Tyfu coedwig drefol deg
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Mae tegwch coed yn ymwneud â chyfiawnder. Y realiti yw nad oes gan bawb fynediad teg at fanteision coed, ac mae pobl mewn lleoedd trefol sydd â llai o orchudd canopi yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan bethau megis llifogydd, llygredd aer a gwres eithafol.
Ond gyda’n gilydd gallwn ddechrau newid hynny, diolch i adnoddau hygyrch, rhad ac am ddim ac sy’n seiliedig ar ddata sy’n dangos lle mae gorchudd canopi isel yn gorgyffwrdd â phwysau cymdeithasol ac economaidd eraill.
Mae’r canllaw hwn yn edrych ar sut all awdurdodau lleol ddefnyddio’r adnoddau hyn er mwyn rhoi anghenion pobl wrth wraidd prif gynlluniau tecach, gan roi mynediad i gymunedau i’r buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y mae coed trefol yn eu cynnig.
Sut mae annhegwch coed yn edrych?
Tri sefydliad sy’n gweithio i ddarparu tegwch coed mewn trefi a dinasoedd yn rhannu eu meddyliau ynghylch beth mae’n ei olygu i bobl a lleoedd.
Mae’r adnodd Sgôr Tegwch Coed y DU sydd am ddim ac sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd gan Coed Cadw, yn galluogi lleoedd i nodi meysydd o annhegwch. Ynghyd â’u Cyfrifwr Plannu Coed, maent yn darparu data hollbwysig ar gyfer cynllunio coedwigaeth drefol.
Mae’r offeryn yn adeiladu ar egwyddorion sefydledig o degwch amgylcheddol. Mae’n cwmpasu pob ardal drefol yn y DU, gan gyfuno gwybodaeth amgylcheddol a chymdeithasol allweddol i roi sgôr ar lefel cymdogaeth yn ogystal â blaenoriaethu ardaloedd ar gyfer gweithredu ar degwch coed. Datblygwyd yr offeryn ar y cyd gan Coed Cadw, y Centre for Sustainable Healthcare ac American Forests.
Mae’r canllaw hwn yn llawn syniadau sy’n gallu mynd â’ch prosiect tegwch coed o’i ddechrau hyd at waith cynnal gydag ymgysylltiad y gymuned.
Mae’r camau wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg i weithio ar gyfer gwahanol leoedd a chymunedau – mae croeso i chi ddewis, dethol a defnyddio beth sy’n gweddu i’ch anghenion.
Mae pob cynllun effeithiol yn dechrau gyda dealltwriaeth o beth yw’r broblem. Pan fyddwch wedi sefydlu’r angen i wella tegwch coed yn eich tref neu ddinas gallwch wirio a ydych wedi ystyried:
Meddyliwch am bwy sydd â’r sgiliau, y rhinweddau a’r perthnasoedd sydd eu hangen arnoch yn fewnol. Meddyliwch am bwy y mae eu blaenoriaethau’n cyd-fynd yn naturiol â’r math hwn o waith. Meddyliwch am unrhyw berthnasoedd neu bartneriaethau allanol y gallech eu datblygu i’ch helpu i gael y gorau o’r Sgôr Tegwch Coed. Meddyliwch am bwy sy’n cyfrannu beth a phwy allai gyfrannu adnoddau mewn nwyddau. Yn hollbwysig, meddyliwch am sut y byddwch yn rhoi eich cynlluniau ar waith e.e. mewn cymdogaethau tegwch coed isel sydd â heriau sylweddol).
Defnyddiwch yr adnodd Sgôr Tegwch Coed am ddim i ddeall sgoriau tegwch coed ar draws eich tref neu ddinas.
Defnyddiwch y sgôr i fireinio’ch cynllun:
Siaradwch ag arweinwyr awdurdodau lleol a gwleidyddol:
Siaradwch â chymunedau:
Meddyliwch am strategaethau a pholisïau presennol eich awdurdod lleol. Gallai tegwch coed naill ai lywio datblygiad cynlluniau sefydlu coed ar raddfa gymdogaeth, arwain prif gynllun coedwig drefol neu strategaeth goed lleoliad-gyfan, neu gael ei ychwanegu at strategaethau coed a choedwigoedd trefol presennol fel nod allweddol ychwanegol. Mae’r Tree Council wedi cynhyrchu canllawiau ar gynhyrchu strategaethau coed a choetiroedd.
Pethau i’w hystyried:
Sut allech chi ymgorffori tegwch coed mewn strategaethau presennol?
A allai tegwch coed lywio Strategaethau Adfer Natur Lleol?
A allech chi ymgorffori tegwch coed mewn polisi cynllunio lleol (e.e. mae Cyngor Dinas Birmingham yn ystyried gorchudd canopi wrth asesu ceisiadau am groesfannau troedffyrdd newydd a thynnu coed)?
Sut y byddwch chi’n ei droi o strategaeth yn gynllun cyflawni?
Dyma astudiaeth achos i ddysgu sut gwnaeth Cyngor Bournemouth, Christchurch a Poole a Chyngor Dinas Belfast integreiddio tegwch coed yn eu strategaethau coed trefol a sut y gweithiodd.
Dyma astudiaeth achos i ddysgu sut y defnyddiodd Cyngor Dinas Birmingham a Birmingham Tree People eu Sgôr Tegwch Coed i lywio ble maent yn gweithio a sut maent yn defnyddio eu hamser.
Cyn gynted ag y gwyddoch ble mae eich ardaloedd blaenoriaeth uchel a pha drefn yr ydych am fynd i’r afael â nhw, mae’n bryd siarad â’r bobl sy’n byw yno, dysgu eu barn am goed a thrafod ble mae cyfleoedd i blannu mwy. Mae siarad â phobl nawr yn sicrhau eu bod yn cymryd rhan ac yn elwa o’r broses.
Adeiladwch ar y stori tegwch coed yr ydych wedi’i dechrau a helpwch bobl i ddeall ei fod yn fwy na phlannu yn unig. Efallai bod gan bobl leoliadau plannu neu ddyluniadau mewn golwg, neu gallwch ddefnyddio ‘Nodi lleoliadau plannu posibl’ i helpu i greu opsiynau iddynt ddewis o’u plith.
Beth bynnag fo’ch dull ymgysylltu, dyma rai camau allweddol i’w cofio:
Bydd eich partneriaethau â thrigolion yn parhau i dyfu wrth i chi symud drwy bob cam. Mae hyn yn allweddol o ran sicrhau fod pobl yn parhau i ymgysylltu yn y tymor hir.
Yn ystod y cam hwn gallai fod yn ddefnyddiol sefydlu targed plannu. Mae Treeconomics a Choed Cadw wedi creu cyfrifiannell targed plannu tegwch coed a all eich helpu i osod nodau ar gyfer cynyddu gorchudd coed ar raddfa cymdogaeth. Mae hyn yn eich galluogi i osod ac addasu targedau % gorchudd canopi a niferoedd y coed bach/canolig/mawr sydd eu hangen i gyflawni’r rhain. Gallwch ei defnyddio i greu targed realistig ar gyfer nifer y coed sydd eu hangen i gynyddu tegwch coed ym mhob cymdogaeth.
Yna gallwch symud ymlaen i nodi lleoliadau plannu posibl. Efallai eich bod eisoes wedi darganfod bod gan rai pobl syniadau cryf ynghylch ble maent eisiau plannu coed. Efallai y bydd angen ychydig mwy o arweiniad ar eraill. Y naill ffordd neu’r llall, gall fod yn ddefnyddiol creu rhestr fer o leoliadau sy’n realistig ac yn cynrychioli blaenoriaethau pobl.
Pethau i’w hystyried wrth greu eich rhestr fer:
Bydd cadw ymgysylltiad eich cymunedau y tu hwnt i blannu – i’r camau sefydlu a chynnal – yn rhoi’r cyfle gorau i goed gyrraedd aeddfedrwydd a chyflawni’r buddion mwyaf.
Mae canllaw y Trees and Design Action Group, Sut i Blannu Coed Mawr, yn ganllaw hygyrch i blannu coed mawr mewn mannau cyhoeddus. Bydd yn eich helpu i rymuso grwpiau eraill sydd â diddordeb mewn plannu coed, gan ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i sefydlu coed iach mewn trefi a dinasoedd.
Bydd Sgôr Tegwch Coed Coed Cadw yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol, felly wrth i’ch coed dyfu yn y tymor hir dylech allu olrhain y newid i’r gorchudd canopi dros amser.
Mae tegwch coed yn ffordd wych o rannu stori am eich cynnydd. Rhowch wybod i bobl am y gwelliannau rydych chi wedi’u gwneud, ble dechreuodd cymdogaethau a pha mor bell y maent wedi dod ar eu taith werdd.
Mae tegwch coed gymaint am bobl ag y mae am goed. Cofiwch adrodd y straeon dynol hefyd. Pwy oedd yn rhan o’r gwaith, sut wnaethon nhw wneud gwahaniaeth a beth mae tegwch coed yn ei olygu iddyn nhw?
Gwyliwch y fideo hwn i glywed straeon uniongyrchol am sut mae gwaith Birmingham Tree People wedi bod o fudd i bobl yn y gymuned.
Mae’n bwysig meddwl am sut y gall offer digidol ychwanegu at ddatblygiad cymunedol teg, yn hytrach na’i ddisodli.
Mae Dark Matter Labs wedi cynhyrchu adroddiad a llyfrgell o astudiaethau achos sy’n ystyried sut i gynnwys pobl trwy gydol prosesau cynllunio sy’n seiliedig ar ddata, gan gynnwys casglu data gwyddor dinasyddion, delweddu gan ddefnyddio realiti estynedig a gwneud penderfyniadau lleol.
Mae’r canllaw hwn yn rhan o gyfres a grëwyd gan y rhaglen Urban Forest Accelerator.
Cynhaliwyd y rhaglen mewn partneriaeth â’r Community Forest Trust a Coed Cadw, ac fe’i hariannwyd gan Gronfa Trees Call to Action. Datblygwyd y gronfa hon gan Defra mewn partneriaeth â’r Comisiwn Coedwigaeth ac fe’i cyflwynir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch yn arbennig i Gyngor Dinas Birmingham a Birmingham TreePeople. Mae testun ar y dudalen we hon wedi’i drwyddedu gan y rhaglen o dan CC BY 4.0.
Dysgwch fwy am sut y gallwn greu coedwigoedd trefol tecach yn ein trefi a’n dinasoedd isod.
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Gweminar
Astudiaeth Achos
Gweminar
09-12-2024