Gwneuthurwyr natur: Derek Hilton-Brown

20-04-2026

Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur

Astudiaeth Achos

Canllaw

Mae lonydd glas yn fwy na llwybrau yn unig; y lonydd hyn yw rhydwelïau natur. Clywch gan Walk Wheel Cycle Trust am sut mae partneriaethau lleol yn helpu pobl a bywyd gwyllt i lifo, ffynnu a theimlo'n well ar hyd llwybrau sy'n gyfeillgar i natur.
Adfer natur - Lonydd Gwyrdd

©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Chris Lacey

Sgwrs gyda

Derek Hilton-Brown

Ecolegydd yn Walk Wheel Cycle Trust

Rhywle rhwng y gwyllt a'r byd a grëwyd gan bobl

Mae Derek Hilton-Brown wedi treulio tri degawd yn gweithio mewn amrywiaeth o dirweddau ac wedi bod yn ecolegydd mewnol yn Walk Wheel Cycle Trust ers bron i bum mlynedd. Ychydig o leoedd sydd wedi dal ei sylw cymaint â rhannau o Lôn Las Swydd Gaer a Glannau Dyfrdwy.

Pan gerddodd y llwybr am y tro cyntaf yn ystod asesiad ecolegol, gwelodd rywbeth y gallai eraill fod wedi’i fethu: cyfle hir, llinol i ailgysylltu pobl a bywyd gwyllt â chefn gwlad ehangach.

Yn ei eiriau ef, “Mae lonydd glas fel hyn yn fwy na llwybrau, maen nhw’n rhydwelïau o gynefinoedd sy’n cydblethu darnau o goetiroedd, dolydd a gwlyptiroedd a fyddai fel arall yn parhau i fod yn ynysig.”

Mae Lôn Las Swydd Gaer a Glannau Dyfrdwy wedi ysbrydoli llawer o bartneriaethau lleol rhwng Walk Wheel Cycle Trust a sefydliadau sy’n rhannu gwerthoedd a diddordebau gwyrdd.

“Mae ecoleg yn ffynnu pan fydd pobl yn teimlo perchnogaeth dros eu mannau gwyrdd, a dydy ein gwaith byth yn digwydd ar wahân i bethau eraill” eglura Derek. “Rydyn ni’n gweithio gyda llawer o bobl ymroddgar a brwdfrydig ar hyd y Lôn Las a thu hwnt.”

O wirfoddolwyr ffyddlon i gysylltiadau rhwng awdurdodau lleol ar draws ffiniau, cawsom sgwrs gyda Derek am sut mae partneriaethau seiliedig ar leoedd yn asgwrn cefn i’r coridor byw hwn, lle mae pobl a natur yn symud ochr yn ochr.

Gadewch i'n llwybrydd eich rhoi ar ben y ffordd

Cyn i chi gychwyn, cliciwch ar y blychau isod am wybodaeth ddefnyddiol i'ch cadw ar y trywydd iawn.

1

Beth yw lôn las?

2

Beth yw Walk Wheel Cycle Trust?

3

Beth yw Lon Las Swydd Gaer a Glannau Dyfrdwy?

Lonydd Glas mewn niferoedd

Dyma gipolwg ar rai o'r buddion y mae lonydd glas yn helpu i'w darparu ar hyd y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

85%

Canran y bobl sy'n defnyddio'r rhwydwaith sy'n dweud ei fod wedi eu helpu i fod yn fwy actif.

A wyddoch chi, mae buddion iechyd cerdded a beicio ar y Rhwydwaith yn helpu i atal bron i 8,000 o achosion o gyflyrau iechyd hirdymor difrifol bob blwyddyn?

Darllen adroddiad Llwybrau i bawb

588 miliwn

Nifer y teithiau ar hyd y rhwydwaith yn 2022-23, a helpodd i hybu economi'r DU.

A wyddoch chi, mae astudiaethau'n dangos y gallai prosiectau isadeiledd beicio a cherdded greu 32 o swyddi uniongyrchol am bob £1 miliwn a fuddsoddir?

Darllen adroddiad Llwybrau i bawb

103 miliwn

Nifer y teithiau mewn car a arbedwyd trwy gerdded, olwynio neu feicio ar y rhwydwaith.

A wyddoch chi, mae lonydd gwyrdd yn 'sinciau carbon' hollbwysig (gan leihau ac amsugno 34,000 tunnell o garbon deuocsid i liniaru effeithiau newid hinsawdd)?

Darllen adroddiad Llwybrau i bawb

12,000

Nifer y cennin Pedr a chrocysau a blannwyd ar hyd Lôn Las Swydd Gaer a Glannau Dyfrdwy.

A wyddoch chi, mae plannu bylbiau'n cynyddu amrywiaeth bywyd planhigion fel y gall gloÿnnod byw a phryfed ffynnu?

Darllen mwy am y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol

Partneriaethau'n arwain y ffordd

Mae partneriaethau Walk Wheel Cycle Trust fel Lôn Las Swydd Gaer a Glannau Dyfrdwy ei hun – yn cysylltu pobl, natur a lleoedd mewn ffordd sy'n fuddiol i bawb. Cliciwch i ddarllen pedwar prif fudd gweithio mewn partneriaeth - yn ôl Derek, yna sgroliwch i lawr i weld sut maent yn edrych ar y Lôn Las.

1

Grymuso pobl o'r tu mewn a'r tu allan

2

Hyrwyddo natur i bawb

3

Rhoi grym ychwanegol i awdurdodau lleol

4

Cydweithio i sicrhau cyllid

Budd partneriaeth 1: Grymuso pobl o'r tu mewn a'r tu allan

Mae Lôn Las Swydd Gaer a Glannau Dyfrdwy yn adeiladu pontydd parhaol rhwng natur a chymuned.

Mae gan Walk Wheel Cycle Trust brofiad helaeth o ennyn diddordeb cymunedau mewn mannau naturiol. Diolch i gyllid a chefnogaeth partneriaid, gan gynnwys Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer a’r grŵp Networks for Nature, maent wedi gallu deall pa newidiadau y mae pobl eu heisiau ar hyd y Lôn Las. Ac yna wedi gweithio gyda nhw i wneud i hynny ddigwydd.

Rhoddodd Derek gipolwg i ni ar sut y rhoddodd hyn lais i bobl o bob oedran, cefndir a gallu yn nyfodol y Lôn Las.

“Pan ddywedodd dros hanner y bobl y gwnaethom eu holi eu bod am weld mwy o blanhigion ar y Lôn Las, fe wnaethom weithredu. Estynnodd ein swyddogion ymgysylltu allan at grwpiau cymunedol presennol sy’n cefnogi’r Lôn Las ac fe wnaethant godi arian i blannu miloedd o fylbiau blodau’r gwanwyn ar hyd y llwybr.

Yn ogystal â denu pobl i ddefnyddio’r llwybr, mae’n fanteisiol i fyd natur..”

“Roedd Walk Wheel Cycle Trust eisiau annog mwy o blant i ddefnyddio’r Lôn Las. Felly fe wnaethom gydweithio â phlant yn Ysgol Gynradd Newton ac Ysgol Gynradd Gymunedol Arches, yn ogystal â’u rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr.

Yn ystod cyfres o weithdai ymgysylltu, dyluniodd disgyblion weithiau celf lliwgar, gan ddenu mwy o bobl ifanc i archwilio’r llwybr, newid arferion teithio ac annog beicwyr i arafu yn eu man a rennir.”

“Dywedodd bron i draean o’r trigolion lleol y siaradon ni â nhw eu bod yn pryderu am ba mor gyflym yr oedd pobl yn beicio ar y Lôn Las. Felly gosododd ein tîm ddwy gât igam-ogam y tu allan i Ysgol Gynradd Newton i helpu i leihau cyflymderau.

Ar ôl dwy flynedd roeddem yn hapus i weld bod nifer y bobl a oedd yn defnyddio’r Lôn Las wedi cynyddu 53% a bod cyflymderau beicio wedi lleihau 34%.”

“Gweithiodd y Walk Wheel Cycle Trust gyda busnesau ar Ystad Ddiwydiannol Winsford hefyd, i annog mwy o bobl i ddefnyddio’r Lôn Las i gymudo i’r gwaith.

Fe wnaethom ddarganfod nad oedd gweithwyr yn gwybod am naill ai’r rhwydwaith o lwybrau neu’r cyrchfannau yr oedd yn cysylltu â nhw.

I ledaenu’r gair, fe wnaethom gynnal digwyddiadau a gweithgareddau i annog mwy o deithio llesol. O ganlyniad, mae’r Lôn Las bellach yn darparu man i bobl fwynhau cymudo wrth eu pwysau. Ac mae rhan Cei Connah o’r llwybr bellach yn gweld tua 72,000 o gerddwyr a 147,000 o deithiau beic bob blwyddyn, yn ôl Arolwg Defnyddwyr Llwybr.”

“Rydym yn galluogi mwy o bobl i ddod yn nes at ein mannau gwyrdd. Mae gweithgareddau Sw Caer fel rhan o brosiect Networks for Nature yn ein helpu i estyn allan at ysgolion, teuluoedd, pobl ifanc a grwpiau cymunedol sydd angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol.

Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys:

  • Cefnogi 4,500 o fyfyrwyr mewn prosiectau ysgol blwyddyn gyfan sy’n cynnwys hyfforddiant athrawon, clybiau bywyd gwyllt i deuluoedd, ymweliadau â’r sw a chamau cadwraeth ar dir yr ysgol.
  • Cefnogi 90 o bobl ifanc mewn cyrsiau arweinyddiaeth amgylcheddol
  • Darparu cefnogaeth fanwl fel y gall 18 o grwpiau cymunedol wella eu mannau gwyrdd ar gyfer pobl a bywyd gwyllt
  • Cefnogi ‘Hyrwyddwyr Bywyd Gwyllt’ hyfforddedig mewn dros 100 o grwpiau a sefydliadau cymunedol eraill
  • Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau natur i wella eu hiechyd meddwl a chorfforol
  • Gweithio gyda 6 meddyg teulu i wella dealltwriaeth o sut mae natur o fudd i iechyd a lles
  • Ymgysylltu â dros 700 o bobl mewn cyfleoedd gwirfoddoli, gan gynnwys cadwraeth ymarferol, a chofnodi a rhannu gwybodaeth am fywyd gwyllt.”

Budd partneriaeth 2: Hyrwyddo natur i bawb

Pryd bynnag a lle bynnag y mae natur angen help llaw, gall partneriaethau gyrraedd ymhellach ac yn ehangach i ddod o hyd i’r bobl iawn gyda’r adnoddau cywir.

Esboniodd Derek sut mae cydweithio wedi gwneud natur yn fwy o ran maint, yn fwy trawiadol ac yn fwy prydferth ar hyd y Lôn Las.

“Trwy ymuno â phrosiect cynharach dan arweiniad Sw Caer o’r enw Nature Recovery Corridor roedd y bartneriaeth o sefydliadau dan sylw yn gallu neilltuo amser ac adnoddau i helpu i roi gwell mynediad at natur i grwpiau dan anfantais trwy adfer cynefinoedd dros ystod 10 milltir o Gaer i Ellesmere Port.

Roedd ysgolion lleol a gwirfoddolwyr cymunedol yn rhan o bob math o weithgareddau hybu natur sy’n cysylltu pobl a bywyd gwyllt. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Plannu ar gyfer peillwyr
  • Creu gerddi cors
  • Sefydlu ardaloedd bywyd gwyllt gyda gwestai chwilod
  • Gosod pyllau a blychau adar”

“I’w gwneud hi’n haws i bobl fynd ar neu oddi ar y Lôn Las, cawsom gefnogaeth gan y bartneriaeth Networks for Nature i wella’r pwyntiau mynediad arglawdd.

Roedd rhai yn serth ac roedd llawer wedi gordyfu. Felly fe ddefnyddion ni ein sgiliau i dynnu llystyfiant, plannu blodau gwyllt a gwella’r pyllau tymhorol. Yn ogystal â gwneud y llwybrau’n fwy hygyrch, mae wedi rhoi lle i natur dyfu ac amrywio.”

“Rhan o fy rôl yw cynghori ar waith gwella cynefinoedd a chynyddu cysylltedd cynefinoedd ar hyd y llwybr. Dros y blynyddoedd diwethaf mae hyn wedi cynnwys rhoi mesurau ar waith i amddiffyn rhywogaethau prinnach a mwy bregus.

Mae tîm ystadau Walk Wheel Cycle Trust hefyd wedi bod yn rhan o’r gwaith o greu gwlyptiroedd, rheoli prysgwydd, cynnal cynefinoedd cymysg a rheoli glaswelltiroedd blodau gwyllt er mwyn gwella amrywiaeth rhywogaethau.

Rydym hefyd wedi gweithio’n galed i amddiffyn ystlumod o fewn pontydd, llygod dŵr a dyfrgwn yn ein cyrsiau dŵr cyfagos, moch daear sy’n gwneud cartrefi yn yr argloddiau rheilffordd coediog a madfallod cribog yn ein pyllau a’n ffosydd.

Partneriaethau yw’r rheswm pam y gallwn barhau i gynnig a chymhwyso arbenigedd sy’n helpu’r rhywogaethau prin hyn i wella.”

“Pan fyddwn yn datblygu lonydd glas, byddwn yn ymgorffori adferiad natur o’r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn cynnwys dylunio mesurau lliniaru newid hinsawdd fel rhan o’r cam adeiladu, siarad â thimau cynnal a chadw’r awdurdod lleol a fydd yn gofalu am y Lôn Las ar lawr gwlad, ac ymgysylltu â’r cymunedau lleol a fydd yn ei defnyddio.

Drwy weithio mewn partneriaeth, gallwn fod yn sicr o wneud y mwyaf o botensial y Lôn Las i weithredu fel dalfa garbon hollbwysig, gan amsugno carbon deuocsid o’r atmosffer i liniaru effeithiau newid hinsawdd.”

Budd partneriaeth 3: Rhoi grym ychwanegol i awdurdodau lleol

Mae’r Lôn Las yn rhan o rwydwaith o fannau gwyrdd ar draws trefi a dinasoedd, felly mae’r gallu i gydweithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol yn hanfodol.

Dywedodd Derek wrthym sut mae partneriaethau trawsffiniol wedi bod o fudd i’r awdurdodau lleol a’r Lôn Las.

“Gall partneriaethau rhwng awdurdodau lleol ei gwneud hi’n haws cyflawni prosiectau gwyrdd a goresgyn heriau cymhleth wrth i chi gyfuno adnoddau, sgiliau a gwybodaeth. Daeth ein perthnasoedd yn gryfach o ganlyniad i weithio’n agosach at ei gilydd, ac fe wnaethom ddatblygu cysylltiadau ag ystod ehangach o gyrff anllywodraethol amgylcheddol, tirfeddianwyr lleol, rhoddwyr, elusennau a grwpiau cymunedol.

A’r ehangaf yw eich cysylltiaau o fewn y gymuned, y mwyaf tebygol yw hi y bydd rhanddeiliaid lleol yn bwrw ymlaen ag unrhyw newidiadau gwyrdd.”

“Mae Walk Wheel Cycle Trust ar grŵp llywio Bionet Cymru gyda 4 awdurdod lleol. Mae hyn yn sicrhau bod unrhyw weithgareddau ar Lôn Las Swydd Gaer a Glannau Dyfrdwy a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ategu ac yn gwella unrhyw brosiectau Bionet Cymru.

Ochr yn ochr â Networks for Nature, mae darlun yn dod i’r amlwg o we o brosiectau adfer natur sydd â’r potensial i weithio’n rhagorol gyda’i gilydd.”

“Mae ein partneriaethau trawsffiniol wedi ein galluogi i osod tri arwydd gyda phellteroedd ac amseroedd ar y llwybrau cerdded a beicio mwyaf cyffredin, gan helpu pobl i gynllunio eu teithiau. Rydym hefyd yn cydweithio i osod seddi ar hyd y Lôn Las fel y gall hyd yn oed mwy o bobl gymryd eiliad ychwanegol i fwynhau natur.”

Budd partneriaeth 4: Cydweithio i sicrhau cyllid

Roedd cydweithio â phartneriaid gwahanol yn cynnig buddion ariannol uniongyrchol i’r Lôn Las. Roedd dangos nodau cyffredin yn rhoi mwy o hygrededd ac yn agor y drws i gyfleoedd cyllido yn y dyfodol.

Mae Derek hefyd wedi cynnwys dwy enghraifft o bartneriaethau’n cael mynediad at gyllid anoddach ei gyrraedd fel rhan o raglen adfer natur ehangach.

“Gweithiodd Walk Wheel Cycle Trust gyda Chyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer i sicrhau cyllid Cronfa Argyfwng Teithio Llesol a ryddhawyd yn ystod y pandemig.

Helpodd ein partneriaeth i sicrhau’r cyllid trwy allu ymateb yn gyflym gyda:

  • Manylion union beth oedd angen gwaith atgyweirio
  • Costau ar gyfer y cynlluniau
  • Amserlen gyflawni a allai gynhyrchu ‘calyniadau cyflym’”

“Ni ddigwyddodd ein partneriaeth â phrosiect Networks for Nature ar ei phen ei hun. Fe gafodd ddechrau da pan ddyfarnwyd grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol o dros £4 miliwn i Sw Caer, gyda chyllid cyfatebol sylweddol o gronfeydd craidd Sw Caer, Sefydliad Westminster, Ymddiriedolaeth Elusennol yr Arglwydd Leverhulme a rhoddwyr eraill.

Mae gweithio mewn partneriaeth a chydweithio ar geisiadau am gyllid wedi rhoi mynediad i ni at gyllid cenedlaethol ar gyfer ein gwaith lôn las lleol a fyddai fel arall bron yn amhosibl ei gyrraedd.”

“Mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych, cawsom gyfran o gyllid Grant Craidd Llywodraeth Cymru i wella bioamrywiaeth ar hyd y Lôn Las. Caniataodd i ni ehangu ein gwaith hyd yn oed ymhellach, gan greu dolydd o dir prysgwydd, gwella pyllau a helpu gwirfoddolwyr i ennill cymwysterau mewn trin offer fel llifiau a thorwyr, plannu gwrychoedd a phlannu perllannau.”

I ba gyfeiriad nawr?

Yn chwilio am fwy o syniadau o ran sut y gall eich awdurdod lleol reoli eich lonydd glas ar gyfer pobl a natur? Darllenwch ymlaen am enghreifftiau llawn ysbrydoliaeth o bob cwr o'r DU.

Lôn Las Kenilworth yn Swydd Warwick

Yn rhedeg ar hyd hen linell gangen y rheilffordd o Berkswell i Gyffordd Kenilworth, mae'n rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a Pharc Gwledig Swydd Warwick. Mae'r Lôn Las wedi'i chynnal a'i chadw'n dda ar gyfer pobl a natur ac mae'n darparu cysylltiadau cerdded, olwynio a beicio allweddol sy'n cynnwys Prifysgol Warwick, Coed Crackly a Choedwig a Gwarchodfa Natur Tocil.

Archwilio Lôn Las Kenilworth
Archwilio Lôn Las Kenilworth

Lôn Las Comber yn Belfast

Yn un o'r lonydd glas mwyaf poblogaidd yng Ngogledd Iwerddon, mae'n cychwyn yng nghalon Ardal Titanic Belfast ac yn ymdroelli saith milltir allan i gefn gwlad Swydd Down. Ceir hwb teithio llesol i rymuso pobl i gymudo ar feic a chael effaith gadarnhaol ar ansawdd yr aer. Caiff y Lôn Las ei rheoli gan dimau parciau a hamdden ar draws gwahanol awdurdodau lleol.

Archwilio Lôn Las Comber
Archwilio Lôn Las Comber

Lôn Las Paisley yn Swydd Renfrew

Mae'r adran oddi ar y ffordd hon o Lwybr 7 yn rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ac mae 250,000 o bobl yn dewis ei cherdded neu ei holwynio bob blwyddyn. Mae'n dod â budd enfawr i'r gymuned gan ei bod o fewn pum munud ar droed o dair ysgol, ysbyty, sawl archfarchnad a chanol y dref ac mae'n cysylltu'n uniongyrchol â Gorsaf Reilffordd Camlas Paisley. Fe'i hariannwyd trwy Raglen Lonydd Glas yr Alban.

Dysgu am Raglen Lonydd Glas yr Alban
Dysgu am Raglen Lonydd Glas yr Alban