A group of people sit in a circle in the woods, sharing warm drinks and chatter. They're dressed for hard work with high vis orange jackets.

Datblygwch rwydwaith ar gyfer gwirfoddolwyr mannau gwyrdd

23-02-2026

Dechreuwch arni gyda...

Astudiaeth Achos

Sut mae pethau da' yn digwydd i bobl a natur pan mae awdurdodau lleol a grwpiau Cyfeillion yn rhoi eu pennau a'u calonnau at ei gilydd.
Cymunedau - Cyfeillion grwpiau

©Jungle

Grym cyfunol dros natur

Mae fforymau ar gyfer grwpiau ‘Cyfeillion’ a gwirfoddoli mannau gwyrdd yn helpu pobl i wneud mwy gyda’i gilydd dros natur – drwy gysylltu, rhannu gwybodaeth a gwneud i bethau ddigwydd.

A phan mae awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth â’r rhwydweithiau hyn o wirfoddolwyr, mae’n helpu pobl a lleoedd i dyfu’n gryfach drwy:

  • Greu partneriaid ymddiriedig ar gyfer awdurdodau lleol sy’n awyddus i gyflwyno strategaethau uchelgeisiol dros natur a’r amgylchedd
  • Codi proffil y gwaith a gyflawnir gan wirfoddolwyr
  • Helpu i sicrhau cyllid a chryfhau’r achos i ddiogelu gwasanaethau gwyrdd hanfodol
  • Cysylltu cynghorau gydag unigolion ar lawr gwlad sy’n barod i wella parciau lleol a gwneud mannau gwyrdd yn fwy hygyrch
  • Galluogi grwpiau Cyfeillion i fod yn gefn i’w gilydd a gwneud cymdogaethau’n iachach a hapusach drwy natur

Rhwydweithiau mewn niferoedd

Mae ymchwil yn dangos bod potensial i filoedd mwy o grwpiau i ymuno â Fforymau ar gyfer gwirfoddolwyr natur. A gall awdurdodau lleol chware rhan allweddol mewn eu dwyn ynghyd.

70+

Mae Fforymau gyda thros 3,000 o grwpiau gwirfoddoli lleol yn bodoli ledled y DU

Mae Ffederasiwn Cenedlaethol Parciau a Mannau Gwyrdd (NFPGS) yn galw am Fforwm grŵp gwirfoddolwyr ym mhob ardal a thref yn y DU.

Ewch i NFPGS

7,000+

Mae grwpiau Cyfeillion lleol annibynnol ar waith ledled y DU

Mae adroddiad Parks Community UK yn dangos eu bod yn fwy tebygol o wneud tasgau ymarferol, trefnu digwyddiadau ac adrodd am broblemau cynnal a chadw.

Darllenwch adroddiad Better Friends

1,000+

Mae oriau gwirfoddolwyr yn cael eu cyfrannu fesul grŵp Cyfeillion, fesul blwyddyn ledled y DU

Mae hyn gyfwerth ag oddeutu 7 miliwn o oriau a allai gefnogi awdurdodau lleol gyda nodau uchelgeisiol i bobl a natur.

Darllenwch adroddiad Better Friends

60%

Mae grwpiau gwirfoddoli'n awyddus i weithio'n agos â pherchnogion neu reolwyr safle

Yn aml, yr awdurdod lleol yw hwn, gan amlygu cyfle am ragor o weithio mewn partneriaeth rhwng cynghorau a chymunedau.

Darllenwch adroddiad Better Friends

Cysylltu pobl dros natur

Bu Cyngor Dinas Leeds (LCC) a Fforwm Parciau a Mannau Gwyrdd Leeds yn cydweithio i gynnal rhwydwaith cadarn o grwpiau gwirfoddoli ers dros ddegawd.

Mae’r Fforwm yn annibynnol, yn ariannu ei hun, ac yn cael ei gynnal gan bwyllgor o saith gwirfoddolwr sydd hefyd yn gwirfoddoli yn eu mannau gwyrdd lleol.

Mae’n helpu i gyflawni Strategaeth Parciau a Mannau Gwyrdd y cyngor. Mae ganddynt nodau bioamrywiaeth cyffredin ac maent yn cefnogi mentrau parhaus fel plannu coed, coridorau gwyrdd a thyfu bwyd mewn ymateb i argyfwng hinsawdd Leeds.

Gwyliwch y fideo i ddysgu sut mae’r bartneriaeth yn gweithio a sut mae pobl a mannau gwyrdd y ddinas yn elwa ohoni.

©Jungle

Canllawiau plannu cydymaith ar gyfer partneriaethau

Mae LCC a Fforwm Parciau a Mannau Gwyrdd Leeds yn rhannu pedwar awgrym i helpu awdurdodau lleol a rhwydweithiau gwirfoddoli mannau gwyrdd i weithio a ffynnu gyda'i gilydd.

O osod nodau cyffredin i ffurfioli’r bartneriaeth a meithrin ymddiriedaeth, dewch i ddwyn ysbrydoliaeth o’r hyn sydd ar dwf yn Leeds a dechreuwch hau ar gyfer partneriaethau yn eich tref neu’ch dinas chi.

Sut mae’n datblygu yn Leeds:

  • Mae gwaith y Fforwm wedi’i wreiddio yn Strategaeth Parciau a Mannau Gwyrdd LCC. Mae’r Fforwm, a sefydlwyd yn 2013 fel un o amcanion y cyngor yn strategaeth 2021/22, y parhau i chwarae rhan hollbwysig yn y strategaeth bresennol a’r cynllun gweithredu ategol hyd 2032. Heb fod mewn unrhyw drefn benodol, ei flaenoriaethau yw:
    • Lliniaru yn erbyn pob agwedd ar newid yn yr hinsawdd a gwella bioamrywiaeth, gan hyrwyddo pa mor bwysig yw creu, cynnal a gwella coridorau glas a gwyrdd
    • Hyrwyddo buddion mannau gwyrdd cyhoeddus, a mynediad atynt, ar gyfer iechyd a llesiant
    • Cefnogi ac annog plannu coed ar draws Leeds, yn cynnwys cynnal a chadw a gwarchod
    • Helpu i gyflwyno mentrau tyfu bwyd mewn parciau a mannau gwyrdd lle bo’n briodol, gan weithio mewn partneriaeth â Feed Leeds, mudiad Incredible Edible y ddinas, a thyfwyr cymunedol eraill
    • Gwella cyfathrebu, ymgysylltiad a phroses recriwtio’r Fforwm drwy lwyfannau digidol (Instagram, YouTube a/neu LinkedIn), datblygu gwefannau, a gweithgarwch newyddion a marchnata ehangach.

 

  •  Mae cefnogaeth y Fforwm dros fentrau fel plannu coed, coridorau gwyrdd a thyfu bwyd yn atgyfnerthu ymateb LCC i argyfwng hinsawdd Leeds, a gafodd ei ddatgan yn 2019.
  • Mae’r Fforwm yn croesawu siaradwr (ar thema sy’n gysylltiedig ag un o’i flaenoriaethau) ym mhob Cyfarfod Aelodau, gan gynyddu ymwybyddiaeth o’i waith strategol.

 

 

Y buddion maent yn eu cael:

Mae cyd-fynd â strategaeth LCC yn ei gwneud yn glir yr hyn mae’r Fforwm yn ei gefnogi a pham yn y dirwedd wleidyddol. Mae hefyd yn sicrhau bod ei waith yn ategu uchelgeisiau ehangach i bobl a natur ar draws y ddinas.

Sut mae’n datblygu yn Leeds:

  • Mae gan y Fforwm Femorandwm Dealltwriaeth â LCC er mwyn ffurfioli’r berthynas ac egluro’r hyn y bydd pob parti yn ei gyflawni.
  • Mae unrhyw weithgarwch Fforwm yn cael ei rannu’n rheolaidd o fewn timau allweddol y cyngor (e.e. rhannu cofnodion cyfarfodydd gyda thîm Allgymorth y Parciau, sy’n cynnwys Ceidwaid y cyngor).
  • Mae sicrhau statws partneriaeth ‘swyddogol’ wedi helpu’r Fforwm i ddenu 100 o grwpiau aelod (yn cynnwys Cyfeillion grwpiau, grwpiau cymunedol, grwpiau In Bloom a changhennau lleol o elusennau cenedlaethol megis y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS), y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), Y Gwirfoddolwyr Cadwraeth (TVC), Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a Chynghorau Plwyf).

Y buddion maent yn eu cael:

Mae ymrwymiad drwy Femorandwm Dealltwriaeth yn gosod y sylfeini i gefnogi gwaith cymunedol o fewn fframwaith awdurdod lleol. Mae’n ategu amlygrwydd a chynrychiolaeth barhaus y Fforwm ar draws LCC, gan agor drysau er mwyn hwyluso mynediad at uwch swyddogion a chynghorwyr ac ychwanegu pwysau os oes angen iddynt ac uwchgyfeirio materion.

Sut mae’n datblygu yn Leeds:

Drwy’r bartneriaeth, mae LCC a’r Fforwm yn cynnig cryn dipyn o gydgefnogaeth i’w gilydd:

  • Mae un o reolwyr LCC yn gweithredu fel Ysgrifennydd, gan sicrhau bod y wefan yn cael ei diweddaru, anfon gohebiaeth rhwng cyfarfodydd a chyd-olygu tudalen Facebook y Fforwm.
  • Mae Uwch Swyddog y Parciau neu’r dirprwy yn mynychu cyfarfodydd y Fforwm er mwyn diweddaru aelodau ac ateb cwestiynau.
  • Mae swyddogion y cyngor yn rhoi cyflwyniadau i’r aelodau yn eu cyfarfodydd, sy’n cynnwys egluro pam mae pethau’n digwydd a sut (e.e. trefnu digwyddiadau), a chynnig diweddariadau a thawelwch meddwl (e.e. cadarnhau y bydd offer maes chwarae newydd yn cael ei osod i ddisodli’r rhai a ddifrodwyd).
  • Mae’r Fforwm yn defnyddio lleoliadau LCC i gynnal ei gyfarfodydd.
  • Helpodd LCC i ariannu pamffledi recriwtio pan sefydlwyd y Fforwm am y tro cyntaf.
  • Yn gyfnewid am hyn, mae’r Fforwm yn parhau i ddenu aelodau newydd sy’n ychwanegu at yr unigolion ‘ar lawr gwlad’ (gan ofalu am fannau gwyrdd lleol a allai fel arall fod yn fwrn ychwanegol ar adnoddau prin y cyngor).
  • Mae cynrychiolwyr y Fforwm yn creu cysylltiadau a sefydliadau eraill o’r un anian (e.e. dwy o brifysgolion Leeds a Love Leeds Parks – elusen fechan sy’n gweithio i rymuso cymunedau mewn ardaloedd nad ydynt yn hawdd eu cyrraedd i lunio a defnyddio eu mannau gwyrdd lleol.
  • Mae’r Fforwm yn defnyddio rhwydweithio er mwyn manteisio ar gymorth ychwanegol i aelodau (e.e. darparodd Love Leeds Parks grant bychan tuag at sesiwn hyfforddiant cymorth cyntaf brys).

Y buddion maent yn eu cael:

Mae cydgefnogaeth yn sicrhau bod y Fforwm a’r bartneriaeth yn gryfach yn yr hirdymor. Mae cael mynediad at arbenigedd ac adnoddau’r cyngor yn arbed arian i’r Fforwm ac yn helpu i fagu hyder aelodau. Yn ei dro, mae’n gallu cyflawni mwy i bobl a natur, sy’n tynnu rhywfaint o’r pwysau oddi ar amser ac adnoddau’r cyngor.

Sut mae’n datblygu yn Leeds:

  • Dros amser, mae LCC wedi datblygu ffydd yn y Fforwm i wneud mwy ac ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb. Mae’n broses barhaus o hyd.
    Mae uwch swyddogion yn gwrando ar farn y Fforwm (e.e. mae’r Fforwm wedi ymateb i arolygon ac ymgynghoriadau dros y blynyddoedd ynghylch ffioedd meysydd parcio, y posibilrwydd o gau rhai lawntiau bowlio, plannu coed trefol a thorri’r glaswellt yn llai aml ).
    Ymgynghorwyd â’r Fforwm ar Strategaeth Parciau a Mannau Gwyrdd y cyngor.

Y buddion maent yn eu cael:

Mae parch o’r ddwy ochr yn rhoi lle i bob llais yn y rhwydwaith gael ei glywed, gan roi dolen hanfodol i aelodau allweddol tîm y cyngor fel y Ceidwaid at farn eu cymunedau drwy wybodaeth leol a phrofiad y Fforwm a’r aelodau.