A young person with black beanie smiles as she looks over a forest area. There's a group of people walking up behind her and lots of green foliage and trees.
Red illustration of a flower. The petals resemble houses.

Tyfu incwm i gymunedau – Gorffennaf

15-07-2026 1:30 PM - 15-07-2026 3:00 PM

Disgrifiad o'r digwyddiad

Cawsom rai problemau technegol yn ein digwyddiad diwethaf. Felly rydym yn ei gynnal eto. Ymunwch â ni i ystyried sut gall sefydliadau cymunedol ddefnyddio menter gymdeithasol werdd i gynhyrchu incwm wrth gefnogi’r amgylchedd.

 

Bydd panelwyr yn rhannu enghreifftiau llwyddiannus o fodelau menter gymdeithasol sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, gan ddangos sut mae sefydliadau yn cyfuno pwrpas â chynhyrchu incwm. Byddwch hefyd yn cael arweiniad clir ac ymarferol ar sut i ddechrau ymgorffori elfennau o’r modelau hyn yn eich dull codi arian eich hun.

 

Mae’n ddelfrydol ar gyfer sefydliadau cymunedol bach sydd:

 

  • Newydd ddechrau gyda menter gymdeithasol
  • Yn rhedeg gweithgaredd menter bach ac yn edrych i’w gryfhau
  • Â diddordeb mewn datblygu ffrydiau incwm mwy gwyrdd a mwy cynaliadwy.

 

Siaradwyr

 

  • Keely Siddiqui Charlick, MBE – Prif Swyddog Gweithredol, Sunnyside Rural Trust
  • Charlie Wright – Uwch Reolwr Cyfathrebu a Marchnata, School of Social Entrepreneurs
  • Jenny Hindson – Cyfarwyddwr Cymunedau a Thirweddau, Newquay Orchard.

 

Dewch draw, dysgwch o ddulliau profedig, a dechreuwch lunio dyfodol mwy cynaliadwy i’ch sefydliad.