Meithrin gwreiddiau ar gyfer tegwch a chynhwysiant
24-03-2026
Dechreuwch arni gyda...
Canllaw
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Rebecca Hughes
24-03-2026
Dechreuwch arni gyda...
Canllaw
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Rebecca Hughes
Mae gan natur y pŵer i’n gwneud yn iachach ac yn hapusach. Mae’r ffordd rydym yn cyrchu ac yn profi’r manteision hyn yn amrywio’n fawr o berson i berson, ac mae ffactorau economaidd-gymdeithasol, megis ble rydym yn byw, gwahanol gefndiroedd diwylliannol ac iechyd a lles yn dylanwadu ar hyn.
Mae tegwch yn yr awyr agored yn golygu cydnabod nad yw pawb yn cychwyn o’r un lle – sydd hefyd yn wir am lawer o agweddau ar ein bywydau bob dydd.
Mae’n hanfodol fod sefydliadau sy’n gweithio i ddod â natur i ardaloedd trefol yn meddwl am sut i sicrhau chwarae teg a helpu pawb o’u cymunedau lleol i deimlo bod croeso iddynt yn y mannau hyn, sydd o bosib yn anghyfarwydd i rai.
Mae’r canllaw hwn yn flas ar gyfres o weminarau gan Aneela McKenna, sylfaenydd Mòr Diversity, ar gyfer Cymdogaethau Natur yn 2025. Ei fwriad yw rhoi trosolwg o’r hyn mae tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) yn ei olygu mewn cyd-destun cymunedol a sut y gallant wneud natur yn fwy hygyrch i bawb.
Roedd gweminar gyntaf Aneela yn archwilio beth rydym yn ei olygu pan fyddwn yn sôn am gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant mewn cymunedau.
Roedd y sesiwn yn cyflwyno’r ‘continwwm perthyn’ i helpu sefydliadau i ddiffinio’r grwpiau sy’n ffurfio eu cymuned a dod o hyd i’r potensial i gynnwys rhai newydd. Mae yna hefyd fframwaith ar gyfer hau hadau tegwch, a disgrifiad o’r camau cynhwysiant o ran sut maent yn edrych ac yn teimlo i’r bobl dan sylw.
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Rebecca Hughes
Roedd y sesiwn hon yn edrych ar y ffordd mae diwylliant cynhwysol y tu mewn yn gosod y sylfaen ar gyfer mannau gwyrdd mwy croesawgar a chynhwysol y tu allan.
Arweiniodd Aneela gyfranogwyr o sefydliadau cymunedol i feddwl am gynhwysiant o fewn eu lleoliadau eu hunain. Trafodwyd sut i feithrin dewrder a mannau diogel i gael sgyrsiau anghyfforddus, a phwysigrwydd herio ei gilydd a’u ffordd arferol o wneud pethau ar hyd y ffordd.
©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Sophie Bolesworth
Roedd y weminar hon yn edrych ar sut i gryfhau lleisiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan weithio gyda chymunedau i ddod â manteision byd natur at garreg eu drws.
Dysgwch sut y gall pawb gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu hansawdd bywyd, trwy herio anghydraddoldeb o ran iaith, mynediad, adnoddau, a thrawma hanesyddol. Mae uchafbwyntiau’r fideo yn cyflwyno tri arweinydd sefydliadol sy’n hyrwyddo cynhwysiant yn yr awyr agored a’u profiadau o ymgysylltu â’r gymuned ‘yn y ffordd gywir’.
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Rebecca Hughes
Cyflwynodd Aneela ffyrdd o gysylltu â gwahanol bobl yn eich ardal drwy feithrin ymddiriedaeth, cyfathrebu’n effeithiol a chydweithio ar brosiectau natur.
Roedd y sesiwn yn archwilio ystyr ‘cydlyniant cymunedol’ a ffyrdd o’i gyflawni trwy weithgareddau byd natur fel garddio, prydau bwyd ar y cyd, ac archwilio mannau gwyrdd. Rhoddwyd sylw hefyd i sut i daclo gwrthdaro pan fydd yn codi drwy ymyrryd yn weithredol.
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Rebecca Hughes
Roedd y sesiwn hon yn parhau â'r thema datrys gwrthdaro, gan edrych ar sut i ymdrin â sefyllfaoedd anodd trwy gynghreiriaeth a gweithredu.
Mae’n amhosibl osgoi gwrthdaro ond mae ffyrdd o’i reoli’n gadarnhaol. Roedd y weminar yn cyflwyno ‘The Privilege Walk’ i ddeall sut y gall manteision ac adnoddau mewn cymuned fod wedi’u dosbarthu’n anghyfartal a ble y gall hyn arwain at wrthdaro. Mae pecyn cymorth cynghreiriaeth Mòr Diversity ar gael i helpu pobl i gefnogi ac ymyrryd ar ran cymdogion a allai fod yn byw heb y breintiau hyn eu hunain.
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Rebecca Hughes
Mae’r sesiwn hon yn ystyried pwysigrwydd creu profiadau croesawgar a theg i bawb, a sut i fynd ati i wneud hynny.
Dysgwch sut i gynllunio digwyddiadau cynhwysol sy’n hygyrch i bawb. Cliciwch y ddolen i groesgyfeirio cynlluniau digwyddiadau gyda rhestr wirio hygyrchedd Mòr Diversity. Hefyd cewch glywed gan bobl â phrofiad uniongyrchol o dreulio amser ym myd natur ar eu telerau eu hunain.
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Megan Taylor
Rhaglen bartneriaeth genedlaethol oedd Cymdogaethau Natur, rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB a WWF, wedi’i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r Co-op.
Syniad mawr y rhaglen oedd gweithio ochr yn ochr â 18 o sefydliadau cymunedol dros gyfnod o 2 flynedd, gan eu helpu i gyd-greu cynlluniau wedi’u pweru gan bobl ar gyfer natur yn eu cymdogaethau eu hunain.
Roedd pob cynllun cydweithredol wedi’i wreiddio’n gadarn ym mha bynnag gamau gweithredu dros natur a’r hinsawdd sydd bwysicaf i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yno. Ac fe gawson nhw eu gwireddu gyda chyllid, cefnogaeth a hyfforddiant Cymdogaethau Natur.