Canllaw dechrau cryno i wyrddio trefol
24-06-2025
Canllaw
24-06-2025
Canllaw
Rydym i gyd eisiau gweld trefi a dinasoedd mwy gwyrdd, iachach, mwy gwydn a llewyrchus. Gall yr her fod yn gwybod ble i ddechrau.
Gofynasom i’n rhwydwaith o awdurdodau lleol a’u partneriaid ddatgelu beth sydd ei angen i ddatgloi buddion byd natur i bawb.
Gan dynnu ar flynyddoedd o brofiad yn treialu syniadau a ffyrdd newydd o weithio, maent wedi crynhoi deg maes gwaith yn ‘ganllaw cyfeirio cyflym’ i eraill sy’n awyddus i gychwyn ar daith trawsnewid gwyrddio trefol.
Nid oes rheol lem a chyflym o ran pa drefn y gallech fynd i’r afael â’r rhain. Maent wedi’u cynllunio i gael eu dilyn a’u hailymweld â hwy yn y ffordd fwyaf priodol ar gyfer eich lle.
“Mae mapio’n golygu gwybod lle gallwch chi gael y canlyniadau gorau yn sgil yr arian a’r ymdrech sy’n cael ei roi yn y lleoliad” - Nick, Cambridgeshire and Peterborough Parks Partnership
Casglwch wybodaeth ynghylch cyflwr cyfredol eich seilwaith naturiol, er mwyn gweld y potensial yn y dyfodol ar gyfer pobl, llefydd, hinsawdd a byd natur.
Archwiliwch a dadansoddwch ffactorau megis maint, cyflwr, cysylltedd, defnyddioldeb, incwm a gwariant gwirioneddol eich mannau gwyrdd a glas.
Gallwch roi gwerth economaidd ar fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol eich ystâd naturiol fel ag y mae ar hyn o bryd a’i gyflwyno mewn ffordd weledol. Gall hyn eich helpu i ddod â’r buddion yn fyw ar gyfer prif randdeiliaid a’u hannog hwy ar hyd y daith gyda chi.
Cymerwch olwg ar rai enghreifftiau o’r dull hwn gan Birmingham a Nottingham drwy’r botymau isod.
“Cynt, roeddent yn gofyn am ragor o wasanaethau fel meddygon neu archfarchnadoedd. Nawr maent yn gofyn am fwy o fannau gwyrdd o safon” - Simon, Cyngor Dinas Birmingham
Pan mae byd natur yn tyfu’n gryfach, mae cymunedau hefyd yn gwneud hynny. Cymerwch amser i ofyn i breswylwyr lleol a sefydliadau Gwirfoddol, Cymunedol, Ffydd, Menter Gymdeithasol (VCGSE) beth maent ei angen a’i eisiau gan fannau gwyrdd, a sut y gallant gyfrannu at eu llunio, eu rhoi ar waith a dod â hwy’n fyw. Defnyddiwch y broses hon i gyd-ddatblygu gweledigaeth eglur ac uchelgeisiol ar gyfer trawsnewidiad yn eich tref neu eich dinas chi, a’i fewnosod o fewn eich strategaeth a chynllun seilwaith gwyrdd.
Lledaenwch y gair ynghylch y gwelliannau rydych chi’n eu gwneud, gan ddangos o ble cychwynnodd eich cymdogaeth a pha mor bell maent wedi dod ar eu taith werdd. Pwy oedd yn gysylltiedig â hyn, sut y bu iddo wneud gwahaniaeth a beth mae tegwch coed yn ei olygu iddynt?
“Mae’n ymwneud ag adeiladu clymblaid o’r rhai sy’n fodlon; sefydliadau sydd â gweledigaeth a gwerthoedd cyffredin i wella iechyd a lles cymunedau.” - Andrew, Cyngor Bwrdeistref Islington
Nid yw mannau naturiol mewn trefi a dinasoedd yn ymwneud â rhydwelïau trefol gwyrddach yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â rhydwelïau dynol glanach.
Gweithiwch gyda phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a VCFSE i roi iechyd wrth galon eich strategaeth a’ch cynlluniau seilwaith gwyrdd.
Gall Cyfrif Cyfalaf Naturiol gyfrifo’r buddion iechyd cyfatebol o fannau naturiol, a helpu i ymgysylltu â phartneriaid posibl â’r syniad o barciau a mannau gwyrdd fel ffordd gost-effeithiol i les.
Gwahoddwch y partneriaid hyn i gyd-greu darpariaeth gwasanaeth iechyd mewn mannau naturiol, gan gynnwys trwy bresgripsiwn cymdeithasol gwyrdd a gwella’r rhwydwaith teithio llesol.
“Mae’n newid y sgwrs ynghylch pa mor bwysig yw mannau gwyrdd mewn trefi a dinasoedd… yn sydyn mae pobl yn deall.” - Nick, Cyngor Dinas Birmingham
Gweithiwch i nodi’r ardaloedd sydd â’r tegwch amgylcheddol isaf, i sicrhau eich bod yn rhoi help llaw i bobl a byd natur lle mae ei angen fwyaf.
Gallwch ddefnyddio data amgylcheddol a socio-economaidd i fapio a mynegeio ansawdd amgylcheddol trefol lleol. Yn Birmingham, roeddent yn gallu defnyddio’r delweddau hyn i ymgysylltu â chynghorwyr prysur yn y wardiau mwyaf difreintiedig fel hyrwyddwyr ar gyfer buddsoddiad mewn seilwaith gwyrdd.
Cliciwch y botwm isod i ddarganfod mwy am fapio cyfiawnder amgylcheddol yn Birmingham.
“Nid yw rhwydweithiau natur yn bodoli ar eu pen eu hunain. Mae partneriaid ac eiriolwyr yn hanfodol os ydych chi’n mynd i’w gyflwyno ar draws tref neu ddinas” - Linda, Cyngor Dinas Caeredin
Mae cynefinoedd naturiol iachach yn arwain at barciau iachach ac yn y pen draw at bobl iachach. Tyfwch eich rhwydwaith natur drefol i ddod â mwy o’r ‘gwasanaethau ecosystem’ hyn – h.y. buddion natur – i bobl a lleoedd.
Cymerwch olwg ar wasanaethau ecosystem presennol a ddarperir gan seilwaith naturiol trefol yn eich lle. Gallai hyn gynnwys gwydnwch hinsawdd a lliniaru llifogydd, neu fuddion diwylliannol megis hamdden a lles meddwl.
Cyd-gynlluniwch y rhwydwaith newydd gyda rhanddeiliaid a chymunedau, trwy nodi bylchau, atebion a gwelliannau gyda nhw. Bydd tyfu’r rhwydwaith yn y ffordd hon yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r buddion y gall natur eu darparu i bobl a lle, ac yn helpu i wella ansawdd, cysylltedd a hygyrchedd yn y ffordd fwyaf effeithiol.
“Gall ein sylfaen parciau lleol gael mynediad at arian a gweithio gyda’r gymuned yn wahanol i sut y gallwn ni fel cyngor.” - Martin, Cyngor Bournemouth, Christchurch a Poole (BCP)
Mae natur a phobl yn tyfu’n gryfach trwy gyrraedd i fyny ac allan. Gall gweithio mewn partneriaeth ddod â rhywbeth unigryw a gwerthfawr i’r bwrdd, gan eich helpu i ganolbwyntio’ch uchelgeisiau, arallgyfeirio incwm, rhannu adnoddau a chyflawni nodau cyffredin ar gyfer pobl a byd natur.
Er bod llawer o awdurdodau lleol yn cydnabod y buddion hyn, nid yw bob amser mor syml. Mae’n bwysig cymryd agwedd strategol i sefydlu’r bartneriaeth ar gyfer llwyddiant.
Sicrhewch fod dealltwriaeth glir o ddiben, rolau, ffyrdd o weithio a gwerthoedd, cyfrifoldebau ac adrodd. Sefydlwch eich dull cydweithredol o ymdrin â risg, yn enwedig risg ariannol, a chynlluniwch reoli risg hefyd.
“Mae ein huchelgais yn fwy na’n pocedi. Mae angen i ni edrych ar ein mannau a sut rydym yn eu pecynnu’n gynhyrchion y gellir eu buddsoddi” - Kat, Cyngor Dinas Plymouth
Gyda chyllid cyhoeddus yn fwy tynn nag erioed, mae ffynonellau newydd o fuddsoddiad hirdymor, pwrpasol yn achubiaeth i’r gwenyn, gloÿnnod byw, parciau a phyllau yn ein trefi a’n dinasoedd.
Archwiliwch eich potensial cyllid gwyrdd trwy gydweddu’r hyn y gall eich mannau ei gyflawni ag ysgogiadau ar gyfer buddsoddiad o amrywiaeth, neu gymysgedd ‘cyfun’, o ffynonellau.
Ceisiwch gyd-gynllunio piblinell o brosiectau ‘parod i fynd’ gyda phartneriaid a chymunedau, gan wneud yr achos buddsoddi trwy’r buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y gallent eu cyflawni.
Bydd angen i chi feddwl am gerbyd ariannol i dderbyn buddsoddiad yn y lle cyntaf, a sut i neilltuo arian ar gyfer ail-fuddsoddi.
Gallech hefyd geisio agregu prosiectau i greu cynigion buddsoddi deniadol.
“Mae angen ‘elevator pitch’ clir arnoch chi. Pan allwch chi ei ddychwelyd i bunnoedd a cheiniogau, mae’n gwneud achos busnes go iawn.” - Ollie, Cyngor Bwrdeistref Camden
Gwyddom fod pobl yn elwa o gael mannau gwyrdd o ansawdd gerllaw, ond gall eu ‘gwerth’ mewn termau economaidd fod yn anodd ei brofi. Un ffordd o wneud yr achos yw trwy gyfrifo cymhareb budd i gost eich ystâd werdd (nid dim ond y gost cynnal a chadw, neu’r incwm a gynhyrchir) fel rhan o Gyfrif Cyfalaf Naturiol.
Meddyliwch am y newid cadarnhaol rydych chi eisiau ei gyflawni ar gyfer pobl a byd natur, gan ystyried yr heriau mawr y mae angen i’r lle fynd i’r afael â nhw a’r cyfleoedd ar gyfer trawsnewid trwy’ch mannau gwyrdd.
Yna defnyddiwch y gymhareb budd i gost i hyrwyddo sut mae’n cyflawni canlyniadau ar gyfer blaenoriaethau ar draws y cyngor megis hinsawdd, iechyd, sgiliau, teithio.
“Rydym wedi profi bod cyfle gwych ar gyfer masnachu elusennol a masnachol mewn parciau.” - Martin, Cyngor Bournemouth, Christchurch a Poole (BCP)
Mae natur yn datgloi natur well pobl. Mae parciau a mannau gwyrdd yn creu mwy o gyfleoedd i bobl gysylltu â’r awyr agored, ac yn darparu seibiant gwerthfawr o fywydau trefol prysur.
Manteisiwch ar ein cysylltiad â’r byd naturiol ac ail-leoli parciau a mannau gwyrdd fel ‘achos’ lleol poblogaidd. Mae’n ffordd brofedig o ddenu a chadw incwm, buddsoddiad ac adnoddau sylweddol i gynnal y mannau hyn yn hirdymor.
Gall awdurdodau lleol greu’r gallu i weithredu at ddiben elusennol mewn gwahanol ffyrdd. Gallai hyn gynnwys partneriaethau â’r sector VCFSE, neu drwy sylfaen fel The Parks Foundation yn BCP.
“Cymerwch bawb ar y daith gyda chi, fel bod pawb yn buddsoddi yn yr hyn rydych chi’n ceisio ei gyflawni” - Adrienne, Cyngor Dinas Nottingham
Creu’r gofod, y diwylliant a’r hyder i alluogi eich tîm gwyrdd i herio’r status quo – a dod â natur adref.
Bydd angen eich cefnogaeth arnynt i ateb yr heriau a’r cyfleoedd sylweddol y mae’r 21ain ganrif yn eu cyflwyno ar gyfer natur mewn trefi a dinasoedd.
Mae gwyrddio dan arweiniad cymunedol a stiwardiaeth eich ystâd werdd yn debygol o fod yn rhan allweddol o hyn. Cymerwch olwg ar y dull maent wedi’i gymryd at hyn yn Nottingham.
Cymerodd ein rhwydwaith o gyfoedion o awdurdodau lleol a phartneriaid ran mewn gweminar lle maent yn trafod eu cyfrinachau i lwyddiant gwyrddio trefol yn fwy manwl.
Cyd-guradwyd yr awgrymiadau hyn gan gyfranogwyr ym mhrosiect Cyflymydd Parciau’r Dyfodol. Gyda diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Adran Ffyniant, Tai a Chymunedau a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a ariannodd ac a gefnogodd Gyflymydd Parciau’r Dyfodol, gan alluogi dyluniad a chyflwyniad y gwaith a ddangosir yma.
Mae cynllun achredu Trefi a Dinasoedd Natur yn cydnabod trefi a dinasoedd sy’n rhoi natur a seilwaith gwyrdd wrth galon eu lleoedd a’u cymunedau.
Wedi’i gynllunio i gymell trawsnewid ar raddfa fawr, seiliedig ar le, bydd achredu yn eich helpu i gynllunio sut y gall seilwaith gwyrdd a glas ddarparu buddion ar draws ystod o flaenoriaethau. Mae’r rhain yn eang, o iechyd y cyhoedd i wydnwch hinsawdd, grymuso cymunedol ac adferiad natur. Ac maent yn cwmpasu materion brys fel twf economaidd, teithio llesol, a sgiliau a chyflogaeth ieuenctid.
Roedd Cyflymydd Parciau’r Dyfodol (FPA) yn gydweithrediad rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Adran Ffyniant, Tai a Chymunedau (DLUHC).
Dewiswyd naw ardal ar draws y DU i fod yn rhan o’r rhaglen arloesol hon i adeiladu dyfodol cynaliadwy i barciau trefol a mannau gwyrdd.
Profodd FPA fod gan natur rôl hanfodol i’w chwarae mewn trefi a dinasoedd, gan helpu i wella iechyd a llesiant, lliniaru effaith newid hinsawdd, gwella bioamrywiaeth a thyfu’r economi werdd.
Gosododd y lleoedd arloesol hyn y sylfeini i filiynau mwy o bobl fwynhau amser ym myd natur yn agos i’w cartrefi trwy brosiectau yn y dyfodol fel Trefi a Dinasoedd Natur.