerwch olwg ar yr astudiaethau achos isod i weld sut mae lleoedd wedi rhoi eu dulliau cynllunio cyfranogol yng ngham 2 ar waith.

Pecyn Cymorth Newidwyr Lleoedd Ifanc Caeredin

Gweithiodd Cyngor Dinas Caeredin gyda Greenspace Scotland i ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau yn eu cymuned leol.

Darllen yr astudiaeth achos
Darllen yr astudiaeth achos
A child wearing a raincoat shovels a pile of soil.

Panel Hinsawdd Dinasyddion Islington

Gweithiodd Gyngor Bwrdeistref Islington gyda phanel o 35 o drigolion i ddychmygu sut allai Islington sy’n gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd edrych, a sut mae modd cyflawni hynny. Roedd tîm o arbenigwyr wrth law drwy gydol y broses chwe mis, ond roedd y cynlluniau a’r egwyddorion dan arweiniad y gymuned.

Rhagor am y panel hinsawdd
Rhagor am y panel hinsawdd

Cynghrair Dinas Natur Birmingham:

Lansiodd Cyngor Dinas Birmingham Gynghrair Dinas Natur i greu gweledigaeth gyffredin ar gyfer seilwaith gwyrdd ar draws y ddinas. Roedd yr holl aelodau eisoes yn gweithio yn y sector, ond fe luniodd y gynghrair weledigaeth gyffredin, a ffyrdd o weithio. Mae’r Gynghrair bellach yn helpu i gyflawni nodau’r Cynllun Dinas Natur 25 mlynedd.

Dysgu am y Gynghrair
Dysgu am y Gynghrair

Lleisiau Ifanc dros Natur

Daeth yr RSPB, WWF a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol â 300 o bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed ynghyd i adrodd eu straeon am gefnogi natur. Roedd yna weithdai sgiliau ar adrodd straeon, creu ffilmiau ac eiriolaeth. Cafodd y ffilm a gynhyrchwyd am eu gweledigaeth ei sgrinio mewn sinemâu.

Dysgu am Leisiau Ifanc
Dysgu am Leisiau Ifanc

Cam 3: y lansiad mawr

Gall digwyddiad neu lansiad cyhoeddus godi ymwybyddiaeth ac annog rhagor o bobl i helpu i wireddu eich gweledigaeth.

Dylai ymgysylltu â’r weledigaeth fod yn hawdd er mwyn sicrhau ei bod yn berthnasol i amrywiaeth eang o bobl. Rhowch gynnig ar bleidleisiau ar-lein a mandad cyhoeddus drwy grwpiau sefydledig ac aelodau etholedig.

Byddwch yn hollol glir ynghylch diben cyfraniadau pobl er mwyn helpu i reoli disgwyliadau. Os ydych yn gofyn eu barn, rydych yn ‘casglu gwybodaeth’. Os ydych yn gadael i bobl gyflwyno eu syniadau ar blatfform cyfartal, yna rydych yn ‘penderfynu gyda’ch gilydd’.

Awgrymiadau ardderchog i gam 3

Rhowch eich gweledigaeth ar-lein i’w gwneud yn fwy amlwg.

Rhowch farn sawl llais yn y naratif.

Ystyriwch leoliadau nad ydynt yn draddodiadol ar gyfer digwyddiadau wyneb yn wyneb e.e. lleoliadau difyr fel llawr sglefrio, neu yurt hyd yn oed!

Ffyrdd o gynllunio ar y cyd

Cliciwch ar ‘Dysgu rhagor’ ar bob un o’r teitlau isod i ganfod dulliau cynllunio awgrymedig i gefnogi cam 3.

1

Fideos lansio

2

Ardaloedd i weithio ar y cyd

3

Cyllidebu cyfranogol

4

Ail-ddychmygu cyhoeddus

Cynllunio cyfranogol ar waith

Cymerwch olwg ar yr astudiaethau achos isod i weld sut mae lleoedd wedi rhoi eu dulliau cynllunio cyfranogol yng ngham 3 ar waith.

Cynllun Natur y Bobl

Casglodd y WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol farn dorfol gan 30,000 o bobl am y ffyrdd gorau o greu newid.

Darllen yr astudiaeth achos
Darllen yr astudiaeth achos
Two people talking in a garden next to a shrub.

Rhaglen Northern Network Groundwork

Mae Groundwork yn cefnogi grwpiau cymunedol i gyd-greu Hybiau Cymunedol Gwyrdd, meithrin arweinyddiaeth gymunedol ar lefel gymdogaeth a chreu rhwydwaith o gymorth rhwng cyfoedion.

Dysgu rhagor am y rhaglen
Dysgu rhagor am y rhaglen

Pecyn Cymorth Safonau Mannau Agored

Nododd Prosiect Parciau’r Dyfodol Swydd Gaergrawnt a Peterborough, mewn partneriaeth â Chyngor Dosbarth Fenland, gamau argymelledig i awdurdodau lleol ddatblygu safonau mannau agored. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys yr hyn a ddysgwyd ynghylch ymgysylltiad cyhoeddus.

Darllen y pecyn cymorth
Darllen y pecyn cymorth