Two people stood on wildlife pond viewing platform pointing towards a field.
Red illustration of a flower. The flowers resemble gears.

Datgloi cyllid ar gyfer mannau gwyrdd a glas

Astudiaeth Achos Canllaw Dechreuwch arni gyda... - 12-02-2025

Darganfyddwch ffyrdd o adeiladu model ariannu mwy amrywiol ar gyfer mannau naturiol yn eich tref neu ddinas, i gefnogi lles, adfer byd natur a thwf economaidd.

Adfer natur - Bancio cynefinoedd

Helpu byd natur i dalu ei ffordd

Gall yr arian sydd ei angen er mwyn creu a gofalu am drefi a dinasoedd sy’n gyfoethog o ran byd natur ac yn gydnerth o ran hinsawdd deimlo fel rhwystr. Dyw cynghorau lleol a grantiau yn syml iawn ddim yn gallu cwrdd â’r holl gostau. Ond mae yna ddatrysiadau i’w cael sy’n gallu helpu i sicrhau bod gan bawb fan gwyrdd yn agos at eu cartref.

Mae trefi a dinasoedd ar draws y DU yn profi ffyrdd newydd o amrywio ac arloesi eu hariannu ar gyfer seilwaith gwyrdd a glas trefol. O gysylltu gyda gofynion gorfodol megis cynnydd net bioamrywiaeth (BNG) yn Lloegr (darllenwch fwy am gynnydd net bioamrywiaeth), i gael dealltwriaeth fwy soffistigedig o’r buddion y gall byd natur ddod i le ac y mae sefydliadau yn agored i fuddsoddi ynddynt.

Yr allwedd yw cysylltu’r buddion a’r deilliannau gyda’ch tirwedd strategol ehangach, ac adeiladu’r gallu i brofi’r dulliau sy’n cefnogi hyn orau.

Nid dim ond am yr arian mae hyn. Mae mannau gwyrdd a glas iachach yn golygu cymunedau iachach, lle gall pawb deimlo’r buddion.

Yn yr erthygl hon, mae’r tîm yng Nghyngor Dinas Plymouth yn egluro sut maent yn cyflawni hyn wrth iddynt ddathlu carreg filltir bwysig yn eu taith tuag at fodel ariannu cyfun ar gyfer byd natur.

Mae yna hefyd adnoddau a chanllawiau sydd â’r nod o sicrhau eich bod yn dechrau ar daith ariannu eich hun.

Cyngor Dinas Plymouth: ein taith bancio cynefinoedd

“Fe aethom i lawr tyllau sgwarnogod a dod i fyny eto...does dim angen i neb arall wneud hynny!” - Kat Deeny, Pennaeth Cynllunio Amgylcheddol yng Nghyngor Dinas Plymouth.

Darganfyddwch sut mae Plymouth yn ailddosbarthu arian preifat er budd cyhoeddus, fel y cyngor cyntaf yn y DU i sefydlu banc cynefin. Mae’r fideo hwn yn egluro sut maent yn diogelu buddsoddiad newydd ym mannau gwyrdd a glas y ddinas drwy gwmni sy’n eiddo i’r cyngor o’r enw Ocean City Nature. Yn eu tro, bydd yr unedau bioamrywiaeth ‘bancio’ maent wedi eu creu yn galluogi datblygwyr i gyflawni gofynion BNG gorfodol mewn ffordd sydd o fudd i bobl a byd natur yn Plymouth.

Plymouth habitat bank

Deall bancio cynefinoedd

Mae awdurdodau lleol yn Lloegr yn dechrau defnyddio bancio cynefinoedd fel ffordd arloesol o greu cyllid newydd y gellir ei ddefnyddio i adfer byd natur a bod o fudd i bobl a llefydd. Dyma sut mae’n gweithio mewn pedwar cam.

1

Sicrhau buddsoddiad

2

Dod o hyd i brynwr

3

Ad-dalu’r buddsoddiad

4

Sicrhau’r safle

Canllawiau ar sut i ddechrau bancio cynefinoedd

Dysgwch sut i ddechrau bancio cynefinoedd yn eich cymuned, o adeiladu eich tîm i sefydlu cerbyd bancio cynefinoedd.

Fel arfer, mae’n cymryd tua 18 mis i sefydlu banc cynefinoedd. Er bod nifer o gamau ac y gall rhai deimlo’n gymhleth, mae’n bosib ei gyflawni gydag amser ac adnoddau ymroddedig. Rydym wedi nodi’r camau mewn trefn resymegol, ond dyw bancio cynefinoedd ddim yn broses unionlin. Efallai y bydd angen ichi fynd yn ôl i edrych ar rai o’r camau ar hyd y ffordd.

Mae bancio cynefinoedd yn darparu ffordd i berchnogion tir – yn yr achos hwn, awdurdodau lleol – greu neu adfer cynefin ymlaen llaw a ‘bancio’r’ unedau sy’n cael eu creu o ganlyniad.

Yna, gall yr unedau hyn gael eu pwrcasu gan ddatblygwyr sydd am gydymffurfio gyda’r cynnydd net gorfodol o 10%. Mae gwerthu’r unedau bioamrywiaeth yn golygu y bydd y buddsoddwr wnaeth ddarparu’r arian yn cael eu buddsoddiad cychwynnol yn ôl gyda llog a gwybodaeth am draweffaith amgylcheddol eu hariannu.

Mae gwerthu unedau bioamrywiaeth yn darparu ffrwd refeniw hollbwysig i awdurdodau lleol er mwyn cynnal y cynefin sydd newydd ei adfer neu ei greu am o leiaf 30 mlynedd, ac o bosib hyd yn oed yn hirach.

Byddwch angen pobl gyda’r amser ymroddedig i’w roi i’r gwaith hwn. Byddant angen bod yn fedrus o ran creu newid, gweithio ar draws adrannau ac ymgysylltu gyda phartneriaid gan gynnwys Swyddogion Gweithredol a swyddogion etholedig. Mae’n waith arloesol, felly bydd y tîm yn dysgu am gysyniadau newydd, peth jargon ariannol a bod yn gyfforddus gyda pheidio â chael yr atebion i gyd ymlaen llaw.

Bydd eich tîm mewnol fwy na thebyg yn cynnwys cynrychiolwyr o’r adran gyllid, cyfreithiol, tai, cynllunio, strategaeth a gweithrediadau ac ystadau gwyrdd. Gallai’r gwaith hwn fod yn sail i ganllawiau cynllunio a roddir i ddatblygwyr gan gysylltu gyda Strategaethau Adfer Byd Natur Lleol, felly mae deall y cyd-destun hwn yn bwysig.

Dylai’r tîm ddeall sut mae tir yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd a bod yn gallu deall y cyfle i newid. Bydd sgiliau rheoli cadwraeth a gwybodaeth am asesiadau ecolegol yn golygu y gallant gostio adferiad cynefinoedd, gwelliannau mynediad i’r cyhoedd a gwaith cynnal a chadw.

Bydd eich tîm prosiect craidd am ddod ag ymgynghorwyr allanol arbenigol at y bwrdd hefyd. Bydd y rhain yn cynnwys sefydliad cyllid allanol priodol sydd â’r sgiliau a’r hawl o ran rheoliadau. Byddant yn helpu i ddatblygu’r model ariannol er mwyn rheoli risg a’ch helpu chi i amlinellu eich achos busnes, sefydlu’r cyfrwng ei hun, a chael mynediad at fuddsoddiad.

Byddwch hefyd angen cymorth cyfreithiol er mwyn eich helpu i sefydlu’r banc cynefinoedd pan fyddwch yn barod i wneud hynny.

Mae peilota safleoedd yn eich helpu’n gyflym iawn i ddatblygu dealltwriaeth o’r galw am unedau bioamrywiaeth.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y tir rydych yn gweithio gydag ef. Does dim angen manylion llawn ar y cam hwn, dim ond gwybodaeth ynghylch ble mae’r prif safleoedd natur, eu maint, unrhyw ddynodiadau, rhyw lefel o wybodaeth cynefin ac amcanion rheoli sylfaenol.

Pan rydych yn dewis safleoedd peilot dylech ystyried eu maint, nifer, arwyddocâd, mynediad i’r cyhoedd a phartneriaid. Mae buddsoddiad preifat yn haws i’w ddenu ar raddfa fwy. Dylech anelu am isafswm o 50 hectar gyda’i gilydd a dim llai na 10 hectar y safle. Gallai grŵp o safleoedd peilot fod rhwng 20 hectar a 100 hectar. Mae’n bosib y byddwch am adnabod mwy o gynlluniau peilot na’r hyn rydych yn credu y byddwch eu hangen, rhag ofn na fydd un neu ddau ohonynt yn hyfyw.

Os yw safle o fewn eich Strategaeth Adfer Byd Natur Lleol, yna mae effaith lluosydd ym Metrig DEFRA ar gyfer cyfrifo unedau bioamrywiaeth, sy’n golygu y bydd yn creu 15% yn fwy o unedau bioamrywiaeth.

Does dim rhaid i chi fod wedi adnabod yr holl safleoedd yn eich Strategaeth Adfer Byd Natur Lleol er mwyn dewis safleoedd peilot, ond os oes gennych chi rai, neu y gallwch wneud hyn ar yr un pryd, yna mae’n syniad da.

Mae enillion net bioamrywiaeth yn cael eu mesur mewn unedau. Bydd llinell sylfaen yn dweud wrthych faint o unedau sydd gennych ar hyn o bryd ar y safle, at bwrpas cymharu yn ystod ac wedi’r gwaith adfer. Er mwyn canfod eich llinell sylfaen, byddwch angen asesiad ecolegol ar gyfer bob safle sy’n dal y data perthnasol. Oddi yma, gallwch gynnig sut i adfer y cynefin gan ddefnyddio metrig DEFRA i gyfrifo’r unedau – mae Asesiadau Cynefinoedd y DU yn mapio’n uniongyrchol ar fetrig DEFRA.

Gallwch ddewis i’ch asesiadau ecolegol gael eu gwneud yn annibynnol, gan ddarparu sicrwydd ychwanegol i’ch darpar fuddsoddwyr. Gallwch hefyd ddewis ymgymryd ag asesiadau cynefin ar draws y cyfan o’ch safleoedd posib, neu nifer ohonynt (nid dim ond safleoedd peilot).

Bydd hyn yn eich galluogi i gael trosolwg o’r unedau posib sydd ar gael ar draws y ddinas ac felly gael amcangyfrif o refeniw ar raddfa dinas dros 30 mlynedd.

Fel rhan o’ch gwaith paratoi, byddwch angen penderfynu sut all eich banc cynefinoedd eich helpu i fwyhau buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ar gyfer eich dinas neu dref, gan gadw refeniw a buddion yn lleol.

Bydd trafodaeth gynnar ar brif egwyddorion gwrthbwyso yn eich helpu chi i ymgorffori’r elfennau sy’n fwyaf pwysig i chi.

Cymerwch olwg ar ein hegwyddorion gwrthbwyso awgrymedig drwy glicio ar y botwm ar y chwith.

Eich cyflenwad yw’r gwahaniaeth rhwng yr unedau gwaelodlin a’r nifer o unedau y bydd safle yn ei gynhyrchu wedi i gynefin gael ei greu neu ei adfer.

Fel arfer gelwir y rhan hon o’r broses yn ‘asesiad cyflenwi’ oherwydd rydych yn cyfrifo faint o welliant (sy’n cael ei fesur mewn unedau) y gellir eu gwerthu i ddatblygwyr. Bydd arbenigwyr cawraeth yn cynghori pa waith adfer neu greu sy’n bosib o’ch asesiad gwaelodlin.

Yn 2021, awgrymodd adroddiad DEFRA y dylai pris y farchnad fesul uned bioamrywiaeth fod rhwng £20,000 a £25,000. Bydd eich partneriaid ariannol yn sicrhau bod gennych y prisiau marchnad diweddaraf.

Gellir gwerthu unedau bioamrywiaeth oddi allan i’r gymdogaeth drwy ddatblygwyr sy’n cael eu cymell i brynu yn eu hardal leol.

Mae deall targedau twf lefel uchaf ar gyfer seilwaith, trafnidiaeth a thai gynnig sicrwydd bod digon o alw ar y gweill. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer llefydd sy’n ceisio bodloni’r holl alw lleol, a pheidio â gor-gyflenwi’r hyn allai fod ei angen.

Nodwch os oes gan gynllun datblygu hawliau eisoes, mae’n bosib na fydd gofyn iddo ddarparu cynnydd net mewn bioamrywiaeth.

Hefyd cofiwch eich bod yn edrych ar alw mwy hirdymor gan fod unedau bioamrywiaeth yn cael eu gwerthu ar unrhyw bryd o’r drydedd i thua’r bymthegfed flwyddyn.

Mae’n well i chi wneud y modelu hwn gyda phartner ariannol masnachol allanol profiadol. Bydd arbenigedd ecolegol eisoes wedi penderfynu pa ymyriadau ddylai ddigwydd ym mhob safle. Nawr rydych angen gwybod beth allai’r rhain ei gostio, gan gynnwys gwaith adfer, cynnal a chadw a chost darparu mynediad i’r cyhoedd.

Rydym yn awgrymu dechrau’n uchel, gan gynnwys yr holl gostau sy’n gysylltiedig gyda’ch blaenoriaethau sefydledig. Gallwch edrych ar leihau’r costau hyn yn nes ymlaen os oes angen.

Mae hwn yn ddadansoddiad cadarn ac yn fodel gweithio y dylid ei ddiweddaru’n barhaus er mwyn sicrhau cywirdeb. Mae’n cynnig data er mwyn gwneud penderfyniadau ynghylch pa safleoedd sy’n hyfyw, beth yw’r amser gorau i werthu unedau bioamrywiaeth ac i brofi egwyddorion a syniadau. Er enghraifft, gallai eich helpu chi i ddeall faint o flynyddoedd y tu hwnt i’r isafswm tymor o 30 mlynedd y gallai unrhyw waddol dalu am gostau cynnal a chadw.

Mae risg yn cael ei reoli’n rhannol drwy fetrig DEFRA sy’n cynnwys lluosogydd anhawster ar gyfer cynefinoedd sy’n fwy anodd i’w hadfer, a ffactor gostyngiad ar gyfer gwerthu unedau ymlaen llaw cyn i’r cynefin a gynlluniwyd gael ei ddarparu.

Bydd eich partner ariannol allanol yn cefnogi rheoli risg ymhellach drwy fodelu i roi cyfrif am newidiadau mewn prisiau’r farchnad, addasiadau ar gyfer chwyddiant, costau gweithredu ar gyfer y banc cynefinoedd ac ymgorffori tir clustogi ar gyfer newid mewn galw.

Dylai’r achos busnes fod yn eglur ac yn gryno, gan ddefnyddio templedi a phrotocolau cyfarwydd ar gyfer gwneud penderfyniadau mewnol, megis cyflwyno opsiynau.

Dylech ganolbwyntio ar y penderfyniadau sydd angen eu gwneud er mwyn sicrhau mandad i symud eich gwaith ymlaen yn hytrach na materion technegol – mae’n bosib y gallech gynnwys dogfennau cefnogol sy’n cynnwys unrhyw waith darllen technegol neu gefndirol.

Wrth i chi symud eich achos busnes yn ei flaen, gall fod yn ddefnyddiol os yw eich partner ariannol allanol ar gael i ateb cwestiynau technegol neu hyd yn oed i gyd-gyflwyno.

Dylai eich partner ariannol allanol eich helpu gyda’r broses o ddylunio’r strwythur cyfalaf a chorfforaethol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau llif arian tuag at eich prif fuddion. Er enghraifft, ariannu gwaith cynnal a chadw hirdymor.

Byddwch hefyd angen sicrhau cyngor allanol ar lywodraethiant a pha strwythurau cyfreithiol (e.e. cwmni traddodiadol neu elusen) sydd orau i chi ac unrhyw gontractau y gallech fod angen eu drafftio.

Unwaith eich bod wedi ei sefydlu, bydd y banc cynefinoedd angen gwasanaethau cyfrifo ac yswiriant a chyfrif banc. Gall eich partner ariannu allanol wedyn ddenu buddsoddwyr gan ddefnyddio deunyddiau sy’n cydymffurfio gyda rheoliadau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Byddant yn negodi ac yn cau’r ddêl buddsoddi. Bydd y banc cynefinoedd yn cofrestru unrhyw unedau bioamrywiaeth a werthir. Bydd yn monitro adrodd ac yn dilysu cydymffurfiad gyda’r cynllun rheoli cynefinoedd, gan gyflwyno data i’r corff perthnasol.

Amser penderfynu

Mae’r adnodd hwn wedi tynnu sylw at fancio cynefinoedd, ond mae yna nifer o wahanol fathau o ariannu ar gyfer seilwaith gwyrdd trefol. Mae’n bwysig adolygu amrywiaeth o opsiynau a dewis y rhai gorau ar gyfer eich lle.

Mae prosiect Cyflymwr Coedwig Drefol wedi datblygu pecyn cymorth i helpu awdurdodau lleol ystyried opsiynau ariannu preifat ar gyfer eu gwaith gwyrddio trefol. Roedd y prosiect yn ffocysu ar goedwigaeth drefol, ond mae’r pecyn cymorth yn cynnwys y camau sydd eu hangen er mwyn adnabod y buddion posib – neu wasanaethau ecosystem – mannau gwyrdd neu las ehangach, a deall ystyriaethau pwysig wrth feintioli a gwerthu’r rhain i brynwyr.

Mae’r camau’n cael eu crynhoi mewn Siart Llif Ariannu Gwyrdd, sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer prosesau casglu data a’r arbenigedd y gallech fod angen eu defnyddio er mwyn helpu.

A person leaning over to plant a blossom tree.

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Trevor Ray Hart

Mwy o gymorth a chefnogaeth

Cyfres gweminar bancio cynefinoedd gyda Chyngor Dinas Plymouth

Gweminar 1: creu difidendau ar gyfer pobl, llefydd a byd natur

Mae’r Cynghorydd Tom Briars-Dale a chydweithwyr o Gyngor Dinas Plymouth yn trafod yr hyn a’u harweiniodd at ddilyn modelau ariannol newydd, gan ddechrau gyda bancio cynefinoedd ac ehangu i ddatrysiadau eraill yn seiliedig ar natur. Cewch glywed am y cyfleoedd mae hyn yn eu creu i breswylwyr, bywyd gwyllt a’r blaned.

Close up of a young beaver kit holding a small stick to its mouth in a river.

Gweminar 2: mwy na dim ond banc cynefinoedd

Mae Cyngor Dinas Plymouth a’u partneriaid yn rhannu eu model buddsoddi bancio cynefinoedd ac yn trafod sut i greu banc cynefinoedd nid-er-elw o fewn cyd-destun awdurdod lleol.

The bottom half of two people's legs and a spade on a viaduct.

Cyflwyniad i enillion net bioamrywiaeth

Trosolwg byr o’r pwnc gan Natural England. Ymgyfarwyddwch â’r iaith a’r hanfodion o amgylch y pwnc.

Gwyliwch y fideo
Gwyliwch y fideo

Egwyddorion gwrthbwyso bioamrywiaeth

Egwyddorion awgrymedig i’ch helpu chi i greu unedau BNG sydd o safon uchel ac wedi eu prisio’n gystadleuol. Mae’r egwyddorion hyn wedi cael eu datblygu a’u profi ar BNG oddi ar y safle a phrosiectau bancio cynefinoedd.

Darllenwch yr egwyddorion
Darllenwch yr egwyddorion

Sefydliad Cyllid Gwyrdd

Mae’r Sefydliad Cyllid Gwyrdd yn profi, dangos a graddio’r datrysiadau ariannol sydd eu hangen er mwyn cyflymu’r trawsnewidiad i economi sero net a phositif o ran byd natur.

Ewch i'r wefan
Ewch i'r wefan

Thames21

Thames21 yw’r llais ar gyfer dyfrffyrdd Llundain, sy’n gweithio gyda chymunedau er mwyn gwella afonydd a chamlesi ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Darganfyddwch eu gwaith i ddarparu BNC cyrsiau dŵr.

Mwy am ofod glas BNG
Mwy am ofod glas BNG

UK100

Mae UK100 yn rhwydwaith o arweinwyr lleol sydd wedi gwneud adduned i arwain trosglwyddiad cyflym i sero net gydag aer glân yn eu cymunedau.

Archwiliwch yr Hwb Gwybodaeth
Archwiliwch yr Hwb Gwybodaeth

Y Comisiwn Coedwigaeth

Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn cynyddu gwerth coedwigoedd i gymdeithas a’r amgylchedd.

Adnoddau dysgu coedwigaeth
Adnoddau dysgu coedwigaeth

Cyflymydd Coedwig Drefol

Canllawiau, pecynnau cymorth ac astudiaethau achos er mwyn cynyddu brigdwf coed mewn trefi neu ddinasoedd a dod â budd coed i bawb. Wedi’i ddatblygu gan Ymddiriedolaeth Coedwig Gymunedol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Coed Cadw.

Ewch i'r wefan
Ewch i'r wefan