Canllawiau’r Awdurdod Lleol i weithio mewn partneriaeth ar gyfer pobl a byd natur
24-06-2025
Canllaw
24-06-2025
Canllaw
Mae’r adnodd hwn yn edrych ar sut all awdurdodau lleol helpu i lunio dyfodol gwell ar gyfer pobl a llefydd drwy fabwysiadu agwedd strategol tuag at weithio mewn partneriaeth. Mae’n edrych ar wahanol fframweithiau, ei fuddion posib a phethau i gadw llygad arnynt. Mae yna hefyd ganllaw arfer gorau gydag adnoddau i’ch rhoi ar ben ffordd.
Gall gweithio mewn partneriaeth fod yn arbennig o fuddiol pan mae adnoddau yn cael eu dwyn ynghyd er mwyn cyflawni canlyniadau cyffredin. Er enghraifft, gallai gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliad yn y sector gwirfoddol i gyflawni prosiect gwyrddio trefol wneud y mwyaf o’r buddion cymdeithasol ar gyfer y gymuned leol a darparu datrysiad ar gyfer stiwardiaeth asedau gwyrdd newydd yn y dyfodol.
Gall gweithio mewn partneriaeth roi’r adnoddau i chi allu mynd i’r afael â heriau mewn ffordd newydd. Canolbwyntio ar ddyheadau, arallgyfeirio incwm, rhannu adnoddau a chyflawni nodau cyffredin drwy alluogi pawb i ddod â rhywbeth unigryw a gwerthfawr at y bwrdd.
Mae’r rhai sydd wedi cymryd agwedd strategol tuag at weithio mewn partneriaeth yn dueddol o weld gwell canlyniadau. Mewn geiriau eraill, mae’n well meddwl sut rydych chi’n gweithio gyda sefydliadau allanol fel rhan o’ch cynllun cyflawni gwyrddio trefol cyffredinol.
Mae tri awdurdod lleol yn rhannu sut maent wedi mabwysiadu agwedd fwy strategol tuag at weithio mewn partneriaeth, a’r buddion y mae wedi helpu i’w cyflawni ar gyfer pobl a byd natur.
Mae yna amrywiol fathau o bartneriaethau. Mae fframwaith wedi’i ddiffinio yn darparu lefel o ddiwydrwydd dyladwy a rheoli risg ar gyfer eich awdurdod lleol ac mae’n rhoi sicrwydd a chefnogaeth i bartneriaid allanol. Dyma dri math i’w hystyried:
Bydd gan bob awdurdod lleol ffyrdd ychydig yn wahanol o ddiffinio gweithio mewn partneriaeth. Isod mae rhai ffyrdd y gellid cymhwyso gweithio mewn partneriaeth mewn cyd-destun lleol, a rhai enghreifftiau o ble efallai na fyddai’n briodol. Am fwy o help i benderfynu pryd i gymhwyso fframwaith partneriaeth, dyma ‘ganllaw i ganfod cyfleoedd’.
Mae gan awdurdodau lleol farn wahanol ynghylch a yw contractau masnachol neu wasanaeth a dyfarniadau grant yn gyfystyr â phartneriaethau. Byddai agwedd fwy cyfannol a strategol yn tueddu i ystyried y mathau hyn o drefniadau fel partneriaethau, a fydd fel arfer yn arwain at fuddion ychwanegol.
Os yw mater neu ddatblygiad yn gyfrifoldeb yn bennaf i un sefydliad, gydag eraill ddim ond â diddordeb ymylol, yna efallai na fydd partneriaeth yn briodol. Yn yr un modd, lle mae gan yr awdurdod lleol reolaeth uniongyrchol dros gyllideb a chyfrifoldebau gwneud penderfyniadau, byddai’n well ystyried ffordd amgen o ddiffinio’r sefyllfa.
Gall fod yn demtasiwn i leihau biwrocratiaeth a chymryd agwedd fwy anffurfiol at weithio mewn partneriaeth. Yn y tymor hir, mae llywodraethu clir yn hanfodol. Fodd bynnag, gall fod yn briodol cael lefel o hyblygrwydd ar gyfer faint o ‘fiwrocratiaeth’ sydd ei angen yn dibynnu ar lefel y risg, y cyfrifoldebau y cytunwyd arnynt a chymhlethdod y cytundeb.
Mae yna lawer o fuddion i weithio mewn partneriaeth sydd i gyd yn rhyngweithio â’i gilydd ac yn cefnogi ei gilydd.
O helpu pawb sy’n gysylltiedig i gyflawni eu hamcanion strategol i gael mynediad at ystod ehangach o setiau sgiliau a chyfleoedd ariannu, dyma grynodeb o’r buddion y gall eu cynnig.
Mae partneriaeth o sefydliadau sy’n gweithio gyda chymunedau mewn gwahanol ffyrdd ac ar wahanol lefelau mewn sefyllfa dda i ymateb i anghenion pobl a byd natur ar lefel leol iawn.
Mewn cyd-destun partneriaeth, gall amserlenni a graddfeydd gwaith amrywiol gefnogi penderfyniadau cyflym a datblygiad syniadau, er mwyn galluogi partneriaid i fachu ar gyfleoedd a bod yn ymatebol i angen lleol.
Gallai partner allanol gynnig cefnogaeth i brofi ac addasu syniadau newydd, gan arwain at ffyrdd newydd ac arloesol o helpu pobl a byd natur i ffynnu.
Efallai y bydd partner allanol mewn sefyllfa well i drafod a chynnig gwahanol fewnwelediadau.
Mae cynghrair o bartneriaid yn dod â gwahanol safbwyntiau, sgiliau, profiad, gwasanaethau a diwydiannau at ei gilydd.
Gall partneriaethau gynnig buddion i’r ddwy ochr wrth helpu i gyflawni ystod o amcanion strategol, megis canlyniadau cymdeithasol neu amgylcheddol cadarnhaol.
Gallai partneriaethau sicrhau bod anghenion grwpiau ymylol penodol (e.e. pobl anabl, ffoaduriaid neu bobl sy’n gadael gofal) yn cael eu bodloni, gan alluogi hyd yn oed mwy o bobl i fwynhau byd natur yn agos at ble maent yn byw.
Efallai y bydd gan bartner wybodaeth a data ffurfiol neu anffurfiol am gymunedau sy’n helpu i gyflawni prosiectau sy’n diwallu eu hanghenion.
Gall partneriaethau strategol wella gwelededd achos neu brosiect, gan ennyn diddordeb grŵp mwy amrywiol o bobl yng ngwaith cadarnhaol y sefydliadau dan sylw.
Efallai y bydd sefydliadau allanol yn gymwys i wneud cais am gyfleoedd ariannu newydd, sy’n golygu mwy o wenyn, gloÿnnod byw, parciau a llynnoedd i gymunedau trefol.
Gallai partner allanol gynnig cyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau cymunedol, sy’n golygu mwy o gyfleoedd i fyd natur adfer a ffynnu.
Efallai y bydd gan bartneriaid y modd i gynhyrchu gwahanol ffynonellau ariannu, megis incwm preifat neu elusennol, sy’n golygu cyllid posib ar gyfer darparu gwasanaethau, prosiectau a datblygiadau.
Gall cael mynediad at gronfa o adnoddau ar draws partneriaeth ei gwneud hi’n haws helpu byd natur i ffynnu, gan gael y sgiliau cywir, i’r lleoedd cywir, ar yr amseroedd cywir.
Efallai y bydd partner allanol yn gallu darparu adnoddau neu werth mewn nwyddau i’r awdurdod lleol nad ydynt yn cael eu diwallu gan eu cyllidebau eu hunain.
Efallai y bydd gan bartner allanol y modd i sicrhau pethau am brisiau is, sy’n golygu bod buddsoddiad mewn pobl a byd natur yn mynd ymhellach.
Er mwyn paratoi eich partneriaeth ar gyfer llwyddiant, mae’n bwysig meddwl ymlaen am unrhyw oblygiadau a heriau y gallai fod angen i chi eu goresgyn.
Dyma rai pethau i gadw llygad arnynt a’u hystyried. Fe welwch adnoddau ar gyfer osgoi’r peryglon posib hyn isod.
Gall yr agwedd, y trefniadau a’r gwaith o reoli partneriaethau gymryd llawer o amser a gofyn am adnoddau amrywiol o fewn yr awdurdod lleol (gan gynnwys caffael a chyfreithiol) sy’n golygu bod cost fewnol.
Efallai na fydd gan y partner allanol yr adnoddau a/neu’r setiau sgiliau sydd eu hangen i fodloni gofynion fframwaith partneriaeth/hanfodion gweinyddol yr awdurdod lleol.
Os nad oes strwythur llywodraethu cryf ar waith, gallai tensiynau a gwrthdaro ynghylch rolau a chyfrifoldebau godi, gan arwain o bosib at derfynu’r bartneriaeth.
Mae gan ein pecyn cymorth isod argymhellion ar sut i reoli risg o amgylch:
Natur hirdymor rhai prosiectau a phartneriaethau, a allai olygu bod angen i’r bartneriaeth esblygu, a bod angen strategaeth ymadael i reoli hyn
Gofynion arbed costau a thoriadau o fewn awdurdodau lleol, a all olygu newid mewn blaenoriaethau a/neu newid strwythurol, gan effeithio o bosib ar gytundeb partneriaeth
Yr incwm a gynhyrchir gan amrywiol weithgareddau a all fynd yn uniongyrchol i’r partneriaid neu randdeiliaid eraill yn hytrach na’r awdurdod lleol. Gallai hyn olygu bod gan yr awdurdod lleol lai o reolaeth dros sut mae’r incwm hwn yn cael ei wario
Unioni problem a achoswyd gan bartner neu’r elfennau cyfreithiol posib a allai ddeillio o hynny a allai gymryd llawer o amser, niweidio enw da a bod yn gostus
Mae elfen rheoli perthynas gweithio mewn partneriaeth yn gofyn am setiau sgiliau a phrofiad penodol y mae angen i’r awdurdod lleol eu hystyried yn ofalus, gan sicrhau bod lefel briodol o adnoddau yn cael eu dyrannu i wneud y mwyaf o’r enillion ar fuddsoddiad.
Os na ystyrir bod y broses yn deg ac yn dryloyw, gallai sefydliadau neu unigolion eraill godi gwrthwynebiadau i bartneriaethau ar sail rhagfarn neu wahaniaethu.
Gallai tensiwn rhwng partneriaid neu wahaniaeth mewn gweledigaeth achosi problemau perthynas neu niwed i enw da.
Dyma dri cham tuag at agwedd fwy strategol tuag at weithio mewn partneriaeth. Ehangwch y teils isod a chymryd golwg ar yr offer gan ddefnyddio’r botymau ar y dde i ddechrau.
Am fwy o gefnogaeth a syniadau, edrychwch ar ganllaw’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) i bartneriaethau seiliedig ar le ac allbynnau rhaglen Partneriaethau ar gyfer Pobl a Lle y llywodraeth.
Mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi creu canllaw sy’n cefnogi awdurdodau lleol i weithio gyda phartneriaid i gyflawni nodau a rennir a gwell canlyniadau ar gyfer byd natur, pobl a lleoedd lleol.
Darllen canllaw’r LGAFe wnaeth y rhaglen Partneriaethau ar gyfer Pobl a Lle brofi agwedd newydd at sut mae adrannau’r llywodraeth yn ymgymryd â dylunio a darparu polisi ‘seiliedig ar le’.
Ymweld â thudalen y rhaglenMae’r testun ar y dudalen we hon wedi’i drwyddedu gan raglen yr Urban Forest Accelerator o dan CC BY 4.0. Cafodd y rhaglen ei rhedeg mewn partneriaeth â ’r Community Forest Trust a’r Woodland Trust, a’i hariannu gan y Gronfa Trees Call to Action. Datblygwyd y gronfa hon gan Defra mewn partneriaeth â’r Comisiwn Coedwigaeth ac mae’n cael ei chyflawni gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch arbennig i Gyngor Dinas Birmingham a Birmingham TreePeople.
Mae’r gweithiau canlynol yn cynnwys deunydd ffynhonnell agored wedi’i drwyddedu o dan CC by 4.0. I weld copi o’r drwydded hon, ewch i creativecommons.org/licenses/by/4.0