Gwneuthurwyr natur: Yr Ymddiriedolaethau Natur
12-02-2026
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Astudiaeth Achos
12-02-2026
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Astudiaeth Achos
Rheolwr Trefnu Cymunedol Cymdeithas Frenhinol Ymddiriedolaethau Natur
Uwch Reolwr Ymgysylltu Ymddiriedolaeth Natur Hampshire ac Ynys Wyth
Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn newid y naratif a cyn rhoi’r brif rôl i bobl leol. I gyflawni nodau uchelgeisiol ar gyfer natur a’r hinsawdd, cynorthwywyd cymunedau i ddod ynghyd a helpu i adfer a thyfu mannau gwyrdd.
Yn 2022 dyfarnodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (Cronfa Dreftadaeth) £5 miliwn i Ymddiriedolaethau Natur i brofi rhaglen drefnu gymunedol genedlaethol. Am bron i dair blynedd, ailgysylltodd Natur Drws Nesaf grwpiau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli gyda natur mewn miloedd o gymunedau, gyda channoedd yn parhau i weithio heddiw.
Am y tro cyntaf, nid natur oedd y prif gymeriad i’r Ymddiriedolaethau Natur. Cychwynnodd rolau ‘trefnwyr cymunedol’ newydd, a grëwyd mewn 44 Ymddiriedolaeth ar draws y DU, ffyrdd newydd o weithio a oedd yn canolbwyntio ar bobl. Drwy’r model hwn, cynorthwywyd cymunedau i gysylltu, dysgu sgiliau newydd a theimlo’n hapusach, iachach a fwy balch o ble roeddent yn byw, gweithio a chwarae.
Teg yw dweud bod rhoi’r sylw i gyd i fuddion cymunedol yn newid diwylliannol sylweddol i sefydliad cadwraeth natur gwirfoddol mwyaf y DU.
Mae Bryony, Dawn a Jo yn siarad â ni am y ffordd y gwnaeth yr Ymddiriedolaethau Natur y symud o natur i bobl drwy drefnu cymunedol, a sut mae wedi’i ymgorffori yn eu gwaith adfer natur yn yr hirdymor.
Mae ‘trefnu cymunedol’ yn disgrifio ffordd o weithio gyda chymuned. Mae’n cychwyn gyda ‘threfnwyr cymunedol’ yn cnocio ar ddrysau ac yn gwrando ar y bobl sy’n byw a gweithio mewn ardal leol. Gyda’i gilydd, maent yn trafod yr hyn sy’n bwysig i’r gymuned a’r hyn y mae’n awyddus i’w wneud. Drwy ganolbwyntio ar gryfderau’n hytrach na ffaeleddau, gall trefnwyr cymunedol gynnig cymorth a chefnogaeth ymarferol i’w helpu i gyflawni eu nodau.
Efallai bod croesawu ffordd newydd o weithio'n ymddangos fel troad annisgwyl. Serch hynny, roedd yr amser yn berffaith am newid yn Yr Ymddiriedolaethau Natur. Mae Bryony, Dawn a Jo yn rhannu pedwar rheswm pam mae dull o drefnu cymunedol yn cyd-fynd â'u nodau sefydliadol.
Felly, beth yw'r elfennau hanfodol o gyflwyno model trefnu cymunedol ar raddfa genedlaethol?
Er mwyn eich helpu i lunio eich cynllun gweithredu eich hun, dyma ambell awgrym defnyddiol gan Bryony, Dawn a Jo.
Byddwch yn hyderus i recriwtio pobl gydag ystod o sgiliau a phrofiad mwy amrywiol.
“Aethom ati i gyflogi amrywiaeth go iawn o unigolion nad oeddent erioed wedi gweithio ym maes bywyd gwyllt o’r blaen,” meddai Bryony, “rhai fu’n gweithio i’r GIG, rhai o gefndiroedd datblygu cymunedol a rhai a fu’n gweithio ym maes cysylltiadau hil neu gyda cheiswyr lloches.”
“Daethant i mewn gyda phersbectif cwbl wahanol a dealltwriaeth gadarn o ystyr ‘trefnwr cymunedol’. Roedd hyn yn newid pethau’n llwyr.”
Cafodd y trefnwyr cymunedol amser a lle i gysylltu â gwasanaethau cymunedol, grwpiau ac unigolion mewn gwahanol ffyrdd.
“Aeth ein trefnwr cymdeithasol i mewn heb unrhyw agenda” meddai Dawn, “rydym yn ceisio osgoi targedau a bennwyd ymlaen llaw gan adael iddyn nhw arwain y ffordd.”
Fe ddechreuon nhw drwy wrando’n astud a thrwy sgwrsio’n hamddenol â phobl am eu hanghenion, eu dymuniadau a’u heriau. Bu’r trefnwr cymunedol yn cnocio ar ddrysau, mynychu digwyddiadau, cymryd rhan mewn cyfarfodydd a chynnal gweithdai. A’r mwyaf a glywsant, y gorau oedd eu dealltwriaeth o bwy oedd yn awyddus i gymryd rhan mewn beth.
Yn ogystal â gwrando, bu timau lleol yn defnyddio data drwy fapio cymunedol er mwyn helpu i ddod â phopeth at ei gilydd a nodi lleoedd gyda’r angen mwyaf am bobl a natur.
“Buom yn edrych ar fap yn dangos mynediad at fannau gwyrdd gan Cyfeillion y Ddaear. Roedd yn nodi Hull, Doncaster, Bradford a Huddersfield fel ein hardaloedd ffocws” meddai Jo. “Mae’r ardaloedd hynny’n sefyll allan fel rhai coch neu oren, gan ddangos cyfle i ymgysylltu ag unigolion nad ydynt o bosib mor gysylltiedig â natur ac nad oes ganddyn nhw fynediad at fannau gwyrdd mewn cweit yr un ffordd.”
Gall strategaethau lleol hefyd, fel Asesiadau Strategol o Anghenion ar y Cyd (JSNA), helpu i amlygu ardaloedd a fyddai wirioneddol yn cael budd o gymorth.
Mae trefnwyr cymunedol yno i ddatblygu pŵer gyda phobl fel y gallent weithredu drostynt eu hunain. Dyma rai o’r ffyrdd yr aethant ati i hwyluso, cymell ac addysgu:
Eglurodd Dawn, “Rydym yn mynd i mewn, cynnig ysbrydoliaeth a chymorth cychwynnol, ac yna’n camu’n ôl yn raddol.”
Roedd trefnu cymunedol yn newydd a gwahanol i’r Ymddiriedolaethau Natur. Gan ei bod yn bwysig bod pawb yn deall yr hyn roeddent yn gweithio tuag ato, cafodd 200 o aelodau staff eu hyfforddi’n ffurfiol – gan ennill Dyfarniad Lefel 3 mewn Trefnu Cymunedol yr Academi Trefnu Cymunedol Genedlaethol (NACO) achrededig.
Yna, aethant ymlaen i ddatblygu cynllun ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ er mwyn gwreiddio’r ddysg hon, gyda hyblygrwydd i’w datblygu wrth i anghenion unigol a sefydliadol newid dros amser.
“Daethom â hyrwyddwyr allweddol ynghyd i ddatblygu’r cynllun ‘hyfforddi’r hyfforddwr’,” medd Bryony yn frwdfrydig,“yna cafodd cydweithwyr o bob rhan o’r Ymddiriedolaethau Natur eu hyfforddi gennym. Mae wedi parhau’r momentwm, er bod Natur Drws Nesaf wedi dod i ben yn swyddogol.”
Mae’r cyngor lleol yn rhan annatod o’r bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth, pobl, grwpiau, ysgolion a busnesau lleol. Gall perthnasoedd da agor cyfleoedd i brosiectau cymunedol.
“Roedd Cyngor Dinas Portsmouth – a’r tîm Iechyd y Cyhoedd yn benodol – yn cyd-fynd yn union â’n ffordd ni o feddwl” meddai Dawn, “Roeddent yn derbyn ein brys newydd a’n huchelgeisiau am fwy o weithredu ystyriol dros natur gan fwy o bobl.
Roedd gennym ddyheadau ar y cyd i wneud pobl yn hapusach, yn iachach a cyn fwy gwydn i newid hinsawdd a ddaeth at ei gilydd yn dda iawn.”
Roedd timau mewnol yn cydweithio mewn nifer o ffyrdd, gan elwa o wybodaeth a phrofiad ei gilydd. Roedd y rhain yn cynnwys:
Roedd gan dimau sy’n ymwneud â Natur Drws Nesaf ddigwyddiadau preswyl rheolaidd hefyd i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd a’r hyn oedd yn digwydd.
Roedd y rhain yn cynnwys digwyddiadau preswyl wyneb yn wyneb lle roedd timau yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn. Roed dyna gyfleoedd dysgu megis edrych ar offer gwerthuso fel mapio effeithiau crychdonni, cyfle i siarad, rhannu syniadau a rhoi hwb i’r ysbryd.
Fel unrhyw brosiect sy'n ymwneud â newid diwylliannol ar raddfa fawr, bu rhai dyddiau glawog yn fewnol yn ogystal â thu allan. Mae Bryony, Dawn a Jo yn rhannu eu syniadau ar sut i oresgyn yr heriau a ddaw yn sgil ffyrdd newydd o weithio.
Er bod y prosiect Natur Drws Nesaf wedi dod i ben yn swyddogol yn 2024, mae ei waddol yn parhau.
Mae’r tîm yn tynnu sylw at rai o’r ffyrdd mae trefnu cymunedol yn dal ati i gyflawni ar gyfer pobl a natur drwy waith parhaus Ymddiriedolaethau Natur lleol a’u cymunedau.
Mae’r ethos trefnu cymunedol yn rhan annatod o Strategaeth 2030 yr Ymddiriedolaethau Natur, yn annog gwaddol Natur Drws Nesaf ymlaen.
“Mae’n ffordd o weithio, yn ymwneud â chysylltu, gwrando a meithrin perthnasoedd dwyochrog dibynadwy” meddai Bryony.
Bydd Strategaeth 2030 yr Ymddiriedolaethau Natur yn arwain at y ffederasiwn yn sefydlu trefnu cymunedol ar draws eu holl ffrydiau gwaith, gan roi pobl yn ganolog i bopeth a wnânt. “Mae strategaeth newydd Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog yn sôn am greu gobaith, datblygu pŵer a gweithredu. Gwyddom fod gweithio’n gydweithredol i greu cymunedau lle gall pobl a natur ffynnu gyda’i gilydd yn hanfodol i sicrhau adferiad byd natur” meddai Jo.
Bydd yr Ymddiriedolaethau Natur yn parhau i fynd â buddion trefnu cymunedol i mewn i hyd yn oed mwy o gymdogaethau dros y blynyddoedd nesaf. Daw’r gwaith hwn ynghyd o dan yr enw cyfunol ‘Tîm Gwyllt’.
“Dwi ddim yn credu y byddai Tîm Gwyllt wedi cael yr un effaith ag a gafodd, oni bai am Natur Drws Nesaf” myfyriodd Dawn, “gan fod gennym bellach waith modelu tîm yn digwydd ar draws yr holl adrannau a hon yw’r ffordd o weithio arferol y mae pawb yn ei deall.”
Gweler Tîm Gwyllt wrth ei waith drwy Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog.
Gweler Tîm Gwyllt wrth ei waith drwy Ymddiriedolaeth Natur Hampshire ac Ynys Wyth
Mae Natur Drws Nesaf wedi dangos yn glir i uwch reolwyr y buddion o gefnogi cymunedau i arwain y ffordd.
“Creais ddogfen ganlyniadau a helpodd ein huwch dîm arwain a’n hymddiriedolwyr i’w ddeall yn iawn” meddai Jo. “Mae gennym staff mewn timau eraill sy’n cael eu hyfforddi fel trefnwyr cymunedol, sydd wedyn yn sefydlu’r dull trefnu cymdeithasol hwnnw yn eu prosiectau.”
Cytunodd Bryony, “Bu’n rhaid i ni oresgyn gymaint o rwystrau o gylch arsyniadau mai nid gwaith cadwraeth yw hwn – sy’n anghywir wrth gwrs. Mae llawer o waith yn cael ei wneud bellach i helpu ein cydweithwyr adfer byd natur i ddeall sut maen nhw’n ffitio i mewn i’r ffordd hon o weithio.”
Mae Bryony yn mynd ymlaen i ddweud, “Mae ein taith wedi’i gweld a’i chlywed ar draws y sector hefyd, o lefel cyfarwyddwyr i swyddogion yn cyflwyno i gynghorau. Dydyn ni ddim yn cuddio’r gwir am y broses, a chaiff hyn ei gydnabod gan ein cymheiriaid y tu allan i’r Ymddiriedolaethau Natur sydd eisiau arsylwi a deall.”
Drwy symud y sylw oddi wrth natur tuag at bobl, helpodd prosiectau a gychwynwyd ac a gefnogwyd drwy Natur Drws Nesaf i ddatgloi cyfleoedd ariannu y tu hwnt i’r sector natur.
“Rydym wedi symud ymhellach na ‘dewch draw i wneud diwrnod tîm gyda ni a phlannu ychydig o goed a chael crys-t’” pwysleisiodd Bryony. “Gallwn nawr ddangos effaith mesuradwy, go iawn yn y gymuned ac ar fywydau pobl.”
“Pan mae cyllidwyr yn buddsoddi yn ein gwaith trefnu cymunedol, mae’n rhoi llai o gyllid cyfyngedig i Ymddiriedolaethau fynd i mewn a datblygu, gan feithrin cysylltiadau hanfodol” ychwanegodd.
Nid yw gwaith a arweinir gan y gymuned yn ffitio’n daclus i amserlenni prosiect tymor byr. “Dim ond llwyddo i feithrin ymddiriedaeth a hygrededd ydych chi a dweud y gwir cyn i’r cyllid ddod i ben” meddai Jo. “Roedd cyllid y Gronfa Treftadaeth yn gatalydd ar gyfer newid, a’n galluogodd ni i fuddsoddi mewn ffordd newydd o weithio lle gallai ymddiriedaeth a chysylltiadau ddatblygu ar eu cyflymder eu hunain.”
Dywed Bryony wrthym fod Natur Drws Nesaf wedi deffro pawb at y ffaith eu bod wedi’u cyflyru gan gyllid tymor byr i weithio mewn ffordd benodol. Maen nhw’n meddwl yn fwy hirdymor erbyn hyn.
“Rydym yn awyddus i dorri’r cylch a chreu perthynas gyda chymuned gan ddweud, ‘Ar ddiwedd hyn, rwyf am gamu’n ôl oddi wrthoch, ond rwyf am roi popeth sydd ei angen arnoch i wneud pethau drosoch eich hun’.”
Mae’n mynd ymlaen i ddweud, “Rydym eisiau pwyso ar y cyllidwyr a dweud ei fod am gymryd blwyddyn i ddatblygu perthynas, yna mae’n mynd i gymryd pum mlynedd arall i ni roi popeth ar waith.”
Mae’n edrych yn debyg bod y ffordd newydd hon o feddwl eisoes yn dwyn ffrwyth. “Oherwydd ein bod ni wedi gallu dangos yr effaith mae’r ffordd newydd hon o weithio yn ei chael, mae fy nhîm am gael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Sigrid Rausing y flwyddyn nesaf, sy’n gyffrous iawn” meddai Jo, “Maent yn ariannu gwaith dyngarol anhygoel ar hyd a lled y byd, felly mae’n fraint o’r mwyaf eu bod wedi cysylltu â ni.”
“Rydym hefyd wedi sicrhau contract iechyd cyhoeddus sylweddol yn Bradford i weithio’n gydweithredol ar draws y ddinas i gyflawni canlyniadau i bobl a natur dros y ddwy i dair blynedd nesaf.”
Yn yr Ymddiriedolaethau Natur, mae trefnwyr cymunedol yn mynd o nerth i nerth. “Rydym yn datblygu’n gyson ac ar fin dechrau ar dri llif gwaith arall. Mae gennym grŵp arbennig o drefnwyr erbyn hyn felly mae’n fater o ofyn i ni’n hunain sut rydym yn datblygu ac uwchsgilio hynny i helpu arweinwyr cymunedol i fynd ati i weithredu mwy” meddai Bryony.
Mewn cymunedau, mae’n ymwneud â gweithio mewn partneriaeth a chreu rhwydweithiau o gefnogaeth. Dod â phobl ynghyd i gefnogi ei gilydd a chysylltu grwpiau ag eraill sy’n gallu eu cefnogi nhw.
Mae Jo yn dyst i’r newid hwn yn Swydd Efrog “Mae pob math o grwpiau cymunedol yr oeddem yn eu cefnogi drwy Natur Drws Nesaf bellach yn cefnogi grwpiau cymunedol newydd eraill sy’n dod ynghyd i weithredu dros fyd natur.”
Mae Rhaglen Arloeswyr yr Alban hefyd yn enghraifft wych o sut mae Ymddiriedolaeth leol yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr natur. Mae’r rhaglen, a ddechreuodd drwy Natur Drws Nesaf, bellach yn gwrs ar-lein am ddim sy’n estyn allan i helpu hyd yn oed mwy o bobl.
Offeryn digidol byw a hawdd ei ddefnyddio ar gyfer Ymddiriedolaethau Natur lleol i gofnodi data ansoddol ynghylch sut mae pobl yn helpu natur, a’i ddadansoddi dros amser.
Mae’r ap hwn wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn ymchwil cenedlaethol a gwyddor ymddygiadol, ac wedi’i arwain gan ‘Raddfa Cynnydd Deilliannau’ M·E·L Research.
Gall pob Ymddiriedolaeth weld dangosfwrdd gyda’u data lleol a’r golwg cenedlaethol, gan eu helpu i ddarganfod patrymau a llunio mewnwelediadau ynghylch gweithredu cymunedol ar gyfer natur.
Mae’r Hwb Cymunedol yn cysylltu pobl leol sy’n poeni ynghylch natur ac yn rhoi’r hyn sydd ei angen arnynt i sefydlu grwpiau cymunedol newydd.
Yn llawn canllawiau, ysbrydoliaeth a straeon, mae’n allbwn uniongyrchol o Natur Drws Nesaf, gyda straeon a chyngor gan y nifer o grwpiau a gymerodd ran yn y rhaglen, fel y gall eraill ddilyn yn ôl eu troed.
Ymwelwch â’r Hwb Cymunedol
Dysgwch ragor am drefnu cymunedol a chanfod pa gyfleoedd hyfforddi sydd ar gael ar gyfer eich sefydliad neu awdurdod lleol.
Sefydliad arweiniol ar gyfer hyfforddiant, cymorth a gweithredu trefnu cymunedol yn y Deyrnas Unedig.
Mynd i’r wefan
Yn darparu hyfforddiant sicrhau ansawdd a chymwysterau cydnabyddedig cenedlaethol mewn trefnu cymunedol.
Gweler y cyrsiau