Canllaw cymunedol i weithio gyda gwirfoddolwyr
20-03-2026
Dechreuwch arni gyda...
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Rebecca Hughes
20-03-2026
Dechreuwch arni gyda...
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Rebecca Hughes
Mae gwirfoddolwyr yn cynnig dwylo ychwanegol, sgiliau amrywiol a chysylltedd, gan helpu i wneud cymdogaethau’n lleoedd mwy gwyrdd ac iach i fyw ynddynt.
Mae ymchwil yn dangos fod gan wirfoddoli fanteision meddyliol, corfforol a chymdeithasol ar gyfer unigolion sy’n rhoi o’u hamser hefyd.
Fel sefydliad sy’n ystyried eu recriwtio, fodd bynnag, rydych yn cystadlu gyda Netflix, gemau fideo, clybiau, tafarndai, chwaraeon – unrhyw beth mae pobl yn dewis ei wneud yn eu hamser hamdden.
Y newyddion da yw bod nifer o ffyrdd o gefnogi pobl i helpu.
Yn fras, gall gwirfoddoli fod naill ai’n:
Mae’r canllaw hwn i helpu sefydliadau cymunedol i dorri trwy sŵn bywydau prysur i ysgogi pŵer pobl yn eu cymdogaeth. Sgroliwch i lawr neu cliciwch ar y dolenni i ddarganfod mwy am:
Mae gennym hefyd ganllaw i awdurdodau lleol sydd am ysgogi pŵer gwirfoddolwyr ar draws eu tref neu eu dinas.
Mae'r broses hon yn helpu sefydliadau cymunedol i ddod ag ystod amrywiol o wirfoddolwyr i mewn. Mae'n helpu gwirfoddolwyr i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a gweld effaith eu gwaith. Mae'n seiliedig ar daith a ddyluniwyd gan Community Action Suffolk.
Mae cynllunio trwyadl yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer cynnig gwirfoddoli gwych sy’n dod â gwerth i wirfoddolwyr a sefydliadau cymunedol, gan gymell unigolion a grwpiau i gefnogi am gyfnod hirach.
Cofiwch gynnwys cydweithwyr a fydd yn rheoli neu’n gweithio gyda gwirfoddolwyr yn y broses gynllunio er mwyn cael eu mewnbwn a’u cefnogaeth o’r cychwyn cyntaf.
Cliciwch ar y saethau i ddechrau cynllunio.
Mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu eu hamser a’u sgiliau am ddim ac maent yn llawer mwy tebygol o lynu wrth y dasg os ydynt yn cael profiad cadarnhaol a boddhaus.
Mae profiad gwirfoddoli o ansawdd da yn debygol o gynnwys:
Byddwch yn glir ynghylch y canlyniad rydych yn gobeithio ei gael drwy gynnwys gwirfoddolwyr newydd neu fwy o wirfoddolwyr, a’r llinell amser a’r dull o wneud hynny.
Bydd strategaeth wirfoddoli yn eich helpu i ddatblygu cynnig gwirfoddoli cryf a chyfnerthu’r broses gynllunio. Dyma ddolenni i’ch helpu i ddechrau ar strategaeth:
Mae proffiliau gwirfoddolwyr yn amlinellu beth sydd dan sylw mewn rôl. Maent yn bwysig oherwydd eu bod yn helpu pobl i benderfynu a yw rôl yn addas i’w sgiliau a’u diddordebau, rheoli eu disgwyliadau a gweld yr effaith y gallent ei chael.
Mae cysondeb ar draws disgrifiadau rôl yn bwysig, a dylai fersiynau hygyrch fod ar gael hefyd (er enghraifft, print bras neu fformat fideo).
Pethau defnyddiol i’w cynnwys mewn disgrifiad rôl:
Edrychwch ar wefan yr NVCO am fwy o syniadau.
Meddyliwch sut y gallwch greu neu addasu rôl fel ei bod yn hygyrch i bobl o wahanol gefndiroedd, sgiliau, profiadau a galluoedd.
Gall fod yn ddefnyddiol hefyd cyfeirio at gyngor arbenigol ar gynhwysiant a hygyrchedd. Dyma rywfaint o ganllawiau i helpu:
Mae gwirfoddoli un tro yn rhoi cyfle i gyfranogwyr roi cynnig ar wirfoddoli. Dyma rai pethau i’w hystyried:
Dyma rai o’r hanfodion y mae angen i chi eu cynnwys o hyd ar gyfer gweithgareddau gwirfoddoli un tro:
Mae gan Volunteer Now fwy o syniadau ar gyfer gwirfoddoli un tro yma.
Ar ôl deall eich blaenoriaethau a chynllunio eich cynnig gwirfoddoli, mae’n bryd recriwtio gwirfoddolwyr newydd i’ch tîm.
Ehangwch yr adrannau i baratoi.
Sicrhewch fod gennych gynllun recriwtio ac adnoddau ar waith cyn i chi ddechrau. Rhai pethau i feddwl amdanynt:
Mae tudalen gwefan Volunteero ar recriwtio gwirfoddolwyr a’r Volunteer Playbook yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am recriwtio hefyd.
Mae galw mawr am wirfoddolwyr. Sut y byddwch chi’n gwneud i’ch rôl sefyll allan?
Ystyriwch y canlynol wrth hyrwyddo eich rôl wirfoddoli:
Adnoddau ychwanegol ar hyrwyddo eich rôl yma:
Dod o hyd i wirfoddolwyr – NCVO
Sut i ysgrifennu’r hysbyseb recriwtio gwirfoddolwyr berffaith – Charity Digital
Mae llawer o leoedd i hysbysebu eich rôl wirfoddoli, ac mae llawer ohonynt yn rhad ac am ddim. Os ydych chi am gyrraedd mwy o bobl, meddyliwch ble fyddai orau i hysbysebu eich rolau i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Mae ffyrdd o posib o hysbysebu rolau gwirfoddoli ar gael ar wefan NCVO ac yn cynnwys:
Mae proses ymgeisio dda yn eich helpu i ddod i adnabod darpar wirfoddolwyr a’u paru â rôl sy’n addas i’w sgiliau a’u diddordebau. Fodd bynnag, gall ffurflenni a phrosesau ymgeisio trwm hefyd fod yn rhwystr rhag i bobl ymgeisio. Cadwch eich proses ymgeisio ar gyfer rolau gwirfoddoli yn glir, yn syml ac yn deg.
Rhai enghreifftiau:
Mae cael proses ddethol dda ar waith yn eich helpu i ddarganfod mwy am ddarpar wirfoddolwyr. Byddwch yn glir ynghylch eich meini prawf a chadwch y broses yn deg.
Ystyriwch y canlynol cyn i chi ddechrau:
Yn ystod y broses ddethol:
Mae’r angen am sgrinio yn dibynnu ar y rôl. Wrth ysgrifennu eich disgrifiadau rôl, bydd angen i chi ystyried a oes angen gwiriadau ychwanegol. Efallai yr hoffech ystyried:
Mae sefydlu yn gyfle i gyflwyno gwirfoddolwyr newydd i’r sefydliad a’u rôl.
Mae proses gefnogol yn eu helpu i deimlo’n hyderus ac yn creu ymdeimlad o berthyn o’r cychwyn cyntaf. Fel gyda phob cam o’r daith wirfoddoli, mae cynllunio trwyadl yn allweddol i lwyddiant.
Cliciwch ar y saethau i ddechrau.
Dechreuwch trwy ystyried y canlynol:
Bydd gan wahanol rolau a sefydliadau wahanol ofynion sefydlu. Pethau defnyddiol i’w cynnwys:
Mae’n ddefnyddiol ystyried dogfennaeth a all gefnogi hyn:
Mae llawer o adnoddau am ddim ar gael i gefnogi sefydlu gwirfoddolwyr. Dyma ddetholiad:
Dylai pob aelod o staff sy’n arwain neu’n gweithio gyda gwirfoddolwyr fod yn gyfrifol am gefnogi profiad gwirfoddoli rhagorol.
Mae cefnogaeth barhaus i’ch gwirfoddolwyr yn hanfodol. Bydd yn helpu i’w cadw’n frwd ac yn hapus, gan wneud yn fawr o’u hegni a’u brwdfrydedd er budd eich sefydliad a’ch achos.
Diffiniwch yn glir sut a phryd y gallwch gefnogi eich gwirfoddolwyr a nodwch yn glir pwy i gysylltu â nhw os oes angen mwy o help arnynt.
Cliciwch ar y saethau am awgrymiadau a syniadau.
Rhestrir rhai ffyrdd cyffredinol o gefnogi eich gwirfoddolwyr isod.
Mae’n hanfodol sicrhau eich bod yn dod i wybod beth yw anghenion unigol y bobl rydych chi’n eu goruchwylio. Drwy hynny, gallwch ddarparu cefnogaeth ychwanegol y gallai fod ei hangen arnynt y tu hwnt i’r rhestr hon, a sylwi ar newidiadau neu faterion personol a allai effeithio arnynt.
Mae gwirfoddolwyr yn dod â llawer o fanteision i sefydliadau, ond nid yw bob amser yn rhwydd. Cymerwch gamau cyflym a theg i gynnal cefnogaeth gwirfoddolwyr a lleihau unrhyw risg i enw da’r sefydliad.
Mae’n bwysig cael proses datrys problemau ar gyfer gwirfoddolwyr, i’w gwneud yn glir beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le. Dylai hyn fod ar wahân i staff cyflogedig. Gall gysylltu â’ch proses gwyno y dylech ei rhannu gyda’ch gwirfoddolwyr fel rhan o’r broses sefydlu.
Mae gwefan NCVO yn argymell y dylai prosesau datrys problemau gwirfoddoli gynnwys:
Enghreifftiau o bolisïau a gweithdrefnau
Dyma rai awgrymiadau da ar gyfer cadw eich gwirfoddolwyr.
Mae'n well gan rai pobl wirfoddoli mewn ffyrdd mwy anffurfiol. Mae Re-Action Collective yn grŵp o dros 60 o fusnesau, sefydliadau nid-er-elw a chlybiau sy'n helpu pobl i wneud hynny.
Maent yn arafu’r gyfradd rydym yn cymryd adnoddau o fyd natur i wneud ein hoffer awyr agored ac yn annog pobl i gymryd camau cadarnhaol dros yr hinsawdd, o atgyweirio a rhoi cit awyr agored i ail-ddefnyddio offer ac adeiladu llwyfannau rhannu.
Mae ‘ACTionism’ yn derm a fathwyd gan Re-Action Collective, sy’n eistedd rhywle rhwng gweithredu a gwirfoddoli. Mae actifiaeth yn ymwneud â gwrthsefyll y byd fel y mae, ac yna mae ACTionism yn ymwneud â chymryd camau tuag at rywbeth. Yn wahanol i wirfoddoli traddodiadol mewn rôl bresennol i sefydliad neu achos, mae ACTionism yn gofyn i bobl beth maen nhw eisiau ei newid a sut.
Gwyliwch y fideo ac edrychwch ar rai o’u canllawiau ar ddulliau gwirfoddoli anffurfiol.
©Nature Towns and Cities / Jungle
Rhaglen bartneriaeth genedlaethol oedd Nature Neighbourhoods rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB a WWF, wedi’i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r Co-op.
Syniad mawr y rhaglen oedd gweithio ochr yn ochr â 18 o sefydliadau cymunedol dros 2 flynedd, gan eu helpu i gyd-greu cynlluniau wedi’u pweru gan bobl ar gyfer natur yn eu cymdogaethau eu hunain.
Roedd pob cynllun cydweithredol wedi’i wreiddio’n gadarn ym mha bynnag gamau gweithredu dros natur a’r hinsawdd sydd bwysicaf i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yno. Ac fe gawson nhw eu gwireddu gyda chyllid, cefnogaeth a hyfforddiant Nature neighbourhoods