Bod yn rhan o Drefi a Dinasoedd Byd Natur

Wrth inni feithrin cymuned lewyrchus, greadigol a chefnogol gyda’r ymrwymiad a’r gallu i arwain newid cadarnhaol gwirioneddol ledled y DU, gofynnwn ichi gadw’r gwerthoedd hyn mewn cof

  • Byddwch yn rhan weithredol o goalisiwn yn arwain newid ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
  • Ymrwymwch i weithredu a chyflawni newid cadarnhaol i bobl, lle a byd natur
  • Byddwch yn fodlon herio’r sefyllfa bresennol er mwyn creu newid cadarnhaol i bobl, lle a byd natur
  • Cydweithredwch a rhannwch wybodaeth, adnoddau, a sgiliau gydag eraill, gan helpu pobl ar draws disgyblaethau gwahanol i ddysgu oddi wrth ei gilydd
  • Hyrwyddwch y gwaith a wnawn gyda’n gilydd
  • Byddwch yn agored ac yn fodlon rhannu’r man hwn gydag eraill ac arwain gyda’ch gilydd
  • Helpwch i greu amgylchedd croesawgar, cynhwysol a chyfeillgar
Two people in hard hats and hi vis planting seedlings in a planter, in front of a graffitied wall

Ein haddewid

Yn ogystal â chytuno i’r un gwerthoedd ar y cyd, mae’r tîm Trefi a Dinasoedd Byd Natur hefyd yn addo:

  • Gwrando ar anghenion ein cymuned, ac ymateb iddynt
  • Osgoi dyblygu – byddwn yn arddangos a chyfeirio at waith da sydd eisoes yn bodoli
  • Bod yn eglur a gonest yn ein cyfathrebiadau
  • Datblygu digwyddiadau a gweithgareddau sy’n hygyrch, cynhwysol ac yn rhoi croeso i bawb
  • Creu amgylchedd lle all pobl weithio gyda’i gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd, yn ogystal â gwella eu sgiliau a rhannu gwybodaeth

Bydd y gwerthoedd hyn yn tyfu a datblygu dros amser i adlewyrchu egwyddorion, blaenoriaethau ac anghenion y gymuned Trefi a Dinasoedd Byd Natur. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi rhannu eu hamser a’u cipolygon hyd yn hyn.

 

Three people stand behind a fence to a yard with lots of potplants and garden gnomes

Ffyrdd o gydweithredu ag eraill

DU cyfan

Ymunwch â digwyddiad sydd i ddod

Cysylltwch â phobl o’r un anian o ledled y DU yn un o’n digwyddiadau sydd i ddod

Uchafbwyntiau digwyddiadau
Uchafbwyntiau digwyddiadau
A group of people walks down a path in a park.

Yn eich tref neu ddinas

Datblygwch weledigaeth ar y cyd

Ymchwiliwch i'n canllaw i'ch helpu i weithio gyda phartneriaid a chymunedau i ddychmygu dyfodol eich tref neu ddinas gyda'ch gilydd

Creu gweledigaeth gyda'n gilydd: dull partneriaeth
Creu gweledigaeth gyda'n gilydd: dull partneriaeth
People stood on a path looking at a garden area outside of a flat building.