Mapiwch eich Rhwydwaith Natur trefol
03-09-2026
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rebecca Hughes
03-09-2026
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rebecca Hughes
Mae angen natur ar bobl mewn trefi a dinasoedd. Mae’n glanhau’r aer ac yn cysgodi ein strydoedd, yn lleihau’r risg o lifogydd ac yn gwneud i ni deimlo’n well.
Yn y cyfamser, mae angen rhwydwaith o gynefinoedd cysylltiedig o ansawdd uchel ar natur i feithrin cydnerthnedd a darparu’r manteision hyn (neu ‘wasanaethau ecosystem’) i gymunedau lleol.
Ar hyd a lled y DU, defnyddir dulliau gweithredu gwahanol i ganfod ble mae cynefinoedd presennol, a ble mae’r cyfleoedd i’w gwella a’u cysylltu.
Mae’r adnodd hwn yn bennaf ar gyfer mannau yn yr Alban sy’n dylunio ac yn gweithredu rhwydwaith gan ddefnyddio’r Fframwaith Rhwydweithiau Natur, gydag awgrymiadau a gwersi gan y tîm o arbenigwyr a thrigolion a greodd Rwydwaith Natur trefol cyntaf yr Alban yng Nghaeredin.
Os nad ydych wedi eich lleoli yn yr Alban, efallai y bydd y prif egwyddorion a’r prosesau a ddilynwyd ganddynt yn ddefnyddiol i chi o hyd. Ble bynnag yr ydych, byddai’n werth ystyried y cyd-destun polisi a chynllunio yn eich ardal chi.
Ehangwch y blychau i ddysgu mwy am fanteision cynefinoedd cysylltiedig a sut i ddechrau arni gyda’ch Rhwydwaith Natur.
Daeth Caeredin ag ystod o arbenigwyr a thrigolion y ddinas at ei gilydd i greu map integredig o gynefinoedd a’u manteision i bobl a natur.
Maent yn defnyddio offeryn mapio i ddangos ble mae angen help ar fywyd gwyllt i symud a ffynnu mewn amodau sy’n newid. Mae hyn yn mynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth ac yn helpu’r ddinas i addasu i rai o effeithiau newid hinsawdd fel llifogydd.
Gwyliwch y fideo i glywed sut y cyfunodd y tîm ddata gwyddonol â gwybodaeth leol ac ystyriaethau ymarferol i drawsnewid parciau, mannau gwyrdd, afonydd, llynnoedd a thraethlinau.
Yna sgroliwch ymlaen i glywed am y cynlluniau peilot cynnar a sut mae’r Rhwydwaith yn dod â budd i bobl a natur nawr.
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rebecca Hughes
Dyma sut y gwnaeth cynllun peilot Rhwydwaith Natur gefnogi dau o brif flaenoriaethau Cyngor Dinas Caeredin - creu mannau da i fyw a gweithio ynddynt a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur erbyn 2030.
Yma, mae aelodau o’r tîm o Gyngor y Ddinas, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yr Alban a Phrifysgol Caeredin a helpodd i greu Rhwydwaith Natur Caeredin yn rhannu eu profiadau i’ch helpu i ddechrau arni.
Datblygwyd y canllaw hwn fel rhan o brosiect Future Parks Accelerator yn 2021. Mae wedi’i ddylunio i gael ei ddilyn ac i ailymweld ag o yn y ffordd sydd fwyaf priodol ar gyfer eich ardal chi.
Os ydych chi yn yr Alban, ewch i’r Blwch Offer Rhwydweithiau Natur am ragor o arweiniad a chefnogaeth.
Mae’n hanfodol bod gennych ystod eang o randdeiliaid arbenigol yn rhan o’r gwaith o’r dechrau, o arbenigwyr mapio System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) ac ecolegwyr i dimau ymgysylltu â phobl a chymunedau.
“Fe wnaethon ni uno a chael pawb i weithio ar y cyd yn y ddinas” meddai Donya Davidson, a arweiniodd y gwaith o ddatblygu’r Rhwydwaith Natur yng Nghyngor Dinas Caeredin. “Daethant yn ‘hyrwyddwyr’ i’r prosiect a byddent yn lledaenu’r gair i randdeiliaid eraill. Nid oeddem erioed wedi gweithredu ar raddfa tirwedd gyfan o’r blaen ac fe helpodd hynny ni’n fawr yn y broses.”
Ystyriwch y mathau penodol o arbenigedd sydd eu hangen ar gyfer eich ardal chi, megis coetir, glaswelltir a thir gwlyb. Bydd angen pobl arnoch a all nodi cyfleoedd i newid sut mae’r tir yn cael ei reoli er budd pobl a natur.
I greu mapiau Rhwydwaith Natur mae angen i chi goladu nifer o wahanol haenau data.
Gallwch ddechrau trwy ddefnyddio map cyffredinol o’r ardal ddaearyddol, gan ychwanegu haenau o ddata dosbarthu cynefinoedd, gan gynnwys cynefinoedd blaenoriaeth (gweler y cam nesaf).
“Roedd yn wych gweithio ar brosiect sy’n anelu at gael effaith mewn bywyd go iawn” meddai Marc Metzger, Athro Amgylchedd a Chymdeithas ym Mhrifysgol Caeredin a rhan o dîm y prosiect. “Cafwyd cyfarfodydd gyda phobl polisi o’r awdurdodau lleol a fynegodd bryderon neu a nododd gyfleoedd na fyddwn i byth wedi meddwl amdanynt.”
Ni fydd y setiau data hyn o reidrwydd yn cynnwys y math o fannau gwyrdd rydych yn debygol o’u cael mewn ardaloedd trefol. Felly, cam ychwanegol pwysig yw ychwanegu haen cynefin trefol gyda phethau fel gerddi preifat a chyhoeddus, mynwentydd, parciau, meysydd chwarae, coridorau gwyrdd a rhandiroedd.
Mae peth o’r data hwn ar gael ar Ordnance Survey Open Greenspace. I gynnal dadansoddiad manylach ar raddfa gardd, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio adnoddau Mapio OS trwyddedig.
Dylai map y rhwydwaith gynnwys cynefinoedd blaenoriaeth, sef y rhai y bernir eu bod yn y perygl mwyaf o gael eu colli neu eu bygwth ac sydd angen eu gwarchod. Gellir dod o hyd i’r rhain ar restr flaenoriaeth Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU (BAP) neu’r hyn sy’n cyfateb yn eich ardal chi.
“Mae cadwraeth a diogelu natur mewn gwirionedd yn ymwneud â phobl, oherwydd pobl yw’r rhai sy’n gorfod newid peth o’u hymddygiad er mwyn diogelu natur” parha Marc. “Pobl fydd yn ariannu mesurau cadwraeth a phobl sydd eisiau byw gyda natur a mannau gwyrdd neu yn eu hymyl.”
Mae’n ddefnyddiol plotio ardaloedd â diogelwch statudol ar y map hefyd. Gallai’r rhain gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Morol Gwarchodedig (AMG) ac ardaloedd Ramsar (tiroedd gwlyb o bwysigrwydd rhyngwladol).
Hefyd, nodwch unrhyw safleoedd a ddynodwyd yn lleol, megis gwarchodfeydd natur a safleoedd bioamrywiaeth lleol.
Gelwir y manteision i bobl o gynefinoedd a bywyd gwyllt yn wasanaethau ecosystem.
Mae saith gwasanaeth ecosystem allweddol sy’n benodol i fioamrywiaeth: puro aer, rheoleiddio sŵn, rheoleiddio tymheredd, puro dŵr, rheoleiddio llifogydd, iechyd a llesiant, a pheillio gan bryfed.
Er nad yw’n orfodol eu cynnwys ar fapiau Rhwydwaith Natur o dan ganllawiau’r Alban, gallant fod yn ddarn defnyddiol o’r pos i nodi a blaenoriaethu camau gweithredu.
“Mae pobl yn elwa o natur mewn cymaint o wahanol ffyrdd” meddai Donya. “Rydym yn dibynnu ar bryfed peillio am fwyd a choed i atal llifogydd fel nad yw ein cartrefi yn cael eu dinistrio.”
Mae canllaw cyflwyno Defra i werthfawrogi gwasanaethau ecosystem yn lle da i ddechrau.
Mae canllaw Healthy Outdoors Natural England yn awgrymu ffyrdd o fesur manteision natur ac amser yn yr awyr agored ar gyfer iechyd a lles a allai fod yn ddefnyddiol i fannau eraill hefyd.
Chwiliwch am fannau lle mae tebygolrwydd gwirioneddol o allu gwneud newidiadau cadarnhaol i gynefinoedd.
“Fe wnaethon ni ddefnyddio’r mapiau yn enwedig i’n helpu i ddatblygu ein cynlluniau tymor hir” meddai Linda Anglin, Uwch Reolwr Parciau a Mannau Gwyrdd Cyngor Dinas Caeredin. “Gallwn edrych ar yr ardaloedd lle mae prosiectau eisoes ar y gweill a hefyd gweld ble nad oes dim wedi’i gynllunio. O fan hyn, gallwn edrych i weld beth gallwn ei wneud yn yr ardaloedd hyn.”
Bydd angen gwybodaeth arnoch gan yr awdurdod lleol am fannau agored, tai yn y dyfodol a thir diffaith ar gyfer y cam hwn. Mae hefyd yn gyfle i estyn allan at dirfeddianwyr a rheolwyr sy’n awyddus i ganiatáu i’w tir gael ei ddefnyddio fel rhan o’r Rhwydwaith Natur trefol.
Ystyriwch ble mae’n gorfforol bosibl gwneud ymyriadau hefyd. Er enghraifft, efallai na fydd bloc o fflatiau yn cynnig cyfle amlwg nes i chi ystyried y gerddi o’i amgylch a’r to.
Gan ddefnyddio dadansoddiad GIS, cyfunwch yr holl ddata rydych wedi’i gasglu fel haenau ar fap o ardal eich Rhwydwaith Natur trefol.
Bydd hyn yn helpu chi a’ch tîm i archwilio’r cysylltiadau rhwng y data yn y gwahanol haenau a dechrau nodi cyfleoedd allweddol ar gyfer ymyriadau neu gamau gweithredu.
“Fe wnaeth Cyngor Dinas Caeredin ymgorffori ein hargymhellion yn eu cynllun datblygu lleol” meddai Dr. Cathleen Thomas, a oruchwyliodd y gwaith o ddatblygu Rhwydwaith Natur Caeredin yn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yr Alban. “Er enghraifft, gallent ymgorffori toeau gwyrdd neu waliau gwyrdd, systemau draenio trefol cynaliadwy, gerddi glaw – beth bynnag sy’n gwella’r safle i bobl a bywyd gwyllt sy’n byw yno.”
Trefnwch sesiynau ymgysylltu (ar-lein neu wyneb yn wyneb) gyda phartneriaid lleol (fel ecolegwyr, llywodraeth leol a chynrychiolwyr cymunedol, tirfeddianwyr ac arbenigwyr eraill) i rannu’r gwaith mapio hyd yma, ei brofi a’i wella.
Ychwanega Cathleen “Fe wnaethon ni ddod o hyd i ffyrdd arloesol o gynnal gweithdai ar-lein i bobl weld y mapiau a rhoi sylwadau arnynt. Roedd yn her a oedd angen cryn dipyn o hyfforddiant technegol, ond fe helpodd gyda’n lefelau cyfranogiad – daeth rhai i bob un gweithdy!”
Casglwch eu hawgrymiadau ar yr ymyriadau neu’r camau gweithredu mwyaf effeithiol a dichonadwy i greu neu wella eich Rhwydwaith Natur trefol.
Ar ôl pennu camau gweithredu, mae angen eu blaenoriaethu fel y gellir cyfeirio adnoddau (fel cyllid a staff) yn effeithiol.
“Roedd y mapiau’n dangos faint o fannau gwyrdd oedd gan y cyngor ac y gallai wneud mwy â nhw” meddai Marc. “Mewn gwirionedd, nid y cyngor yn unig ond perchnogion tai a allai wella eu gerddi, busnesau a allai wella’r tir ar eu hystadau, ac ati.
“Yna, y ffocws oedd blaenoriaethu ble mae gwelliannau yn y dyfodol yn digwydd a phwy ddylai fod yn eu gwneud.”
Mae newidynnau i’w hystyried yn y broses flaenoriaethu yn cynnwys cost, maint, amser a manteision disgwyliedig i bobl a bywyd gwyllt.
Ar ôl blaeniriaethu camau gweithredu, bydd angen i chi greu cynllun cyflawni i arwain y gwaith o greu eich Rhwydwaith Natur trefol.
Mae llawer o ystyriaethau ynghlwm wrth hyn, a bydd angen i chi weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys cymunedau lleol, i’w gael yn iawn.
Mae’r broses yn gofyn am gwmpasu ac ymgynghori manwl; bydd angen i chi feddwl am y sut, ble, pam, pwy, pryd a beth ar gyfer pob cam gweithredu. Er enghraifft, pe baech yn penderfynu plannu mwy o goed mewn parc, byddai angen i chi feddwl ble yn y parc i’w plannu, a fyddech yn eu plannu’n unigol neu mewn grwpiau, pa rywogaethau y byddech yn eu plannu, o ble y byddech yn eu cael, ac ati.
“Ar ôl i ni nodi’r holl wahanol gamau gweithredu roedd yn bwysig gwneud y mapiau’n hygyrch ac yn atyniadol i’r cyhoedd, fel y gallent chwarae eu rhan – mae arnom angen ein gwyddonwyr-ddinasydion!” meddai Donya.
Byddwch yn rhagweithiol o ran sut rydych yn dweud wrth bobl am y rhwydwaith. Dywedwch wrth drigolion pam mae creu mannau cysylltiedig ar gyfer natur yn bwysig a helpwch nhw i ddeall y rhan y gallant ei chwarae.
“Rydym wedi datblygu cyfres o arwyddion a darluniau ar gyfer Rhwydweithiau Natur gyda’r un edrychiad a theimlad â phrosiectau eraill o dan ein strategaeth Thriving Green Spaces” meddai Alexandra Hoadley. “Mae hyn yn gwneud iddo deimlo’n gyfarwydd, ac mae’r holl ddarluniau wedi’u seilio ar rywogaethau a lliwiau Caeredin.”
Mae arwyddion a logo Rhwydwaith Natur Caeredin hefyd ar gael i bartneriaid a’r gymuned eu defnyddio, er mwyn creu ymdeimlad o bartneriaeth a chydweithio.
Mae’r ffordd at drefi a dinasoedd gwyrddach a ffyniannus yn edrych yn wahanol ar hyd a lled y DU. Cliciwch i ddarganfod mwy am ddulliau adfer natur trefol ym mhob un o genhedloedd y DU.