Grantiau meithrin gallu
Dysgwch am leoedd a phrosiectau sydd wedi derbyn grantiau ar draws gwahanol ranbarthau a gwledydd.
Gogledd Lloegr
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Cyngor Dosbarth Metropolitan Dinas Bradford
Yn Bradford, dinas lle gall disgwyliad oes amrywio o 11 mlynedd rhwng wardiau gwledig a threfol, bydd prosiect y Chwyldro Gwyrdd yn gweithio gyda Sefydliad Ymchwil Iechyd Bradford i arloesi ffyrdd o werthuso’r buddion iechyd sy’n deillio o fynediad at natur yn y ddinas, wrth ddatblygu llwybrau at bresgripsiynu cymdeithasol gwyrdd.
Cymerwch gipolwg ar ein hadnoddau am ddim
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Annapurna Mellor
GreenWave Blackpool: Trawsnewid Natur Drefol i Bawb
Daw prosiect Greenwave Blackpool wrth i’r dref gael ei hadfywio’n sylweddol, gan roi cyfle i integreiddio seilwaith gwyrdd mewn datblygiadau newydd. Bydd y rhain yn rhan o strategaeth gynhwysfawr i wella mannau gwyrdd presennol a chreu rhwydwaith cysylltiedig o fannau amlswyddogaethol ar draws y dref.
Edrych ar ddigwyddiadau i ddod
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Gweledigaeth Werdd Rhanbarth Dinas Lerpwl: Uno Cymunedau â Natur
Bydd prosiect Dinas-ranbarth Lerpwl yn rhychwantu’r Awdurdod Cyfun cyfan, ac yn canolbwyntio ar ardaloedd â llai o fynediad at natur a chyfraddau uwch o amddifadedd iechyd ac economaidd. Bydd y prosiect yn trawsnewid mannau trefol nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol yn erddi cymunedol ffyniannus, tirweddau bwytadwy, a chynefinoedd bywyd gwyllt, gan sicrhau bod cymunedau'n cael eu cynnwys yn y gwaith o'u dylunio a'u gwarchod yn y tymor hir.
Dysgu am achrediad
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Cyngor Bwrdeistref Redcar a Cleveland
Bydd prosiect Tees Valley yn datblygu Rhwydwaith Natur Drefol Tees (TUNN). Bydd y bartneriaeth hon yn uno awdurdodau lleol, sefydliadau natur, busnesau a grwpiau cymunedol. Gyda chydweithrediad wrth ei wraidd, bydd yn ail-ddychmygu sut mae mannau naturiol y rhanbarth yn cael eu cynllunio, eu hamddiffyn, a’u dathlu gan gymunedau lleol, yn cynnwys cynllun mabwysiadwr newydd ar gyfer grwpiau lleol i gefnogi mannau gwyrdd eu cymdogaeth.
Cyfleoedd i fuddsoddwyr
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Gweledigaeth Werdd Manceinion a Salford: Cysylltu Natur Drefol
Gan alinio ag uchelgeisiau Cynllun Amgylcheddol 5 Mlynedd Manceinion Fwyaf, mae Salford a Manceinion yn gweithio gyda’i gilydd i greu rhwydwaith rhyng-gysylltiedig o fannau gwyrdd a glas – gan gysylltu parciau, dyfrffyrdd trefol, a safleoedd treftadaeth ddiwydiannol â choridorau bywiog sy’n gwella bioamrywiaeth wrth wella ansawdd bywyd trigolion.
Cefndir Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Annapurna Mellor
Cyngor Dinas Sunderland
Bydd prosiect Sunderland yn canolbwyntio ar adfywio mannau gwyrdd trefol – yn enwedig ardaloedd amwynder llai – ar draws pob un o bum rhanbarth y ddinas. Mae cynlluniau’n cynnwys ffocws ar gysylltu mannau gwyrdd cymunedol, parciau, llwybrau trafnidiaeth ac arfordir a glannau afonydd y ddinas, gan gysylltu pobl a chreu ymdeimlad o falchder yn yr amgylchedd lleol.

De Lloegr
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Prosiect "Nature Together" Bryste: Trawsnewid Mannau Gwyrdd Trefol
Bydd prosiect Natue Together Bryste yn dilyn arweiniad Paris i gyflwyno cynllun Trwydded Gwyrddio i’w gwneud yn haws i gymunedau weithredu dros fyd natur. Bydd Partneriaid Dinas yn dod ynghyd i ddatblygu a threialu ffyrdd newydd i fentrau amgylcheddol a arweinir gan y gymuned ddod o hyd i gyllid.

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Annapurna Mellor
Gweledigaeth Parc Rhanbarthol Ealing: Cysylltu Cymunedau â Natur
Bydd prosiect Ealing yn paratoi’r fwrdeistref ar gyfer creu Parc Rhanbarthol 586-hectar, a fydd yn cysylltu mannau gwyrdd a oedd wedi’u hynysu’n flaenorol ac yn creu Llwybr Treftadaeth Parc Rhanbarthol 8km – gan wella mynediad ac adfer natur a lleihau’r perygl o lifogydd.

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Gweledigaeth Werdd Portsmouth: Glasbrint ar gyfer Diwygiad Natur Drefol
Wrth i Portsmouth nesáu at ei ganmlwyddiant yn 2026, bydd prosiect yn uno mannau gwyrdd y ddinas sy'n gyfyngedig a darniog o ran hanes, gan wneud byd natur yn hygyrch i bawb, gyda phwyslais penodol ar rôl byd natur mewn iechyd a lles, a sut y gall mannau a nodweddion naturiol gefnogi’r ddinas i ddod yn wydn i’r hinsawdd.

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Gweledigaeth Werdd Lewisham: Uno Natur a Chymuned
Yn Lewisham, bydd tîm pwrpasol newydd yn datblygu Strategaeth Parciau a Mannau Agored gynhwysfawr i drawsnewid treftadaeth naturiol y fwrdeistref yn ecosystem gysylltiedig, ffyniannus sy'n cefnogi bywyd gwyllt a lles cymunedol. Mae’r cynlluniau’n cynnwys ymrwymiad i gynhwysiant, gan sicrhau bod cymunedau’n gallu dweud eu dweud ynghylch sut caiff mannau a rennir eu hailgynllunio ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

Canolbarth a Dwyrain Lloegr
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Trevor Ray Hart
Menter Cyswllt Natur Luton: Pontio Cymunedau â Mannau Gwyrdd
Nod prosiect Luton yw trawsnewid sut mae ei gymunedau’n cysylltu â byd natur, gan ganolbwyntio’n arbennig ar y rhai sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i gael mynediad at fannau gwyrdd. Bydd y prosiect yn cyflwyno hwb presgripsiynu cymdeithasol pwrpasol, yn creu cynllun pasbort gwirfoddolwyr, ac yn sefydlu rhaglen datblygu sgiliau, i gyd wrth ddod â choridorau gwyrdd Luton yn fyw trwy ddigwyddiadau sy'n dathlu treftadaeth naturiol a bioamrywiaeth yr ardal.

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Cyngor Dinas Norwich
Bydd NatureCityNorwich yn cyflwyno cynllun gweithredu adfer byd natur wedi’i ddylunio ar y cyd gan y gymuned ar gyfer Norwich Fwyaf, wedi’i lunio drwy ymgysylltu cymunedol helaeth gan gynnwys cynhadledd gyhoeddus a digwyddiadau hyfforddi ymarferol, ac a arweinir gan bartneriaeth o dri chyngor lleol, Ymddiriedolaeth Natur Norfolk, a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ffyniannus yr ardal.

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / John Millar
Gweledigaeth Werdd Walsall: Trawsnewid Natur ac Iechyd i Bawb
Yn Walsall, bydd cyllid yn mynd tuag at ddatblygu "Strategaeth Natur ac Iechyd 2040", sy'n cyfuno ymchwil arloesol gydag ymgysylltiad cymunedol. Bydd gwaith ymchwil a mapio yn dod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â’r bwlch mewn mannau gwyrdd rhwng dwyrain a gorllewin Walsall, gan nodi ardaloedd ar gyfer buddsoddiad pellach. A bydd cymunedau’n cael eu hannog i fod yn rhan o ddyfodol gwyrdd y dref trwy 'Adopt a Space' a rhaglenni grantiau cymunedol.

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Dadeni Gwyrdd Coventry: Cysylltu Cymunedau â Natur
Bydd dros 3,000 o bobl ifanc yn Coventry yn dysgu sgiliau gwyrdd newydd trwy brosiectau gwyddoniaeth dinasyddion, adnoddau addysg newydd a rhandiroedd ysgol. Bydd trigolion yn gallu darganfod natur gyfagos trwy adnoddau newydd ar wefan y cyngor, a fydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i lunio twf natur ar draws y ddinas mewn Strategaeth Seilwaith Gwyrdd newydd.

Cymru
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Mae Torfaen yn ceisio galluogi natur a chymunedau i ffynnu drwy uwchgynllun, a fydd yn creu rhwydweithiau hygyrch, gwydn, sydd wedi’u cysylltu’n dda o fannau gwyrdd a glas trefol ar draws tri chanol tref y fwrdeistref. Bydd yn ceisio meithrin gallu parhaol trwy hyfforddiant, lleoliadau profiad gwaith, a mynediad at arbenigedd mewn cynllunio tirwedd, ecoleg, ac atebion sy'n seiliedig ar natur.

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Dan arweiniad tîm pwrpasol o arbenigwyr bywyd gwyllt, mae "Natur Yn Ôl yn y Dref" yn ddull newydd o adfer natur drefol. Bydd y prosiect hwn yn adfywio mannau gwyrdd yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o ran natur, gan greu map ffordd ymarferol ar gyfer dyfodol amgylcheddol Port Talbot, gan wella bioamrywiaeth a gwydnwch hinsawdd. Bydd strategaeth seilwaith gwyrdd yn cael ei chreu ar y cyd â chymunedau, gan newid y ffordd maent yn rhyngweithio â natur yn eu bywydau bob dydd a rhoi ymdeimlad parhaol o berchnogaeth iddynt dros eu hamgylchedd lleol.

Yr Alban
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Rebecca Hughes
Trawsnewid Mannau Gwyrdd Fife
Mae Cyngor Fife yn bwriadu trawsnewid ei fannau gwyrdd trefol i wella gwytnwch hinsawdd, hybu twristiaeth, cyfoethogi diwylliant lleol, a gwella iechyd a lles ei gymunedau. Mae ymrwymiad cryf i gyd-ddylunio cymunedol yn rhedeg drwy'r cynlluniau. Yn benodol, bydd y prosiect yn nodi atebion i wella mynediad at fannau gwyrdd ar gyfer grwpiau ymylol, megis pobl mewn tlodi, ffoaduriaid a'r rhai ag anableddau.

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Megan Taylor
Agosach at Natur NL
Bydd y fenter arloesol hon yn sicrhau bod lleisiau gan bobl yn ardal Gogledd Swydd Lanark yn cael dweud eu dweud wrth lunio ei dyfodol gwyrddach. Gydag adeiladu "map cyfiawnder amgylcheddol" a chyd-greu gyda thrigolion, bydd y gwaith hwn yn helpu i flaenoriaethu buddsoddiad a datblygu dyluniadau ar gyfer 18 o brosiectau er mwyn gwella rhwydweithiau naturiol presennol a chreu cysylltiadau cynefinoedd.

Gogledd Iwerddon
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Cyngor Dinas Belfast
Bydd y prosiect hwn yn cyd-ddylunio glasbrint ar gyfer adferiad byd natur ar draws y ddinas a’r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys Parc Rhanbarthol Dyffryn Lagan a Bryniau Belfast. Bydd mannau gwyrdd a glas presennol yn newid i blannu a dyluniadau sydd â phwyslais ar natur a hinsawdd a bydd cyfleoedd yn cael eu harchwilio i wyrddu’r llwyd o fewn yr amgylchedd adeiledig. Bydd ffocws ar feysydd o angen o dan EJI Belfast (Menter Cyfiawnder Cyfartal) a’r rhwydwaith o strydoedd cefn a waliau heddwch, yn ogystal â llwybrau teithio llesol sy’n dod i’r amlwg.
