A luscious garden with lots of foliage and flowers, with a person leaning through the plants, gardening
White illustration of a tree resembling a fan.

Canllaw dechrau cryno i wyrddio trefol

24-06-2025

Canllaw

Canllaw

Cyfrinachau llwyddiant gwyrddio trefol yn ôl cynghorwyr lleol a’u partneriaid.
Adfer natur - Sylfeini parciau

Sut i fod yn feiddgar, yn ddewr ac yn arloesol ar gyfer pobl a byd natur

Rydyn ni i gyd am weld trefi a dinasoedd llewyrchus, sy’n fwy gwyrdd, mwy iach, a mwy cydnerth. Yr her, o bosib, yw gwybod ble i ddechrau arni.  

Gofynnom i’n rhwydwaith o awdurdodau lleol a’u partneriaid i ddatgelu beth oedd angen ei wneud i ddatgloi buddion byd natur i bawb.

Gan dynnu ar flynyddoedd o brofiad yn treialu syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio, maent wedi crynhoi deg maes gwaith i mewn i ‘ganllawiau cyfeirio cyflym’ ar gyfer eraill sy’n awyddus i ddechrau ar daith trawsnewid gwyrddio dinesig.

Does dim rheol benodol ynghylch pa drefn y dylech fynd i’r afael â’r rhain. Maent wedi’u bwriadu i gael eu dilyn a’u hail-ymweld yn y ffordd sydd fwyaf addas ar gyfer eich lle chi.

Ymgyfarwyddwch gyda’ch ystâd werdd a glas

“Mae mapio’n golygu gwybod lle gallwch chi gael y canlyniadau gorau yn sgil yr arian a’r ymdrech sy’n cael ei roi yn y lleoliad” - Nick, Cambridgeshire and Peterborough Parks Partnership 

Casglwch wybodaeth ynghylch cyflwr cyfredol eich seilwaith naturiol, er mwyn gweld y potensial yn y dyfodol ar gyfer pobl, llefydd, hinsawdd a byd natur.

Archwiliwch a dadansoddwch ffactorau megis maint, cyflwr, cysylltedd, defnyddioldeb, incwm a gwariant gwirioneddol eich mannau gwyrdd a glas.

Gallwch roi gwerth economaidd ar fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol eich ystâd naturiol fel ag y mae ar hyn o bryd a’i gyflwyno mewn ffordd weledol. Gall hyn eich helpu i ddod â’r buddion yn fyw ar gyfer prif randdeiliaid a’u hannog hwy ar hyd y daith gyda chi.

Cymerwch olwg ar rai enghreifftiau o’r dull hwn gan Birmingham a Nottingham drwy’r botymau isod.

Two people in hard hats and hi vis planting seedlings in a planter, in front of a graffitied wall

Gofynnwch i’ch cymunedau beth sydd ei angen arnynt

“Cynt, roeddent yn gofyn am ragor o wasanaethau fel meddygon neu archfarchnadoedd. Nawr maent yn gofyn am fwy o fannau gwyrdd o safon” - Simon, Cyngor Dinas Birmingham 

Pan mae byd natur yn tyfu’n gryfach, mae cymunedau hefyd yn gwneud hynny. Cymerwch amser i ofyn i breswylwyr lleol a sefydliadau Gwirfoddol, Cymunedol, Ffydd, Menter Gymdeithasol (VCGSE) beth maent ei angen a’i eisiau gan fannau gwyrdd, a sut y gallant gyfrannu at eu llunio, eu rhoi ar waith a dod â hwy’n fyw. Defnyddiwch y broses hon i gyd-ddatblygu gweledigaeth eglur ac uchelgeisiol ar gyfer trawsnewidiad yn eich tref neu eich dinas chi, a’i fewnosod o fewn eich strategaeth a chynllun seilwaith gwyrdd.

Lledaenwch y gair ynghylch y gwelliannau rydych chi’n eu gwneud, gan ddangos o ble cychwynnodd eich cymdogaeth a pha mor bell maent wedi dod ar eu taith werdd. Pwy oedd yn gysylltiedig â hyn, sut y bu iddo wneud gwahaniaeth a beth mae tegwch coed yn ei olygu iddynt?

Rhowch iechyd wrth wraidd man gwyrdd

"Mae’n ymwneud ag adeiladu cynghrair o rai sy’n barod i weithio; sefydliadau gyda gweledigaeth a gwerthoedd a rennir er mwyn gwella iechyd a lles cymunedau.” Andrew, Cyngor Bwrdeistref Islington  

Dyw gofod naturiol mewn trefi a dinasoedd ddim yn ymwneud â gwythiennau mawrion dinesig gwyrddach yn unig. Mae’n ymwneud â gwythiennau mawrion dynol fwy glân hefyd.

Gweithiwch gyda phartneriaid ar draws sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a VCFSE er mwyn rhoi iechyd wrth galon eich strategaeth a chynlluniau gwyrdd.

Gall Cyfrif Cyfalaf Naturiol gyfrifo beth yw buddion iechyd cyfatebol mannau naturiol, a helpu i bartneriaid posib ymgysylltu gyda’r syniad o barciau a mannau gwyrdd fel ffordd gost-effeithiol o sicrhau lles.

Gwahoddwch y partneriaid hyn i gyd-greu darpariaeth gwasanaeth iechyd mewn gofodau naturiol, gan gynnwys drwy ragnodi cymdeithasol gwyrdd a gwella’r rhwydwaith teithio iach.

Three people stand behind a fence to a yard with lots of potplants and garden gnomes

Byddwch yn uchelgeisiol dros degwch amgylcheddol

"Mae’n newid y sgwrs ynghylch pa mor bwysig yw gofod gwyrdd mewn trefi a dinasoedd... y sydyn, mae pobl yn ei ddeall.” - Nick, Cyngor Dinas Birmingham  

Gweithiwch er mwyn adnabod yr ardaloedd gyda’r tegwch amgylcheddol isaf, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn rhoi helpu pobl a byd natur lle mae ei angen fwyaf.

Gallwch ddefnyddio data amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol er mwyn mapio a chyfeirio safon amgylcheddol ddinesig. Yn Birmingham, roeddent yn gallu, i ymgysylltu â chynghorwyr prysur yn y wardiau mwyaf difreintiedig fel hyrwyddwyr dros fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd.

Cliciwch y botwm isod i ddysgu rhagor ynghylch mapio cyfiawnder amgylcheddol yn Birmingham.

A person leaning over to plant a blossom tree.

Tyfwch eich rhwydwaith natur drefol

“Dyw rhwydweithiau byd natur ddim yn bodoli ar eu pen eu hunain. Mae partneriaid ac eiriolwyr yn hanfodol os ydych chi’n mynd i’w roi ar waith ar draws tref neu ddinas” - Linda, Cyngor Dinas Caeredin 

Mae cynefinoedd naturiol iachach yn arwain at barciau mwy iach, ac yn y pen draw, pobl iachach. Gallwch feithrin eich rhwydwaith natur drefol er mwyn dod â mwy o’r ‘gwasanaethau ecosystem’ – sef buddion byd natur – i bobl a llefydd.

Cymerwch olwg ar y gwasanaethau ecosystem presennol sy’n cael ei ddarparu gan seilwaith naturiol dinesig yn eich lle chi. Gallai hyn gynnwys cydnerthedd hinsawdd a lliniaru llifogydd, neu fuddion diwylliannol megis hamdden a lles meddyliol.

Gallwch gyd-ddylunio’r rhwydwaith newydd gyda rhanddeiliaid a chymunedau, drwy adnabod bylchau, datrysiadau a gwelliannau gyda hwy. Bydd meithrin y rhwydwaith yn y ffordd yma yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r buddion y gall byd natur eu darparu i bobl a llefydd, a helpu i wella safon, cysylltedd a hygyrchedd yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Estynnwch ymhellach i’ch mannau gwyrdd a chymunedol

“Mae ein sefydliad parciau lleol yn gallu cael mynediad at gronfeydd arian a gweithio gyda’r gymuned mewn ffordd wahanol i’r hyn allwn ni ei wneud fel cyngor.” - Martin, Cyngor Bournemouth, Christchurch a Poole  

Mae byd natur a phobl yn tyfu’n gryfach drwy estyn i fyny ac allan. Gall gweithio mewn partneriaeth eich helpu chi i ffocysu ar eich dyheadau, arallgyfeirio incwm, rhannu adnoddau a chyflawni nodau cyffredin ar gyfer pobl a byd natur, drwy alluogi pawb i ddod â rhywbeth unigryw a gwerthfawr at y bwrdd.

Er bod nifer o awdurdodau lleol yn cydnabod y buddion hyn, dyw pethau ddim wastad yn syml. Mae’n bwysig cymryd agwedd strategol er mwyn sicrhau bod y bartneriaeth yn llwyddo.

Sicrhewch bod yna ddealltwriaeth eglur o ran pwrpas, rolau, ffyrdd o weithio a gwerthoedd, cyfrifoldebau ac adrodd. Sefydlwch eich dull o weithredu ar y cyd o safbwynt risg, yn arbennig felly risg ariannol, a chynlluniwch sut i reoli risg yn ogystal.

Two people in winter clothing with spades, filling a hole around a newly planted tree

Datblygu ffynonellau newydd o fuddsoddiad

"Mae ein huchelgais yn fwy na’n pocedi. Rydym angen edrych ar ein gofodau a sut rydym y eu pecynnu’n gynnyrch y mae pobl am fuddsoddi ynddynt” -Kat, Cyngor Dinas Plymouth  

Gydag arian cyhoeddus yn brinnach nag erioed, mae ffynonellau newydd o fuddsoddiad hirdymor, penodol yn hollbwysig ar gyfer gwenyn, glöynnod byw, parciau a phyllau yn ein trefi a’n dinasoedd.

Archwiliwch eich potensial o ran ariannu gwyrdd drwy baru’r hyn all eich gofodau ei gyflawni gyda chymhellion ar gyfer buddsoddi o amrywiaeth neu gymysgedd ‘cyfun’ o ffynonellau.

Ceisiwch gyd-ddylunio cyfres o brosiectau ‘barod- i-fynd’ gyda phartneriaid a chymunedau, gan wneud yr achos dros fuddsoddi drwy’r buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y gallant eu darparu.

Byddwch angen meddwl ynghylch y cyfrwng ariannol fydd yn derbyn buddsoddiad yn y lle cyntaf, a sut i neilltuo cronfeydd ar gyfer ailfuddsoddi.

Gallech hefyd geisio edrych ar brosiectau cyfanredol er mwyn creu cynigion buddsoddi deniadol.

A group of people standing in the middle of flats look at a garden.

Hyrwyddwch fannau gwyrdd fel seilwaith gwerthfawr

"Rydych chi angen cael cyflwyniad dyrchafu clir. Pan allwch chi wneud cysylltiad gyda gwerth ariannol, mae wir yn llunio achos busnes.” - Ollie, Cyngor Bwrdeistref Camden 

Rydym yn gwybod bod pobl yn cael budd o gael gofod gwyrdd o safon gerllaw, ond weithiau gall fod yn anodd profi ei ‘werth’ o safbwynt economaidd. Un ffordd o wneud yr achos drosto yw drwy gyfrifo’r gyfradd buddion i gost o’ch ystâd wyrdd (nid dim ond cost cynnal a chadw, neu’r incwm sy’n cael ei gynhyrchu) fel rhan o Gyfrif Cyfalaf Naturiol.

Meddyliwch am y newid positif rydych chi am ei gyflawni ar gyfer pobl a byd natur, gan ystyried yr heriau mawr sydd angen i’r lle fynd i’r afael â hwy, a’r cyfleoedd i drawsnewid drwy eich man gwyrdd.

Yna defnyddiwch y gyfradd buddion i gost er mwyn hyrwyddo sut mae’n darparu canlyniadau ar gyfer blaenoriaethau ar hyd a lled y cyngor megis yr hinsawdd, iechyd, sgiliau, teithio.

Byddwch yn entrepreneuraidd yn gymdeithasol

“Rydym wedi profi bod yna gyfle gwych ar gyfer masnachu elusennol a masnachol mewn parciau.” - Martin, Cyngor Bournemouth, Christchurch a Poole 

Mae byd natur yn datgloi natur orau pobl. Mae parciau a mannau gwyrdd yn creu mwy o gyfleoedd i bobl gysylltu gyda’r awyr agored, a darparu seibiant gwerthfawr o’n bywydau trefol prysur.

Byddwch yn rhan o’n cyswllt gyda’r byd naturiol ac ail-gyflwyno parciau a gofodau gwyrdd fel ‘achosion’ lleol poblogaidd. Mae’n ffordd sydd wedi’i phrofi o ddenu a chadw incwm sylweddol, buddsoddiad ac adnoddau er mwyn cynnal y mannau hyn yn y tymor hir.

Gall awdurdodau lleol greu’r capasiti i weithredu gyda phwrpas elusennol mewn gwahanol ffyrdd. Gallai hyn gynnwys partneriaethau gyda’r sector VCFSE, neu drwy sefydliad megis The Parks Foundation yn BCP.

A person holding and pointing to a seed.

Beth am feithrin eich tîm gwyrdd a’r ‘teulu’ ehangach

"Ewch â phawb ar y daith gyda chi, fel bod pawb yn rhan o’r hyn rydych yn ceisio’i gyflawni” - Adrienne, Cyngor Dinas Nottingham 

Crëwch y gofod, diwylliant a’r hyder er mwyn galluogi eich tîm gwyrdd i herio’r status quo – a dod â byd natur adref.

Byddant angen eich cefnogaeth er mwyn bodloni’r heriau sylweddol a’r cyfleoedd mae’r 21ain ganrif yn ei gyflwyno ar gyfer byd natur mewn trefi a dinasoedd.

Mae gwyrddio sy’n cael ei arwain gan gymunedau a stiwardiaeth eich ystâd werdd yn debygol o fod yn rhan allweddol o hyn. Cymerwch olwg eto ar yr agwedd maent wedi’i chymryd tuag at hyn yn Nottingham.

A person watering plants within a park.

Dysgwch fwy gan ein cyfranwyr

Bu i’n rhwydwaith cyfoedion o awdurdodau lleol a phartneriaid gymryd rhan mewn gweminar lle’r aethant ati i drafod beth oedd cyfrinach eu llwyddiant gwyrddio trefol mewn mwy o fanylder. 

Mae’r cynghorion hyn wedi’u curadu ar y cyd gan gyfranogwyr yn y prosiect Cyflymydd Parciau’r Dyfodol. Gyda diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a ariannodd a chefnogodd Gyflymydd Parciau’r Dyfodol, gan alluogi dylunio a darparu’r gwaith a ddangosir yma.

Hands planting in a raised bed.

Eich helpu chi i gyflawni ar gyfer pobl, llefydd a byd natur

Mae cynllun achrediad Trefi a Dinasoedd Natur yn cydnabod trefi a dinasoedd sy’n rhoi seilwaith gwyrdd a byd natur wrth galon eu lleoedd a’u cymunedau.

Wedi’i ddylunio i annog trawsnewid yn seiliedig ar le ar raddfa briodol, bydd achrediad yn eich helpu i gynllunio sut y gall seilwaith gwyrdd a glas ddarparu buddion ar draws ystod o flaenoriaethau. Mae’r rhain yn amrywio’n fawr, o iechyd cyhoeddus i wytnwch hinsawdd, grymuso cymunedol ac adferiad natur. Ac maent yn mynd i’r afael â materion pwysig fel twf economaidd, teithio llesol a sgiliau a chyflogaeth pobl ifanc.

Two people cycling along a path in a park.