Pan mae byd natur yn cynefino’n lleol, mae ein bywydau ni oll yn well

Ein bwriad yw helpu miliynau yn rhagor o bobl i fwynhau amser mewn byd natur ger eu cartrefi, mewn trefi a dinasoedd gwyrddach a llewyrchus.

An adult and young child volunteer in a community garden talking to each other surrounded by Nature Towns and Cities urban nature icons.

Mae Trefi a Dinasoedd Byd Natur yn goalisiwn o sefydliadau’r sector preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector, wedi eu hymroddi i ddychwelyd natur a mannau gwyrdd i fannau trefol er budd pawb.

Bydd y coalisiwn hwn yn helpu i roi byd natur, seilwaith gwyrdd a threftadaeth wrth wraidd gwneud penderfyniadau’n lleol, gan ganolbwyntio ar yr ardaloedd hynny a fydd yn gweld y budd mwyaf. Am y 10 mlynedd nesaf rydym yn bwriadu helpu 5 miliwn yn rhagor o bobl i fwynhau mynediad gwell at fannau gwyrdd a glas yn agos i adref, ac 1 miliwn yn rhagor o blant i chwarae ym myd natur ar garreg eu drws.

Mae hyn yn cynnwys bob math o fyd natur trefol, a mannau glas a gwyrdd sydd o fewn cyrraedd rhwydd i’r cyhoedd. Er enghraifft, coed mewn strydoedd, mannau tyfu cymunedol, coed trefol, parciau cyhoeddus hanesyddol, glannau camlesi ac afonydd ac iardiau chwarae.

A luscious garden with lots of foliage and flowers, with a person leaning through the plants, gardening

Y buddion ynghlwm â byd natur

Nid oes gan filiynau o bobl mewn ardaloedd trefol fynediad hollbwysig at fyd natur a mannau gwyrdd yn agos i’w cartref. Ond eto mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn ein gwneud ni’n iachach, hapusach, mwy cysylltiedig a mwy cadarn.

Two people walking along a grassy path in a park surrounded by trees.

Cefnogi pobl a lleoedd

Rydyn ni oll eisiau gweld trefi a dinasoedd llewyrchus, mwy cadarn, iachach a gwyrddach.

Adnoddau i ysbrydoli eich trawsnewidiad byd natur

Dysgwch sut all datrysiadau sydd wedi ennill eu plwyf helpu i drawsnewid eich tref neu ddinas. Darllenwch astudiaethau achos gan bobl a lleoedd sy’n cyflawni newid, ac ewch i elwa ar adnoddau a thempledi a ddatblygwyd i’ch helpu i ddechrau arni a chymryd eich camau cyntaf.

Schoolchildren working in a garden with spades on a vegetable patch.

Dyddiad i'ch dyddiadur

Creu Trefi a Dinasoedd Byd Natur

Cynhadledd ar-lein, 5 Mehefin 2025

02-01-2025

Two people stood on wildlife pond viewing platform pointing towards a field.

02-01-2025

Four cyclists riding along a path lined with trees.

02-01-2025

An adult and two young people using spades to move soil from bags in a garden.