A large tree on a hill in a park. Two people walk along the grass.
White illustration of a tree resembling a fan.

Creu prif gynllun coedwig drefol

Astudiaeth Achos Canllaw Dechreuwch arni gyda... - 24-06-2025

Astudiaethau achos ac adnoddau er mwyn helpu i drawsnewid eich agweddu tuag at gynllunio a rheoli coedwig drefol, gan ddarparu buddion teg i bobl a byd natur.

Adfer natur - Coedwigaeth a choed

Cynyddu gorchudd canopi coed lle mae ei angen fwyaf

Gall coedwigoedd trefol teg ddarparu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau o bobl, mewn cymunedau led-led y DU.  

Ond i’r gwrthwyneb i ddod yn fwy teg, mae ein gorchudd canopi trefol mewn gwirionedd yn dirywio ac mae’n dirywio fwyaf yn yr ardaloedd mwyaf llwyd. Mae’n duedd na fydd yn cael ei wrthdroi heb newid rhagweithiol yn ein hagwedd tuag at gynllunio a rheoli coedwig drefol.

Mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa unigryw er mwyn gallu gyrru’r newid positif yma, a gall y canllaw hwn eich helpu chi isymud oddi wrth deall yr heriau o roi datrysiadau ar waith fydd yn gwella tegwch coed yn ein llefydd trefol.

Darganfyddwch enghreifftiau o arfer gorau a’r modd i roi’r adnoddau, strategaethau a chynlluniau yn eu lle er mwyn trawsnewid eich agwedd tuag at reoli coedwig drefol.

Pum rheswm pam mae awdurdodau lleol yn bwysig i goedwigaeth drefol 

  1. Sylfeini cadarn – gydag ymrwymiad i le a dealltwriaeth ohono
  2. Gwybodaeth a phrofiad eang – gyda chyfrifoldeb dros reoli coed sy’n bodoli eisoes
  3. Timau arbenigol mewn lle – yn gallu ymateb yn sydyn i heriau a chyfleoedd
  4. Perchnogion tir arwyddocaol – gallant gydlynu ar draws dirweddau cymhleth perchnogaeth a rheoli tir
  5. Sawl mandad – ar draws gwahanol sectorau sy’n effeithio pobl sy’n byw mewn trefi a dinasoedd

Sut allwn ni newid ein ffordd o feddwl

Y gair allweddol yma yw cydweithredu. Mae pawb angen cael yr un ffocws a disgwyliad er mwyn sicrhau eich bod i gyd yn symud yn yr un cyfeiriad. Ar ddechrau’r broses, mae’n bwysig cytuno ar gyfres o egwyddorion a rennir a’r canlyniad yn y pen draw rydych chi i gyd yn edrych amdano.

1

Meddyliwch am degwch

2

Meddyliwch yn holistig

3

Meddyliwch yn gydweithredol

4

Meddyliwch yn wleidyddol

Dyma adnodd gweledol ar gyfer newid trawsffurfiadol

Mae ‘Double Diamond’ y Cyngor Dylunio yn adnodd dylunio y gallwch ei addasu, ychwanegu ato a’i deilwra at eich pwrpas eich hun.

Mae’r ddelwedd uchod yn dangos sut mae’r broses dylunio diemwnt yn gallu bod yn adnodd defnyddiol wrth gynllunio coedwig drefol. Darganfyddwch sut y gall y pedwar cam eich helpu i ystyried blaenoriaethau lleol, cyllidebau ac adnoddau, a dod o hyd i ddatrysiadau i broblemau cymhleth a chreu’r cynllun strategol cywir ar gyfer eich coedwig drefol.

Wedi i chi osod a chytuno ar eich egwyddorion a rennir, mae’n amser meddwl, holi a deall pa rwystrau penodol sydd yn eich ffordd yn eich lle. Siaradwch gyda phobl sy’n cael eu heffeithio gan y problemau a pheidiwch â chymryd yn ganiataol eich bod yn gwybod beth yw’r broblem cyn i chi ddechrau.

Dyma ychydig o feddyliau cychwynnol er mwyn rhoi cychwyn ar y sgwrs (dyma rai o’r rhwystrau cyffredin mae awdurdodau lleol eraill wedi’u profi):

  • Diffyg cyllideb – gall tanariannu rheolaeth tymor hir olygu na fydd coed yn cyrraedd aeddfedrwydd
  • Cyllidebau cyfyngedig a rheolaeth adweithiol – cliciwch er mwyn darllen am ymchwil sy’n edrych sut mae awdurdodau yn canolbwyntio ar reoli risg cyn gwella darpariaeth gwasanaethau ecosystem
  • Tirwedd ddinesig ddeinamig – gall datblygiad cyflym a strydlun sy’n newid leihau hyd oes coed
  • Diffyg polisi y gellir ei orfodi – dyw hi ddim wastad yn bosib atal coed rhag cael eu symud neu i greu mandad ar gyfer cynyddu canopi ar ddatblygiadau
  • Perchnogaeth tir amrywiol – mae’r rhan fwyaf o dir mewn trefi a dinasoedd yn eiddo i berchnogion preifat, gan wneud cydlynu a hyrwyddo ehangu coedwigoedd trefol ar draws nifer o berchnogion tir yn hynod o gymhleth
  • Gweithio mewn seilos – mae amser ac adnoddau cyfyngedig yn ei gwneud hi’n anodd cydweithredu gydag adrannau eraill

Defnyddiwch eich mewnwelediadau o’r cam ‘darganfod’ er mwyn ffocysu ymhellach i mewn a diffinio eich her mewn ffordd wahanol. Allwch chi adnabod y ffactorau o’r brig i’r gwaelod a allai eich rhwystro rhag cynyddu gorchudd canopi (e.e. diffyg amser gwneud penderfyniadau penodol ar gyfer coed trefol sydd ar dir y cyhoedd)? Neu a oes yna ffactorau o’r gwaelod i fyny a allai wella eich capasiti i blannu coed (e.e. grymuso mwy o sefydliadau cymunedol i sefydlu mentrau plannu coed)?

Unwaith eto, mae cydweithredu’n allweddol yma. Ar y cam hwn mae’n bosib y byddwch am ystyried gweithio gyda grŵp llai o bartneriaid craidd. Peidiwch â chyfyngu eich hun i adrannau mewnol gan y gall safbwyntiau allanol fod yn ddefnyddiol ar y pwynt yma hefyd.

Nawr bod gennych chi syniad eglur o’r hyn yw eich her, gallwch feddwl yn greadigol ynghylch datrysiadau posib a allai weithio ar gyfer eich lle.

Peidiwch â chyfyngu ar eich ffordd o feddwl ar y cam yma. Edrychwch ar enghreifftiau o arfer gorau, cydweithredu a chyd-ddylunio datrysiadau gydag amrywiaeth o arbenigwyr ac ystyried rhai o’n meddyliau cychwynnol:

  • Cynhyrchu strategaeth – darllenwch sut mae Cyngor Dinas Belfast a Chyngor Bournemouth Christchurch a Poole wedi creu eu strategaethau coed trefol eu hunain ar gyfer ysbrydoliaeth, neu ddefnyddio Pecyn Cymorth Strategaeth Coed a Choedwigoedd  y Tree Council.
  • Cyd-greu datganiad o fwriad – yn seiliedig ar bolisïau lleol perthnasol a chyda mewnbwn gan amrywiaeth eang o adrannau mewnol a phartneriaid allanol
  • Sefydlu llinell sylfaen – deall yr hyn sydd gennych eisoes, gan gynnwys nifer, safon a gwerth economaidd eich stoc coed
  • Rhagweld tueddiadau canopi yn y dyfodol – deall y buddsoddiad sydd ei angen er mwyn adeiladu achos dros fuddsoddi
  • Ystyried trefniadau llywodraethu – sefydlu bwrdd coed sy’n cynnwys personau allweddol sy’n gwneud penderfyniadau, partïon dylanwadol ac sydd â diddordeb, sefydliadau cymunedol a phreswylwyr
  • Mapio cyfleoedd i blannu a chreu cynllun cyflawni wedi’i gostio –  gallwch ddefnyddio cyfrifydd targed plannu Treeconomics a Choed Cadw gyda’r ddolen hon. Mae Treeconomics wedi profi methodoleg cyfle i fapio gan ddefnyddio GIS. Cofiwch gyplysu’r adnoddau hyn gyda gwybodaeth gan y gymuned
  • Datblygu dyhead a chynllun partneriaeth allanol – darllenwch ein canllawiau ar sut y gall awdurdodau lleol feithrin partneriaethau er mwyn gwella ystod eang o fuddion, gan gynnwys adnodd asesu partneriaeth
  • Crëwch brotocolau, gweithdrefnau a chronfeydd data ar gyfer monitro llwyddiant 
  • Cynhyrchu systemau cyhoeddus – er mwyn casglu ceisiadau, cwynion a mewnbwn gan y gymuned (e.e. platfform Grow Back Together  Street Trees for Living)
  • Creu cynlluniau caffael – e.e. datblygu cysylltiadau gyda phlanhigfeydd lleol neu ranbarthol er mwyn galluogi i goed o safon uchel gael eu cyflenwi

Nawr bod gennych chi restr o ddatrysiadau posib ar y bwrdd, gallwch eu cyfuno yn un cynllun fydd yn gwella eich tegwch o ran coed.

Mae’n bwysig eich bod yn edrych ar eich adnoddau. Mae gwaith ymchwil yn awgrymu y dylech anelu i neilltuo traean o’ch cyllid ar gyfer cynllunio cynhwysfawr ar lefel prosiect. Sicrhewch fod gennych ddigon o arian neu ystyriwch sut y gallwch ddenu ffynhonnell ariannu newydd.

Mwy o gefnogaeth: Pecyn Cymorth Coed a Strategaeth Coedwig

Adnodd defnyddiol arall yw Pecyn Cymorth Coed a Strategaeth Coedwig y Tree Council. Mae’n dwyn pobl ynghyd er mwyn amlinellu strategaeth i ddal y buddion tymor hir y gall coed ddod i gymunedau.

Gyda chanllawiau ymarferol, astudiaethau achos sy’n cynnig sylwadau craff gan ddeg awdurdod lleol ar draws y wlad, ac adnoddau defnyddiol eraill, y mae yr un mor ddefnyddiol mewn trefi a dinasoedd ag yw yng nghefn gwlad.

Mwy gan y rhaglen Cyflymydd Coedwig Drefol

Mae’r canllawiau hyn yn rhan o gyfres o adnoddau a grëwyd gan y rhaglen Cyflymydd Coedwig Drefol. Mae’r testun ar y dudalen we yma yn cael ei drwyddedu gan y rhaglen Cyflymydd Coedwig Drefol o dan CC drwy 4.0. Darganfyddwch fwy ynghylch sut allwn ni greu coedwigoedd trefol tecach yn ein trefi a dinasoedd gyda’u hadnoddau eraill isod neu drwy’r ddolen hon. Roedd y rhaglen yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Coedwig Gymunedol ac Ymddiriedolaeth Coed Cadw, ac yn cael ein hariannu gan gronfa Trees Call to Action Fund. Cafodd y gronfa hon ei datblygu gan DEFRA mewn partneriaeth gyda’r Comisiwn Coedwigaeth ac mae’n cael ei darparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch yn arbennig i’n partneriaid cyflawni, Cyngor Dinas Birmingham a Birmingham TreePeople.

Astudiaeth Achos Canllaw Dechreuwch arni gyda... - 24-06-2025

Tyfwch goedwig drefol deg

Ysbrydoliaeth, canllawiau ac adnoddau i ddatgloi buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol coedwigoedd trefol ar gyfer pawb, gan ddefnyddio egwyddor tegwch coed.

Adfer natur, Cymunedau, Gwirfoddoli, Gwydnwch hinsawdd, Iechyd a llesiant - Coedwigaeth a choed, Ymgysylltiad cymunedol

Darllen mwy
Darllen mwy

Canllaw Dechreuwch arni gyda... - 24-06-2025

Gwerth ac ariannu coedwig drefol

Eich canllaw i ddangos gwir werth coed yn eich tref neu ddinas a denu ariannu sy’n cefnogi cynnal a thwf tymor hir.

Adfer natur, Ariannu a chyllid - Coedwigaeth a choed

Darllen mwy
Darllen mwy

Canllaw Dechreuwch arni gyda... - 24-06-2025

Gwerth ac ariannu coedwig drefol

Eich canllaw i ddangos gwir werth coed yn eich tref neu ddinas a denu ariannu sy’n cefnogi cynnal a thwf tymor hir.

Adfer natur, Ariannu a chyllid - Coedwigaeth a choed

Darllen mwy
Darllen mwy

Astudiaeth Achos Gweminar - 24-06-2025

Coedwigoedd trefol i bawb

O’r archif - ystyriodd y weminar hon sut allwn ni greu coedwigoedd trefol tecach yn ein trefi a dinasoedd a lansio’r Pecyn Cymorth Cyflymu Coedwigoedd Trefol. Gwyliwch y recordiad a lawrlwythwch y cynnwys a rannwyd.

Ariannu a chyllid, Cymunedau - Coedwigaeth a choed, Ymgysylltiad cymunedol

Coedwigoedd trefol ar gyfer pob gweminar
Coedwigoedd trefol ar gyfer pob gweminar