An adult and young child volunteer planting seeds.
Magenta illustration of a flower. The petals resemble houses.

Cynhadledd creu Trefi a Dinasoedd Byd Natur

05-06-2025 (Drwy'r Dydd)

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / James Dobson

Disgrifiad o'r digwyddiad

Os ydych wedi archebu lle yn y gynhadledd, dylech fod wedi derbyn e-bost gyda dolen ymuno ar 3 Mehefin. Os nad ydych wedi derbyn hwn, gwiriwch eich ffolder sbwriel, ac os nad yw yno anfonwch e-bost atom.

**Rydym yn llawn ar gyfer y digwyddiad hwn nawr, ond rydym yn gweithredu rhestr aros – cofrestrwch gan ddefnyddio “Cael eich hysbysu pan allwch ymateb” isod, ac os bydd gennym le ar ddydd Iau 5 Mehefin, byddwn yn anfon dolen ymuno atoch drwy e-bost.**

Mae rhoi mannau gwyrdd wrth wraidd ein cynlluniau ar gyfer ein trefi a dinasoedd a chyflawni newid ar raddfa tirwedd drefol yn gofyn am arweinyddiaeth uchelgeisiol a chydweithrediad. Ymunwch â’r gynhadledd hon i glywed gan arweinwyr y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd am ba reswm mae creu trefi a dinasoedd gwyrddach, iachach, a llewyrchus yn bwysig iddyn nhw a sut maen nhw’n arwain newid.

 

Paratowch at gymysgedd o areithiau, ynghyd â sesiynau sgwrsio ac astudiaethau achos o ledled y DU, a dysgwch am beth sy’n gweithio, a pham a sut allwch chi addasu a mabwysiadu yn eich lle chi. Bydd gweithdai ymarferol yn eich galluogi i ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd arnoch eu hangen i arwain yn eich tref neu ddinas. Galwch heibio fannau rhwydweithio rhyngweithiol i gwrdd â chyflawnwyr newid o’r un anian a chlywed rhagor ynghylch sut all Trefi a Dinasoedd Byd Natur eich helpu i greu trefi a dinasoedd byd natur yn eich lleoliad byw a gweithio.

 

Mae’r gynhadledd ar-lein un diwrnod hon i arweinwyr o bob lefel, o lywodraeth leol a’r sector cyhoeddus, sefydliadau cymunedol a gwirfoddol ac i fusnesau. Os ydych yn arwain dros newid uchelgeisiol ac yn cydweithredu ag eraill i greu trefi a dinasoedd gwyrddach, iachach, a llewyrchus, yna mae’r gynhadledd hon i chi.