Crewyr Natur: Leah Johnstone
30-07-2026
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Astudiaeth Achos
©ChrisJParker
30-07-2026
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Astudiaeth Achos
©ChrisJParker
Sgwrs gyda
Rheolwr Prosiect, Tree Equity for Hartlepool
Mae’r elusen plannu coed trefol Trees for Cities yn credu bod pawb yn haeddu mynediad cyfartal at goed. Ac maent yn troi Hartlepool yn wyrdd – gan weithio gyda chymunedau lleol i gynyddu gorchudd canopi’r dref yn sylweddol.
Efallai bod Hartlepool wrth y môr, ond fel llawer o drefi arfordirol mae ganddi ‘anialwch coed trefol’. Mae gan yr ardaloedd hyn rai o’r lefelau isaf o orchudd canopi coed yn y DU, lle mae cymunedau cyfan yn colli allan ar y nifer o fanteision iechyd a lles y mae coed yn eu darparu – a elwir yn ‘anhegwch coed’.
Mewn prosiect cyntaf o’i fath yn y DU, mae Trees for Cities yn cychwyn pennod newydd yn anialwch trefol Hartlepool. Gyda data coed lleol a safbwyntiau trigolion, maent yn plannu coed nid yn unig lle mae eu hangen fwyaf, ond lle maent eu heisiau fwyaf hefyd.
“Rydym am drawsnewid Hartlepool o fod yn un o’r ardaloedd sydd â’r sgôr isaf yn y DU o ran ecwiti coed, i gael ei chydnabod fel Dinas Goed y Byd” meddai Leah Johnstone, Rheolwr Prosiect Ecwiti Coed ar gyfer Hartlepool.
“Hartlepool yw’r model blaenllaw ar gyfer ein strategaeth newydd, sy’n anelu at ddatblygu mudiad cenedlaethol ar gyfer coed trefol ac ecwiti coed erbyn 2030.”
Mae Leah yn siarad â ni am sut mae Trees for Cities a’u partneriaid – gan gynnwys y Woodland Trust a Tees Community Forest Trust – yn arwain pobl leol tuag at werddon drefol decach.
Mae hanes balch Hartlepool wedi’i wreiddio mewn adeiladu llongau a gweithfeydd haearn, gyda llên gwerin leol yn honni iddi fagu mwy o filiwnyddion nag unrhyw le arall yn Lloegr.
Erbyn heddiw, mae’r dref yn wynebu lefelau uchel o amddifadedd a lefelau isel o adnoddau ar gyfer pethau fel natur a mannau gwyrdd. Mae gan rai ardaloedd orchudd canopi coed o sero y cant, ac mae data’n dangos bod ganddi’r ail lefel isaf o ecwiti coed yn Lloegr.
Gan edrych ymlaen, mae Leah yn esbonio sut y bydd gweledigaeth a phartneriaeth Ecwiti Coed ar gyfer Hartlepool yn sicrhau bod pob person, ym mhob cornel o Hartlepool, yn elwa o goed.
Ariennir prosiect Ecwiti Coed ar gyfer Hartlepool yn rhannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Linbury Trust, gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Hartlepool, Tees Community Forest, y Woodland Trust, Thirteen Group a Treeconomics.
©Trees for Cities
O ymgysylltiad cymunedol i uwch-gynllunio coedwigaeth drefol a chreu swyddi, mae gan Tree Equity for Hartlepool uchelgeisiau mawr. Gan dynnu ar sgiliau ystod eang o bartneriaid, mae gan y tîm y mewnwelediadau sydd eu hangen i flaenoriaethu gwaith a dod o hyd i'r man perffaith lle mae coed eu hangen fwyaf, yn fwyaf ymarferol A lle mae'r mwyaf o alw amdanynt.
Mae prosiect Trees for Cities yn Hartlepool wedi'i seilio ar waith partneriaeth ac ymgysylltiad cymunedol. Cliciwch ar y cardiau i ddarganfod mwy am rôl partneriaid mewn gwahanol gamau o'r prosiect.
Fel unrhyw brosiect sy'n gweithio tuag at newid, mae Tree Equity for Hartlepool wedi wynebu rhai heriau dros y misoedd cyntaf.
Mae Leah yn rhannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu am blannu mewn ardaloedd ecwiti coed isel, a’r hyn y byddant yn ei wneud yn wahanol yn y tymhorau plannu sydd i ddod.
“Y brif her rydym wedi’i hwynebu yw fandaliaeth o’r coed yr ydym wedi’u plannu” meddai Leah, “ac mae’n gallu bod yn drist gweld pa mor ddi-feddwl ydyw.”
Maent wedi dysgu nad yw mapio cymunedol ar ei ben ei hun yn ddigon. Er gwaethaf ymgysylltiad ac allgymorth trylwyr, gall manylion pwysig barhau i greu anawsterau. Er enghraifft, ni sylweddolodd tîm y prosiect fod un o’r ardaloedd plannu mewn mwy o berygl o fandaliaeth gan ei fod yn croesi llwybr byr y mae plant hŷn yn ei gymryd adref o’r ysgol.
“Felly mae angen i ni edrych ar y we gymdeithasol, nid dim ond cymunedau a sefydliadau ond y darlun cyfan wedi’i seilio ar wybodaeth leol” meddai Leah.
“Gwers arall i ni yw bod angen i gyllid adlewyrchu realiti plannu mewn ardaloedd ecwiti coed isel er mwyn gweithio tuag at ecwiti coed” meddai Leah.
Mae’r prosiect wedi canfod bod yn rhaid i gyllid gefnogi seilwaith cymdeithasol drwy ymgysylltiad cymunedol yn gyntaf, cyn y gall y gwaith plannu coed lwyddo.
“Daeth sgoriau ecwiti coed â ni i’r dref a dangos i ni ble roedd angen coed – gyda sgoriau is yn golygu llai o goed. Fodd bynnag, yr hyn a ddechreuon ni ei sylweddoli hefyd yw bod haen arall o feddwl.” Esboniodd, “Mae’r sgoriau hyn, nid yn unig yn dangos ble mae angen coed, gallant hefyd ddangos sut y dylid gwario arian – mae ardaloedd â sgoriau ecwiti coed is yn gofyn am fuddsoddiad cymdeithasol uwch, a gwariant uniongyrchol cymharol is ar goed.”
Mae'r prosiect yn rhedeg hyd at fis Mai 2027, felly mae digon i ddod yn Hartlepool. Mae'r tîm yn meddwl am y tymor hwy hefyd. Mae Leah yn esbonio sut maent yn plannu gwreiddiau dyfnach a fydd yn sicrhau bod coed yn aros lle mae eu hangen fwyaf (a lle mae'r gofyn mwyaf amdanynt) am flynyddoedd i ddod.
“Mae ein Huwch-gynllun Coedwig Drefol ar gyfer Hartlepool wedi gorffen ymgynghoriad cyhoeddus ac mae bellach yn mynd drwy ddrafftio terfynol, cyn cael ei gyflwyno i aelodau etholedig y cyngor i’w gymeradwyo. Mae cefnogaeth drawsbleidiol i’r cynllun yn gosod coed yn gadarn ar yr agenda wleidyddol leol, fel seilwaith gwyrdd hanfodol i’r dref y dylai pawb elwa ohono.”
“Rydym yn cynnal mapio hyd yn oed yn fwy manwl gyda Treeconomics, gan ddefnyddio’r rheol 3:30:300. Dyma egwyddor ‘Prif Uchelgais’ Trees for Cities, sy’n ein helpu i weld sut mae mynediad da, teg at natur, coed a mannau gwyrdd mewn lle yn edrych. Bydd y gwaith hwn yn llywio buddsoddiad tymor hwy drwy ddangos effaith ymyriadau a datblygiadau arfaethedig ar goed.”
Y rheol 3:30:300“Mae cyllid plannu gan ein partner, Tees Community Forest Trust, yn cwmpasu costau gofal coed i’r dyfodol, gan gynnwys tair blynedd o waith cynnal a chadw ymarferol. Rydym yn gobeithio ymestyn cyllid ein prosiect am bump neu saith mlynedd arall hefyd – mae gennym ddigon o hectarau – ac aelodau'r gymuned – yn barod ac yn aros am goed!”
“Ar lefel leol, rydym yn annog Cyngor Bwrdeistref Hartlepool i feithrin a thyfu eu cynllun ceidwaid coed gyda Chyngor y Coed. Y tu hwnt i Hartlepool a gyda chefnogaeth y Woodland Trust, rwyf wedi rhannu cyflwyniadau am ein gwaith mewn grŵp hollbleidiol seneddol ar goedwigoedd a choed yn San Steffan ac yn y Fforwm Ewropeaidd ar Goedwigaeth Drefol.”
“Rydym yn cynnig llawer o ffyrdd i bobl brofi a deall eu coed lleol mewn ffyrdd newydd, cyffrous. Mae pethau fel hyfforddiant ceidwaid coed a datblygu sgiliau gwirfoddoli mewn adnabod adar a choed yn boblogaidd. Fe wnaethom hyd yn oed roi cyfle i bobl gynnal sgan ‘uwchsain’ ar Dderwen Hwngaraidd hardd, i helpu i wirio cyflwr pob rhan.”
“Mae gennym ddyletswydd foesol i blannu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ond ychydig iawn o gyfle sydd wedi bod i lawer o bobl ifanc yn Hartlepool brofi buddion coed. Mae diffyg dealltwriaeth yn cynyddu’r risg o fandaliaeth, felly rydym yn estyn allan atynt drwy glybiau bocsio a chynlluniau troseddu ieuenctid i geisio newid hyn.”