Creu uwchgynllun coedwig drefol
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Gall coedwigoedd trefol teg ddarparu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau o bobl, mewn cymunedau led-led y DU.
Ond yn hytrach na dod yn fwy teg, mae ein gorchudd canopi trefol mewn gwirionedd yn dirywio, ac mae’n dirywio gyflymaf yn yr ardaloedd mwyaf llwm. Mae’n duedd na fydd yn cael ei gwrthdroi heb newid rhagweithiol yn ein hagwedd tuag at gynllunio a rheoli coedwigoedd trefol.
Mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa unigryw i allu gyrru’r newid positif hwn, a gall y canllaw hwn eich helpu chi i symud oddi wrth deall yr heriau i roi datrysiadau ar waith a fydd yn gwella tegwch coed yn ein lleoedd trefol.
Darganfyddwch enghreifftiau o arfer gorau ac adnoddau er mwyn rhoi’r strategaethau a’r cynlluniau cywir ar waith i drawsnewid eich agwedd tuag at reoli coedwigoedd trefol.
Mae awdurdodau lleol a'u partneriaid yn rhannu sut maent wedi trawsnewid eu hagwedd tuag at gynllunio a rheoli coedwigoedd trefol, a'r buddion y mae hyn wedi helpu i'w cyflawni ar gyfer pobl a byd natur.
Y gair allweddol yma yw cydweithredu. Mae angen i bawb sy'n gysylltiedig gael yr un ffocws a disgwyliad er mwyn sicrhau eich bod i gyd yn symud yn yr un cyfeiriad. Ar ddechrau’r broses, mae’n bwysig cytuno ar gyfres o egwyddorion a rennir a’r canlyniad yn y pen draw rydych chi i gyd yn edrych amdano.
Mae ‘Double Diamond’ y Cyngor Dylunio yn adnodd dylunio y gallwch ei addasu, ychwanegu ato a’i deilwra at eich pwrpas eich hun.
Mae’r ddelwedd uchod yn dangos sut y gall y broses ddylunio diemwnt hon fod yn adnodd defnyddiol wrth gynllunio coedwig drefol. Darganfyddwch sut y gall y pedwar cam eich helpu i ystyried blaenoriaethau, cyllidebau ac adnoddau lleol, dod o hyd i atebion i broblemau cymhleth a chreu’r cynllun strategol cywir ar gyfer eich coedwig drefol.
Ar ôl i chi osod a chytuno ar eich egwyddorion cyffredin, mae’n bryd meddwl, holi a deall pa rwystrau penodol yr ydych yn eu hwynebu yn eich ardal chi. Siaradwch â phobl eraill sy’n cael eu heffeithio gan y materion a pheidiwch â thybio eich bod yn gwybod beth yw’r broblem cyn i chi ddechrau.
Dyma ychydig o syniadau i ddechrau’r drafodaeth (dyma rai o’r rhwystrau cyffredin y mae awdurdodau lleol eraill wedi dod ar eu traws):
Defnyddiwch eich mewnwelediadau o’r cam ‘darganfod’ i ganolbwyntio ymhellach a diffinio’ch her mewn ffordd wahanol. A allwch chi nodi’r ffactorau o’r brig i lawr a allai eich atal rhag cynyddu gorchudd canopi (e.e. diffyg amser penodol i wneud penderfyniadau ar gyfer coed trefol yn y parth cyhoeddus)? Neu a oes ffactorau o’r gwaelod i fyny a allai wella eich gallu i blannu coed (e.e. grymuso mwy o sefydliadau cymunedol i sefydlu mentrau plannu coed)?
Eto, mae cydweithredu yn allweddol yma. Ar y cam hwn efallai y byddwch am ystyried gweithio gyda grŵp llai o bartneriaid craidd. Peidiwch â chyfyngu eich hun i adrannau mewnol gan y gall safbwyntiau allanol fod yn ddefnyddiol ar y pwynt hwn hefyd.
Nawr bod gennych syniad clir o beth yw eich her, gallwch feddwl yn greadigol am atebion posibl a allai weithio i’ch ardal chi.
Peidiwch â chyfyngu eich ffordd o feddwl yn ystod y cam hwn. Edrychwch ar enghreifftiau o arfer gorau, cydweithiwch a chyd-ddyluniwch atebion gydag ystod o arbenigwyr a thrigolion ac ystyriwch rai o’n syniadau i ddechrau’r broses:
Nawr bod gennych restr o atebion posibl ar y bwrdd, gallwch eu cyfuno i greu cynllun a fydd yn gwella eich tegwch coed.
Mae’n bwysig edrych ar eich adnoddau. Mae ymchwil yn awgrymu y dylech anelu at ddyfarnu traean o’ch arian i gynllunio cynhwysfawr ar lefel prosiect. Sicrhewch fod gennych ddigon o arian neu ystyriwch sut y gallwch ddenu ffrydiau ariannu newydd.
Adnodd defnyddiol arall yw Pecyn Cymorth Strategaeth Coed a Choetiroedd y Cyngor Coed. Mae'n dod â phobl at ei gilydd i nodi strategaeth i wneud defnydd o'r buddion hirdymor y gall coed eu rhoi i gymunedau.
Gydag arweiniad ymarferol, astudiaethau achos craff o ddeg awdurdod lleol ledled y wlad ac adnoddau defnyddiol eraill, mae’r un mor ddefnyddiol mewn trefi a dinasoedd ag ydyw yng nghefn gwlad.
Mae'r canllaw hwn yn rhan o gyfres a grewyd gan raglen yr Urban Forest Accelerator.
Rhedwyd y rhaglen mewn partneriaeth â’r Community Forest Trust a Coed Cadw ac fe’i hariannwyd gan y Gronfa Trees Call to Action. Datblygwyd y gronfa hon gan Defra mewn partneriaeth â’r Comisiwn Coedwigaeth ac mae’n cael ei chyflawni gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch arbennig i Gyngor Dinas Birmingham a Birmingham TreePeople. Mae’r testun ar y dudalen we hon wedi’i drwyddedu gan y rhaglen o dan CC BY 4.0.
Darganfyddwch fwy am sut y gallwn greu coedwigoedd trefol tecach yn ein trefi a'n dinasoedd isod.
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Gweminar
Astudiaeth Achos
Gweminar
09-12-2024